CYFARFOD CHWARTEROL LLEYN AC EIFIONYDD. Cynaliwyd y cyfarfod diweddaf yn Morfa- bychan ar y dyddiau Llun a Mawrth, Mehefin 23ain a'r 24ain. Y Gynadledd am 2 o'r gloch y dydd cyntaf. Daeth nifer dda o frodyr yn nghyd ag ystyried fod y Gymanfa a'r Cyfarfod Chwarterol mor agos i'w gilydd. Cymerwyd y gadair gan y Parch W. B. Marks, Cricieth, y Cadeirydd am y flwyddyn. Decbreuwyd trwy ddarlien a gweddio gan Mr McLean, Porth- madog. Wedi darlieri cofaodion y cyfarfod blaenorol a'u cadarnhau— 1. Penderfynwyd i'r cyfarfod nesaf fod yn Moeltryfan, yn ol y gylchres. 2. Fod pob eglwys sydd yn bwriadu gwneyd cais am gynortbwy o Drysorfa. Jubili y Cy fun deb, i anfoa eu cais i law yr ysgrifenydd, y Parch O. Jones, Pwllheli, cyn neu ar y dydd olaf yn Gorphenaf. 3. Yr Achosion G-weiniaid. Eiu bod yn llawen- hau fel Cynadledd fod yr eglwysi o'r diwedd yn deffro i ant'on eu casgliadau at yr achos teilwng yma; fod y drysorfa ar hyn o bryd mewn sefyllfa addawol. 4. Fod y Gymanfa sirol y tro nesaf i'w ebynal yn Porthmadog. Aed trwy y materion amgylchiadol yn bur rwydd, a throwyd y Gynadledd i ymdrin a phethau mwy ysbrydol crefydd. Siaradwyd ar wahanol agweddau yr achos yn ein mysg yn dda ac i hwrpas gan Mr J. Jones, Braichysaint, Porthmadog; Mr R. Griffith. Fourcrosses; y Parch D. Jones, Capelhelyg. ac ereill. Terfyn. wyd y Gynadledd ddymunol hon trwy weddi gan y Parch T. Jones, Tabor. Swm casgliad yr eglwysi at Drysorfa yr Un- deb ydoedd £2 16s 6c casgliad yr eglwys yn Morrabychan ddydd y cyfarfod, ti Os 7}o cyfanswm, L3 178 l|c. 2
Y MODDION CYHOEDDU3. Nos Lun, pregethwyd yn Morfabychan gan y Parchn D. S. Jones, Chwilog, a J. C. Jones, Penygroes. Yr un adeg, yn y Borth r Uortihv- madog, gan y Parchn W. W. Jones, PisgaH;; T. Jones, Tabor H. Davies, Moeitryfan y: a,.R.. Lumley, Trefor. Dydd Mawrth, am 10, 2, 6, pregethwyd E. Jones, Llanbedrog; W. W. Jones, Pisgab: H. Davies, Moeltryfan R. Lumtey, Trefor Jv. G. Jones, Ceidio ac E. James, Nefyn. Cafwyd cyfarfod rhagorol o'r dechreu i'w,- ddiwedd-y cynulliadau yn lluosog, y preg-- ethau yn rymus, a'r gwrandawiad yn astud, ac., arwyddion amlwg o bresenoldeb yr Arglwydd- Bydded efleithiau daionus yn dilyn. Rhoddodd yr eglwys fechan yn Morfabychaur y derbyniad mwyaf croesawus i'r Cyfarfodt Chwarterol. Yr oedd eu trefniadau yn d^iesllu^ a'u darpariadau yn helaeth. A rosed' yr am" ddifFyn Dwyfol ar y gogoniant yno. or Penygroes. C. Jo^Eft^ Ysg. -+-
CYFUNDEB DWYREIIf "(tOT., MORGANWG. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeh; uchod dyddiau Mercher a lau, Gorphenaf 2il' a'r 3ydd, yn Efailisaf. Y Gynadledd am 2.30 o'r gloch, a Mr T. Thomas, Ty'nywern, yn llywyddu. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch D. G. Rees, Eglwysnewydd. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, cydunwyd ar y penderfyniadau canlynol;- 1. Fod ail gyfran-dal y Jubili yn cael ei rhanu yn y drefn ganlynolCwmogwy .£30, ar yr amod iddynt wneyd « £ 20, neu XI 10s. am bob punt a gasglant islaw hyny; Gilfach Goch, Trewilliam, Llwynypia, a Cwmparc, .£31 10s. yr un ar yr amod iddynt wneyd £ 70, neu 9s. am bob- punt a gasglant islaw y cyfrJ w swm Dinas, Canton, at Seion, Pontypridd, X10 yr un, ar yr amod iddynt wneyd £ 40 Hermon, Treorci, £10 ar yr amodi iddynt wneyd £ 50 Bryncethin £10, ar yr amofH iddynt wneyd £ 30. 2. Fod deiseb i gael ei hanfon o'r Gynadledd i'r Sanedd dros gaa y tafarndai trwy yr holl deyrnas ar y Sabboth. 3. Fod y Gynadledd hon, tra yn llawenhau yn y mesur o lwyddiant sydd wedi dilyn deddf Cau y Tafarndai ar y Sabboth yn N gbyrnru, yn teimlo yn ddwys oherwydd y cam-ddefnydd mawr sydd yn cael ei wneyd o adran y bond, fide traveller, ac hefyd oherwydd lledaeniad clybiau yfawl trwy ranau o'r Dywysogaeth ac yn taer erfyn ar Lywodraeth Ei Mawrhydi i ddiddymu yr adran uchod y cylleustra cyntaf, a gosod i lawr y clybiau rhagddywededig. Fod copïau o'r uchod i gael eu hanfon i Mr Gladstone a'r aelodau dros y .sir. 4. Fod y cyfarfod nesaf, yo ol y gylchres, i fod yn Ebenezer, Tonypandy, yn nechreu Hydref, os yn gyfleus. 5. Fod y brodyr O. L. Roberts, Pentyrch, a D. Griffiths, Llantrisant, i bregethu yn y cyfarfod nesaf—y blaenaf ar Ddydd yr Arglwydd yn nwyfoldeb ei sefydliad," a'r olaf ar bwnc a roddir iddo gan eglwys Tonypandy. Galwodd Mr Davies, Taihirion, sylw y Gynadledd at Gapel CoffaJwriaetholy Gohebydd fel achos teilwng o gefnogaeth, ac addawodd nifer o frodyr ymweled a'r eglwysi hyny a roddant dderbyniad iddynt ar ran y cyfryw achos. Y MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd gan E. Richards, Tonypaudy D. Richards, Cacrphili; T. Davies, Cwmparc, ar y pwne rhoddedig iddo, sef "lawn berthynas Crefydd a'r vVlad wriacth;" J. Henry, Maerdy; W. 0. Owen, Penybont; S. Jones, Treoes; T. Davies. Tynewydd W. James, Porth; a J. C. Evans, Giifach Goch. Decumuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan E. Thomas, GIantaf; Miles Morgan, Pontypridd; C. T. Thomas, Groes. wen ac O. L. Roberts, Pentyrch. Diolcliwyd yn wresog i Mr Davies, Cwmparc, am ei bregeth ragorol ar y pwnc, ac hefyd i Mr Davies, Taihirion, a phobl ei ofal am eu cared. igrwydd i'r Cyfarfod Chwarterol. Yr oeddynt yn wir deilwng o'u sirioldeb arferol. Yr oedd y pregethu yn nerthol, a chafwyd cyfarfodydd o'r fath oreu o'r dechreu i'r diwedd. Dysgwylir flfrwyth mewn canlyniad. W. I. MOSEIS, Ysg.
Cothi, Einion, er bod yn barod ar gyfer y dydd mawr, sef dydd y gymanfa. Yr oedd y preg- ethwyr a letyai yn Nantgwyneu, Trewaun, Bryntelych, Cefntelych, a Bryneinon, yn gwneyd yr un peth. Yr oedd un ohonynt wedi darllen hanes am un a ofynodd i Demosthenes (prif areithiwr gwlad Groeg), Beth oedd y peth pwysicaf i dalu sylw iddo, er bod yn areithiwr da?" Atebodd ef gan ddywedyd, "Traddodi yn dda." "Beth vw yr ail a'r trydydd peth?" Atebodd ef eto, "Mai tra- ddodi yn dda, oeddynt ?" Felly y credai y pregethwyr hyn, fod arfer tràddodi y bregeth yn ami yn rhan bwysig o'u gwaith. Yr oedd rhai ohonynt, os nad yr oil, wedi ysgrifenu yr un bregeth chvech neu saith o weithiau ar bapyr, gan ychwanegu materion ati, cyfnewid manau ereill, a thynu ymaith bethau ereill o'r cyfansoddiad blaenorol. Yr oeddynt yn hyn eto yn debyg i brif bregethwyr mawr yr oes- oedd, megys Dr Owen, J. Parsons, York; Thomas Binney, Llundain; W. Jay, Bath Henry Melville, Saurin Massilicn, Bourdaiou, &c., &c. Cynaliwyd eymanfa fawr ganddynt yn Crugy- bar yn 1840, yn yr haf. Yr oedd y capel yn orlawn o aelodau, myfyrwyr, a gwrandawyr, a rhai boneddigion, megys Mr Davies, Ffrwdval, a rhai o'i deulu, a rhai o deulu y Brunant. Pregethodd yno ar y Sul gwresog hwnw, yn y boreu, y Mri H. Davies, D. Stephens, a Morgan Williams (mab yr Hybarch D. Williams, Troed- rhiwdalar). Am 2 o'r gloch, y Mri David Jones; Henry Davies, Capel Isaac; a J. Thomas (sef Doctor Thomas, Liverpool). Am chweeb, y Mri N. Stephens, D. Davies, a J. Evans. Er fod y dydd yn dwym iawn, cafodd y preg- ethwyr ailu neillduol i bregethu oil yn dda, a chawsant wrandawiad astud a chrafFus hynod o wych. Nid oedd yr un casgliad ychwaith yn canlyn y pregethau. Yr oedd hyn yn goron ardderehog arnynt gan y cybyddion. Yrydym yn credu pe buasai casgliadau yn canlyn y pregethau, y buasai pres lawer yn sicr o yrn- ddangos ar v plates. Nid amcan arianol oedd i'r cyrddau hyn. Wedi i'r gwaith da hwn ddarfod, daeth y pregethwyr oil, fel tyrfa gryno o Lefiaid, j'r Athrofa ar foreu y Linn canlynoi at L waith hollol wahanol, sef i ddarllen llyfrau Lladin a Groeg, i fod yn fwy hyddysg yn en gramadegau, ac i droi i'w Lexicons i wybod ystyron geiriau eu gwersi, er bod yn alluog i gyfieithu meddwl yr awdwr, neu yr awduron, i iaith y Sais. Yr oeddynt i chwilio weithiau eiriaduron ar Mythology Groeg a Rhufaiiv i ystyried idioms yr ieithoedd hyn, ac i geisio deall meddwl neillduol yr un gair mewn gwa- hanol fanau yn ngwaith yr un awdwr neu awd- wyr ereill, ac i wybod tarddiadau geiriau, a gwahanol shades ei ystyron. Y mae mwy o eiriaduron neillduol i gynorthwyo y myfyriwr wedi eu hysgrifenu ar weithiau yr awduron clasurol nag sydd wedi eu hysgrifenu ar yr ieithoedd diweddar, megys y Ffrancaeg, a'r Ellmynaeg, &c., a thrwy hyn wneyd gwaith yr efrydydd yn rhwyddach ar ryw olygiadau, ond y mae fod cynifer o Lexicons wedi eu hysgrifenu y 11 arnynt, yn dangos o'r tu arall fod y gwaith yn galetach, yn gofyn mwy o lafur ac o ystyriaeth, o gymharu brawddegau au gilydd, er deall meddwl y geiriau, neu y classical illusions fyddir yn ddarlien, nae sydd yn ofynol i ddar- lien ysgrifau awdwyr yn yr ieithoedd diweddar. Y mae cyf'nod (era), yr hen ieithoedd lawer yn hwy, yn nghyda fod ei llenyddiaetli yn eangach a mwy amrywiog. Ceir yn yr hen ieithoedd hyn ysgrifenwyr galluog iawn fel beirdd, areithwyr, haneswyr, comedians, tragedists, epistolwyr, satirists, dramatists, ac athronwyr. Y mae y gwaith o'u hastudio yn eangach, yn fwy amrywiog, ac yn llawer Caletach. Dysga y meddwl i lafurio, i ystyried, i gymharu, i weled gwahaniaeth, tebygiaeth, ac i dynu casgliadau oddiwrth y materion drinir gan yr awdwyr yw y prif ddyben wrth eu dysgu, a thrwy hyny, wneyd y myfyrwyr yn llafurwyr diwyd a manwl trwy eu hoes yn y cylchoedd y byddant yn troi ynddynt. Nid er mwvn gwybod y ffeithiau, neu y wybodaeth a geir gan yr awd wyr hyn eu dysgir, ond er mwvn ymarferiad meddyliol. t, Y mae duwinyddiaeth Homer, Hesiod, a Virgil, fel eiddo pob pagan yn gyfeiliornus, ac y mae ysgrifeniadau llawer o rai ereill, yn an- foesol, megys eiddo Horace, a Catullus, ond y mae y IJafur meddwl gofynedig i fyned trwyddo i ddeall eu brawddegau, i ddirnad eu syniadau, ac i wybod nerth eu teimladau, ac amcanion eu gweithiau yn werth anmbrisiadwy. Nid y wybodaeth a gafodd y myfyrwyr wrth ddarllen hanesion rhyfel Julius Csesar yn Gaur, Prydain Fawr, a manau ereill, oedd yr unig werth, ond y llafur trafferthus yr awd trwyddo yw y prif werth. Yr oedd y llafur mawr hwn bron a digaloni rhai ohonynt weithiau, ond ail. ymwrolent at y gwaith nes enill buddugoliaeth a llawenydd. Llafuriodd meibion Ffrwdval, Meistri Evan Davies, Gelly; J. Lloyd, Jones, Cellan John Hughes, Llangyforiog E. Lewis a T. Roberts, Abergorlech; Morgan Williams, Troedrhiwdalar John Griffiths, Aberpedwar; D. Price, Bailyvicar Thcs. James, Llansawel; E. Griffiths (gvnt o Madagascar) W. Roberts, Dowlais H. Oliver, Llanfynydd; W. Morgan. Caerfyrddin; E. J. Evans, Nantywyneu (sef E. J. Evans, M.A., Ph.D., Sajnt John's Wood College, London), a W. Thomas (Gwilym Marles), &c., yn galed iddysgu yr hen ieith- oedd clasurol. Astudiai rhai ohonynt, yn enw- edig Dr Evans (St. John's Wood College), yn Nantgwyneu, hyd nes y byddai tua deuddego'r gloch y nos, a chyfodai i fynv drachefn boreu dranoeth mor fywiog a'r ehedydd at ei hoffus waith. Yr oedd ei ucbelfryd yn fawr, tebyg i eiddo Cardinal Wo!say, pan ddywedodd wrth gyfaill ieuanc, Let ambition fire your mind." Yr oedd Dr Evans yn wr cadarn, iach, a rhy- feddol o ofalus am gymeryd digon o exercise yn yr awyr agored, a thrwy hyn nid aeth yn ysglyfaeth anghymharol i fycl yr ysbrydoedd fel amryw gynt. Cyfododd y bechgyn llafurus a thalentog crybwylledig uchod eu hunain i enwogrwydd a defnyddioldeb mawr nes y macli- ludodd eu haul rhai ohonynt yn y byd hwn, ac y cyfododd i ddysgleirio byth ac yn dragywydd mewn byd arall. 11 Canlynodd to o fyfyrwyr a phregethwyr enwog ereill y rhai blaenorol yn yr Athrofa, megys y Parchn T. Davies, Llanelli; B. Williams, Canaan; T. Thomas, Llanfair; W. Thomas, Bwlchnewydd, &c., &c. Nid classics yn unig a ddysgodd y gwyr ieuainc nchod, ond meistrolasant hefyd wyddoniaeth (mathematics).