Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYMANFA ANNIBYNWYR SIRI GAERNARFON.

News
Cite
Share

CYMANFA ANNIBYNWYR SIR I GAERNARFON. ■Cynaliwyd yr ucliod cleni yn. Mhwllheli ar y cttyddiau Mercher, Iau, a Gwener, Mehefin (L8fed, 19eg, a'r 20fed. Y GYNADLEDD. Am 1 o'r gloch, yr ail ddydd, etliolwyd y Parch E. Herber Evans i'r gadair, yr hwn a'i llanwodd yn wir deilwng. Yr oedd yn dda gau bawb ohonom ei weled yn ein plith mor ,siriol a nerthol ag erioed. gan obeithio yr estynir ei ddyddiau am flynyddoedd lawer eto i wasan- aethu Duw yn Efeng-yl ei Fab. G-gilwodd y 'Cadeirydd ar Mr R.. Owen, Bethel, i tldeeteu -drwy weddi. 1. Darllenwyd penderfyniadau y G-ymaufa. ::flaenorol, a chadarnhawyd hwynt. 2. Amlygwyd teimlad o lawenydd yn jGyttadl- •edd, yn herwydd dyrchafiad yr hyb.arch Ddr jRees i fod yn gadeirydd Undeb Gyaulleidfaol ILloegr a Chymrn, a cbafwyd ycbydig eiriau yn ddilynol gan y Parch W. Justin Evans, a Doctor JRees. 3. Mewn cysylltiad & Chymdeithas yr Achos- ion Gweiniaid, cyfeiriwyd gyda theimlad dwys at farwolaeth Mr Owen Morris, Porthmadog, a'r igolled fawr a gafodd y gymdeithas drwy ei farw- olaeth. am drysorydd rhagorol.—Amlygwyd cyd- ymdeimlad a Miss Morris, ei chwaer, a'r pmtbyn- asau oil yn eu galar.—Etholwyd Mr J. R. P^-it- chard, Caernarfon, i fod yn drysorydd yn ei Ie, a diau fod y gymdeithas wedi bod yn hynod ffodus drwy ei ddewis i'r swydd bwysig bon. 4. Dymunir ar i bob eglwys sydd yn bva-iadUi gwneyd cais am rodd o Drysorfa y Jubili, ei anfon cyn y dydd olaf o Gorphenaf, i law yr Ysgrifei l- ydd, y Parch 0. Jones, Pwllbeli. 5. Penderfynwyd fod y Gynadledd yn cefnof ¡i yn y modd gwresocaf i gael Cymanfa Gerddoro 1 Gyffredinol i'r holl sir, i'w chynal yn Mhavilioi i Caernarfon, yn haf 1885, ac yn dymuno ar ein; ■■ cynulleidfaoedd i wneuthur eu goreu i wneyd pob peth er sicrhau ei Ilwyddiant, a hyderid y byddai i'r ddirprwyaeth benodedig lwyddo i gael cyd- weitbrediad calonog Undeb Bethesda a Dyffryn Conwy. 6. Fod y Gynadledd hon yn Uawenhau fod Mr :Rathbone, A.S., yn bwriadu gofyn i Gynghor Prifysgol Gogledd Cymru (Bangor) i ail ystyried y penderfyniad mewn perthynas i'r cynllun bwr- ;iadedig i gael pwyllgor "i gwblhau cynllun yn y Dywysogaeth," ac yn hyderu y gwa- hoidtefmf-athrawon y gwahanol golegau duwin- yddol yn Nghymru i gymeryd rhan yn nhrafod- aeth y pwyllgor. 7. Penderfynwyd fod y Gynadledd hon, yr hon sydd yn cynrychioli dros dair mil ar bugain o ymlynwyr, tra yn datgan eu hymddiried diysgog yn Llywodraeth ei Mawrhydi, yn dymuno amlygu gobaith diffuant y bydd i'r mesor sydd wedi ei bir addaw ar addysg ganol-raddol yn Ngbymru gael ei ddwyn yn mlaen yn ddioed, ac y gwneir pob ymdrech i gyfarfod dymuniad y genedl Gymreig; drwy basio y cyfryw yn ddeddf yn ystod y Senedd dymhor presenol. 8. Galwyd ar y Parch J. Eiddon Jones (M.C.), Llanrug, Goruchwyliwr Cymdeithas y Dadgysyllt iad, i osod ger bron bawliau y mater pwysig hwa. Anogwyd ar fod deisebau cyffredinol yn ffafr cy- nygiad Mr Dillwyn, A S., i gael ei wneyd gan y gwahanol gynulleidfaoedd. Rhoddwyd i Mr Jones dderbyaiad caredig, a siaradwyd yn rymus yn ffafr y symudiad gan y Parchedigion Dr Rees, E. James, Nefyn, a R. Rowlands, Treflys. Trwy gyflymdra a doetbineb y Cadeirydd, gorphenwyd trafod materion amgylchiadol crefydd yn fuan a boddhaol. 9. Treuliwyd y gweddill o'r Gynadledd mewn cysylltiad it materion ysbrydol crefydd. Siarad- wyd gan Mr Williams, Ebenezer, ar Werth y- gwlith uefol Mr Jones, Chwilog, ar "Effeithiau y gwlith nefol Mr Roberts, Caernarfon, ar Gymhwysder i dderbyn bendith Mr Justin Evans, ar "Yr "tsbryd GMn a'i waith;" Mr Evans, Fetter Lane, ar yr tJgain mlynedd diweddaf, a'r cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lie ynddynt Dr Rees ar Hanes erledigaetbanhen grefyddwyr Penlan a Mr Herber Evans ar Y fraint o gael pregethu yr Efengyl, yn nghyda unrhyw waith arall, er hyrwyddo crefydd Crist yn mlaen." Diweddwyd trwy weddi gan Mr Jones, Talar. Teimlem wrth ymadael o'r Gynadledd hon, mai ardderchog o beth ydyw cael gweithio gwaith Duw," a chredwn fod pawb arall yn bresenol yn fwy awyddus i fyned at y gwaith nwnw o hyn allan. Y MODDION CYHOEDDUS. Am .saith. nos Fercher, pregethwyd yn nghapel Penlan gan y Parchn J. Thomas, Soar, Merthyr, ac O. Evans. Llundain. Nos lau, am chwech ar y maes, dechreuwyd gan y Parch R. Rowlands, Treflys, a phregethwyd gan y Parchn T. Nicholson, Dinbycb, a Dr Rees. Am saith boreu dranoeth, cafwyd cyfeillach grefyddol, o dan lywyddiaeth y Parch 0. Jones, y gwein- idog. Yr oeddym yn hoffi y syniad o gael cyf- eillach grefyddol, agored i holl aelodau y gwa- hanol enwadau crefyddol, yn lie pregethu ar yr adeg hono o'r dydd, a chafwyd cyfeillach luosog adeiladol, a buddiol dros ben. Yn wir, ym- adrodd iachus oedd yn cael ei lefaru gan bawb, ( ac er mai yn Pwllheli yr oeddym, bwriwyd halen i "ffynonell y dyfroedd," fydd yn sicr o iachau yr aberoedd drwy yr holl sir, yn ogystd. ag ymlid ymaith farwolaeth a diffrwythdra yn y man. Am ddeg, ar y maes, dechreuwyd gan y Parch W. P. Williams. Waenfawr, a phregeth- wyd gan y Parchn Et. Thomas, Glandwr, a Dr Rees. Am ddau, dechreuwyd gan y Parch D. S. Davies. Bangor; a phregethwyd gan y Parchn J. Thomas, a T. Nicholson. Am haner awr wedi pump, dechreuwyd gan y Parch W. W. Jones, Pisgah, a phregethwyd gan y Parchn 2. Thomas, ac 0. Evans. Dygodd hyn i derfyniad weithrediadau un o'r cymanfaoedd goreu a gawsom erioed. Yr oedd yno adgofion melus yn mynwesau llawer dadau am gymanfaoedd a gynaliwyd yn Mhwllheli yn y dyddiau gynt, pan yr ysgy dwid y cynulleidfaoedd gan Williams, o'r Wern, Caledfryn, Griffith, Bethel, Dr Arthur Jones, Ambrose, Griffith, Caergybi, Ap Vychan, Hixaethog, a Iluaws ereill a hunasant yn yr Iesu/' Ond eich tadau, pa le y maent hwy ? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?" Tra yn gofidio oblegid eu colli hwy, yr ydym yn diolch fod ein Duw yn aros gyda ni, ac yn par. hau i gyfodi gweision teilwng yn lie y rhai a gymerwyd ymaith. Haedda y Parch O. Jones, | y diaconiaid, a'r eglwys yn Penlan, ganmoliaeth- gyffredinol am eu darpariadau rh&gorol ar gyfer y gymanfa. Yr oedd eu dewisiad o'r maes yn vun doeth nodedig, ac yr oedd y stage eang a g yfodwyd, yr hon oedd yn llawn, ac yn cynwys lit i i ganoedd eistedd, yn lie tra manteisiol a hy fryd i bregethu a gwrando. Dangoswyd he, yd garedigrwydd dihafal gan y gwahanol en^ 'adau crefyddol yn y dref at ddyeithriaid, heb adcaliod neb yn ol y cnawd," ond fsy rneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn car- iad,, er mwyn eu gwaith." Ond yn benaf dim, dyi nimwn gydnabod Duw yn ddiolcbgar am hin hyfryd, ac am alluogi ei weision i bregethu gyd.a nerth a dylanwad anghyffredin, a hyny i dyr faoedd lluosocach nag a welwyd erioed o'r blae n mewn cymanfa gan yr Annibynwyr yn Mhi rllheli. Yr oedd y canu, o dan arweiniad Mr D. Jones, yn nghyda'r holl wasanaeth yn galoi iogol iawn. Yn herwydd y bwriad o gynal Cymanfa Gerdd lorol yn y Paviliou, Caernarfon, yn haf 1885, ni wnaed apeliad am y Gymanfa hon y flwydc tyn nesaf o Arfon. Mae'n dda genym grybw. yll fod eglwysi Porthmadog wedi anion cais un frydol am dani. Ni d.dangosodd eglwysi Lleyn ac Eifionydd ac Arfc in erioed fwy o haelfrydedd at gynal y Gymanl 'a, na'r flwyddyn hon. Deallwn, oher- wydd ca sgiiadau da i gychwyn o Penlan, fod y treuliau wedi eu cyfarfcd yn anrbydcddus, a gweddill, da mewn 11aw.

HYN A'R LLALL 0 WAUNCAE-GURWEN.

Galwaclau. -----

Y DIWEDDAR DR DAVIES, ,FFRWDVAL.