Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS RHYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. GOEPHBNAF 13.— Dychweliad yr Arch i Jerusalem (2 Sam. vi. 1-12). Y TESTYN EURAIDD.—" Melldith yr Arglwydd sydd yn nb £ yr annuwiol ond efe a fendithia drigfa y cyf- iawn."—Diar. iii. 33. EH AG ABWBINIOIi. CrST fechan bedair-onglog ydoedd yr arch, a hir-gul. Yr oedd yn dair trordtedd a naw modfedd o hyd, acyn ddwy droedfedd a thair modfedd o led ac uchder. Gwnaed hi o goed Sittim, a gwisgwyd hi oddifewn ao oddiallan a lleni o aur dilin; ac o amgylch ei bymyl uchaf yr oedd addurnbleth o aur. Yn ei dwy ochr yr oedd modrwyau wedi eu sicrhau, drwy y rhai y gosodid trosolion, gyda pha rai y cladid hi gan yr offeir- iaid pan y byddai achos i'w symud. Dyben y gist oedd cadw llechau y dystiolaeth." Yr oedd ei chauai o aur, a gelwid ef y drugareddfa." Uwch ei phen yr oedd llun dan gerab o aur, a'u hwynebau at en giiydd, ae yn ogwyddedig at y drugareddfa, gyda'u hadenydd yn gorchuddio yr arch. Ar y drugareddfa, rhwng y ddau gerub, y gorphwysai y seehinah-arwyddlun eyf- riniol y presenoldeb Dwyfol. Yn ystod teyrnasiad Saul 'y mae yn ymddangoa na chafodd yr arch fawr o sylw, end gadawyd hi yn llonydd yn Ciriath-jaarim, i'r lie y dygwyd hi o Bethsemes, pan anfonwyd hi i f ynv o wlad y Philistiaid (1 Sam. vii. 1, 2). Ond y mae Dafydd, wedi iddo orchfygu ei elynion oddiamgylch, yn pender- fynu ei dwyn i Jerusalem, ac yn adeiladu tabernael ardderchog iddi ar fynydd Seion, i fod yn breswylfa idd;. Yr oedd am i Jerusalem nid yn nnig fod yn brif- ddinas pi ly wodraeth, ond hefyd yn ganolbwynt i deiml- adau crefyddol y genedl. Yn yr arch yr oedd cyfamod Duw ag Israel, a'l dystiolaeth iddynt, a thrwyddi hi yr oeddent i'w ogoneddu a'i wasnnaethu, gan mai arni yr oedd y shecinah, sef yr arwydd o'r preserioldeb Dwyfol. Felly yr oedd yn naturiol i Dafydd ewyllysio cael yr arch i Seion, gan y teimlai y bnasai presenoldeb Dnw yn Seion yn gaderiaid i'w orse Jtl, ac yn fendithiol i'r holl genedl. ESBONIADOL. Adnod 1. A cha.oglodd Dafydd eto yr holl ethol- edigion yn Israel, sef deng mil ar hugain." Eto- cyfeirir at y cydgynnlliad yn Heb-on i eneinio Da'ydd yn frenin ar holl Israel (gwel pcnod v. 1-3), a chasgl- odd Dafydd unwaith eto yr holl etholedixion. Y mae am ddwyn ei gynllun o'u bhen, a chael eu cydsyniad a'u cydymdeimlad. Yr oedd yr arch wedi bod am yn a<*os i haner can' mlynedd yn Ciriath-jearim, ac y mae Dafydd am ei chael i Jerusalem. Er nowyn i'r cynllun fod yn etfeithiol, yr oedd yn ofynol cael cydweithrediad y geaedl—deng mil ar hugain. Yn 1 Chron. xiii. 1, eawn i'r brenin yirgynghori yn gyntaf k chapteniaid y miloedd a'r canoedd, ac a'r holl dywysog:on." Mae y deng mil ar hugain yn cyfeirio at gyurychiolwyr y llwythau, y rhai a anfonwyd ganddynt i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. Yr oedd Dafydd wedi trefau i ddychweliad yr arch fod yn adeg o wyl grefyddol. Ad nod 2—"A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a'r holl bobl oedd gyda? ef, o Baale Judah, i ddwyn i fyny oddiyno arch Duw: enw yr hon a elwir ar enw Ar- glwydd y llaoedd, yr hwn sydd yn sms ami rbwnz y cerubiaid." Baale Judah—yr uo a ChiriaMi jearim. Yr hen enw Canaanpaidd ydoedd Baale- Yr Israel- iaid oedd wedi rhoddi yr enw Giriath-jearim ar y He (Jos. xv. 9). 0 Baale-Judah. Y mae y daith yno yn cael ei rhagdybied. Ceir darluniaid ohoni yn 1 Cbron. xiii. 6 Yma darlunir y daith oddiyno adref. Safai y Ile hwn yn mherchenogaeth Judah, tno. naw milldir i'r gogledd orllewin o Jerusalem. Enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluo dd-yn fwy priodol, Wrth yr hon y galwyd ar enw, sef enw Arglwydd y llnoedd; neu, arch Daw, yr hona elwir yr enw—enw A^lwydd y llaoedd. Yr arch oedd arwyddlun cyfamod Jehofah a'i bobl Israel. Felly gelwid hi yr enw. Yr hwn syddyn aros arni rhwng y cerubiaid-trwy y shecinah, ar y drugareddfa, rhwng y cerubiaid. Adnod 3.—" A hwy a osodasant arth Duw ar fpn newydd ac a'i dygasant hi o d £ Abinadab yn Gibeah i Uzs^h hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyru y fen newydd." Ar fen netoydd-math o cerbyd gor- chuddiedig. Ar fen y dygodd y Philistiaid yr areh o'u gwlad (1 Sam. vi. 11). Tybiasant hwythan y gallasent wneyd yn debyg; ond yr o dd hyn yn groes i'r gyfraith. Ar ysgwyddau meibion Cohati yr oedd yr arch i'w chludo, yn ol y gyfraith (Nam. iv. a vii 9). 0 dý Abinadab. Nid ydyw yn- debygol fod Abinadab yn fyw yr adeg yma. Yn Gibeah, neu y bryn. Felly y mae y gair yn cael ei sryfieithn yn 1 Sam. vii. 1. Golygir r) yw tryn yn agos i Ciriath-jearim. Meibion-disgyn- yddion. Adnod 4.—" Ah«y a'i 4ygasant hi o dy Abinadab yn Gibeah, eydag arch Duw; ac Ahio oedd yn myned o flaea yr areb." Y mae yn naturiol i ni dybied fod y bobl wedi bloeddio wrth gychwyn, ftll yn yr anialweh- Cyfoded Duw, gwasuarer ei elynion Cyfod, Ar- glwydd, i'th orphwysfa; ti, ac arch dy gaderuid" (Salm Ixviii. 1, cxxxii. 8). Adnod 5.—" Dafydd hefyd a boll àý Israel oedd yn cbwareu ter bron yr Ar^Jwydd a phob offer o goed ffynidwydil, sef a thelynau, ac a nablau, ac a thympan- an, ac AL, udtryrn, ac a symbalau." Ohwareu-golygir dawnsio i gerddoriaeth. Gwnaethant ddefnydd o offer- ynau cerdd i ddangos eu llawenydd. Yn I Chron. xiii. darllenir A'u holl nerth ac & chaniadau," &c. Y mae rhai yn barnn mai dyma yr ystyr priodol yn y fan yma hefyd. Gey bron yr Arglwydd, Rbaid i lawenydd cyhoeddns lod bob amser megys per bron yr Arglwydd, eyda golwg ato Ef, ac yn dybenn ynddo; a rhaid iddo beidio dirywio i'r hyn sydd gnawdol ae anianol." Adnod 6.—" A pban ddaethant i lawr-dyrnu Nachon, Uzzah a estynodd ei law at a-ch Dnw, ac a ymaflodd ynddi hi; canysy ychain oedd yn ei hvs?wyd." I lawr-dyrnu Nachon. Yn oIl Chron. xiii. 9, darllenir byd lawr-dyrnu Cidon" Nid enw priodol ydyw Nachon, ond enw a roddwyd ar y lie oherwydd y dygwyddiad rhyfedd a gofnodir vma. Ei ystyr ydyw, dyrnod-i lawr-dyrnu y ddymod. Felly yr adria- byddid y lie ar ol hyn. Ystyr Cid nydyw dystryw. Yr oedd yr holl dyrfa wedi cyrhaedd yn ddyogel hyd y fan yma yn nifhanol swn llawpnydd a chan. Y mae yn debygol nad oeddent yn mhell o Jerusalem. Yn sydyn y mae yr ychain yn tripio, neu, fel y tybia rhai, yn troi yn sydyn i'r llawr-dymu. Pa^d I hyn i'r arch ysgwyd, a braidd syrthio. Ymaflodd Uzzah ynddi, ac vn y fan disgynodd i lawr yn farw. Gwnaeth hyn yn ddifeddwl, ond yr oe,id yn ddyledswydd arbenig arno feddwl. Yr oedd ei gynefindra ef i'r arch wedi magu hyfdra an- mhriodol yn ei feidwl, ac nid oedd yn gofaln fel y dylusai am orchymynion yr Arglwydd. Nid oedd neb, hyd yn nod y Lefiaid, i gyffwrdd â,'r arch. Y Mae un trrseddiad o'r gyfraith yn arwain i un aral1. Pe buasent wedi dwyn yr aich ar ysgwyddan, ni faasai perygl i'r arch gael ei thaflu. Adnod 7. A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Uzzah; a Duw a'i tarawodd^f yno am yr amryfusedd hyn ac efe a fa farw yno wrth arch Duw." Digofaint yr ArglwyJd-nid nwyrl, ond teimlad Duw yn erbyn pechod, a'r rheidrwydd i'w gosbi. Yr oedd ymddygiad Uzzah yn wrthdarawiad pendant yn erbyn gorebymyn Duw, ac yr oedd tuedd ynddo i iselhau awdurdod Duw yn mysg y bobl. Dylasai Uzzah wybod yn fanwl am yr boll drefniadau mewn perthynas i'r arch. Ond yr oedd ei gynefindra a hi wedi magu ynddo ysbryd hyf. Yr oedd Dafydd hefyd yn feins. ac yr oedd yr amgylch- iad difrifol hwn yn rhybudd iddo ef a'r holl bobl. Ni ddywedir pa fodd y tarawyd Uzzah. Efallai mai gan fellten. Amryfusedd hyn, sef oyffwrdd a'r arch. Nid oedd yn gyfreithlon edrych ami chwaetbach ei chv- ffwrdd. Cymharer Num. iv. 20 a 1 Sam. vi. 19. Ni cbeir y gair ond yma yn unig, a gellir ei gyfieithu yn briodol fel ar ymyl y ddalen-ehudrwydd (rashness). Adnod 8.— A bu ddrwg gan Dafydd, am i'r Ar- glwydd rwygo rbwygiad ar Uzzah ac efe a alwodd y lie hwnw Peres-Uzzih hyd y dydd hwn." A bu ddrwg. Ceir yr un gair yn I Sam.' xv. 11—"A bu ddrwg gan Samuel." Y fath ofid ag sydd yn cynyrchn eiddigedd ysbryd. Teimlai Dafydd ei fod ef i raddau yn gytrifol, gan fod yr holl drefoiadau wedi en gwnevd dan ei arol- ygiaeth. Rwygo rhwygiad, sef ymweliad barnol Duw ar Uzzih-torwyd ei hwyti i lawr yn sydyn. Galwyd y lie Peres, lief rhwygiad Uzz<h. Mynai Dnw wrth hyn daro arswyd ar liloedd Israel, a'u hargyhoeddi nad oedd vr arch ddim yn llai parchedig am ei bod cyhyd wedi bod mewn amiylchladau gwael; ac fel hyn mynai en dysgu i lawenhau mewn dychryn, a phob amser i drin pethau sanctaidd gyda pharch ac ofn sanctaidd." Adnod 9. A Dafydd a ofnodd yr Arglwydd y dydd hwnw ac a ddywe lodd, Pa fodd y daw arch yr Ar glwydd atat fi." Mae ofn slafaidd yn cymeryd medd- iant o Dafydd. Yr oedd wedi dychrynu with farnedig- aeth Duw Dylasai ofn sauctaidd a Dawiot ei lywodr- aethu ar y dechreu, ac felly trefnasai foddion i gyrchu yr arch yn ol gorchymyn yr Arglwydd. Adnod 10. Ac ni iyoai Dafydd fudo arch yr Ar. glwydd ato ef i ddinas Dafydd ond Dafydd a'i trodd hi i dy Obed-Edom y Gethiad." Dan ddylanwo,ti ofn y mae Dafydd yn newid ei gynllun Tybiai, efallai, v buasai dyfodiad yr arch i'w dy yn ddinystr iddo ef a'r rhai a ddelent i gyffyrddiad a hi-trodd hi i dt Obed- Edom. Yr oedd yna gymhwysder i fyned a, hi yno.gau fod Obed-Edom yn Lefiad, ac yn un o ddisgynyddion Coatb. C<ifodd ei anrhydeddu ar ol hyn a'r awydd i fod yn un o borthorion yr arch," A mod U.Ae arch yr Arglwydd a arosodd yn nbt Obed-Edom y Gethiad dri m's a'r Arttlwydd a fen-i dithiodd Obed-Edom a'i holl dt." Yn yatod y tri mig hwn cafodd Dafydd a boll Israel amaer i fyfyrio ar yr amgylchiad bynod oedd wedi dyjjwydd, ao i ddyfod i wyb^daeth fanylaoh am y trefniadaa a'r defodan perthynol i'r aroh. A'r Arglwydd a fendithiodd. Nid ydvw hyn yn golygu iddo gynyddu yn gyflym mewn cvfoeth, er y gallai byny fod yn wir. Y mae yr ym- adrodd i'w gymeryd yn yr ystyr grefyddol. Yr oedd bendith yr Arg wydd yn amlwg ar Obed-Edom a'i holl deulu. Yr oedd eu hymddygiadau yn profi en bod yn gysegredig i'r Arglwydd. Lletywyd hi yn hynaws a groesawyd hi. Gwyddai Obed-Edom pa laddfa yr oedd yr arch wedi wneyd yn mysg y Philistiaid ag oeddynt wedi ei oharcharu, a'r Bethsemiaid a edrych- asant ynddi. Gwelodd Uzzah yn cael ei daro yn farw am iddo gyfifwrdd & hi, a chanfyddo ld fod Dafydd ei hun yn ofni ymyraeth a hi; eto y mae efe yn siriol yn ti gwahodd i'w dt ei hun, ao y mae yn agor ei ddrysau iddi hob "fn, yn gwybod ei bod yn arogi marwolaeth i farwolaeth i'r rhai byny yn unig y rhai a'i triniasant yn ddrwg. 0 wi oldeb, medd Esgob Hall, calon Odest a ffydd'ou; nis gall dim wneyd Duw yn amgen nag yn hawddg .r i'w eiddo y Mae hyd yn nod ei gyfiawuder yn brydftlrth." Adnod 12.—" A mynegwyd i'r brenin Dafydd. gan ddywedyd, Yr Arglwydd a fendithiodd dy Obed-Edom, a'r hyn oil oedd ganddo, er mvsryu arch Daw. Yna Dafydd a aeth ac a ddflg i fyny arch Duw o dy Obed. Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd." Yr oedd y fendith a pha Oil y bendithiwyd t, Obed-Edom yn anogaeth iddo i ddwyn ei amcan i ben. Penderfynodd ei chyrchu i'w ddinas ei hun, a gofalodd y tro hwn i gadw yn ofalus at yr holl osodiadau perthynol i'r arch. GWERSI. Y mae llwyddiant gwlad yn ymddibynn ar fod ordin- hadau crefydd yn cael eu cadw a'n parchu. Wedi i Dafydd sefydlu ei orsedd yn Jerusalem, teimlai fod eu llwyddiant fel gwlad yn ymddibynu ar ffafr Duw, ao nis gallasent ddysgwyl ffafr Duw tra yr oedd yr arcb yn cael eu hesgeuluso. Y mae anwybodaeth o orchymynion Duw yn bechod, ac nis gall yr un dyn lechu dan gysgod yr eagus o an- wybodaeth, tra wedi mwynhan manteision gwybodaeth. Dylasai Dafydd ac Uzzah wybod eu bod yo troseJdu cyfraith Duw wrth ddwyn yr arch ar fen. Mao cynefindra â. phethan crefydd yn ami yn arwain i ddiofalwch. Yr oedd hir arferiad Uzzah a'r arch wedi peri iddo fyned yn hyf ami. Y mae ysbryd defosiynol a gwylaidd yn hanfodoi angenrheidiol cyn y gellir boddloni Daw yn nghyflawn- iad dyledswyddau crefyddoL Pan y mae crefydd yn cael ei chydnabod a'i chroes- awn i deuluoedd, y mas bob amser yn dwyn gyda hi feudithion lawer. "Dyrcbafa di hi, a hithaa a'th ddyrchafa di." GOFTNIADAU AR T WERB.. 1. Paham yr oedd Dafydd yn teimlo awydd am gatf yr arch i Jerusalem ? 2. Rhodd Ncb ddesgrifiad o'r arch. Yn mha le yr oedd pan y mae Dafydd yu penderfynu ei ohyrohu i Jerusalem ? 3. Pa le a olygir wrth Baale Jndah ? Pa Ifodd y daeth yr arch yno ? 4. Pa drefniadau a wnaeth Dafydd i gyrchu yr arcb ? A oeddent yn jryf^eithlon ? Eglurwch pa fodd yr oedd. yr arch yn gyfreithlon i'w chludo o fan i fan. 5. Pwy oedd1 Uzzah ac Ahio ? Beth oedd eu perth- ynas hwy a'r arch ? 6. Esboiiiwch yr hyn a olygir wrth iawr-dymm Nachon. Pa ddYl/wyddiad hynod a gymerodd le yno ? 7. Beth oedd pechod neillduol Uzzah? 8* Paham y penderfynodd Dafydd fyned a'r arch i' dy Obed-Edom ? Dangoswcb y priodoldeb iddi fyaedi yno. 9. Beth gymhellodd Dafydd i gyrchu yr arch o if Obed-Edom, a'i dwyn i Jerusalem ? Pa drefniadau If¡: woaeth y tro hwo r — —

BRO MORGANWG. -

TREDEGAR. -

Advertising