Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-----YMYLON Y FFORDD.

ATHROFAFFEWDYAL ■A'I HANESION...…

News
Cite
Share

ATHROFAFFEWDYAL A'I HANESION. GAN SILURYDD. PENOD X. CYN i'r Colegau Normalaidd gael eu cyfodi yn Aberhonddu, Caerfyrddin, Bangor, Caernarfon, a manau ereill, i'r Athrofa uchod y deuai y dynion ieuainc i gael eu haddysgu mewn Gramadeg Saesoneg, Hanes Lloegr, Rhifydd- iaeth, Alsoddeg, a Geometry; mewn Egwydorion Addysgiaeth ac Ysgol-lywodraeth (Principles of Teaching and School Management), yn ol cyf- arwyddiadau profedig prif addysgwyr y gwled- ydd gwareiddiedig, megys eiddo Bell, -Joseph Lancaster, Pestalozzi, Fellenberg, Isaac Taylor, Dunn's Principles of Teaching," Stow's "Training System," Hughes' "Philosophy of Education," Craig On Teaching Languages," Bechter's Levana," Bishop Short On School- keeping," Mrs Edgeworth On Practical Edu- cation. Gill's a P. Morrison's School Manage- ment," Currie On Infant Education," Currie On Common Schools," Borough Road School Manual," &c., yn nghyda darlien detholion o weithiau Ascham, Colet, Locke, Milton, Brougham, Long, a Proffeswr A. De Morgan ar y pwnc o addysgu, a'r dull o'i gyfranu mewn ysgolion elfenol a gramadegol. Ar ol canrif- oedd o gysgadrwydd trwm o'r canol-oesau tywyll hyd y ddeuddegfed ganrif ar y mater o addysg glasurol yn y prifysgolion, felly y par- haodd hyd y flwyddyn 1845, gydag ychydig eithriadau, ar y mater o addysgu. y werin-bobl. O'r flwyddyn hono allan dechreuodd Cymru a Lloegr agor eu llygaid, ac ymfywhaent at y gwaith o sefydlu ysgolion elfenol ac i godi colegau i ddysgu athrawon i'r ysgolion hyn. Byddai cyfarfodydd yn cael eu cynal yn y prif drefydd, y pentrefydd, a'r rhanau cyfoethocaf a