Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y DIWEDDAR DR DAVIES, ,FFRWDVAL.

ATHROFAFFEWDYAL ■A'I HANESION...…

News
Cite
Share

mwyaf lluosog o bobl yn y wlad, ac areithiau brwdfrydig yn cael eu traddodi a'u hargraffu i gynhyrfu John Bull a'r Cymro diofal, er mwyn dangos iddynt angen a gwerth addysg gyffred- inol. Anfonodd y Dywodraethyspiwyrtrwy y wlad i weled pa fath ysgolion ac y sgolfeistri oedd ynddi, a beth oeddynfc yn ddysgu, a pha mor fedrus oedd yr ysgolheigion i ateb eu gofyniad. au yn y pynciau a ddysgent yn yr ysgolion hyn, a beth oedd sefyllfa foesol a ch'refyddol Prydain Fawr; a chawsant ar ddeall fod mwy o'r bobl yn medru tori croesau a'r pen a'r inc nag a fedrent dori eu henwau. Daeth y Llyw- odraeth allan a'r grants a'r inspectors er hyr- wyddo addysg yn mlaen, ac i weled a fyddai yr ysgolfeistri yn gwneyd rhywbeth am yr arian a dderbynient. Daeth y Llyvrodraeth" yn y di- wedd a'r Ddeddf Addysg awdurdodol allan, ac yr oedd-yr ysgolfeistri yn llawen.wrth weled eu sefyllfaoedd yn dyfod yn fwy anrhydeddus ac enillfawr na'r amserau gynt. Yr oedd y Dr Davies yn hoffi y mudiadau pwysig hyn, ac ato y cyrchai y bobl ieuaine yn lluosog i gael eu dysgu a'u cymhwyso i'r swydd bwysig hon, ac i yru ffwrdd ddygn dywyllwch ac ofergoeledd nesau a drigent hwnt ac yma trwy y deyrnas. Dywedodd un athronydd Groegaidd gynt. Education changes the fate of empires," ac y mae addysg eisoes wedi gwella llawer ami, a gwna fwy yn y dyfodol. Yr oedd y myfyrwyr hyn yn gorfocl dangos y dull o addysgu dosbarth o fyfyrwyr mewn Gramadeg, Hanesiaeth, Daearyddiaeth, Dar- Hen, a Sillebiaeth o flaen yr athraw ar y black- hoard, a byddai yntau yn ol Haw yn rhoi ei farn ar y dull a gymerodd yr athraw ieuane i ddysgu y dosbarth. Beiai weithiau ar y dull am na fuasai yn ddigon trefnus a chyflawn, neu am na fuasai y gofyniadau yn fwy coherent, neu yn dal agesach cysylltiad a'u gilydd, neu am na fuasai yn amcanu mwy i'w tynu i feddwl a deall mater yr addysg, yn hytrach nag amlygu crugyn o ffeithiau iddynt. Os mewn Daear- yddiaeth y dysgai y dosbarth, byddai yn angen- rheidiol iddo ddefnyddio y map, a dechreu gar- trefyn ei sir ei hunan. Os mewn Khifyddiaeth y dysgai y dosbarth, byddai yn angenrheidiol iddo i ddechreu gyda symiau byehairi, a rhoi neu ofyn rheswm am bob cam o'r gwaith hyd nes cyrhaeddai yr ateb. Ar adegau ereill byddai un o'r myfyrwyr yn dysgu Mental Arithmetic i ddosbarth, a dvs- gwyliai yr athraw iddo fod yn svlwi yn sharp a fyddai drones yn y dosbarth, ae a fyddent oil yn ateb y gofyniadau yn gyfiym a chywir. Byddai prawf personol yn cael ei ofyn oddiwrth y rhai diofal. Nid oedd Rhifyddiaeth feddyliol ?m ddyrys, os na fyddai rhifedi mawryn cael eu laosogi wrth eu gilydd. Dyben Rhifyddiaeth o'r fath hon oedd gwneyd un yn gyfiym i gyfrif iymiau mewn siopau grocery neu drapery, neu mewn arwerthiadau, banciau, &c. Yroeddyri rhaid i bob un yn y dosbarth roddi rheswm am y llwybr byr a gymerai i gyrhaedd yr atebion hyn. Yr oedd yn rhaid iddo feddwl drosto ei hun yn ymyl yr athraw hyddysg a chyflym hwn, neu buasai yn all up arno yn lied fuan. Yr oedd ambell i fFermwr yma a thraw yn y wladynanfoddlawn iawn i'r ysgolion elfenol yma, ac yn dyweyd fod y byd yn myned ar wib i ddinystr. Pwy a ii mwy," meddent, i ym- aflyd mewn caib a rhaw i gloddio, i ddal yr aradr, ac i golli ehwys i ladd gwair a llafurr Cenedl o bryiaid llyfrau (bookworms) fydd y genedl nesaf, ond plant y ffermwyr. Y mae yn wrthun iawn i gadw y plant yn yr ysgol hyd nes y byddontyn dair ar-ddeg oed, ac yn wrth- unach fyth i beri i rai na fydd ganddynt b!ant yn yr ysgol i dalu treth ati i'w chyual. Mae yn beth afresymol hefyd," meddent, fod plant pobl dlodion yn cael eu dysgu yn yr un dos- barthiadau (standards) a phlant y ff'ermwyr. Y mae hyp yn drosedd mawr ar ein harchwaeth (taste), ac yn groes i hen arferion ein cenedl. Yr ydym wedi myned yn Chartists penboeth a chyflawn. Nid oes dim ond equality a levelling down i'w gweled yn yr ysgolion hyn. Nid oes wahaniaeth rhwng caeth a rhydd, cyfoethog na thlawd, i'w gweled mwy o Gaevgybi i Gaer- dydd! Dywedodd Napoleon Bonaparte un- waith am y Saeson mai cenedl o siopwyr oedd. ynt. Gallwn ninau ddyweyd am ein gwlad o hyn 4114n, mai cpnedl o bryfaid llyfrau a segurwyr fyddant." Ond wedi yr holl dwrw, ni chafodd y ffermwyr hyn fawr gwrandawiad. Chwarddai y rhai deallus yn hwylus am eu penau. Yr oedd yr offeiriaid hefyd yn wrthwynebol iawn i'r ysgolion hyn, os na fyddent dan eu nawdd ac at eu gwasanaeth hwynt. Yr oedd yr Ysgolion Brytanaidd gynt yn ddolur llygaid iddynt, ac yn ddraen yn eu hystlysau. Mewn gair, os na fyddai yr offeiriad yn cael ei ddewis yn gadeirydd pwyllgor yr ysgol, ni roddai ddim cymhorth iddynt, eithr cadwai draw oddiwrth- ynt. Nid oedd yn hoff o un inspector ychwaith os na fyddai yn Eghvyswr trylwyr. Ni chroes- awai hwynt byth i'w dy; ond os Eglwyswyr fyddent. ysgydwai law a hwynt, ac elai hefyd a hwynt i'w dy. Os na fyddai yr ofFeiriad yn cael y flaenoriaeth yn llywyddiaetli yr ysgoI, ac i'r plant gael dysgu catechism, yr hen Eglwys, a myned i mewn i addoli ynddi, nid oedd ond ei wg i'w weled at bob ysgol arall. Eisieu difodi yr ysgolion ereill Oedd arno, a dad- wreiddio yr holl sectau trwy y deyrnas, er dyogelu cyflogau yr offeiriaid, a gwthio draw son am Ddadgysylltiad a Dadwaddoliad allan o'r byd, Dywedodd un offeiriad yn 1847, mewn sel gul a phenboeth, y buasai yr Ysgolion Gwladwriaethol yn sicr o ddadwreiddio y sectau bob un, ac mai engine houses yu y gweithiau, ac ysguboriau neu ystablau yn y wlad, fuasai tai cyrddau yr enwadau cyn pen ugain rnlynedd. Dylem ddiolch na ddaeth ei broffwydoliaeth i ben. Pe y gallasai efe ac amryw ereill o'r offeiriaid wneyd hyn, buasai yn orfoledd mawr ganddynt. Nidyweu hystrywiau aa'u gelyn- iaeth hwynt eto wedi marw, eithr rhodiant oddiamgylch gan geisio y neb a allont ei lyncu. Dylem eu gwylio yn mhob man, a gwrthwyn. ebu eu holl gyniluniau Eglwysig hyd nes y ddelo y Dadgysylltiad a'r Dadwaddoliad oddi- amgylch. --+-