Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMANFA GERDDOROL LLANBEDR…

News
Cite
Share

CYMANFA GERDDOROL LLANBEDR A'R AMGYLCHOEDD. t' Cynaliwyd y Gymanfa flynyddol hon yn Soar, Llanbedr, dydd Mercher diweddaf, o dan arwein- iad y Parch W. Emlyn Jones, Treforris. Cyflawn- odd Mr Jones ei waith, fel arfer, yn ardderchog. Am 11 y boreu cafwyd rehearsal, fel y byddai i'r cantorion a'r arweinydd ddyfod i adnabod eu gilydd. Am 2, yn absenoldeb y Parch D. Williams, Rhydybont (yr hwn oedd i fdd yn llywydd y Gymanfa), cymerwyd y gadair gan y Parch T. Thomas, Llanfair, yr hwn a ddechreuodd y cyfarfod drwy ddarllen a gweddio, yna wedi ychydig o eiriau pwrpasol, galwodd ar yr arwein- ;ydd i gymeryd gafael yn ei waith. Dechreuwyd ar y rhaglen trwy ganu y t6nau Cemmaes, Leoni, :ac Alan. Yna cafwyd Janerchiad ar "Ganu a'r DealJ," gan Mr J. Thomas, College-street. Yn nesaf canwyd Elwy (D, Jenkins), a Llanddowror, a chafwyd anerchiad gan y Parch J. Thomas, Soar, ar Ganu a'r Ysbryd," ac yna canwyd Ai difater genyt ein colli ni" (Telyn yr Ysgol Sul, gan Dr Parry). Gorphenwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch T. Thomas. Am 6, cymerwyd llywyddiaeth y cyfarfod gan y Parch J. Thomas. Wedi iddo ddarllen rban o Air yr Arglwydd ac anerch gorsedd gras, cymerodd Emlyn Jones yr arweinyddiaeth yn ei law dracbefn, a chanwyd y tonau Nashville, Tref- deyrn, ac Alexander (Ieuan Gwyllt). Yna cafwyd anerchiad gan Mr J. Williams, Cellan Court, ar Ddyledswydd ein cynulleidfaoedd i roddi pob cefnogaeth i:ganiadaeth gysegredig." Wedi byny canwyd "Eto mae lie" (Swn y Jubili), yna anerchiad gan Mr J. Evans, Mark Lane, ar Ganu fel moddion argyhoeddiad." Ar ol hyn canwyd Dusseldorf a'r anthem Yr Arglwydd sy'n teyrn- asu" (J. Thomas). Anerchiad gan y Parch T. Thomas ar "Ddygiad yr elfen gerddorol i mewn i'r cysegr." Yn nesaf, canwyd Huddersfield. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan y Parch J. Penry (W.J. Tystiolaeth yr arweinydd oedd ffluf f Gymanfa eleni yn rhagori llawer yn ei chanu sar y Gymanfa llynedd. Yr joedd dadganiad rhai •o'r tonau yn effeithiol iawn, yn enwedig felly Dusseldorf, Nashville, "Eto mae lie," Alexander, a Llanddowror. Canwyd yr olaf yn fendigedig. Yr oedd yr arweinydd a'r canturion wedi eu codi i hwyl neillduol, nes oeddynt wedi myn'd i ddyblu a threblu ar yr hen don ragorol hon. Cafwyd sylwadau rhagorol gan yr arweinydd ar Y pwysigrwydd i roddi y flaenoriaeth i ganu y cysegr ar bob canu arall." Gobeithio mai ar gynydd yr ii yr undeb mewn rhif ac mewn ffydd- londeb. UN O'R UNDEB.

CYMANFA GERDDOROL LLANTRI,,V…

CAETHWASIAETH.

CAERLLEON A'R CYFFINIAU