Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

CYFARFOD CHWARTEROL LLEYN…

Y MODDION CYHOEDDU3.

CYFUNDEB DWYREIIf "(tOT.,…

ATHROFA FFRWDYAL All HANESION.

News
Cite
Share

Cothi, Einion, er bod yn barod ar gyfer y dydd mawr, sef dydd y gymanfa. Yr oedd y preg- ethwyr a letyai yn Nantgwyneu, Trewaun, Bryntelych, Cefntelych, a Bryneinon, yn gwneyd yr un peth. Yr oedd un ohonynt wedi darllen hanes am un a ofynodd i Demosthenes (prif areithiwr gwlad Groeg), Beth oedd y peth pwysicaf i dalu sylw iddo, er bod yn areithiwr da?" Atebodd ef gan ddywedyd, "Traddodi yn dda." "Beth vw yr ail a'r trydydd peth?" Atebodd ef eto, "Mai tra- ddodi yn dda, oeddynt ?" Felly y credai y pregethwyr hyn, fod arfer tràddodi y bregeth yn ami yn rhan bwysig o'u gwaith. Yr oedd rhai ohonynt, os nad yr oil, wedi ysgrifenu yr un bregeth chvech neu saith o weithiau ar bapyr, gan ychwanegu materion ati, cyfnewid manau ereill, a thynu ymaith bethau ereill o'r cyfansoddiad blaenorol. Yr oeddynt yn hyn eto yn debyg i brif bregethwyr mawr yr oes- oedd, megys Dr Owen, J. Parsons, York; Thomas Binney, Llundain; W. Jay, Bath Henry Melville, Saurin Massilicn, Bourdaiou, &c., &c. Cynaliwyd eymanfa fawr ganddynt yn Crugy- bar yn 1840, yn yr haf. Yr oedd y capel yn orlawn o aelodau, myfyrwyr, a gwrandawyr, a rhai boneddigion, megys Mr Davies, Ffrwdval, a rhai o'i deulu, a rhai o deulu y Brunant. Pregethodd yno ar y Sul gwresog hwnw, yn y boreu, y Mri H. Davies, D. Stephens, a Morgan Williams (mab yr Hybarch D. Williams, Troed- rhiwdalar). Am 2 o'r gloch, y Mri David Jones; Henry Davies, Capel Isaac; a J. Thomas (sef Doctor Thomas, Liverpool). Am chweeb, y Mri N. Stephens, D. Davies, a J. Evans. Er fod y dydd yn dwym iawn, cafodd y preg- ethwyr ailu neillduol i bregethu oil yn dda, a chawsant wrandawiad astud a chrafFus hynod o wych. Nid oedd yr un casgliad ychwaith yn canlyn y pregethau. Yr oedd hyn yn goron ardderehog arnynt gan y cybyddion. Yrydym yn credu pe buasai casgliadau yn canlyn y pregethau, y buasai pres lawer yn sicr o yrn- ddangos ar v plates. Nid amcan arianol oedd i'r cyrddau hyn. Wedi i'r gwaith da hwn ddarfod, daeth y pregethwyr oil, fel tyrfa gryno o Lefiaid, j'r Athrofa ar foreu y Linn canlynoi at L waith hollol wahanol, sef i ddarllen llyfrau Lladin a Groeg, i fod yn fwy hyddysg yn en gramadegau, ac i droi i'w Lexicons i wybod ystyron geiriau eu gwersi, er bod yn alluog i gyfieithu meddwl yr awdwr, neu yr awduron, i iaith y Sais. Yr oeddynt i chwilio weithiau eiriaduron ar Mythology Groeg a Rhufaiiv i ystyried idioms yr ieithoedd hyn, ac i geisio deall meddwl neillduol yr un gair mewn gwa- hanol fanau yn ngwaith yr un awdwr neu awd- wyr ereill, ac i wybod tarddiadau geiriau, a gwahanol shades ei ystyron. Y mae mwy o eiriaduron neillduol i gynorthwyo y myfyriwr wedi eu hysgrifenu ar weithiau yr awduron clasurol nag sydd wedi eu hysgrifenu ar yr ieithoedd diweddar, megys y Ffrancaeg, a'r Ellmynaeg, &c., a thrwy hyn wneyd gwaith yr efrydydd yn rhwyddach ar ryw olygiadau, ond y mae fod cynifer o Lexicons wedi eu hysgrifenu y 11 arnynt, yn dangos o'r tu arall fod y gwaith yn galetach, yn gofyn mwy o lafur ac o ystyriaeth, o gymharu brawddegau au gilydd, er deall meddwl y geiriau, neu y classical illusions fyddir yn ddarlien, nae sydd yn ofynol i ddar- lien ysgrifau awdwyr yn yr ieithoedd diweddar. Y mae cyf'nod (era), yr hen ieithoedd lawer yn hwy, yn nghyda fod ei llenyddiaetli yn eangach a mwy amrywiog. Ceir yn yr hen ieithoedd hyn ysgrifenwyr galluog iawn fel beirdd, areithwyr, haneswyr, comedians, tragedists, epistolwyr, satirists, dramatists, ac athronwyr. Y mae y gwaith o'u hastudio yn eangach, yn fwy amrywiog, ac yn llawer Caletach. Dysga y meddwl i lafurio, i ystyried, i gymharu, i weled gwahaniaeth, tebygiaeth, ac i dynu casgliadau oddiwrth y materion drinir gan yr awdwyr yw y prif ddyben wrth eu dysgu, a thrwy hyny, wneyd y myfyrwyr yn llafurwyr diwyd a manwl trwy eu hoes yn y cylchoedd y byddant yn troi ynddynt. Nid er mwvn gwybod y ffeithiau, neu y wybodaeth a geir gan yr awd wyr hyn eu dysgir, ond er mwvn ymarferiad meddyliol. t, Y mae duwinyddiaeth Homer, Hesiod, a Virgil, fel eiddo pob pagan yn gyfeiliornus, ac y mae ysgrifeniadau llawer o rai ereill, yn an- foesol, megys eiddo Horace, a Catullus, ond y mae y IJafur meddwl gofynedig i fyned trwyddo i ddeall eu brawddegau, i ddirnad eu syniadau, ac i wybod nerth eu teimladau, ac amcanion eu gweithiau yn werth anmbrisiadwy. Nid y wybodaeth a gafodd y myfyrwyr wrth ddarllen hanesion rhyfel Julius Csesar yn Gaur, Prydain Fawr, a manau ereill, oedd yr unig werth, ond y llafur trafferthus yr awd trwyddo yw y prif werth. Yr oedd y llafur mawr hwn bron a digaloni rhai ohonynt weithiau, ond ail. ymwrolent at y gwaith nes enill buddugoliaeth a llawenydd. Llafuriodd meibion Ffrwdval, Meistri Evan Davies, Gelly; J. Lloyd, Jones, Cellan John Hughes, Llangyforiog E. Lewis a T. Roberts, Abergorlech; Morgan Williams, Troedrhiwdalar John Griffiths, Aberpedwar; D. Price, Bailyvicar Thcs. James, Llansawel; E. Griffiths (gvnt o Madagascar) W. Roberts, Dowlais H. Oliver, Llanfynydd; W. Morgan. Caerfyrddin; E. J. Evans, Nantywyneu (sef E. J. Evans, M.A., Ph.D., Sajnt John's Wood College, London), a W. Thomas (Gwilym Marles), &c., yn galed iddysgu yr hen ieith- oedd clasurol. Astudiai rhai ohonynt, yn enw- edig Dr Evans (St. John's Wood College), yn Nantgwyneu, hyd nes y byddai tua deuddego'r gloch y nos, a chyfodai i fynv drachefn boreu dranoeth mor fywiog a'r ehedydd at ei hoffus waith. Yr oedd ei ucbelfryd yn fawr, tebyg i eiddo Cardinal Wo!say, pan ddywedodd wrth gyfaill ieuanc, Let ambition fire your mind." Yr oedd Dr Evans yn wr cadarn, iach, a rhy- feddol o ofalus am gymeryd digon o exercise yn yr awyr agored, a thrwy hyn nid aeth yn ysglyfaeth anghymharol i fycl yr ysbrydoedd fel amryw gynt. Cyfododd y bechgyn llafurus a thalentog crybwylledig uchod eu hunain i enwogrwydd a defnyddioldeb mawr nes y macli- ludodd eu haul rhai ohonynt yn y byd hwn, ac y cyfododd i ddysgleirio byth ac yn dragywydd mewn byd arall. 11 Canlynodd to o fyfyrwyr a phregethwyr enwog ereill y rhai blaenorol yn yr Athrofa, megys y Parchn T. Davies, Llanelli; B. Williams, Canaan; T. Thomas, Llanfair; W. Thomas, Bwlchnewydd, &c., &c. Nid classics yn unig a ddysgodd y gwyr ieuainc nchod, ond meistrolasant hefyd wyddoniaeth (mathematics).