Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

ABERDAR.

CYMANFA CASTELLNEDD.

UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU…

News
Cite
Share

UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU A PHERCHENOGION Y CHWARELI. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, — Mae yr Undeb yn awr wedi ei sefydlu er's mwy na deng- mlynedd., Datgenid yn un o'i Reolau nad oedd un bwriad iddo i yrnyryd yn llyw- odraetbiad. unrhyw Chwarel. Hyd ya hyn. y mae pob ymdrech wedi ei » neyd i gadw yn fanwl at yr egwydd- or yma. Ar yr un pryd, cedwid Ilygaid gwyliadwrus dros fuddianau yr aelodau. Kr yr anhawsdeiau oedd yn aragylchu yr Undeb, yn nghyda hawliau y meistri, teimlwn fod y rheol hon wedi cael ei ehadw yn gywir, ac ni ddymunem ymadael oddiwrthi ar yr achlysnr presenol. Er cvchwyniad yr Undeb, gyda'reithriad o'r can allan a'r strikes yn 1874, y rhai oedd a fynont yn uaiongyrchol a'i sefydliad-hawlia Cyngbor yr Undeb eu;bod wedi arfer pob modtfion i atal strikes, ac i was. tadbau y rhai a gymerasant le ar dir teg. Mae genym le i gredu fod yr ymdreehion hynv wedi cael cymerad- wyaeth y meistri a'r dynion. Nid yw yr Undeb, hyd yma beth bynag, wedi troi allan y drwg digymysg y mynai ei elynion y byddai ar y cychwyn. Mae wedi gwneyd peth gwaith ardderchog er mantais y meistri, gan wneyd cyfjelyb wasanaeth gwerthfawr er budd y gweithwyr. Mae y fasnach lechi yn nghorff y chwe' blynedd di- weddaf wedi myned trwy un o'r gwasgfevdd rhyfeddaf a hwyaf yn ei hanes ac nid oes genym ond gobeithio fadlY saith mlynedd Aiphtaidd yn tynu at y terfyn, ae y dilynir hwy gan lawader. Yr ydym oil yn barod i addef na allesid rhagweled y cynhyrfiad, a'i fod, i raddan pell tuhwnt ) lywodraethiad y rhai oedd yn arolygu y fasnach ond yr ydym yn dal allan mai ychydig- iawn sydd wedi ei wneyd er pan ddechreuodd, i adenill y tir a gollwyd, a lluaws o bethau i'w enyn a'i barhau. Mae pobpeth o gwmpas y fasnach wedi eu sil.do, ac mae yr ymddiried a osodid ynddi unwaith wedi ei golli. Nid yw Cyngjior yr Undeb yn agoshau at.y mater mewn unrhyw deimlad angharedig; ond gan eu bod yn cynrycbioli corfE mawr o ddynion, y rhai sydd yn ymddibynol ar lwyddiant y fasnach, teimlant yn sicr y bydd i'r perchenogion a'r noruehwytwyr gan- latau yn rhwydd eu hawl i drafod materion sydd yn perthyn i'r fasnach a chyflogau yr aelodau, ac y bydd iddynt dderbyn y llythyr yma yn yr ysbryd da yn yr hvon y mae yn cael ei anfon iddynt. Nis gall unrhyw fasnach lwyddo, os na bydd ganddi ymddiriedaeth pawb sydd a fynont a hi. Mae diffyg ymddiriedaeth bob airiser yn rhagflaenu diffyg nerth. Mae ditfyg nerth mewn masnach yn angeuol iddi. Mae'r fasnach sydd wedi colli ymddiriedaeth gwlad( wadi colli ffynonell ei belw.. Heb elw, nis gall un fas- nach fodoli. Mae'n eglur i bawb sydd wedi gwylied pethau, nad yw Perchenogion a Goruchwylwyr Llech Ohwareli Gogledd Cymru yn y blynyddoedd diweddaf yma, wedi gweithredu ar yr egwyddorion hyny sydd yn har-fodol i lwyddiant masnach. Nid ydynt tuag at eu gilydd wedi cyflawni fel y dymunent i ereill wneuthur iddynt hwy. Yr ydym yn credu mewn masnach rydd fel rhwng cenhedloedd a'u gilydd, ac mewn masnnch deg- fel rhwng personau unigol a'u gilydd. Mae y dull llechwraidd a diystyrllyd o werthu uan eu gilydd, rhoi cyfrif gormodol, yn nghyda'r cyfnewidiadau parhaus a wneid yn y prisiau, yr hyn a ddilynai yn naturiol y cyfryw weithredoedd ansefydlog a didrefn, wedi achosi parhad y wasgfa bresenol, ac wedi bod yn foddion i yru marsiandwyr i edrych allan am nwyddau toi mewn marchnadoedd oedd yn cael eu cario yn mlaen ar egwyddorion cadarnach a doetbach. Nid ydym yn myned i benderfynu pwy yn mhlith perchenogion y chwareli sydd fwyaf euog, ac ni bydd i ni fteisio ateb yr ymofyniad pwy bechodd gyntaf. Mae yn ddigon i ni wybod fod rhvwun neu rbywrai yn euog, a gwneyd ein rhan i gywiro hyny, a cheisio atal cyflawniad yr un- rhyw yn y dyfodol. Os ydym yn gywir yn ein gosod- iad, Perchenouion y Chwareli eu hunain gan mwyaf sydd i'w beio am y sefyllfa anfoddliaol bresenol ar y fasnach lechi. Mae'r dynion braidd yn inhob am- gylchiad yn eithaf parod wedi derbyn pob nostyngiad wnawd yn eu cyflogau, ac mewn rhai amsylehiadau yn rhy barod.. Mae Perchenogion a Pherchenogion, Goruchwylwyr a Goruchwylwyr, ac mae' Gweithwyr yn farnwyr digon cywir, ac yn adnabod y gwahaniaeth rhyngddynt. Mae Aipht a M6r Coch yn hanes pob cenedl a phob masnach. Nis gall fod ond un ymofyniad yn ein mysg—yn Berchenogion, Goruchwylwyr, a Dynion, sef, Pa fodd i ddwyn yn 01 y fasnach i'r cyflwr blodeuog yr oedd ynddi cyn i'r wasgfa ddechren. Yi ydym yn teimloyn gryf y dylid gweithredu yn ol y ddau awgrym can- lynol, os ydym yn dysHwyl gweled y fasnach yn cymeryd ei He fel o'r blaen. Yn gyntaf :—Dy!id mabwysiadu y mesurau hyny, heb oedi, a ddwg yn ol ymddiriedaeth pawb sydd mewn cysylltiad a'r fasnach; Yn mlaenaf er c el hyn, mae yn angenrheidiol cael taflen prisiau gwerthu a gydna- byddir, yn nghyda dealldwriaeth am y discount priodol a ganiateir ar v cyfryw. Mae yn ymddangos i ni fod hyn yn eithaf syml, ac nas gellir codi un gwrthwyneb- iad rhesymol iddo. Yn aii :—DyJai y perchenogion fabwysiadu mesuran I i agor meusydd ychw^negol at y rhai presenol i dder- byn y Llechi. Yr ydym wedi colli rhan o'r fasnach gartrefol^ a dyletn edrych allan am feusydd ereill. Mewn marchnaiileoedd ereill maent yn anfon cynrych- ,olwyr dros yr holl fyd i agor masnich ac mae angen am rywbeth cyffelyb mewn cysylltiad a'r fasnach lechi Ni ddyletn ymddibynu ar y meusydd presenol yn nnig. Yn wyneb selyllfa pethau yn bresenol, dylem wneyd a allwn i sicrhau rhai ereill. Ai ni allai y fasnach yn gytun wneyd rhywbeth yn y eyfeiriad yma ? Er peryglu gosod ein hunain yn agored i gael ein cyhuddo o ymyryd, mentrwn awgrymu y priodoldeb ar fed y Ptfrchenogion a'r Goruchwylwyr, yn nghyda thri neu bedvvar o gynrychiolwyr y gweithwyr yn cyfarfod mor fuan ag y gellir yn Nghaernarfon, i drafod pethau i weled a ellid trwneyd rhywbeth i wella y fasnach. Byddai yn dda genym gael eich teimlad ar hyn. Yr ydym yn gobeithio y by .'Id hyn yn foddion i gych- wyn symudiad a wna ei ran yn y pen dra i ddwyn yn ol y fasnach mewn llechi i'r sefyllfa flodeuog-, y bu 0" ynddi unwaith'. Unrhyw beth i'r amcan hwnw y gall Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei wneyd, bydd at alwad Perchenogion, Goruchwylwyr, a Gweit .wyr y Llech Chwareli. Eich uludd was, WILLIAM JOHN PARRY, Llywydd. 7, Market-stfeet, Caernarfon.

Cyfarfodydd, &e. ---

COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH.

Advertising