Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ODDIAR BEN Y CORN.

News
Cite
Share

ODDIAR BEN Y CORN. UAN UiiEEC Y LLEUAIJ. Os edrychwch tua haner y ffordd o wastadedd y lleuad i fyny i'w chorn, fe welwch ysmotyn bychan cyfled a Haw gwr. Wel, dyna y Ilecyn bychan yr wyf fi yn byw a bod arno. Yr wyf yn cadw cwpwl o greaduriaid o gylch y ty. Mae genyf ddwy fnwch a mochyn, yn nghyda hwch fagu. Mae genyf hefyd iar a cheiliog, a dau filgi, yn nghyda saith neu wyth o gychod gwenyn. Pe edrychech yn graff tua'r ysmotyn du bach yna pan fo'r lleuad yn llawn, ond odid na welech chwi ni oil fel happy family ar lechwedd y mynydd. Daw galwad arnaf weithiau i fyned i lawr i'r dyffryn, ond heblaw fy mod yn mwynhau gwell iechyd yn nghymydogaeth y Corn, yno mae fy ngalwedigaeth yu galw am i mi dreulio y rhan fwyaf o'm harnser. Byddaf weithiau yn myned i'r rhan hono o'r wlad a elwch chwi yna yn Gefn-y-Lleuad, a dyddorol o beth fyddai adrodd rbai helyntion yr aethym drwyddynt yn y rhan hono o'r byd. Gyda llaw, a ydych chwi wedi ystyried mai dim ond un haner o'r lleuad sydd yn weledig i chwi o'r ddaear? Eithaf gwir, nid oes ond gwlad y dyn a'r baich drain yn weledig i chwi yna, ac mae yn canlyn felly nad ydych chwithau yn weledig i drigolion Cefn-y-Lleuad. Nid ydynt yn gwybod fod neb ohonoch mewn bod.. Gallaf eich sierhau -eu bod trwy hyny wedi colli un o'r golygfeydd mwyaf swynol, canys fel y gwyddoch, mae y ddaear g-ymaintddwywaith a'r lleuad, ac mae gweled byd gymaint ddwywaith a'r lleuad yn olygfa na welir mohoni bob dydd, yn neillduol felly pan fo'r ddaear yn llawn. Yr wyf yn dyweyd "llawn" oherwydd mae y ddaear i ni yma yn fath o leuad—mae yn newid ac yn cwarteri, ac wrth ei awdurdod hi mae trai a llanw y mor yn cael ei gario yn mlaen a meddyliwn ni mai y ddaear sydd yn achosi cyfnewidiad yn y tywydd. Y cwestiwn cyntaf ofynir i'r sawl welodd y ddaear newydd gyntaf ar ol iddi newid yw, pa un ai daear ar ei chefn neu ar ei chornel yw hi. Fe roddem un peth i chwi adeg y cynhauaf pe gallech roddi scwt iddi ar ei chefn, yn neillduol felly pan mae'r gwlaw yn rhwystro'r gwenyn godi. Yr wyf eisoes wedi gwneyd un camsyniad pwysig trwy ddyweyd nad oes npb o drigolion Cefn-y-Lleuad wedi gweled y ddaear. Fe buasent fel coed, yn tyfu yn eu hunfan, buaswn yn dyweyd y gwir, ond nid pobl a golla olygfa fawreddog am ddim yw y bobl sydd yn byw ar gefn y dyn a'r baich drain. Deallaf nad oes neb gyda chwi a feddylid ei fod yn wr boneddig heb groesi llinyn y cyhydedd, er gweled ser dysglaer y nef ddeheuol. Felly daw miloedd bob blwyddyn i ben mynydd- oedd y Boundry i weled y ddaear pan yn llawn. A dyweyd y gwir i chwi, nid oes yma neb yn meddwl y gwnai lwe ei ddilyn heb ei fod wedi gweled y ddaear, a byddai yr un man i chwi gael bwch i odyn a chael gan ferch ieuanc fyned at yr ;:¡ llor gyda hen lane sydd heb weled y ddaear. Tra byddaf gyda y pethau sydd ar lan yma, byddai yr un man i mi aros gyda hwynt byd ddiwedd y llith. Fe adroddaf i chwi y modd y darganfyddais i y seren grand heno fydd yn destyn siarad mawr gyda chwi yna am y tair blynedd nesaf, a hyny yn mn peth yn herwydd ei pherthynas a'r grefydd i chwi yn broffesu. Wel, yr oedd yr ben gadair sydd genyf wrth y Corn wedi myned yn ddrwg ei chyflwr, a rhag ofn iddi roddi ffordd, a'm gollwng i waered atcch chwi, fe benderfynais wella tipyn arni. Yr oeddwn yn rhoddi y wadolaf ar glopa'r hoel ddiweddaf pan ifarweliodd yr haul a'r Corn. Eisteddais yn y gadair, a chefais y napin bach mwyaf blasus a aeth dros fy llygaid er pan wyf yn cofio. Pan ddeffroais, yr oedd tywyllwch yn gordoi y wlad, a'r mil, mil ser yn dawnsio fry yn y gwagle pell; ond wedi syllu am enyd, gwelwn yn eu mysg ysmotyn bychan, dysglaer, tanbaid, nad arferwn weled yn y rhan hono o'r nefoedd. "Beth all y lam fach acw fod ?" ebe fi wrthyf fy hun. Estynais fy llaw am.y telescope, gan dynu pwynt ato, ond er fy syndod nid oedd y telescope wedi gallu ei whymlyd. Mae yn anfeidrol bell," ebe fi wrtbyf fy hun. Ni welais mewn un rhan o'r byd lie M'tm yr un telescope a allasai symud y gronyn lleiaf ar y North Pole, ond pan drof ben hwn ati, gorfodir hi i symud gryn bellder; ond am hon, mae mor bell fel nad yw fy favourite yn gallu gwneyd dim a hi. Ti gei dd'od odd'na," ebe fl, gan neidio i fyny o'r gadair, ac yr oeddwn cyn pen haner awr yn agor drws yr arsyllfa ar ben ucha'l' Corn. Ymaflais yn yr olwyn sydd yn troi peiriant yr hen weledydd. Troais ei lygad mawr i fyny i'r gwagle at y jewel fechan a ym- y 11 ddangosai fel newydd dd'od allan trwy front gate ) Caersalem. "Bravo!" ebe fi, "onid yw hi yn grand 1 ba le y mae yn myn'd, tybed ?" Ymaflais yn y cyfarwyddiadur seryddol er gweled a oedd ryw seren i'w dysgwyl yn y pwynt yna o'r nefoedd. Nid oeddwn wedi myned haner tudalen cyn i mi ganfod fod cylchdro tri chan'mlwyddol Star of Bethlehem ar dd'od oddiamgylch. Wrth gwrs, ni bydd yn weledig i chwi llygad noeth cyn y flwyddyn 1887, ond y sawl ohonoch fydd byw tair blynedd 'nawr, fe gaiff weled golygfa nad aiff yn anghof arno yn fuan. Gwna ei hymddangosiad yn Nghadair Cleopatra gyda diffyg cyfiawn ar yr Jbaul. Goleua mor danbaid fel y bydd yn weledig liw dydd goleu. Ni bydd Jupiter, er ei holl ogoniant, yn gyffelyb iddi. Goleua felly am flwyddyn gyfan, yna dechreua ymgilio yn raddol, ac o'r diwedd rhydd ffarwel i'r cylch henlawg am 315 o flynyddoedd. Ni welir hi drachefn hyd y flwyddyn 2202. Beth fydd ein cyflwr pan ymddengys hon y pryd hwnw ? Myn rhai mai hon yw Seren Bethlehem, yr hon fu yn arwain y doethion. Wrth dynu chwech 315 allan o 1887, fe welwn fod y seren hon yn ymddangos tua chyfnod genedigaeth;y Messiah; ond awgryma y Beibl fod y seren hono yn special messenger i'r Hwn oedd i'w eni yn y preseb. Buasai yn dda genyf pe buasai y seren hon yn gweled mwy o ddelw ei Meistr ar y byd pan ddaw nag sydd; ond cyn wired a'i fod yn dyfod a'r seren hon i'w gorsaf yn ei hamser, cyn wired a hyny efe a arweinia y wir seren i'w meridian yn yr adeg apwyntiedig. Mae prinder amser yn peri i ni ofni am lwydd- iant y Gair. Nis gall ein hoes fer ni fforddio gweled delw methiant ar yr Efengyl, ond gall yr Hwn sydd a digon o amser ganddo roi caniatad i'r seren fyned am walk, ar yr amod iddi reportio^i hun yn ei swyddfa ef ar ben 315 o flynyddoedd. Gall un felly meddaf fforddio aros i weled gwirionedd yn ol ei ddeddf yn llwyr ddileu an- wiredd o'r byd. Mae meddwl am fyrdra'n hoes, mewn eyferbyniad i eiddo creaduriaid fel hon, yn creu prudd-deryn y meddwl, ac yn barod i ofyn i'r Brenin mawr paham y rhoddodd Efe oes mor fer i greadur mor fawr ond mae yr ateb wrth law, sef Bydd ddoeth yn dy ddydd byr, ac yna fe gei oes mor hir na bydd oes y ser ddim yn dal cyifelyb- iaeth." —, «

CARM^L, TRESIMWN. ..

ICYMANFA CASTELLNEDD.