Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
ABERDAR.
News
Cite
Share
ABERDAR. Mae yma lawer o gyfarfodydd blynyddol wedi eu cynal yn ddiweddar, megys Savon, Aberaman, y Sabboth a'r Llun cyn y diweddaf. Pregethwyd ynddynt gan y Parcbn W. Thomas, Rock, Cwmafon, ac R. Thomas, Penrhiwceibr. Cyfarfodydd rhagorol gyda doniau hollol adnabyddus. Dyna fel yr oedd hi gynt—Paul yn planu, ac Apolos yn dyfrhau, ond Duw a roddes y cynydd. Nid yw yr Efengyl yn heneiddio, ond yn ffres yn dyfod allan o eneuau newydd a hen gyhoeddwyr ohoni.—CynaHodd Siloa, Aberdar, ei chyfarfodydd y Sabboth a'r Llun diweddaf, pryd y pregethwyd gan y Parchn R. Rees, Alltwen; J. R. Williams, Hirwaun; a T. Johns, Llanelli. Dechreuwyd y cyfarfodydd y Sabboth gan y myfyrwyr J. Price, maby diweddar weinidog D. Price ac Elias Davies, un arall sydd yn cyfodi yn yr eglwys. Dechreuwyd y cyfarfod- ydd y Llun gan y Parchn J. Davies, Soar; J. Morgan, Cwmbach ac R. Rowlands, Aberaman. Yr oedd amrywiol frodyr yn y weinidogaeth yn bresenol dydd Llun, a'r cenadon yn pregethu yr Efengyl gyda gwres a hollol ddirodres. Nid oedd yno ond ty i Dduw a pborth y nefoedd. Mae ein gwlad wedi cyfnewid llawer yn ddiweddar o ran cyfarfodydd crefyddol—y Gymanfa, y Cyfarfod Chwarterol, agoriad capeli, ac urddiad gweinidog- ion oedd y cwbi flynyddoedd yn ol; a Rees Davies (Glun Bren) yn dyfod heibio 4 llythyr y Gymanfa ganddo i'w werthu ar ol piegethu, ac yr oedd yn danfon sypynau o'i flaen weithiau i'r eglwysi i'w gwerthu cyn y deuai heibio, ac yr oedd yn ofnad wy lie y byddai y sypynau heb gymaint a bod wedi eu hagor. Yr oedd felly un tro a llythyr Gymanfa ar odineb. Yr wyf yu gwybod beth yw'r achos fod y sypyn hwn beb ei agor, na gwertbu dim ohono. O! tan ar grwyn rhai dynion yw y llythyr hwn. Mae rhai eglwysi yn caru godineb yn eu calon, yn eu calo—o—o—n." Oad nid yw Rees Davies mwy yn dyfod heibio a'i lythyr Cymanfa, ac mae y Gymant'a ei hun wedi colli llawer oddiwrth y peth ydoedd flynyddoedd lawer yn ol. Y cyfarfodydd blynyddol gan y gwahanol eglwysi ydyw hi yn awr, a dewis ddoniau yr eglwysi hyny yn pregethu yr Efengyi iddynt, ac yn cael eu digolledu ganddynt. Dichon fod hyn yn welliant mawr ar yr hen drefn. Os nad ydyw y llythyrau Cymanfa i'w cael, mae ambell i frawd yn dyfod a chynyrchion ei feddwl i'w cynyg i'n cynulleidfaoedd, a da fyddai eu darllen, er nad Shakespeare, Milton, Carlyle, Farrar, a Robertson ydynt, fel oedd cyfarwyddyd y Parch J. C. Manning, Abertawy, i fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin i'w darllen ar amser y gwyliau. Da fyddai y cyfryw weithiau galluog ya ddiau', ond pe darllenai llawer un gyfrolau bychain W. G. Evans, Coity, a J. Jones, Llangiwe (ei bregethau angladdol), gwnelent les i lawer pen a chalon. Yn ddiweddar y cawsom y fraint o gael cynyg arnynt. Byddai yn dda gan lawer yn Aberdar allu siglo llaw a'r gwr sydd ar Gorn y Lleuad, ond mae cwn yn cyfarth rbywbeth maent yn ganfod yn y lleuad nid yw lhoDo yn dyogelu gwr talentog rhag cael ei gyfarth. Dymunwn fy nghofio ato. GOHEBYDD.
CYMANFA CASTELLNEDD.
News
Cite
Share
CYMANFA CASTELLNEDD. GWELLIANT GWALL. FONEDDIGION,—Drwg genyf i mi cdael allan wrth ysgrifenu hanes y Gymanfa uchod i'r TYfJl" enw y Parch B. Evans, Siloh, fel Cadeirydd y Gyfedlach am 2. o'r gloch dydd Llun. GOHEBYDD.
UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU…
News
Cite
Share
UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU A PHERCHENOGION Y CHWARELI. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, — Mae yr Undeb yn awr wedi ei sefydlu er's mwy na deng- mlynedd., Datgenid yn un o'i Reolau nad oedd un bwriad iddo i yrnyryd yn llyw- odraetbiad. unrhyw Chwarel. Hyd ya hyn. y mae pob ymdrech wedi ei » neyd i gadw yn fanwl at yr egwydd- or yma. Ar yr un pryd, cedwid Ilygaid gwyliadwrus dros fuddianau yr aelodau. Kr yr anhawsdeiau oedd yn aragylchu yr Undeb, yn nghyda hawliau y meistri, teimlwn fod y rheol hon wedi cael ei ehadw yn gywir, ac ni ddymunem ymadael oddiwrthi ar yr achlysnr presenol. Er cvchwyniad yr Undeb, gyda'reithriad o'r can allan a'r strikes yn 1874, y rhai oedd a fynont yn uaiongyrchol a'i sefydliad-hawlia Cyngbor yr Undeb eu;bod wedi arfer pob modtfion i atal strikes, ac i was. tadbau y rhai a gymerasant le ar dir teg. Mae genym le i gredu fod yr ymdreehion hynv wedi cael cymerad- wyaeth y meistri a'r dynion. Nid yw yr Undeb, hyd yma beth bynag, wedi troi allan y drwg digymysg y mynai ei elynion y byddai ar y cychwyn. Mae wedi gwneyd peth gwaith ardderchog er mantais y meistri, gan wneyd cyfjelyb wasanaeth gwerthfawr er budd y gweithwyr. Mae y fasnach lechi yn nghorff y chwe' blynedd di- weddaf wedi myned trwy un o'r gwasgfevdd rhyfeddaf a hwyaf yn ei hanes ac nid oes genym ond gobeithio fadlY saith mlynedd Aiphtaidd yn tynu at y terfyn, ae y dilynir hwy gan lawader. Yr ydym oil yn barod i addef na allesid rhagweled y cynhyrfiad, a'i fod, i raddan pell tuhwnt ) lywodraethiad y rhai oedd yn arolygu y fasnach ond yr ydym yn dal allan mai ychydig- iawn sydd wedi ei wneyd er pan ddechreuodd, i adenill y tir a gollwyd, a lluaws o bethau i'w enyn a'i barhau. Mae pobpeth o gwmpas y fasnach wedi eu sil.do, ac mae yr ymddiried a osodid ynddi unwaith wedi ei golli. Nid yw Cyngjior yr Undeb yn agoshau at.y mater mewn unrhyw deimlad angharedig; ond gan eu bod yn cynrycbioli corfE mawr o ddynion, y rhai sydd yn ymddibynol ar lwyddiant y fasnach, teimlant yn sicr y bydd i'r perchenogion a'r noruehwytwyr gan- latau yn rhwydd eu hawl i drafod materion sydd yn perthyn i'r fasnach a chyflogau yr aelodau, ac y bydd iddynt dderbyn y llythyr yma yn yr ysbryd da yn yr hvon y mae yn cael ei anfon iddynt. Nis gall unrhyw fasnach lwyddo, os na bydd ganddi ymddiriedaeth pawb sydd a fynont a hi. Mae diffyg ymddiriedaeth bob airiser yn rhagflaenu diffyg nerth. Mae ditfyg nerth mewn masnach yn angeuol iddi. Mae'r fasnach sydd wedi colli ymddiriedaeth gwlad( wadi colli ffynonell ei belw.. Heb elw, nis gall un fas- nach fodoli. Mae'n eglur i bawb sydd wedi gwylied pethau, nad yw Perchenogion a Goruchwylwyr Llech Ohwareli Gogledd Cymru yn y blynyddoedd diweddaf yma, wedi gweithredu ar yr egwyddorion hyny sydd yn har-fodol i lwyddiant masnach. Nid ydynt tuag at eu gilydd wedi cyflawni fel y dymunent i ereill wneuthur iddynt hwy. Yr ydym yn credu mewn masnach rydd fel rhwng cenhedloedd a'u gilydd, ac mewn masnnch deg- fel rhwng personau unigol a'u gilydd. Mae y dull llechwraidd a diystyrllyd o werthu uan eu gilydd, rhoi cyfrif gormodol, yn nghyda'r cyfnewidiadau parhaus a wneid yn y prisiau, yr hyn a ddilynai yn naturiol y cyfryw weithredoedd ansefydlog a didrefn, wedi achosi parhad y wasgfa bresenol, ac wedi bod yn foddion i yru marsiandwyr i edrych allan am nwyddau toi mewn marchnadoedd oedd yn cael eu cario yn mlaen ar egwyddorion cadarnach a doetbach. Nid ydym yn myned i benderfynu pwy yn mhlith perchenogion y chwareli sydd fwyaf euog, ac ni bydd i ni fteisio ateb yr ymofyniad pwy bechodd gyntaf. Mae yn ddigon i ni wybod fod rhvwun neu rbywrai yn euog, a gwneyd ein rhan i gywiro hyny, a cheisio atal cyflawniad yr un- rhyw yn y dyfodol. Os ydym yn gywir yn ein gosod- iad, Perchenouion y Chwareli eu hunain gan mwyaf sydd i'w beio am y sefyllfa anfoddliaol bresenol ar y fasnach lechi. Mae'r dynion braidd yn inhob am- gylchiad yn eithaf parod wedi derbyn pob nostyngiad wnawd yn eu cyflogau, ac mewn rhai amsylehiadau yn rhy barod.. Mae Perchenogion a Pherchenogion, Goruchwylwyr a Goruchwylwyr, ac mae' Gweithwyr yn farnwyr digon cywir, ac yn adnabod y gwahaniaeth rhyngddynt. Mae Aipht a M6r Coch yn hanes pob cenedl a phob masnach. Nis gall fod ond un ymofyniad yn ein mysg—yn Berchenogion, Goruchwylwyr, a Dynion, sef, Pa fodd i ddwyn yn 01 y fasnach i'r cyflwr blodeuog yr oedd ynddi cyn i'r wasgfa ddechren. Yi ydym yn teimloyn gryf y dylid gweithredu yn ol y ddau awgrym can- lynol, os ydym yn dysHwyl gweled y fasnach yn cymeryd ei He fel o'r blaen. Yn gyntaf :—Dy!id mabwysiadu y mesurau hyny, heb oedi, a ddwg yn ol ymddiriedaeth pawb sydd mewn cysylltiad a'r fasnach; Yn mlaenaf er c el hyn, mae yn angenrheidiol cael taflen prisiau gwerthu a gydna- byddir, yn nghyda dealldwriaeth am y discount priodol a ganiateir ar v cyfryw. Mae yn ymddangos i ni fod hyn yn eithaf syml, ac nas gellir codi un gwrthwyneb- iad rhesymol iddo. Yn aii :—DyJai y perchenogion fabwysiadu mesuran I i agor meusydd ychw^negol at y rhai presenol i dder- byn y Llechi. Yr ydym wedi colli rhan o'r fasnach gartrefol^ a dyletn edrych allan am feusydd ereill. Mewn marchnaiileoedd ereill maent yn anfon cynrych- ,olwyr dros yr holl fyd i agor masnich ac mae angen am rywbeth cyffelyb mewn cysylltiad a'r fasnach lechi Ni ddyletn ymddibynu ar y meusydd presenol yn nnig. Yn wyneb selyllfa pethau yn bresenol, dylem wneyd a allwn i sicrhau rhai ereill. Ai ni allai y fasnach yn gytun wneyd rhywbeth yn y eyfeiriad yma ? Er peryglu gosod ein hunain yn agored i gael ein cyhuddo o ymyryd, mentrwn awgrymu y priodoldeb ar fed y Ptfrchenogion a'r Goruchwylwyr, yn nghyda thri neu bedvvar o gynrychiolwyr y gweithwyr yn cyfarfod mor fuan ag y gellir yn Nghaernarfon, i drafod pethau i weled a ellid trwneyd rhywbeth i wella y fasnach. Byddai yn dda genym gael eich teimlad ar hyn. Yr ydym yn gobeithio y by .'Id hyn yn foddion i gych- wyn symudiad a wna ei ran yn y pen dra i ddwyn yn ol y fasnach mewn llechi i'r sefyllfa flodeuog-, y bu 0" ynddi unwaith'. Unrhyw beth i'r amcan hwnw y gall Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei wneyd, bydd at alwad Perchenogion, Goruchwylwyr, a Gweit .wyr y Llech Chwareli. Eich uludd was, WILLIAM JOHN PARRY, Llywydd. 7, Market-stfeet, Caernarfon.
Cyfarfodydd, &e. ---
News
Cite
Share
Cyfarfodydd, &e. DANYGRAIG, ABERTAWY. Cynaliwyd eyfar- fodydd blynyddol yn y lie uchod ar y Sul a'r Llun, Mehefin 29a.iu a'r 30ain, pryd y pregethwyd gan y Parchn W. Pedr Williams. Troedyrhiw R. Eynon Lewis, Treforris, ac R. Thomas, Glandwr (yn Gym- raeg). Cafwyd oedfaon da iawn. Y mae golwjl lewyrchug ar yr achos yn y lie dan weinidogaeth lwyddianus y Parch E. O. Evans. LLANGATWG, CRUGHYW EL — Noa Iau a dydd Gwener, Mehefin 12ed a'r 13eg, cynaliodd yr eglwys yn y lie uchod ei chyfarfod blynyddol. Yr oedd yr hin hyfryd a gafwyd yn fanteisioi iawn i gael cynulleidfa- oedd lluosog, pregethau erymus ac effeithiol-yn ddi- amheu nid oadd yr Ysbryd yn nepell" oddiwrth y gweision. Gwasanaethwyd gan y Parchedigion T. Rees, D.D., Abertawy J. Alan Roberts, B.D., Caer- gybi, a T. H. William3, Bethania, Dowlaia. Llonwyd pltwb yn fawr wrth weled fod iechyd yr hybarch dad Dr Rees yn caniatau iddo dd'od am dro i'w hen ardal unwaith eto, ac hefyd fod ei ysbryd mor iraidd a ben- digedig pan yn son am yr hen, hen hanos." Cafwyd casgliadau da. ABERGORLECH. Cynaliodi yr eglwys hon ei chyfarfodydd blynyddol ar nos Fawrth a dydd Mer- cher, Gorphenaf laf a'r 2il. Gwasanaethwyd gan y Parchn W. Bowen, I'enyaroes, a E. Evans, Penybont, Trelech. Dechreuwyd y gwahanol oedfaon gan fyfyr- wyr, y Parch S. Evans, Llansawel, a'r Parch E. B. Lloyd, Gwernogle. Rhoddid yr emynan allan gan ein gweinidog y Parch S. D. Jones, yr hwn sydd yn llafurio yn egniol er adeiladaeth yr achos. Cawsom breeethau grymus ae effeithiol, cynulleidfaoedd da, a'r bin yn ddymunol. Hen arferiad pobl Abergorlech yw bod yn garedig, a buont felly yn yr amgylchiad hwn mewn parotoi llawnder o ymborth i'r dyeithriaid oedd yn bresenol. Hyderwn y bydd y cyfarfodydd yn adeilad- aeth i'r eglwys mewn dychweliad gwrandawyr a gogoniant i Dduw.—T. B. E. H AWEN. Cyfarfod Jubili. -Mercher a Ian, Me- hefin 25am a'r 26!in, cynaliwyd cyfarfod yma i gyd- lawenhau fod y ddyled ar y capel wedi ei 11 wyr ddilen.. Nos Fercher, dechreuodd y Parch W. Jones, Tre- wyddel, a phregethodd y Parchn O. R. Owen, Glan- dwr, a J. Miles, Aberystwyth. Boreu Iau, am 10 ar y maes, dechrenodd. y Parch 0. Thomas, Brynmair, a phregethodd Mr Jones, Trewyddel, a Mr Miles. Am 2, dechreuwyd gan y Parch W. P. Haws, Beulah, a ph^ejethodd VI r Jones, Trewyddel, a Mr Owen, Glan- dwr. Am 6, dechreuodd y Parch D. Oliver, Twrgwyn (T.C.), a phregethodd Mri Owen a Miles. Cafwyd hin ragorol, cynulleidfaoedd mawrion, ac eneiniad ar y presretbu. SILOA, MAERDY.-Cynaliod,d yr eglwys uchod ei chyfarfod blynyddol eleni dvddiau Sul a'r Linn, Mehefin y 22ain a'r 23dn. Gwasanaethwyd gan y Parchn J. R. Williams, Hirwann T. R. Williams, Dowlas; a T. G. Jenkyn, Llwynypia. Cafwyd cyfar- fodydd rhagorol. LLANSA WEL.-Bu Mr Thos Edwards (torwerth), Llandilo, yn darlithio yn y lie uchod yn ddiweddar ar I- i o "Hen Enwogion Crefyddol ardaloedd Llansad- wrn, Tabor, a Chrugybar, driugain, mlynedd yn ol." Mae yn ddarlith dda, Ilawn o addysg a dyddordeb. Rhoddai ddesgrifiad byw o hen gymeriadau gwresog y dyddiau gynt. Clywsom lawer o son am Nancy Jones, Dafydd Shon Emwnt, a William Evan Rhydderch, ac ereill ohonynt o'r blaen; ond mae yr hya sydd gan Iorwerth am danynt yn rhagori ar y cwbl. Wrth glywed am danynt, teimlem fod crefyddwyr yr oes hon yn bur anheilwng o'r hen srefyddwyr mewn ymdrech- iadau a gwres crelyddol, yn ogyetal a bod Coffadwr. iaeth y cyfiawn yn fendigedig," Pwy bynag gaiff y pleser o wrando ar y ddarlith hon gan ein hen frawd, ni bydd ar ei golled. Deallwnybwriada mor fnan ag y bydd amgylchiadau yn caniatau, ddwyn allan haues eyflawn o'r hen bobl dda hyn mewn llyfryn bychan. Llwyddiant iddo yu ei anturiaeth. Trueni fyddai i hanes y cewri hyn o grefyddwyr i fyned i dir anghof.— D. B. K. FOCHRIW.—CvnaUodd eglwys Annibynol Carmel, ei chyfarfodydd pregethu blynyddol, pryd v pregeth- wyd gan y Parchn P. W. Hough, Ynyazau, Merthyr; a J. Pethian Davies, Deri. Cafwyd pob peth yn ddy. muno'. Boed i'r had da gael dyfnder daear yn nghalonau dynion, ac i ddychwelyd y rhai crwydredig ♦
COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH. Mae Mr Thomas Davies, Bootle, a Mr D. C. Keeling, Liverpool, am roddi Ysgoloriaeth o .£50 yr un am bum' mlynedd, i gael eu henill yn y Coleg uchod.
Advertising
Advertising
Cite
Share
SING WELL! SPEAK WELL — Doughty s Voicc Lozenge has boon gratefully appreciated by thousands of clerical, musical, and other celebrities for nearly 40 years. It, imparts to the voice clearness of sound and brilliancy of tone. JENNY LIND.—" 1 have much pleasure in continuing, as far as, my experience extends, the testimony already so general in favour of the Lozenpres prepared by you (Miles Doughty). .Gd, Is. 2s Od, 5s, and lis—post free, 7d, Is 2d, 4ze. Ask your- chemist for them.—1'. NEWUERY and SONS, 1, King Edward- f street, London. E.G. Established A.D.I74(J.. 11 MOC-3IAIN LEVUH Tnussisthe most, effective invention for the treatment of Heruia. The 11-0 of a steel spring, so hurtful in its cfieet. is avoided, a soft bandage being. worn round the body, while the requisite resisting power is sup plied by the Moc-Maiu Pad and Patent Levei,, titting with so much., ease and closeness that it cannot 1m detected. Send fordescriptivo- circular, with testimonials and prices, to J. White and Co. (Limited), 228, Piccadilly, London. 00 not buy of Chemists, who- often sell an IMITATION of our Moo-Main. J. White and Co^. have not any Agents. 20.G.p.