Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y Golofn Wleidyddol. ---,._,-_..---.-.-.--.---

News
Cite
Share

Y Golofn Wleidyddol. Mae y crisis mawr yn agosbaa, a chyn y daw y llinellau byn o dan lygad y darllenydd, bydd teimlad y wlad wedi cyrbaedd pwynt uchel iawn. Nis gall y cyffroad lai na bod yn angerddol byd nes y gwybyddir beth fydd y diwedd. Yr achos air cwbl ydyw ymddygiad Ty yr Arglwyddi tuag at brif fesur y Senedd-dymhor, ac yn wir brif fesur y Senedd bresenol, sef estyniad yr etbol- fraint. Darllenwyd ef y drydedd waith yn Nhy y Cyffredin nos Iau wythnos i'r diweddaf, a thra- ddododd Mr Gladstone araeth ar yr achlysur oedd yn llawn arwyddocad, a pharodd yr araeth hono gyffro mawr yn holl wersyll y Toriaid. Cydna- byddai y Prif Weinidog bwysigrwydd y sefyllfa, ac ni cbeisiodd gau ei lygad ar y Saith fod amryw o Dorïaid blaenaf Ty yr Arglwyddi, yn gystal ag aelodau pwysig o'r Ty Cyffredin, wedi amlygu yn ddigon eglur mai eu bwriad ydyw taflu y mesur allan ar ei ail-ddarlleniad yn Nby yi Arglwyddi. Arswydai ef rhag y gwrthdarawiud a gymerai le l'hwng y ddau Dy, ac yn benaf rhwng y Ty Uchaf a'r wlad; ond os hyny oedd ewyllys eu Harglwyddi-os'taflu y mesur allan a wneid, nid oedd arno ofn y canlyn- iadau. Mae yn dra thebyg na thraddodwyd erioed gan unrhyw Brif Weinidog, o dan unrhyw fath o amgylchiadau, araeth oedd mor llawn o'r rhybuddiol a'r bygythiol.' Auican Mr Gladstone yn ddiau wrth siarad felly oedd arbed y Ty Uchaf rhag y gwaetbaf-eeisio eu cadw rhag cyflawni hunan-laddiad gwleidyddol. Pan esyd Mr Gladstone ei droed i lawr, ac ni wnaeth hyny erioed yn fwy arwyddo.caol na'r tro hwn, gwyddis mai nid chwareu plant sydd i gan- lyn, ond gwaith sylweddol a gwreiddiol (radical). Cyfeiriodd yn ei araeth at yr hyn a gymerasai le yn 1832, ac yn enwedig at y crisis mawr yn adeg y cyffro yn nghylch y Corn Laws. Mynych gymeradwyid yr araeth gan y Blaid Ryddfrydig yn y Ty, ac edrychai yr ochr arall yn synedig a brawyebus tra y tywalltai un o brif areithwyr y byd ei frawddegau llwythog ar eu traws fel tân- belenau yn llosgi y ffordd y cerddont. Nid oedd gan y Toriaid ddim i'w wneyd ond gwingo a chyfarth, a llawer ohonynt yn dechreu meddwl yn eu calon mai nid da i gyd yw cael mwyafrif dibris o Doriaid yn Nhy yr Arglwyddi. Cododd Syr S. Northcote ac ereill i geisio gwrthdystio yn erbyn ton yr axaeth, a dywedent na chlybuwyd erioed y fath fygythion yn cael eu harferyd tuag at ran mor bwysig o'n deddfwrfa a Thy yr Arglwyddi. Ond waeth iddynt heb geisio siarad-aethai y gair allan o enau y brenin, ac nid oedd galw yn ol i fod arno. Yn swn y geiriau hyn yr anfonwyd y mesur i Dy yr Arglwyddi ar ol pasio ei drydydd ddarlleniad yn y Ty arall heb raniad o gwbl, a darllenwyd ef y waith gyntaf yn llurfiol gan eu Harglwyddi nos Wener diweddaf. Nos Lun nesaf yr agorir dadl yr ail-ddarlleniad, ac y mae Iarll Cairns eisoes wedi rhoddi rhybndd y bydd iddo gynyg gwelliant i'r perwyl nad yw i gael ei ddarllen yr ail waith yn awr-eynyg ei daflu drossy bwrdd mewn gwirionedd. Dywa gyhoeddiad rhyfel gwirioneddol. Ystyrir larll Cairns a Due o Richmond, nid yn unig yn aelodau pwysig o'r blaid Doriaidd, ond yn mhlith y rhai mwyaf cymedrol a dyogel ohonynt. Gobaith llawer drwy y misoedd a aethant heibio oedd, na chawsid gan y ddau yma a'u cyffelyb i ganlyn Ardalydd Salisbury yn ei fwriad peryglus a dibris, a tbrwy hyny y llwyddid i basio y mesur, ond siomwyd y gobaith hwnw yn llvvyr pan roddodd larll Cairns rybudd o'i fwriad i gynyg taflu y mesur allan. Gwnaeth efe hyn ar ol ymgynghor- iad a'i blaid. Cyfarfu nifer mawr o'r Arglwyddi Toriaidd yn Nhy Ardalydd Salisbury un diwrnodi ystyried y cwrs a gymerid ar y mater yn gystal a rbyw bethau ereill, ac hyd y gellir deall yr oedd yno unfrydedd yn nghylch taflu Mesur yr Ethol- fraint allan. Dywedir fod Iarll Jersey wrtho ei hun yn erbyn y cwrs yma. Nid oes amheuaetb yn awr yn ngbylch yr hyn a gymer Ie. Ceir dadl am ddwy neu dair noson arno, yna pleidlais, a mwyaf- rif yn ei erbyn. Beth a wna y Weinyddiaetb wedi hyny ? Bernir mai dirwyn y Senedd-dymhor i'r pen mor gynted ag y gellir-tua dechreu Awst, wrth bob tebyg, a galw y Senedd yn nghyd drachefn yn yr Hydref, ac anfon y mesur drachefn i'r Arglwyddi ar ol ei basio gyda mwyafrif ychwanegol drwy ei holl stages yn y Ty Cyffredin unwaith eto. Beth a wna yr Arglwyddi ar ol hyny ? Digon tebyg mai ei wrtbod yr ail waith a wnant; yna ceir etholiad cyffredinol ac osnad wyf yn camgymeryd yn ddybryd bydd gwaedd am ddiwygiad deublyg-y mesur presenol, (to i lawr a'r Arglwyddi, a dywed Mr Gladstone nad oes amheu- aeth yn ei feddwl ef am y canlyniad. A ydyw yr Arglwyddi am gael helynt 1831 ac 1832 drosodd drachefn ? Gellid meddwl eu bod. Tybed eu bod mewn anwybodaeth o'r hyn gymerodd le yr adeg bono ? Ymddygant fel rhai felly ar hyn o bryd. its Gan fod y fath debygolrwydd rhwng amgylch- iadau y presenol ac eiddo y cyfnod hwnw, a bod cyfeiriadau mynych yn cael eu gwneuthur at yr adeg hono, nid annyddorol hwyrach i rai o ddar- llen wyr y TYST fyddai cael ychydig o hanes yr helynt y pryd hwnw. Yn 1831 ffurfiwyd Gwein- yddiaeth Eyddfrydig yn yr hon yr oedd Iarll Grey yn Brif Weinidog, Arglwydd Brougham yn Arglwydd Ganghellydd, Arglwydd Palmerston yn Ysgrifenydd Tramor, Arglwydd Melbourne (Mr Lamb) yn Ysgrifenydd Cartrefol, ond prif ddyn y Weinyddiaeth yn y Ty Cyffredin oedd Arglwydd John Russell. Mawrth laf y flwyddyn hono, cyf- lwynwyd i'r Ty Cyffredin gan Arglwydd Russell Reform BiU-y mwyaf a ddygwyd ger bron y Senedd er's talm, er nad oedd yn agos gymaint a'r mesur presenol. Cafwyd mwyafrit o un dros y mesur, ond mewn pwyllgor arno gorchfygwyd y Weinyddiaeth unwaith neu ddwy, a bu yn rhaid apelio at y wlad. Cynhyrfwyd y wlad drwyddi, a bu terfysgoedd mewn manau, yn enwedig yn Ysgotland. Profodd yr etholiad yn gadarnhad i'r Weinyddiaeth. Cyfarfu y Senedd Mehefin 14eg, ac ar y 24ain o'r un mis dygodd Russell ei fesur yn mlaen drachefn, a ehafodd fwyafrif o 136 drosto. Bu ymladd egniol yn erbyn y mesur gan y gwrthwynebwyr mewn pwyllgor. Yr oedd Syr Robert Peed yn un o'r galluoedd cryfaf yn ei erbyn hyd y diwedd. Llwyddwyd o'r diwedd i'w gario yn ddyogel drwy y Ty Cyffredin, ac anfonwyd ef i'r Arglwyddi. Ar ol pum' noson o ddadleu, taflwyd y mesur allan Hydref 7ed, trwy fwyafrif o 41. Yr oedd y ddadl arno yn alluog iawn o bob ochr, ac eisteddent yn mhell hyd y boreu. Os oedd y cynhwrf blaenorol yn fawr, yr oedd yr ail yn llawer mwy, a bu terfysgoedd dycbryn- 11yd mewn rhai manau—yn enwedig yn Notting- ham, Derby, a Bryste. Yr oedd castell gany Due o Newcastle yn Nottingham, a llosgwydefyn ulw. Gwnaed difrod ofnadwy ar feddianau yn Derby, ond yn Bryste y bu y galanastra mwyaf. Yr oedd Syr Charles Weatherall yn dygwydd bod yn Recorder y ddinas bono ar y pryd, a chan ei fod wedi bod mor elynol i'r mesur yn y Ty Cyffredin penderfynwyd dial arno. Yn yr adeg derfysglyd yma aeth i Bryste i weinyddu ei swydd fel Recorder. Cyfarfu y mob ag ef, a dilynasant ef i Neuadd y Dref, ac o'r braidd y diangodd yn fyw. Yr oedd yr heddgeidwaid yn gwbl annigonol i gyfarfod ag ymosodiad y dyrfa ymosodol. Llwyddodd Weatherall i ddiane o'r neuadd drwy y cefn, a chymerwyd meddiant o'r adeilad gan y mob. Cymerasant feddiant o'r holl lyfrau perthynol i'r lie, a llwyr ddinystriwyd y rhai hyny a'r adeilad. Aethant at y carcharau, agor- asant y drysau, gollyngwyd y carcharorion yn rhyddion, a llosgasant y carcharau. Ar ol hyny, ymosodwyd ganddynt ar Queen Square, lle'r oedd swyddfeydd y Llywodraeth, a llwyr ddinystriwyd y rhai hyny. Galwyd y milwyr allan, end yr oedd y prif swyddog yn hwyrfrydig i danio ar y lluaws-y lluaws a orfu, ac o'r braidd y diangodd y milwyr wrth ffoi. Bernir fod y golled tua haner miliwn'o bunau, a lladdwyd a cblwyfwyd tua chant o bobl. Bu court martial ar y Colonel, ac aeth y ddedfryd yn ei erbyn ef; ond yr oedd yr holl helynt wedi effeithio cymaint arno nes anmharu ei feddwl, a gosododd derfyn ar ei einioes. Cyfarfu y Senedd drachefn yn Rhagfyr, ac yn Mawrth, 1832, yr oedd y mesur unwaith yn ychwaneg wedi ei gario drwy y Ty Cyffredin. Beth wna. yr Arglwyddi F" oedd y gofyniad eyffredin yn awr. Deallwyd eu bod yn barod i ildio, a rhoi ffordd i fesur. Cafwyd mwyafrif o 9 dros yr ail ddarlleniad, ac yr oedd bychander y mwyafrif yn sicrwydd y byddai iddynt chwareu y felldith a'r mesur mewn pwyllgor. Hyny a fu. Gwnae'thant y fath gyfnewidiadau ynddo a barodd 1 Iarll Grey ar unwaith ymatal rhag myned yn mhellach ag ef. Aeth at y Brenin William, y gwan-ddyn hwnw y gwyddid ei fod ormod o lawer o dan lywodraeth ei wraig i wneyd yr hyn a farnai ef ei hun yn iawn, rboddodd Grey ddewisiad o ddau beth i'r brenin-naill ai rhoddi gallu iddo ef i greu nifer digonol o arglwyddi i gario y mesur, neu i dderbyn ei ymddiswyddiad ef o'i Weinydd- iaeth. Dewisodd y brenin yr olaf. Yr oedd y eyfyngder yn fwy a'r trybini yn waeth nag o'r blaen yn awr. Y Rhyddfrydwyr oedd yn y mwyafrif o ddigon yn y wlad ac yn y Ty Cyffredin, a pha fodd y gallai unrhyw Weinydd- iaeth Doriaidd gario dim yn mlaen. Fodd bynag, gyrodd y brenin am y Due o Wellington-arwr mawr Waterloo, a phrif elyn y mesur yn Nhy yr Arglwyddi-a cbeisiodd ganddo ffurfio Gweinydd- iaeth. Bu y Due ac Arglwydd Lyndhurst yn ymgynghori, ac ereill gyda hwy, a boddlonasant i gymeryd yr awenau, a bernid eu bod yn barod i lyncu y mesur ond iddynt gael myned i awdurdod. Pan ddeallodd lluaws o rai parchusaf y blaid Doriaidd yn nau Dy y Senedd fod y Due, a Lyndhurst, ac ereill mor ddiegwyddor a chefnogi y mesur a wrthwynebwyd mor ffyrnig ganddynt hyd yma, er mwyn swydd, mynegasant yn ddiamwys nad oedd y Due i gael eu cefnogaeth hwy, a bu raid iddo yntau fyned at y brenin i gyflwyno ei awdurdod yn ol. Goruchwyliaeth ddarostyngol oedd hon i wr o ysbryd y Due. =?=! Nid oedd gan y Brenin William ddim i'w wneyd ond galw ar Grey drachefn, a gofyn ganddo ail ymaflyd yn yr awenau, yr hyn a wnaeth yntau ar y dealltwriaeth clir fod y mesur i gael ei gario. Addawodd y brenin y gwnaethai ddyfeisio ffordd i sicrhau hyn. Anfonodd y brenin gylchlythyr i'r arglwyddi y gwyddai eu bod yn wrthwynebol i'r mesur i geisio ganddynt fod yn absenol pan fyddai adranau pwySicaf y mesur o dan sylw y Ty. Buont hwythau yn ddigon caredig, neu llwfr yn hytrach, i gydsynio a'i gais, ac felly cafwyd llonyddwch a hamddea i osod Reform Bill ar ddeddf-lyfrau Prydain Fawr. Yn ystod yr belynt yn Nhy yr Arglwyddi, bu siarad cryf yn y Ty Cyffredin. Nid oes yr un Gwyddel yn ein dyddiau ni yn dywedyd pethau mwy plaen nag a ddywedai ambell un yr adeg hono. Gwnaed sylwadau llymion ar ymddygiad sigledig y brenin, gan gyfeirio at y frenines mewn iaith oedd yn mbell o fod yn ganmoliaethus. Barnai rhai mai y frenines a rwystrodd y brenin i roddi caniatad i wneyd arglwyddi newyddion, a ebyfeirid ati fel certain woman," a sonid am "back-stair influence" a ddygid i bwyso ar William, druan. Ond addysg y cwbl yw, mai trech gwlad nag arglwydd," ac na brenin hefyd. Gwelir fod tebygolrwydd rhwng amgylchiadau y ddau gyfnod gydag ychydig o eithriadau, Hyderaf na cheir terfysgoedd peryglus yn awr fel y pryd hwnw, ond dylai yr holl wlad yn mhob ffordd gyfreithlon ddangos ei hanghymeradwy- aeth i ymddygiad yr Arglwyddi. Daw yn gwestiwn difrifol pa beth a wneir a/r Ty sydd yn rhwystr i bob gwelliant, ac nid yw Mr Gladstone yn ofni nac yn amheu yr atebiad a rydd y wlad i'r gofyniad. Dylid ymdrechu i gadw unoliaeth yn yr etholaethau, fel na byddo perygl i leihau nifer yr aelodau Rhyddfrydig. Os dychwelir mwyafrif Toriaidd, nid oes wybod pa bryd y ceir y Reform, ac ymddengys eu bod hwy yn benderfynol o fynu etholiad, os gallant, ar yr hen gofrestr. GWLMDYDDWK. —♦

EGLWYS GYNULLEIDFAOL CHORLTON…