Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
RHODIAD T BRENIN, GER TYDDEWI
News
Cite
Share
RHODIAD T BRENIN, GER TYDDEWI Dichon mai lxid annyddorol gan lawer o ddar- .llenwyr y TYST A'R DYDD, fydd gair O banes yr hen achos a elwir Rhodiad y Brenin. Saif yr hen "lapel ar ochr y ffordd sydd yu arwain o Tyddewi i Abergwaun. Decbreuwyd pregetbu yn gyson yn yr ardal hon gan y Parch John Richards, Trefgarn, tua'r flwyddyn 1782. Tua,'r adeg hono arferai Mr Richards bregethu yn fisol yu ardal Matbry, tua. 9 milltir oddiyma. "Ar un prydnawn Sabboth o gylch y flwyddyn 1782, aeth un William Perkins, Pwllcaerog, yn mysg ereill yno i wrando. Uwrandawr a chymunwr yn yr Eglwys Sefydledig oedd Mr W. Perkins ar y pryd, ond yr oedd yn ddyn meddylgar, ac o feddwl rhydd ac agored, ac efe a holfodd Mr Richards yn fawr ac yn mhen y mis aeth i'r un lie eilwaith i wrando arno. Y tro hwnw ceisiodd gan Mr Richards ddyfod i gymyd- ogaeth Tyddewi i bregethu. Atebodd yntau ei fod yn hollol barod i ddyfod. os gellid cael drws agored iddo. Dywedodd Mr Perkins, y byddai ei ddrws ef yn agored hyd nes y ceid He m wy cyfleus." lGwêl Rees a Thomas, Cyf. iii. tud. 21.) Ac yn .Pwllcaerog y bu Mr Richards yn pregethu am beth amser. Ond cyn hir cawn ef, fel arweinydd call ar adran o fyddin yr Oen, yn ay mud i'r Llaethdy, gan gymeryd safle agosach a mwy cyfleus i ymosod ar yr hen ddinas, yr hon ar y pryd oedd yn llawn rhagfarn yn erbyn egwyddor- ion Ymneillduaeth. Cyn hir drachefn gadawodd Mr Richards y Llaethdy, gan fvned i mewn i'r ddinas, a pbregethu yn nhý un William Pugh, a pbregethodd rai troiOn yn yr awyr agored o flaen drws tafarndy o'r enw Lion. Ar ol pregethu ryw ddwy flynedd yn yr ardal, ac i amryw o'r ardalwyr ymuno a chrefydd, gwnawd ymdrech egniol am ddarn o dir yn y ddinas 1 adeiladu capel arno. Ond er fod digon o dir segur yn y ddinas, eto meddienid yr oil gan ddynion o ysbryd rhy Doriaidd ac Eglwysig i werthu na pbrydlesu cymaint a lied troed obono at adeiladu capel Annibynol. Ond trwy garedigrwydd un Mr W. JMeyler, Tremynydd, fe lwyddvvyd i gael llain o .dir tua milltir a haner o Dyddewi. Ac ar Mehefin il.4eg-, 1784, sylfaenwyd y capel, ac erbyn Ionawr, 1785, yr oedd yn barod i'w agor, a galwyd ef yn Rhodiad y Brenin. Buan wedi agor y capel corfforwyd yma eglwys, yr hon oedd yn gynwys- edig o 20 o aelodau. Am y 50 mlynedd cyntaf bu yr eglwys hon dan ofal tri o weinid gion. 0 1785 hyd 1795, bu dan ofal y Parch J. Richards yn nglyn a Trefgarn. Ar ymadawiad Mr Richards i America, urddwyd y Parch William Harris, pregethwr cyaorthwyol, acaelod ary pryd o eglwys Rhodiad, yn weinidog arni. Parhaodd yntau i lafurio yma hyd 1823, pryd y daeth ei ,olygiadau duwinvddol ef a'r Parch James -Griffiths, yr hwn oedd yn gydweinidog ag er oddiar y flwyddyn 1814 i wrthdarawiadpwysig, yr Jhyn yn rhanol a fu yn achos i eglwys Rhodiad ymranu yn ddwy. Aeth y blaid Uchel Galfinaidd i Solfach dan ofal yr Hybarch Mr Harries, ac arosodd y blaid arall yn Tyddewi dan ofal Mr Grifliths. Ar ol hyn aeth pethau yn mlaen yn dra llwyddianus, ac er fod capelau Tyddewi a J3erea wedi eu codi, eto eglwys Rhodiad y gelwid yr eglwys, ac yn Rhodiad y byddai y cymundeb a'r boll gyfarfodydd -eglwysig. Yn 1854, rhodd- odd. Mr Griffiths ei weinidogaetb i fyny. Yroedd y Parch J. LI. Jones, Penclawdd yn awr, wedi ei urddo yn gydweinidog A,, ef oddiar y flwyddyn 1847, ac yn llafurio yn yr holl gylch, sef Berea a Tyddewi. Ond ar ol ymddiswyddiad yr hen weinidog, cyfyngodd Mr Jones ei lafnr yn hollol i Tyddewi, ac felly darfyddodd pregethu cyson o Rhodiad y Brenin. Oddiar hyny hyd yn bresenol achlysurol y pregetbir yn yr hen gapel, ond cedwir yma Ysgol Sabbothol yn gyson. Ond er cadarned y gwnaed yr ben Rhodiad, eto yr oedd lzwynt a. gwlaw, oerni, a ewres 100 mlynedd wedi gwneyd golwg ddadfeiliedig ar yr hen gysegr. A .cban fod y genedlaeth bresenol yn teimlo parch ,dwfn yn eu calonau tuag at yr hen le a'i gysyllt- iadau, penderfynasom fel eglwys ddathlii can mlwyddiant yr hen achos trwy gynal ynddo gyf- arfod pregethu mor agos ag oedd yn gyfieus i ddyddiad sylfaeniad yr hen gapel. Fel rhagbaro- toad i'r wyl, yr oedd yn angenrheidiol gwario ugeiniau o bunau i harddu ac adnewyddu yr ben gysegr. Ac yn ol en harfer, fe wnaetb pobl Tyddewi hyny, a thalwyd yr holl dreuliau yn mhell cyn dydd yr wyl, fel y gellir dyweyd am yr hen gapei, ei fod yn dechreu ar ei ail gant yn Jlawer gwell Dac ar ei gyntaf. Ac erbyn yr 17eg a'r 18t'ed o Mehefin, wele yr hen gysegrfan un- waith eto yn gyrchta tyrfaoedd mawrion. Ac yn mhlith y Iluaws, erbyn 10 o'r gloch boreu dydd Mercher, yr oedd yr hen dad John Reynolds (neu I Einallt fel ei hadnabyddir), yn 98 tnlwydd oed wedi cyrhaedd yno o Berea. Fel y gwelir, mae yr hen dad o fewn dwy flwydd oed i rod yr un oed a'r hen gapel, a mawr oedd llawijnydd y dyrfa ei weled a'i glywed yn dyweyd ychydig 6'i brofiad ar ddiwedd y cyfarfod 10 o'r gloch. Y mae ei glyw yn dda, ei feddwl yn sefydlog, ei ysbryd yn fyw- iog, a'i aelodau yn ystwyth fel hogyn. Yr oedd y cynulliadau o'r dechreu i'r diwedd yn anferthol o fawr ar gyfer y lie. Ni chafodd odid neb ohonom erioed well Turkish Bath nag a gawsom yma am 10 a 2 o'r gloch dydd Mercher. Gorfu, i'r preg- ethwyr ddyfod i bregetbu ar gyfer y drws er man- tais i'r dyrfa fawr oedd yn methu dyfod i mewn. Y cenadon gwahoddedig oeddynt y Parchedigion D. Bateman, Rhosycaerau E. Lewis, Brynberian; T. Lewis, Berea a D. Evans, Caerfyrddin. Dywedai yr hybarch dad o Rhosycaerau, fod 59 mlynedd oddiar pan bregethodd ef gyntaf yn Rbodiad y Brenin, ond o'r braidd y gallai neb feddwl hyny wrth weled bywiogrwydd ei ysbryd yn pregetbu am 10 boreu Meicber yn y fath wres eithafol. Yr oedd yr holl frodyr yn amlwg o dan wenau neillduol y Nefoedd tra yn cyhoeddi y gen- adwri am y groes. Dechreuwyd y gwabanol oed- faon gan y Parchn T. Lewis, Berea A. Morgan (B.), Felinganol; J. G. Thomas, Solfach; a W. Jenkins, M.A. (M.C.), Tyddewi. Heblaw yr uchod gwelsom yn bresenol y Parchn T. Jones, D.D. (W.), Tyddewi; Mr Phillips (W.), Tyddewi; H. Harries (B.), Tyddewi; a Mr Delta Davies (W.). Bellach mae yr hen adeilad mewn diwyg ddymunol ar gyfer y gwaith a fwriedir gario yn mlaen ynddo, sef Ysgol Sibbothol. W. POWELL. ♦—
ANRHEGU Y PARCH D. M. DAVIES,…
News
Cite
Share
ANRHEGU Y PARCH D. M. DAVIES, FARTEG, MYNWY. Diau y teimla lluaws ddyddordeb yn hanes cyliwyn- iad anrheK i'r Parch D. Morgan Davies, o'r Farteg, canya y mae iddo luaws o berthynasau, cyfeillion, a chydnabod yn siroedd gorl'ewinol Deheudir Cymru, yn gystal aix yn sir Fynwy. Y mae Mr Davies yn aelod gwreiddiol-o Llwynyrhwrdd, ac yn wyr i'r enwog a'r poblogaidd ddiweddar Barch Morgan Jones, Trelech. Nid oedd neb mwy adnabyJdus yn ei ddydd fel preg othwr, ac nid oes neb a'i enw yn perarogrli yn fwy hyfryd hyd heddyw na'r anfarwol Jones, o Drelech. Mae y Parch D. Morgan Davies, o'r Farteg, hefyd yn fab-yn-nghyfraith i'r diweddar adnabyddus ac enwog y diweddar Barch D. Davies, o'r New Inn. Felly, dyna fantais i ddarllenwyr y TYSTA'BDYBD nad adwaen- ant Mr Davies yn bersonol i wybod pwyydyw oddiwrth y cysylltiadau trwy linach a pbriodas. Penderfynodd ei gyfeillion yn y Farteg, ae y maent 011 yu anwyl iawn oliono, i wneyd tysteb iddo ar ei briodas arianaidd (25 mlynedd), ar y 12fe i o Fdi di- woddaf, er pan urddwyd ef yn weinidog yn y ile. Ni bunemawrddim cyhoeddusrwydd i'r dysteb y taallao i gylch a Inabyddiaeth bersonol a chyfeillioa Mr Davies, y rhai a wnaethant ddangos en parch a'u hed- mygedd o Mr Davies yn ddystaw yn eu mysg en hatt- din fel cyfeillion twymngalon i'r gwrthddrych. Nid oes neb a adwaen Mr Davies yn dda heb fod a golwtj fawr arno fel ysgolhaisf, pregethwr, a gweimdog; ae fel un heb fawr ymhoniad yn perthyn iddo, ae sydd A, llawer mwy o'i fawredd a'i nerth o'r golwg naar yn y golwg. Gwr cartrefol iawn ydyw, ac felly nid ilawer o gyfleus- dra sydd i'r cyhoedd i farnu am ei gyrhaeddiadan. Ar y dydd crybvvylledig, ymgasglodd tyrfa fawr o bobl barchns yn nghyd i Sardis, Farteg, er riathlu priodas arian Mr Davies fel gweinidoj yr achos Anni- byn.ol yn y lie am 25 o flynyddoedd. Cymerwyd y gadair gan Mr J. Daniel, Abersychan, masnaehydd, a mab i'r diweddar Barch — Diinml, Cefncrib. Canwyd emyn i ddechreu gan y cor, ao yna gweddiodd y Parch J. Hushes, Ebenezer, ger Pontypool. Wedi hyny rhoddodd y Cadeirydd anercliiad. Dywedodd ei bod yn hyfrydwcli mawr ganddo i fod yn bresenol dan y fath amgylchiadau dedwydd. Gelwid arnynt weithian i gwrdd ar achlysuron annymunol, eithr gallai yr eglwys deimlo yn ddiolohgar ei bod yn cyfarfod i'r fath ddybe i anrhyde tdus. Yr opd yn anrhy-Jedd i'r eglwys ac i'r gwemidog en bod weli cariw yn uno am aynifer o fl.nyddoedd. Arosodd y diweddar Barch Morris Jones yno am 29 o flynyddeedd, ac ar ei ymad- awiad ymddygodd yr ealwysyn anrhydeddus tuag ato, Morris Jones yno am 29 o flynyddeedd, ac ar ei ymad- awiad ymddygodd yr ealwysyn anrhydeddus tuag ato, yr Ityn oedd yn gicd iddynt fe! aelodau. Ymwelodd efe (v Cadeirydd) a'r eglwys hon ya achlysurol am amryw nynyd.toeid. Pan yn llanc mynycbodd y He ar lawer prydnawn Sabboth i adroud y pwac-peth ag oedd yn fawr ei fri yn mysg y Cymry yn y dyddiau gynt. Syiwai fod ysbryd Cristi-onogol yn Cltd ei amlyauyn yr eglwys hon bob amse>- a than bob amgylchiadau. Yr oedd yn bath da i ddysgu cyduno ar oi gwahaniaethu, :c i ddwyn btichiau eu gilydd, sef dwyn a chyd- ddwyn. Gobeithiai y byddai yr un ysbryd Cristionogol a theimlad da yn y dyfodol ag a fu rhvngddynt yn y gorphenol. Anrhegid wnithiau dan orfodaeth, eithr yr hvn oedd Mr D ivies ar dderbyn a drys .rwy gyferbyn a'r amgylcliiad eyda theimladau hyfryd a chariadus. Yr oedd yn wirfoddol, ac yn cadarnhau y cariad rhwng y gweioidog a'r eglwys. Eisteddodd y Cadeirydd yn nghan«l banllefau o gymera i wyaeth, ar ol rhoddi au. erciiiad rhagorol. Yna, galwyd ar Mr Miles Williams i syflwyuo yr an- rbeg, a dywedodd Gyfeillion crcfyddol, yr wyf yn teimlo hyfrydwch mawr pan edrychwyf yn ol ar yr adeg y daeth Mr Davies yma gyntaf yn fugail yr eglwys; eithr pa, Ie y mae y rhai a roddasant y fath roesaw calonog iddo p Maent, gan mwyaf, wedimyned i'w hir gartref, an ereill wedi ymwasgaru i amrywiol ardaloedd. Mae Mr Davies wedi gwneyd eglwys iddo ei hun, ac y mae wedi bod i'w eglwys yn ffyddlon byd heddyw. Mae wedi llafurio yn galed am 25 o flynydd- oedd gyda llwyddiant, am yr hyn yr ydym yn wir ddiolchgar. Tueddir ni i cMyweyd vn ngeiriau yr Ysgrytbyr, Da, was da a ffyddlon." Yna cyflwynodd y god Mr Davies, yn nhanol banllefau o uymeradwy- aetb. Yna rhoddodd yr ysgrifenydd, Mr D. Morgan, gyfrif o'r arian a ddcbyniwyd, yr hyn a wnai y cyfan- s. m 0 £50 53 6c. Wedi ychydig nodiadau priodol, cyflwynodd Mr Morgan i Mr Davies gan Saesoneg, o waith y Parch J. Lloyd James (Clwydwenfro), March, Climbs" yr hon oedd wedi ei hargraffa a'i gosod mewn 11 wyf (frame) ddestlus, ac o'r hon yr argraffwyd rhai canoedd i'r cyfeillion i'w chael a'i chadw er cof am yr amgylchiad. DarlIeDoid Mr Morgan befyd yr hvn a ysgrifenodd Clwydwenfro gyda'r Ilân-" Mai laf,1884, cytansoddais y penillion hyn, gan fod fy adnabyddiaeth a'm cyfeillgarwch a'r Parch D. M. Davies yn myned yn ol i ddechreu y flwyddyn 1855. Yr wyf yn ei ad- waen fel ysgolhaig gwych, myfyriwr rhagorol, bardd o'r iawn ryw, pregethwr o chwaeth uebel, a gweinidog deimla wir ddyddordeb yn lbs pobl ei ofal. Dymunaf i Mr Davies hir fyvryd o ddefnyddioldeb, a gobeithiaf y caiff ei eglwys a'i gynulleidfa hir fwynhad o'i wasan- aeth gwerthfawr. Oni bai pellder ifordd a dyled- svyddau pwysig gartref, byddai yn hyfrydwch gt nyf i fod yn bresenol yn y cwrdd anrhegu ac yr wyf yn uno a'r eyfeillion yn y Farteg yn nathliad 25ain mlwydd Mr Davies fel eu gweinidog." Yr oedd Clwydwenfro a Mr Davies yn gyd fyfyrwyryn Athrofa. Caerfyrddin. Yn ei at,hiad, dywedodd y Parch D. M. Davies: Mr Cadeirydd, ac anwyl gyfeillion, bydd fy ngeiriau yn anaml; Inae fy niolchgarwch yn fawr; ni oddef fy nheimladau i mi fod vn faitb ac mae fy nghalon yn llawn o ddiolchgarwch i'r eglwys, i Mr Daniel, a'r holl gyfeillion caredig. Pan ddaethum yma yr oedd y mwyafrif o gynulleidfa yr eglwys hon yn henach na mi; yn awr y maent yn ieuengach na mi; mae y mwy- afrif o'r aelodau wedi eu derbyn genyf ii. Pe cyr- ha ddasem y briodas euraidd, nis gallwn fod yn dded- wyddach nag wyf heno: Yr wyf yn ddedwydd i weled Mr Daniel yn y gadair, gan ei fod yn un o'm cyfeiMion henaf a chywirhf. Wedi dyweyd ychydig yn hwy, eisteddodd Mr Davies yn nghanol cymeradwyaeth mawr. Cafwyd anerehiadau pellach gan y Parchn S. Griffiths a J. Coie, Abersyehan; D. B. R'chards, D. Lewis, a l), Thomas (Talywain) J. Hughes. Ebenezer; a Mr G. Griffiths, Aberssxhan. Yr oedd amryw ereill yn bresenol a siaradent pe buasai amser. Wedi talu diolch i'r Cadeirydd, a chanu emyn, ymadawyd. [Oherwydd d ffyg gofod, gorfodwyd ni i adael allan y farddoniaeth.-Gol.
LLECHRYD, CEREDIGION.
News
Cite
Share
LLECHRYD, CEREDIGION. Boddiad. Nos Fercher, Mehefin 18fed, tarawyd y gymvdogaeth hon a dvchrvn a gdar gan y newydd pruddaidd fod Mr E. Evans, mab Mr a Mrs EvaDs, Penrallfc Eifed, wedi boddi yn yr afon Teifi wrth ymdrochi. Nis yallem gredn ar y dechrea, ond dyna, er em galar, oedd y gwir. Yr oedd ein hanwyl gyfaill yn un ac yr oedd srair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Fel mab, yr oedd yn hynod ufadd, trostynijedig, ac ymdrechgar i ddedwyddoli ei rieni; fel cyfatlll, yr oedd yn ddidwyll, cywir, a ffyddlawn fel crefyddwr, yn hollol ddiargyhoedd. Byrhawyd ei nerth ar y ffordd machludodd ei haul a hi eto yn ddydd, yn 21 oed. Y dydd Sadwrn canlynol, hebryng- wyd yr hyn oedd farwol obono i gladdfa y teulu yn Capel y Wig, ac yr oedd y llu mawr ddaeth i ddangos eu cydymdeimlad a'r teulu trallodedig yn eu dydd blin, yn n"hyda thala y gvmwynas olaf i'n brawd ieuanc, yn ddangose^ mor ddwfn y mae teulu Penrallt Eifed yn serch y wlad. Rhifai y cerbvdau 35, ac oddeutu 20 ar feirch, ac ugeiniau lawer o wyr traed yn ymuno a'r dorf cyn cyrhaedd y Wig, ac arwyddion galar a thristwch ar bob gwedd. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn iouane iawn yn eglwys Annibynol Capel Isaf, Llechrvd, yn yr hon y mae ei dad yn ddiacon ffyddlon a detnyddiol iawn. Gwasanaethwyd wrth y ty ac yn y capal gan y Parch H. H. Williams, ei weinidog, a thraddododd bregeth angladdol nos Sabboth, Mehefin 22ain, oddiwrth 2 Cor. v. 1., i gynulleidfa luosog a galarus iawn yn Llechryd. Lie Evan Evans sydd wa? yma mwy-yn wag yn y teuln, yn wag yn yr ardal, yn wag yn yr eglwys, ond yn llawn, ni gradwn yn ddiysgo?, yn y nef. Yr Arglwydd fyddo yn nerth, dyddanydd, a chysur i'r teulu anwyl yn eu trallod Cjwerw ac annysgwyliadwy, ac a'u cymhwyso hwy a ninan gog-yfer â cbyfarfod eu rhai anwyl yn yr ocbr draw, lie na bydd raid ynuadael mwy; pob anghysar wedi darfod, pob dei^ryn wedi ei sychu, yn mwynhau dedwyddwch diddiwed I mewn gwlad uwch gofidian a phoen, ydyw ein dymuniad a'u gweddi. H. H. W.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CANWCH YN DDA! SIAEADWCH YN DDA! — Mae Dovphiifs I'oicc Cozenge wedi eael ei Werthfawrogi yn fawr gau gleritfwyr, eantorion, ac enwogion oreill am yn agos i 4Uain mlynedd. Kliydd fdirder a gloewder i'r llais. JENNR LIND.—" Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell ag y mac iy murotlad yn myned, i gadarnhau y dvstiolaeth sydd mor ?y- tfredliiol yn lfair y Lozenges a barotoir genyeli chwi (Miles Doughty). tin, Is, 2s 6e, 5s. a 118-YII rliydd trwy y Hythyrdy. 7c, Is 2c, &c. Gotyuwch i'ej¡ Oyfferydd am dauynt-NEWBBRY a'i FEtBtON' 1, King Edward-street, Lluudain, E,C. Sefydlwyd yn y ttwy ddyn 1746 J