Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-----YMYLON Y FFORDD.

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Gorphenaf 5ed. .f NID oes dim i'w glywed yn mhob man y dyddiau hyn ond datganiad o ddigllonedd chwerw yn erbyn yr Arglwyddi, oblegid eu penderfyniad ystyfnig i fwrw allan Fesur yr Etholfraint pan ddygir ef o flaen y Ty Uchaf nos Lun nesaf. Mae cwestiynau yn cael eu gofyn yn ngtyn a'r Ty hwnw na ofynwyd hwy o'r blaen ond gan bobl a gyfrifid yn eitbafol, ond yr wythnos hon clywais fwy nag un o ddynion a gyfrifir yn bwyllog, a chymedrol, a gochelgar yn gofyn, A oes eisieu Ty yr Arglwyddi ? Pa ddaioni y mae Ty yr Arglwyddi wedi ei wneyd ? a gofyniadau cyffelyb; a rhaid fod y pendefig- ion ar fin cyflawni mesur eu hanwiredd yn wleidyddol cyn y rhoddid y fath ofyniadau gan ddynion nad ydynt mewn un modd yn chwildroadol eu hysbryd. Mae yn bur debyg, yn ol yr argoelion presenol, fod amser cynhyrfus o flaen y wlad hon am y chwe' mis nesaf, o leiaf. Diau y myn y bobl ddatgan eu. barn, a pheri i'w llais gael ei glywed yn nghylchoedd uchaf y wlad- wriaeth, a'r cwbl sydd yn bwysig ydyw i ni feddianu ein henaid, a pheidio gwneyd dim mewn byrbwylldra. Nid oes achos i ni gythruddo, oblegid y mae y fuddugoliaeth yn sicr i uniondeb a gwirionedd, a hyny heb ddefnyddio geiriau caledion, nac unrhyw foddion ond a fyddo yn deg .a rheolaidd. Synais heddyw pan welais y crybwylliad am FARWOLAETH DR AVELING. Cymerodd hyn le yn annysgwyliadwy iawn. Yn ychwanegol at y parch oedd i Dr Aveling fel gweinidog Annibynol yn Kings- land, Llundain, a'r safle uchel ar gyfrif ei oedran a'i ddysgeidiaeth oedd iddo yn yr Enwad, yr oedd ei gysylltiad a Choleg Aberhonddu y fath fel y disgynai y newydd am ei farwolaeth annysgwyliadwy yn chwith ar glustiau llawer. Efe, gyda Dr Kennedy, sydd er's blynyddau bellach yn ymweled a'r Coleg hwnw dros y Bwrdd Cynulleidfaol, a gall y rhai a'i cyfarfyddodd yno mewn pwyllgorau flwyddyn ar ol blwyddyn ddwyn tystiolaeth i'w bwyll, ei foneddigeiddrwydd, a'i dynerwch. Panyn siarad a Dr Kennedy yn mis Mai diweddaf, dywedai wrthyf fod yn rhaid iddo bellach oherwydd ei oedran roddi i fyny ei ymweliadau ag Aberbonddu, a phan y ceisiwn ganddo barhau, ac y byddai colled ar ei olv dywedai y byddai i Dr Aveliug barbau i fyned gyda rhywun ieuengach ond dyma Dr Aveling wedi myned yn hollol ddirybudd. Nid oes neb ond y rhai a fu mewn eysylltiad agos a hwy a wyr mor ddyledus yw eglwysi ein Henwad i'r dynion hyn, ac mor ffyddlon y buont i ni, a hyny yn ami yn wyneb amgylchiadau digon profedigaethus. Mae yr hen ddir- prwywyr oddiwrth y Bwrdd—Caleb Morris, Redpath, Dr Spence, ac ereill-wedi myned, a dyma Dr Aveling eto wedi eu dilyn ac nid oes yn aros ond Dr Kennedy, a gobeithio y galluogir ef i dalu ei ymweliad a'r Coleg am lawer blwyddyn eto. Yn Nghymdeithasfa y Methodistiaid yn Llanrwst yn ddiweddar, traddodwyd Y CYNGHOR GAN Y PARCH D. SAUNDERS ar urddiad nifer o frodyr i'r weinidogaeth. Mae Yr Amseroedd yn galw sylw at y cvnghor, ac yn garedig yn beirniadu rbanau ohono. Ni ddylai hyn fod yn dramgwydd, ac yn ddiau ni bydd gan \h deallgar fel Mr Saunders. Rhaid i bob dyn cyhoeddus oddef beirniadaeth arno, ond i hyny gael ei wneyd yn deg a boneddigaidd, ac y mae yr ysgrifenydd hwn wedi gwneyd liyny mewn ysbryd rhagorol. Gan nad yw y cynghor yn 11awn o'm blaen, nis gallaf osod unrhyw farn arno; ond oddiwrth yr hyn a allaf gasglu oddiwrth y dyfyniad a wneir o rai o'i ymadroddion, gallwn feddwl fod Mr Saunders yn cynghori y rhai oedd o'i flaen i beidio bod yn rhy gaeth i unrhyw gyfun- draeth o dduwinyddiaeth," gan gadw eu dogmas a'u systems yn eu llyfrgelloedd at eu gwasanaeth eu hunain, a chyflwyno gwir- ioneddau duwinyddol yn y dull mwyaf syml i'r bobl." Diau fod llawer o briodoldeb yn y cynghor, ac edrych arno o'r cyfeiViad yr edrychai Mr Saunders arno ac eto hwyrach mai nid perygl mwyaf y Methodistiaid, mwy na rhvw enwad arall yn y dyddiau yma, ydyw glynu yn rhy gaeth wrth gyfundraeth o dduwinyddiaeth," ac mai nid rhag y eyfeiriad yna y mae gwyliadwr- iaeth yn fwyaf angenrheidiol. Dichon mai mwy priodol yn y dyddiau byn fyddai ad- newyddu y cynghor apostolaidd, Bydded genyt ffurf yr ymadroddion iachus," ac y mae yn bosibl bod yn rby ddirmygus o'r hen dermau duwinyddol, fel y mae yn bosibl hefyd gwneyd defnydd ohonynt heb fawr syniad o'u hystyr. Mae yn bwysig iawn i ddynion o ddylanwad fod yii oynil a goehel- gar iawn pa beth a ddywedant yn y eyfeiriad yma, oblegid y mae dynion gwanach na hwy yn agored i gamesbonio eu geiriau, a'u cymeryd yn achlysur oddiwrthynt i wyro yn mhell oddiar yr hen ffordd dda. Ond y mae rhan arall o'r Cynghor, at yr hwn y geilw yr adolygydd yma sylw, a'r t, hwn, gan yr ystyriwyf ef mor gymhwys a phriodol, nas gallaf ymatal rhag ei ddyfynu yma, a'r sylwadau a wneir arno. Meddai Mr Saunders :—" Ymdrechwcb ganfod dy- lanwad a pherthynas y gwirionedd dad- guddiedig ar feddyliau a bywydau eich gwrandawyr. Mynwch ddealleu perthynas, nid yn unig a'u gilydd, ond a dynion.' Y mae pwys anbraethol yn yr anogaeth hon, ac nid oes dim mor angenrheidiol ei wasgu at ystyriaeth pregethwyr ieuainc. Yr ydym wedi gwrando rhai pregethwyr o'r dosbarth cryfaf o feddylwyr y buasai eu gweinidog- aeth ar eu mantais yn ddirfawr pe buasent wedi cymeryd hyn at eu calon yn nechreu eu gyrfa. Y maent yn deall y gwirionedd, ac wedi treiddio i'w wraidd, a dilyn pob cangen o'r gwraidd i fyny. Ond nid ydynt yn deall eu gwrandawyr, nac ychwaitb, tebygid, wedi ceisio hyny yn ddifrifol erioed. Y canlyniad ydyw fod rhyw bellder rhwng eu y .1 t, pregethau rhagorol a meddyliau a bywydau p n eu gwrandawyr nid am fod y pregethau yn rhy feddylgar. Clywsom bregethau ereill yn llawn mor feddylgar yn y rhai yr oedd y pregethwr yn myned i mewn i'r pwnCt ac yn myned i mewn gyda'r pwnc i brofiad ei wrandawyr. Buom yn meddwl y byddai yn help i bregethwyr yn byn pe byddai iddynt mewn dychymyg wrando eu pregethau eu hunain cyn eu traddodi i • ereill, ac ymwrando ar leferydd eu cydwy- bodau a'u calonau eu hunain yn eu swn." Mae v cyngbor uchod a sylwadau yr Amseroedd arno yn hollol amserol. Mae o bwys dirfawr fod y pregethau a draddodir yn cael eu dwyn i gysylltiad mor agos a'r gwrandawyr nes peri iddynt deimlo eu bod i ddyfod yn rhan o'u bywyd ymarferol. Gall yr atbrawiaetb fod yn iachus, a'r ymdriniad a hi fod yn alluog, ac eto ei bod yn rhy bell oddiwrth y gwrandawyr i gario dylanwad yn ffurfiad eu bywyd a'u cymeriad. Gwnaeth gweinidog synwyrol sydd eto yn fyw y sylw wrthyf er's llawer o flynyddau bellach am hen bregethwr iachus ac efengylaidd sydd wedi marw er's yn agos i ddeng mlynedd- ar-hugaiu, Mae ef yn pregethu llawer o Grist, ond nid oes fawr o grefydd yn ei bregethau." Tarawodd y sylw fi ar y cyntaf fel un dyeithr, ond gwelais wedi hyny fod gwirionedd ynddo. Pregethai lawer am Grist yn ei berson, ei swyddau, a'i waith, ond am Grist y byddai bob amser yn dywedyd ac ni byddai un amser yn dwyn y gwirionedd am Grist i gysylltiad mor agos a chalonau ei wrandawyr nes "ffurfio Crist ynddynt," a rhoddi iddynt y profiad o Grist," yr hyn yn ddiau yw hanfod crefydd. Gadawaf ar hyn heno. LLADMERYDD. 00

ATHROFAFFEWDYAL ■A'I HANESION...…