Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

TY YR ARGLWYDDI.

News
Cite
Share

TY YR ARGLWYDDI. CYN y byddo y llinellau hyn o flaen llygaid y darllenydd bydd Mesur yr Etholfraint, yn ol yr arwyddion presenol, wedi ei daflu allan gan yr Arglwyddi. Gobeithid unwaith y buasai y gwyr urddasol yn ddoethach yn eu cenedlaeth, ac y gwnaethent basio mesur mor bwysig ac mor deg—mesur a fabwys- iadwyd gan Dy y Cyffredin gyda mwyafrif mor sylweddol, a mesur a hawlir gan y bobl fel un sydd yn rhoddi iddynt eu gwir hawl- fraint eu hunain; ond i'r gwrthwyneb y maent wedi penderfynu. Dydd Mawrth wythnos i'r diweddafrhoddwyd rhybndd gan IARLL CAIRNS y buasai, ar ail-ddarlleniad y mesur, yn 'cynyg gwelliant, sylwedd yr hwn yw taflu y mesur allan. Dyma brawf arall owinonedd yr ymadrodd "Nad yw gwyt mawrion ddoeth bob amser, na henafgwyr yn deall barn." Gwir nad yw y gwelliant yn myned yn uniongyrchol yn erbyn Mesur yr Etholfraint, ond yn hvtrach yn erbyn ei basio yn anni- 'bynol ar Fesur Ad-drefniad y Gynrychiol- aeth; ond gvvyr pawb sydd yn adnabod eu Harglwyddiaethau, a pheth yw mesur eu cydymdeimlad a iawnderau y bobl, mai. tipyn o gyfrwysdra oedd rhoddi i'r gwelliant y fath eiriad. Gobeithient wrth hyny, yn ddiau, dwyllo llaweroedd; ond, fel llawer o'u blaen, delir hwy yn eu cyfrwysdra, ac fel y creadur bychan hwnw y dywedir nad yw byth yn agor ei lygaid ond yn nhagfa ma^wolaeth—y bydd iddynt hwytbau, os nad ystyriant eu ffyrdd yn dra buan, a chyd- nabod hawliau y bobl. Bydd mabwysiadu y gwelliant yn cael ei ystyried gan y Wein- yddiaeth a Thy- y Cyffredin fel gwrthodiad o'r mesur, a dwg byn y ddau Dy i wrth- darawiad uniongyrchol a'u gilydd. Yn wir, nis gall cydgordiad fodoli rhwng y ddau D^ fel y maent yn bresenol o ran eu cyfansodd- iadau. Tra y mae mwyafrif mawr y Ty Isaf yn Rhyddfrydwyr, mae mwyafrif mawr y Ty Uchaf yn Doriaid, ac y mae yr olaf yn rhwystr mawr i weithrediadau y blaenaf. Cydweithredai y ddau Dy, yn ddiau, pe byddai y mwyafrif yn yr Isaf yn Doriaid; ond ni byddai y fath gydweithrediad yn fantais i'r cyboedd. Yn hytrach, cydweith- rediad a fyddai i ormesu y bobl, trwy gadw oddiwrthynt eu biawnderau. Dyna eu hanes yn y gorphenol. Nid ydym am weled y fath gydweithrediad eto, ac y mae digon o allu C5 yn y wlad i'w atal. Mae ffordd arall i sicr- hau cydweithrediad, sef trwy leihau rbif y Tofiaid yn y Ty Uchaf i'r fath raddau nes y byddo ei fwyafrif mewn cydymdeimlad a'r 'Ty Isaf. Gellir gwneyd h yn trwy greu (ligon o arglwyddi Rhyddfrydig i orbwyso y blaid Doriaidd. Ond ni byddai y fath symudiad chwildroadol ar lawer cyfrif yn ddymunol. Gwell fyddai ei wneyd fel y Ty Isaf, yn gorff cynrycbioledig, dibynol ar bleidlais y bobl; wrth hyny ceid y ddau Dy i gydweithredu mewn deddfu er mantais y bobl. Mae yn amlwg bellach fod yn rhaid wrth ddiwygiad yn ngbyfansoddiad y Ty Uchaf. Mae y wlad wedi dechreu cynhyrfu. Gofynir y cwestiwn yn amI, "Pa beth a wneir i'r Arglwyddi ? Ac os na chymerant hwy ofal i ddiwygio eu hunain mewn pryd, cymer -ereill y mater mewn Haw, a gwneir y gwaith yn effeithiol. Cant deimlo fod gallu sydd yn gryfach na hwy. Tebyg y bydd iddynt gael ail gynyg ar ¡ basio Mesur yr Etholfraint, canys y farn ydyw y gelwir y Senedd i gyfarfod eto tua'r wythnos olaf yn Hydref, er pasio y mesur drachefn. Anfonir efi fyny, mae'n bosibl, i Dy yr Arglwyddi gyda mwyafrif cynyddol. Os ei daflu allan a wna y Ty hwnw yr ail waith, apelir at y wlad mewn Etboliad Cyffredinol, a gofynir, Pwy sydd i lywod- raethu ? pa un ai yr Arglwyddi gormesol ac anghyfrifol, ynte y bobl ? a chaiff y mawr- ion wybod nad ydoedd rbagfynegiadau Mr GLADSTONE o ddifrifoldeb y canlyniadau ddim yn eithafol. Cant wers nad aughofir hi yn fuan ganddynt. Nis gallant lwyddo yn eu hymdrechion i atal i'r bobl eu hiawn- derau. Os na wnant gydweithredu a'r Tk Isaf i ddeddfu yu ol gofynion yr oes a'r wlad, gorfoder hwy i gilio o'r ffordd, gan roddi lie i'w gwell. Tybiodd CANUTE, brenin Lloegr a Den- mark, unwaith fod yn ei feddiant ddigon o allu i atal llanw y mor yn ei ymdaith, ac wele ef ryw ddiwrnod yn sefyll ar y traeth gan orchymyn i'r tonau ymgadw draw ond nid adwaenasant hwy ei lais, ac ni cbydna- byddasant ei awdurdod; ymddyrchafasant yn eu nerth, aethant rhag eu blaen yn ol eu harfer, a bu dda ganddo yntau ddychwelyd a'i fywyd yn ysglyfaeth yn ddoethach a mwy gostyngedig gwr. Mae ein Harglwyddi wedi ymgymeryd a'r gorchwyl hunan-ddinystriolo wrthwynebu barn a hawliau y cyhoedd, gan feddwl fod ganddynt ddigon o allu i lwyddo yn eu hamcan; ond mae y llanw yn dechreu ymgodi-mae y tonau yn brochi, gan ganlyn eu gilydd,. a chyn hir gwelir Arglwydd SALISBURY a'i ganlynwyr yn ymgilio o flaen llanw grymus barn y cyboedd i chwilio am ryw gilfach a glan i ymlechu ynddi, yn ddoethach a mwy gostyngedig gwyr. Cyfarfu 20,000 o lowyr swydd Durham ddydd Sadwrn diweddaf, a datganasant eu barn yn ddifloesgui o blaid Mesur yr Ethol- fraint, ac yn erbyn traws lywodraeth yr Ar- glwyddi, a chlywid yr ymadrodd yn ami, I lawr a'r Arglwyddi." Iddynt eu hunain mae yr Arglwyddi i ddiolch am y fath ysbryd a'r fath ymadroddion. Cynaliwyd cyfarfod cyffelyb, ar yr un dydd, yn agos i Bolton, swydd Lancaster; a chyn yr Hydref tebyg na fydd gweithwyr Morganwg a Mynwy, chwarelwyr Arfon a Meirionydd, yn gystal a boll Gymru, ar ol o ddyrchafu eu lief o blaid eu hiawnderau, nes gwueyd i'n mawrion Ceidwadol deimlo nerth y geir- iau, Trech gwlad nac arglwydd." ♦

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG

I PRIORDY, CAERFYRDDIN.

LLANELLI.

Advertising