Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

RHODIAD T BRENIN, GER TYDDEWI

News
Cite
Share

RHODIAD T BRENIN, GER TYDDEWI Dichon mai lxid annyddorol gan lawer o ddar- .llenwyr y TYST A'R DYDD, fydd gair O banes yr hen achos a elwir Rhodiad y Brenin. Saif yr hen "lapel ar ochr y ffordd sydd yu arwain o Tyddewi i Abergwaun. Decbreuwyd pregetbu yn gyson yn yr ardal hon gan y Parch John Richards, Trefgarn, tua'r flwyddyn 1782. Tua,'r adeg hono arferai Mr Richards bregethu yn fisol yu ardal Matbry, tua. 9 milltir oddiyma. "Ar un prydnawn Sabboth o gylch y flwyddyn 1782, aeth un William Perkins, Pwllcaerog, yn mysg ereill yno i wrando. Uwrandawr a chymunwr yn yr Eglwys Sefydledig oedd Mr W. Perkins ar y pryd, ond yr oedd yn ddyn meddylgar, ac o feddwl rhydd ac agored, ac efe a holfodd Mr Richards yn fawr ac yn mhen y mis aeth i'r un lie eilwaith i wrando arno. Y tro hwnw ceisiodd gan Mr Richards ddyfod i gymyd- ogaeth Tyddewi i bregethu. Atebodd yntau ei fod yn hollol barod i ddyfod. os gellid cael drws agored iddo. Dywedodd Mr Perkins, y byddai ei ddrws ef yn agored hyd nes y ceid He m wy cyfleus." lGwêl Rees a Thomas, Cyf. iii. tud. 21.) Ac yn .Pwllcaerog y bu Mr Richards yn pregethu am beth amser. Ond cyn hir cawn ef, fel arweinydd call ar adran o fyddin yr Oen, yn ay mud i'r Llaethdy, gan gymeryd safle agosach a mwy cyfleus i ymosod ar yr hen ddinas, yr hon ar y pryd oedd yn llawn rhagfarn yn erbyn egwyddor- ion Ymneillduaeth. Cyn hir drachefn gadawodd Mr Richards y Llaethdy, gan fvned i mewn i'r ddinas, a pbregethu yn nhý un William Pugh, a pbregethodd rai troiOn yn yr awyr agored o flaen drws tafarndy o'r enw Lion. Ar ol pregethu ryw ddwy flynedd yn yr ardal, ac i amryw o'r ardalwyr ymuno a chrefydd, gwnawd ymdrech egniol am ddarn o dir yn y ddinas 1 adeiladu capel arno. Ond er fod digon o dir segur yn y ddinas, eto meddienid yr oil gan ddynion o ysbryd rhy Doriaidd ac Eglwysig i werthu na pbrydlesu cymaint a lied troed obono at adeiladu capel Annibynol. Ond trwy garedigrwydd un Mr W. JMeyler, Tremynydd, fe lwyddvvyd i gael llain o .dir tua milltir a haner o Dyddewi. Ac ar Mehefin il.4eg-, 1784, sylfaenwyd y capel, ac erbyn Ionawr, 1785, yr oedd yn barod i'w agor, a galwyd ef yn Rhodiad y Brenin. Buan wedi agor y capel corfforwyd yma eglwys, yr hon oedd yn gynwys- edig o 20 o aelodau. Am y 50 mlynedd cyntaf bu yr eglwys hon dan ofal tri o weinid gion. 0 1785 hyd 1795, bu dan ofal y Parch J. Richards yn nglyn a Trefgarn. Ar ymadawiad Mr Richards i America, urddwyd y Parch William Harris, pregethwr cyaorthwyol, acaelod ary pryd o eglwys Rhodiad, yn weinidog arni. Parhaodd yntau i lafurio yma hyd 1823, pryd y daeth ei ,olygiadau duwinvddol ef a'r Parch James -Griffiths, yr hwn oedd yn gydweinidog ag er oddiar y flwyddyn 1814 i wrthdarawiadpwysig, yr Jhyn yn rhanol a fu yn achos i eglwys Rhodiad ymranu yn ddwy. Aeth y blaid Uchel Galfinaidd i Solfach dan ofal yr Hybarch Mr Harries, ac arosodd y blaid arall yn Tyddewi dan ofal Mr Grifliths. Ar ol hyn aeth pethau yn mlaen yn dra llwyddianus, ac er fod capelau Tyddewi a J3erea wedi eu codi, eto eglwys Rhodiad y gelwid yr eglwys, ac yn Rhodiad y byddai y cymundeb a'r boll gyfarfodydd -eglwysig. Yn 1854, rhodd- odd. Mr Griffiths ei weinidogaetb i fyny. Yroedd y Parch J. LI. Jones, Penclawdd yn awr, wedi ei urddo yn gydweinidog A,, ef oddiar y flwyddyn 1847, ac yn llafurio yn yr holl gylch, sef Berea a Tyddewi. Ond ar ol ymddiswyddiad yr hen weinidog, cyfyngodd Mr Jones ei lafnr yn hollol i Tyddewi, ac felly darfyddodd pregethu cyson o Rhodiad y Brenin. Oddiar hyny hyd yn bresenol achlysurol y pregetbir yn yr hen gapel, ond cedwir yma Ysgol Sabbothol yn gyson. Ond er cadarned y gwnaed yr ben Rhodiad, eto yr oedd lzwynt a. gwlaw, oerni, a ewres 100 mlynedd wedi gwneyd golwg ddadfeiliedig ar yr hen gysegr. A .cban fod y genedlaeth bresenol yn teimlo parch ,dwfn yn eu calonau tuag at yr hen le a'i gysyllt- iadau, penderfynasom fel eglwys ddathlii can mlwyddiant yr hen achos trwy gynal ynddo gyf- arfod pregethu mor agos ag oedd yn gyfieus i ddyddiad sylfaeniad yr hen gapel. Fel rhagbaro- toad i'r wyl, yr oedd yn angenrheidiol gwario ugeiniau o bunau i harddu ac adnewyddu yr ben gysegr. Ac yn ol en harfer, fe wnaetb pobl Tyddewi hyny, a thalwyd yr holl dreuliau yn mhell cyn dydd yr wyl, fel y gellir dyweyd am yr hen gapei, ei fod yn dechreu ar ei ail gant yn Jlawer gwell Dac ar ei gyntaf. Ac erbyn yr 17eg a'r 18t'ed o Mehefin, wele yr hen gysegrfan un- waith eto yn gyrchta tyrfaoedd mawrion. Ac yn mhlith y Iluaws, erbyn 10 o'r gloch boreu dydd Mercher, yr oedd yr hen dad John Reynolds (neu I Einallt fel ei hadnabyddir), yn 98 tnlwydd oed wedi cyrhaedd yno o Berea. Fel y gwelir, mae yr hen dad o fewn dwy flwydd oed i rod yr un oed a'r hen gapel, a mawr oedd llawijnydd y dyrfa ei weled a'i glywed yn dyweyd ychydig 6'i brofiad ar ddiwedd y cyfarfod 10 o'r gloch. Y mae ei glyw yn dda, ei feddwl yn sefydlog, ei ysbryd yn fyw- iog, a'i aelodau yn ystwyth fel hogyn. Yr oedd y cynulliadau o'r dechreu i'r diwedd yn anferthol o fawr ar gyfer y lie. Ni chafodd odid neb ohonom erioed well Turkish Bath nag a gawsom yma am 10 a 2 o'r gloch dydd Mercher. Gorfu, i'r preg- ethwyr ddyfod i bregetbu ar gyfer y drws er man- tais i'r dyrfa fawr oedd yn methu dyfod i mewn. Y cenadon gwahoddedig oeddynt y Parchedigion D. Bateman, Rhosycaerau E. Lewis, Brynberian; T. Lewis, Berea a D. Evans, Caerfyrddin. Dywedai yr hybarch dad o Rhosycaerau, fod 59 mlynedd oddiar pan bregethodd ef gyntaf yn Rbodiad y Brenin, ond o'r braidd y gallai neb feddwl hyny wrth weled bywiogrwydd ei ysbryd yn pregetbu am 10 boreu Meicber yn y fath wres eithafol. Yr oedd yr holl frodyr yn amlwg o dan wenau neillduol y Nefoedd tra yn cyhoeddi y gen- adwri am y groes. Dechreuwyd y gwabanol oed- faon gan y Parchn T. Lewis, Berea A. Morgan (B.), Felinganol; J. G. Thomas, Solfach; a W. Jenkins, M.A. (M.C.), Tyddewi. Heblaw yr uchod gwelsom yn bresenol y Parchn T. Jones, D.D. (W.), Tyddewi; Mr Phillips (W.), Tyddewi; H. Harries (B.), Tyddewi; a Mr Delta Davies (W.). Bellach mae yr hen adeilad mewn diwyg ddymunol ar gyfer y gwaith a fwriedir gario yn mlaen ynddo, sef Ysgol Sibbothol. W. POWELL. ♦—

ANRHEGU Y PARCH D. M. DAVIES,…

LLECHRYD, CEREDIGION.

Advertising