Hide Articles List

6 articles on this Page

ABERDAR.

News
Cite
Share

ABERDAR. Mae yma lawer o gyfarfodydd blynyddol wedi eu cynal yn ddiweddar, megys Savon, Aberaman, y Sabboth a'r Llun cyn y diweddaf. Pregethwyd ynddynt gan y Parcbn W. Thomas, Rock, Cwmafon, ac R. Thomas, Penrhiwceibr. Cyfarfodydd rhagorol gyda doniau hollol adnabyddus. Dyna fel yr oedd hi gynt—Paul yn planu, ac Apolos yn dyfrhau, ond Duw a roddes y cynydd. Nid yw yr Efengyl yn heneiddio, ond yn ffres yn dyfod allan o eneuau newydd a hen gyhoeddwyr ohoni.—CynaHodd Siloa, Aberdar, ei chyfarfodydd y Sabboth a'r Llun diweddaf, pryd y pregethwyd gan y Parchn R. Rees, Alltwen; J. R. Williams, Hirwaun; a T. Johns, Llanelli. Dechreuwyd y cyfarfodydd y Sabboth gan y myfyrwyr J. Price, maby diweddar weinidog D. Price ac Elias Davies, un arall sydd yn cyfodi yn yr eglwys. Dechreuwyd y cyfarfod- ydd y Llun gan y Parchn J. Davies, Soar; J. Morgan, Cwmbach ac R. Rowlands, Aberaman. Yr oedd amrywiol frodyr yn y weinidogaeth yn bresenol dydd Llun, a'r cenadon yn pregethu yr Efengyl gyda gwres a hollol ddirodres. Nid oedd yno ond ty i Dduw a pborth y nefoedd. Mae ein gwlad wedi cyfnewid llawer yn ddiweddar o ran cyfarfodydd crefyddol—y Gymanfa, y Cyfarfod Chwarterol, agoriad capeli, ac urddiad gweinidog- ion oedd y cwbi flynyddoedd yn ol; a Rees Davies (Glun Bren) yn dyfod heibio 4 llythyr y Gymanfa ganddo i'w werthu ar ol piegethu, ac yr oedd yn danfon sypynau o'i flaen weithiau i'r eglwysi i'w gwerthu cyn y deuai heibio, ac yr oedd yn ofnad wy lie y byddai y sypynau heb gymaint a bod wedi eu hagor. Yr oedd felly un tro a llythyr Gymanfa ar odineb. Yr wyf yu gwybod beth yw'r achos fod y sypyn hwn beb ei agor, na gwertbu dim ohono. O! tan ar grwyn rhai dynion yw y llythyr hwn. Mae rhai eglwysi yn caru godineb yn eu calon, yn eu calo—o—o—n." Oad nid yw Rees Davies mwy yn dyfod heibio a'i lythyr Cymanfa, ac mae y Gymant'a ei hun wedi colli llawer oddiwrth y peth ydoedd flynyddoedd lawer yn ol. Y cyfarfodydd blynyddol gan y gwahanol eglwysi ydyw hi yn awr, a dewis ddoniau yr eglwysi hyny yn pregethu yr Efengyi iddynt, ac yn cael eu digolledu ganddynt. Dichon fod hyn yn welliant mawr ar yr hen drefn. Os nad ydyw y llythyrau Cymanfa i'w cael, mae ambell i frawd yn dyfod a chynyrchion ei feddwl i'w cynyg i'n cynulleidfaoedd, a da fyddai eu darllen, er nad Shakespeare, Milton, Carlyle, Farrar, a Robertson ydynt, fel oedd cyfarwyddyd y Parch J. C. Manning, Abertawy, i fyfyrwyr Coleg Caerfyrddin i'w darllen ar amser y gwyliau. Da fyddai y cyfryw weithiau galluog ya ddiau', ond pe darllenai llawer un gyfrolau bychain W. G. Evans, Coity, a J. Jones, Llangiwe (ei bregethau angladdol), gwnelent les i lawer pen a chalon. Yn ddiweddar y cawsom y fraint o gael cynyg arnynt. Byddai yn dda gan lawer yn Aberdar allu siglo llaw a'r gwr sydd ar Gorn y Lleuad, ond mae cwn yn cyfarth rbywbeth maent yn ganfod yn y lleuad nid yw lhoDo yn dyogelu gwr talentog rhag cael ei gyfarth. Dymunwn fy nghofio ato. GOHEBYDD.

CYMANFA CASTELLNEDD.

UNDEB CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU…

Cyfarfodydd, &e. ---

COLEG Y BRIFYSGOL, ABERYSTWYTH.

Advertising