Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Cynwysiad.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Hysbystadau 1, 2 Ymylon y Ffordd—Athrofa Ffrwdval 3 Y diweddar Dr Davies, Ffrwdval 4 Cymanfa Annibynwyr Sir Gaernarfon — Hyn a'r llall o Waencaesurwen 5 Y Golofn Wleidyddol-Eglwys Gynulleidfaol Ohorl- ton Road, Manchester 6 Cymanfa Gerddorol Llanbedr—Cymanfa Gerddorol Llantrisunt—Barddoniaeth—Caerlleon 7 At ein Gohebwyr—Yr Wyihnos 8 Y BRIF ERTHYGL— Ty yr Arglwyddi 9 Eisteddfod SHoh, PeDtre, Rhondda-Taith o Lun- dain i Ganolbarth Affrica 10 Aberdar—Gohebiaethau—Cyfa fodvdd 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol — Bro Morganwg- Tredegar 12 Genediyaethan, Priodasan, Marwolaethau 13 Hysbysiadan 14,15,16
Advertising
Advertising
Cite
Share
ILLUMINATED WORK, Testimonials, Presentation Addresses, g-c., executed in the purest styles, in gold and colours. TYSTEBAU AC ANERCHIADAU ANRHEGOL YN Gymraeg nen Saesoneg (gwaith Ilaw), wedi eu gwyehu yn JL y dull mwyaf dillyn a hardd, a llytliyrenau addurnedig a llivriedig, ae ag arwyddluniau cyfaddas, mewn ymyhvuith amryliw. 11HAI ANERCHIADAU A WNAED Mr T). Simons, Manager, Moss Bay Steel Works. Cumberland, late Manager of tlie Bessemer Steel Works, Rhymney. Mr O. Phillips, New Tredegar, P.P.G.M., presented by the Oddfellows of the Rhymney District. Mr J. Price, Manager, Treharris, late Manager of the Glydach Vale Colliery, Rhondda. Rev D. Silyn Evans, Aberdare. Rev W. Edwards, Aberdare, Chairman of the Welsh Congre- gational Union. 7.6.W. S. D. ROBERTS, Trealaw, Pontypridd.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. CAPEL YN CAEL EI DARO GAN FELLTEN. —Sabboth wythnos i'r diweddaf ytnwelwyd y a. chanolbarth sir Aberteifi gan ystorom o fellt a tharanau ddifrifol. Saif capel Dihewyd ar lauerch dawel yn nghanol y wlad, ac y mae yno eglwys lewyrchus dan weinidogaeth ein brawd ieuanc galluog, y Parch T. Johns, Cilcenin. Parhaodd yr ystorom am haner awr a thuag ugain mynyd. Cyn dechreu oedfa y prydnawn tarawodd mellten y ty nes peri cryn ddinystr. Yn ffodus nid oedd neb yn y capel ar y pryd, onite buasai yno golled am fywydau. Yr ydym yn dymuno datgan ein eydymdeimlad a'r gweinidog a'r eglwys yn eu profedigaeth, ac yn cydnabod yr Arglwydd am y waredig- aeth a gawsant. Y GYERAITH. — Mae yn llawen genym allu hysbysu fod Mr Thomas Davies, mab Mr Charles Davies, Bellevue-street, Aber- tawy, un o ddiaconiaid yr eglwys yn Eben- ezer, wedi pasio ei arholiad yn llwvddianus fel cyfreithiwr. Mae Mr Davies yn wr ieuane siriol, galluog, a chyfarwydd yn y Gymraeg yn gystal a'r Saesoneg, ac felly gall pob Cymro uniaith fyned i'w Swyddfa yn ddibetrus i ymgynghori ag ef yu ei iaith ei hun. Hefyd, y mae yn wr ieuanc cref- yddol, ac yn Ymneillduwr. Mae petbau yn gwella yn gyflym yn ein gwlad. Ddeugain mlynedd yn ol yr oedd braidd bob cyfreith- iwr a meddyg yn Eglwyswr, ond beliach y Yr, 0 mae lluaws, os nad y mwyafrif, o'n cyfreith- wyr a'n meddygon yn Ymneillduwyr selog a gweithgar. Hyderwn y caiff Mr Davies gefnogaeth belaetb, gan y gall pob un a elo ato ymddibynu ar ei onestrwydd a'i fedr yn ei alwedigaeth. DAMWAIN ALARUS YN CHEPSTOW.—Dyma un o'r cymydogaethau mwvaf swynol a pbrydferth yn y deyrnas. Saif y dref lan, dawel bon ar lan yr afon Wye, yn .ymyl ei harllwysiad i'r mor, a phrydferthir yr ardal gan y golygfeydd mwyaf paradwysaidd. Yn y dref llafuria y Parch Charles Denny- I 1 gweinidog y Bible Christians. Dydd Llun wythnos i'r diweddaf, yr oedd ef a.'i wraig a'i ddwy forwyn wedi myned mewn cerbyd bychan, yn cael ei dynu gan ferlyn bywiog, allan i Culdicott—pentref heb fod yn nepell oddiyno. Yr oedd yno wyl de a chyfarfod cyboeddus yn y nos. Pan yn dyfod adref ar ben y rhiw sydd yn disgyn i'r dref, croes- odd cath wen y ffordd, a chafodd y pony fraw mor enbyd nes y rhedodd ar y garlam wyllt, ac yn hollol ddilywodraeth, i waered y rbiw, nes y tarawodd y cerbyd yn erbyn congl ty. Taflwyd pawb allan, diangodd y morwynion yn Iled ddianaf, ond derbyniodd Mrs Denny y fath niweidiau fel y bu farw yn mben dwy awr, ac y mae ei phriod yn gorwedd mewn cyflwr peryglus. Taflodd yr amgylchiad brudd-der dros yr holl wlad. Y GERI MARWOL.—Fflangell arswydlawn ar wlad a chenedl yw y geri marwol. Buom yn ei ganol saith mlynedd ar ugain yn ol, ac y mae y dycbrynfeydd heb ein gadael yn llwyr hyd heddyw. Gwelsom luaws o ddyn- ion yn y boreu yn iach, ac wedi marw mewn arteithiau dirdynol cyn boreu dranoeth. Ymddengys ei fod yn dynesu atom y flwydd- yn hon. Dwy flvnedd yn ol torodd allan yn yr Aipht, a gwnaeth ddifrod mawr ar fywydau, ond ataliwyd ei ledaeniad mewn .modd tra effeithiol, fel na ddyoddefodd gwledydd ereill ddim oddiwrtbo. Ond yr haf hwn mae wedi tori allan yn Toulon a Marsailles yn Ffrainc, ac y mae yno lawer o fywydau wedi eu colli eisoes. Buwyd yn gobeithio ar y cyntaf nad oedd y ffurf waetbaf o'r geri, ond erbyn hyn mae wedi ei brofi yn ddiamheuol gan rai o brif feddygon Ewrop ei fod y ffurf mwyaf eitbafol o'r Asiatic cholera. Dau borthladd mawr yw Toulon a Marsailtes, ac y mae yno drafnid- aeth arforawl fawr iawn, ac y mae yno luaws o forwyr tramor yn myned i fewn ac allan bob dydd. Nid oes neb yn gwybod pa fodd y daeth yno, ond mae ei bresenoldeb wedi peri dycjiryn ofnadwy. Ffoa y trigol- ion wrth y miloedd, ac y mae masnach a thrafnidaeth yn gorfod sefyll. Gobeithio yr arbedir y wlad hon rhag ffrewyll mor ddinystriol. Cofier fod sobrwydd a glan- weithdra yn fanteisiol, os nad yn hanfodol i'w gadw draw. DINYSTRIAD CAPEL YN RHYL.-Adeilad- wyd capel bardd a chyfleus i'r eglwys a'r gynulleidfa Seisonig yn Rhyl yn amser gweinidogaeth y galluog a'r pur, y Parch Aaron Francis. Pregetbodd yno am flyn- yddau i gynulleidfa barchus a deallgar. Dilynwyd ef yn y weinidogaeth gan y Parch D. Burford Hooke-un o ddynion mwyaf gweithgar a llafurus yr holl Enwad. Gwna fwy o waith na haner dwsin o ddynion eytf- redin, a hyny heb wneuthur nemawr i gam- syniad na syrthio i nemawr amryfusedd. Dechreuodd ei weinidogaeth yno yn Ionawr diweddaf, ac yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn heddychol a llwyddianus. Cynyddai y gynulleidfa, a theimlid dylanwad yr eglwys yn rymus yn y dref. Ond yn ddiweddar, sylwyd fod y capel yn rhoddi ffordd-ac,oral y muriau a phantiai y to, a ZD phrofwyd nad oedd yn ddyogel iddynt addoli yno mwyach. Erbyn chwilio, cafwyd allan fod diffyg pwysig yn ngwneuthuriad caeth- ffos oedd yn rhedeg dan y capel. Os felly, ouid oes rbywrai yn gyfrifol ? Modd bynag, mae yn rhaid tynu yr hen i lawr yn llwyr, ac adeiladu un newydd yn hollol. Teflir yr eglwys i tua £3,000 o draul, ac yr ydym yn hyderu y cant gydymdeimlad cyffredinol, tY canys y maent yn ei deilyngu. Maent yn ffodus iawn fod ganddynt y fath weinidog gweithgar a phenderfynol, ac ni orphwys efe nes dwyn y maen penaf adref yn orfol- eddus ac ysgrifenu arno, Rhad, rhad iddo," ac am Mr Burford Hooke gellir dywedyd, A phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenin- iaeth." TRYCHINEB ALAÈTHUS YN LLANDYSUL.— Nos Fercher, yr ail cyfisol, dygwyddodd danfwain ddifrifol yn y dreflan dawel hon. Mae Mr John Jones, cyfreithiwr, a chof- restrydd Llys Man-ddyledion Abertawy, yn preswylio mewn palasdy bychan ger llaw y dref. Y diwrnod hwnw, aeth Mrs Jones (Miss Moses, Resolven gynt) a'i dau facbgen, a Miss Howells, y governess, am. dro i Aberystwyth, a dychwelasant gyda'r tren diweddaf. Aeth Mr Jones mewn cerbyd i'r orsaf i'w cyfarfod, a chymerodd hwynt oil ganddo i'w dwyn adref yn deulu llawen a dedwydd ond ar y ffordd, gwylltiodd y ceffyl yn ddisymwth, ac yn ymddangosiadol yn ddiachos. Modd bynag, rhedodd i lawr y goriwaered gyda chyflymdra anifail dychrynedig, ac yn y drofa gyntaf dym- chwelodd y cerbyd, a thaflwyd pawb allan, gan dderbyn niweidiau trwm. Cludwyd pawb i'r Porth Hotel ger llaw, a chafwyd cymhorth tri meddyg yn ddioedi; ond bu Miss Howells farw yn fuan, ac erbyn canol nos yr oedd Mr Jones ei hun wedi marw. Amlygir y cydymdeimlad dyfnaf a Mrs Jones druan ohoni, yr ydym yn ei chofio yn eneth ieuanc lawen a dedwydd, ond mae cwmwl du wedi cuddio ei ffurfafen. Er ei bod yn nghanol digon o gyfoeth, mae wermod chwerw wedi dyfod i'w chwpan ar ganol haf ei llwyddiant. Geneth ieuanc o Wavertree, Liverpool, oedd y governess, ac yr oedd ei tbad a'i mam yn dyfod yno dranoeth ar ymweliad a hi; ond derbyn- iwyd hwy gan ferch auwyl wedi marw. Bydded yr Arglwydd yn amddiffyn i'r weddw a'r plant, yn gysur cryf i Mr a Mrs Howells yn eu hadfyd mawr, a dysger ni oil i gofio nad oes ond megys cam rbyngom ac angeu. MARWOLAETH DR A VELING.-Tarawyd ni oil gyda syndod a galar gan y newydd am farwolaeth Dr Aveling. Mae ei enw yn dra adnabyddus i luaws o'r Cymry mewn cysylltiad a Choleg Aberhonddu. Byddai yn dyfod i lawr er's blynyddau i gyfarfod blynyddol y Coleg fel dirprwywr dros y Bwrdd Cynulleidfaol. Dyn bychan, teneu, a gwywedig yr olwg arno oedd, ond yr oedd yn ysgolhaig diwylliedig, ac yn foneddwr trwyadl. Bu. yn y weinidogaeth am 46 mlynedd, ac enillodd air da gan bawb a'i hadwaeuent. Cymerai safle anrhydeddus yn holl waith cyboeddus yr Enwad yn Lloegr. Yn 1876, yr oedd yn Gadeirydd yr Undeb Seisonig; llanwodd y gadair yn anrhydeddus, a thraddododd auerchiadau gwir gymeradwy. Bu am flynyddau lawer yn ysgrifenydd y Reedham Asylum, a llwyddodd i wneyd y sefydliad bendithfawr bwnw yn hollol lwyddianus. Yr oedd hefyd yn un o'r Merchant Lecturers, ac efe oedd i'w traddodi am y mis yma. Ond dyrchafwyd ef i gylch arall, ac erbyn hyn mae yn gorphwys oddiwrth ei lafur mawr. Teimlir colled ar ei ol mewn llawer cylch, a bydd cyfarfod blynyddol Coleg Aberhonddu yn wag iawn hebddo, canys yr oedd efe yn wir gyfaill i'r sefydliad. .0.
HysbysisLdau.
News
Cite
Share
HysbysisLdau. Heb fod dros dair llincll, Is. y tro; am bob llinell ychwanegol, 3c. Ond ymddenuys Hysbysiadau am yap aid o amser am brisiau llawer is.