Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

-♦----PRIPYSGOL CYMRU A CHOLEG…

News
Cite
Share

-♦ PRIPYSGOL CYMRU A CHOLEG LLANBEDR. LLYTHYR ODDIWETH MR KATHBONE. 18, Prince's Gardens, Llundain, S.W. Mehefin 27ain, 1885. ANWYL MR HERBER EVANS,—Yr wyf wedi der- byn o bob parth oGyrnru benderfyniadau y daeth- pwyd iddynt gan wahanol gyrff Ymneillduol yn condemnio y penderfyniad a wnaed yn nghyfarfod diweddaf Cynghor Coleg Gogledd Cymru ar bwnc Addysg i Gymrn. Y mae y rhan fwyaf o'r pen- derfyniadau hyn wedi eu seilio ar drwyadl gam- ddirnadaeth o amcan a bwriad fy nghynygiad. Yr wyf yn antnrio anfon y geiriau hyn i chwi fel aelod o'r Cynghor, ac un o arweinwyr enwocaf yr Y mneillduwyr yn Ngogledd Cymru, ac fel 110 a gymerodd ran flaenllaw yn un o'r cyfarfodydd byn, sef Cymanfa Pwllheli; ac yr wyf yn gobeith- io na bydd i'm cyfeillion ei ystyried yn ddiffyg parch ynwyf tuag atynt hwy os gofynaf ar iddynt dderbyn y llythyr hwn fel atebiad iddynt hwythaa hefyd, gan y byddai agos yn anmhosibl i mi, heb ymyryd â'm dyledswydd a'm gwaith fel eich cyn- rychiolydd yn y Senedd, i ysgrifenu atebiad i bob un o'r lluosog lytbyrau a phenderfyniadau. Y mae yn wir ofidus genyf fod fy awgrymiad i gael cynadledd rydd er cefnogi addysg yn Nghymru yn cael ei gam-ddeall i'r fath raddau fel ag i achosi ei dynu yn ol. Fodd bynag, yr wyf yn meddwl mai dymunol yw egluro beth oedd gwir amean y penderfyniad. Oddeutu naw neu ddeng mlynedd yn ol, darfu i gadeirydd cyntaf Bwrdd Ysgol Liverpool encilio o'r swydd hono, er gofid i holl wir garedigion addysg, a sefydlodd gymdeitbas dan yr enw Cynghor Addysg Liver- pool, yn cynwys dynion o bob plaid, i ddiwygio ac i gefnogi diwygiadau yn ein cyfundrefn addysg- iadol, yn ogystal yn ein hysgolion enwadol ag yn ein Hysgolion Byrddol. Cymerwyd y meddyl- ddrych i fyny hyd yn nod yn fwy gwresog, a chaf- odd fwy o gefnogaeth gan y Rhyddfrydwyr a'r Ymneillduwyr na chan y Ceidwadwyr, ac y mae y cynghor wedi gweithredu yn hollol rydd oddiwrth sectyddiaeth neu deimlad pleidiol. Darfu i'w fesurau gynyrchu llawer o ddaioni drwy ychwan- egu presenoldeb yn ein hysgolion, ac mewn diwygio addysg ein hathrawon (pupil teachers), a gwylio dros eu hiechyd a'u buddianau. Y mae, mewn effaith, wedi sefydlu esgyn-risiau addysgawl eyflawn drwy ysgoloriaethau o'r ysgolion elfenol i'r ysgolion canolradd, ac o'r ysgolion canolradd i'r colegau. Yr oeddwn yn ddigon uchelgeisiol i obeithio y gallesid ar unwaith fendithio Cymru a'r fath sefydliad a tbybiais mai y ffordd oreu i wneyd hyn oedd drwy gyfarfod o ddynion o'r oil o golegau chartered Cymru, gan y gallasem felly gyfuno gwyr o bob plaid. Yn ychwanegol, tybiais y buasai cyngbor o'r fath o ddefnyddioldeb mawr yn yr adeg bresenol i ddwyn dynion o wahanol opiniynau at eu gilydd, a'u cael i siarad ar gwestiynau yn dwyn perthynas ag ysgolion canolraddol ac a materion yn nglyn a Pbrifysgol; ond, er hyny, na feddent fwy o hawl i'w phenderfynu na rhyw gymdeithas wirfoddol arall. Yr wyf yn cael fy meio am gynwys Llan- bedr gyda'r colegau chartered. Yr wyf yn dyweyd yn rhydd mai y siarter a'r gallu i roddi graddau sydd gan Llanbedv, yn bytrach na'i gymeriad fel coleg duwinyddol yn derbyn cymhorth gan y Llywodraeth, oedd genyf yn fy meddwl ar y dechreu. Ac wrth ystyried y cwestiwn yn y goleu hyn, tybiais mai camgymeriad fuasai ei gau allan o'r cynghor. I wneyd y cyfryw gynghor yn genedlaethol ac eang, rhaid i ni gymeryd gyda ni yr holl wyr goleuedig sydd yn gweithio o blaid 11 addysg. Fel y dangosais mewn llythyr arall, byddai gan y colegau anenwadol dri o gynrychiol- y It, wyr am bob un gan Llanbedr. Ni ddarfu i mi erioed siglo, ac nid wyf yn sigledig yn awr, yn fy marn y lhaid i'r Brifysgol Gymreig fod yn un hollol genedlaethol ac ansectarol. Gwnued y cynygiad i ychwanegu aelodau o golegau duwin- yddol yn hwyrach yn yr eisteddiad, ac ymddang- osai fel yn dwyn i fewn elfen dduwinyddol na feddyliwyd yn sicr gan y cynygiad blaenorol; ac ar yr olwg gyntaf, nid ymddangosai yn debygol y byddai prif athrawon colegau enwadol yn alluog i fod yn bresenol yn nghyfarfodydd cymdeithas o'r fath. Prin y mae yn angenrheidiol i mi ddyweyd nas gellid mewn cynygiad a wnaed gan Anghyd- ffurfwyr mewn Cynghor yn yr hwn y meddft Anghydffurfwyr fwyafrif mor fawr — fod yna un bwriad i gau allan gynrychiolwyr y colegau Anghydffurfiol rhag dadleu ar, neu gymeryd rhan ya ngwaith addysg, pryd bynag y teimlent awydd i wneuthur hyny, a pbarodrwydd i weithredu. Mewn cynadledd, a elwir felly yn briodol, amean yr hon oedd i ddadleu, ac yn enwedig i bender- fynu erbyn y dyfodol, egwyddorion ein cyfundrefn addysgawl, byddai cynrychiolwyr yr holl enwadau hyn nid yn unig yn ddefnyddiol ond yn anheb- gorol. Yr amean genyf fi mewn golwg oedd sef- ydlu eymdeithas wirfoddol, neu gynghor, i gefnogi addysg, yn hytrach na chynadledd yn ystyr bri- odol y gair, i ddadleu egwyddorion addysg. Oddi- wrth yr hyn sydd wedi cymeryd He, y mae yn debygol mai cynadledd gyffredinol a chynryehiol- iadol ar raddfa eang fuasai y ffordd oreu i roddi cychwyniad i'r fath gymdeithas. Yr wyf yn dwys ofidio fod fy nghynygiad wedi cael ei wneyd mewn ffurf fel ag i gynhyrfu cymaint o ddrwgdybiaeth a dychryn. I osod peth- au yn iawn, y mae amrywiol ffyrdd wedi cael eu hawgrymu yn y llythyrau a ysgrifenwyd a'r pen- derfyniadau a basiwyd ar y pwnc. Y cwbl a allaf fi ei ddyweyd ydyw hyn, fy mod yn dymuno i'r rhai hyny Vydd yn fwyaf eydnabyddus a'r teimlad Cymreig i awgrymu y cwrs hwnw a fyddai yn oreu i'w ddilyn yn y mater. Nid oedd genyf fi serch neillduol nac ymddiried arbenig yn fy nghynygiad fy bun, ac yr wyf yn hollol barod i ymuno mewn unrhyw gynllun a allai uno yn effeithiol bob dosbarth o Gymry yn yr amean sydd mor agos at ein calonau. Y mae wedi cael ei awgrymu y dylid galw yn nghyd gynadledd wedi ei helaethu mewn nifer drwy i'r colegau enwadol bob un ddewis unrhyw nifer o gynrychiolwyr a fynant i fyny hyd wyth yn nghyda chynrychiolwyr cyrS ereill sydd yn teimlo dyddordeb yn y fath faterion neu, gallai y cynygiad, dros yr amser presenol, gael ei dynu yn 01 a'r amcan gael ei gyrhaedd mewn rhyw amser dyfodol, drwy fiurfiad cymdeithas wirfodd- ol, yr hon y gellid ei chymhwyso i waith er parotoi moddion i gwblhau cyfundrefn ein haddysg yn Nghymru, a gallai y cyfryw un wahodd cynrych- iolwyr o'r gwahanol gyrfl: addysgol yn y Dywys- aeth i gydweithredu. Ni ddymunwn waegu y naill gynllun na'r llall ond yn hytrach dymun- wn gael fy arwain gan y rhai hyny sydd yn ddoethach a mwy profiadol na mi fy bun. Yr wyf yn credu eia bod oil yn dymuno parotoi y gyfundrefn addysgol fwyaf cyflawn i Gymru; ao yr wyf yn gobeithio fod pawb yn cytuno a mi yn mhwysigrwydd presenol yr amcan. Nid ydyw sefyllfa bresenol masnach a thrafoidaeth yn ein gwlad mor foddhaol, ac nid ydyw ei rhagolygon mor glir ac mor rhydd oddiwrth ainheuaeth" ac anhawsder, fel ag y gall unrhyw ran ohoni, ac yn neillduol Cymru, gael ei llethu yn yr yrfa gyda gwledydd ereill, neu gyda rhanau o'n gwlad e.in hunain, gan anmherffeithrwydd yn nghyfundrefn ein haddysg. Yr argyhoeddiad o hyn raid fod fy esgusawd "os wyf wedi ymddangos braidd yn ddi- amynedd yn fy nymuniad i wthio yn mlaen bob peth a allai byrwyddo cyflawniad, yn ei ffurfiaa mwyaf perffaith, gyfleusderau addysgawl i bob rhan o'r boblogaeth yn Nghymru. Os wyf, gan gadw yr amoan yna yn sefydlog a phryderas o flaen fy meddwl, wedi ymddangos yn llai teimlad- ol o beryglon tybiedig nag Anghydffurfwyr ereill, y mae byny oblegid fy mod yn teimlo yn gryf ar byn o bryd mai nyni ydyw y corff sydd yn meddu mwyaf o rym, yn enwedig yn Nghymru. 0 ftaen y grym hwnw, rhaid i bob anghydraddoldeb cref- yddol ddiflanu yn ebrwydd a. chan hyny yr wyf yn teimlo mai "mewn llonyddwch a gobaith y bydd ein cadernid." Yr eiddoch yn ffyddlawn, WILLIAM EATHBONE. [Yr ydym gyda'r paloJrwyddmwyaf yn cyhoeddi y llythyr uchod, ac nis gall neb lai nag edmygu yr ysbryd rhagorol a amlygir ynddo. Nid oes neb yo amheu gonestrwydd a chydwybodolrwydd Mr Rathbone, ac nad ydoedd yn gwir ddymuno gwasan- aethu adfiysg ae Ymneillduaeth yn Nghymru, ond nid a'i amcan yr oedd a fynom, ond ag ystyr natu,r~ iol ei cynygiad; ac nid oes dwy farn yn mysg Ym- ueilKluwyr am hyny; ac yn sicr nis gallwn oil fod' wedi ei garaddeall. Ond gwelwn na chynygir ei; wthio yn mlaen, a dysgwyiiwn bell.ach mewn unrhyw gynulliad a elwir y mynir iddo y dynion sydd yn, deall Cvmru, ac yn cydymdeimlo yn drwyadl ag; Y m oeilld uaeth,-GoL. ]

Advertising

MR GLADSTONE A THY YR ARGLWYDDI.