Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CWM RHONDDA.('

News
Cite
Share

CWM RHONDDA. (' Pla y Locustiaid.-Mae liawer o son y dyddiau hyn am y pla sydd yn aflonyddu yr ardaloedd cymydogaethol yma. Mae pobpeth yn cael ei ddyweyd am danynt gan y rhai nas gwelodd hwynt, ond nid ydynt na mwy na llai na myrdd- iynau dirif o caterpillars. Felly, pla y lindys ydynt, ac nid pla y locustiaid, fel y gelwir hwynt yn rhpi o'r papyrau dyddiol. Maent yn gor- chuddio yr holl fynyddoedd yma, yn enwedig y rhai sydd yn nghyfeiriad Maesteg a Chwmgarw o Cwm Rhondda. Dywed rhai y gellir eu rhawio, gan mor ami ydynt. Dyna chwyddiaith eto. Mae tua 50, efallai, yn mhobllathenargyfartaledd. Mae am bell fan heb ddim, ond maent yn amI iawn mewn lleoedd ereill. Maent yn argoeli gwneyd llawer o ddystryw, os na ddaw rhywbeth i'w difa cyn hir ac ofnir Ilawer gyda golwg ar y dwfr hefyd, rhag ofn y gallant wenwyno y reservoir. Gobeithio y cant eu difa cyn y deuant yn ieir boch (butterfly), onide bydd yn ddrwg arnom. Dywed rhai mai cawod o'r cyfryw ddaeth yma. Anhebyg iawn. Dangos maent drugaredd gauaf garw wrth ladd wyau dirifedi gwahanol ymlusgiaid sydd ar wyneb y ddaear. Gwelais lythyr oddiwrth rhywun o Loegr yn ceisio dangos mai larva yr antler moth (charaeas graninis) ydynt. Nage, pryfed y cabbage ydynt. Gyfar fod y Pentre.— Mae cyfarfod blynyddol Siloh wedi pasio-Mehefin 21ain, 22ain, a'r 23ain. Gwasanaethwyd gan y Parchn J. Thomas, D.D., Liverpool; R. S. Williams, Bethesda; a E. Richards, Tonypandy. Cafwyd cyfarfod da iawn; cynulleidfaoedd mawrion, ac yr oedd bendith Duw ar y cyfan. AB IOAN. ♦

CWMNEDD. ">

MADAGASCAR.