Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Colofn y Dadgysylltiad. -..-.

AGERLONGAU CAERDYDD.

L L AN AEMON-YN-IAL.

News
Cite
Share

L L AN AEMON-YN-IAL. Y Parch John Lloyd, Caerwys.—Bu ei rieni yn byw mewn fferm fechan yn Nhrefddegwm y Bod- idris, a chyrhaeddodd ef gryn enwogrwydd fel ysgolhaig, ac y mae ei enw yn bysbys fel eydym- aith i Pennant yn ei deithiau yn Ngbymru. Y mae darlun hardd ohono ar gael yn awr yn y Plas Du, at yr hwn y cyfeiriwyd yn y Dysgedydd am Tachwedd, 1878. Yr oedd ei bris cyhoeddedig yn bum' swllt, a synwn mor dda ydyw y gwaith sydd arno, pan gofiwn ei fod mor ben. Dylasid trefnu i'w gael allan gyda'r argrafiiad diweddaf o'r "Tours." A fyddai dim modd ail gyboeddi y darlun o Rector Caerwys? Y mae y darlun ar gael yn awr, ond yn mhen amser eto ni bydd i'w gael yn un man. Beth ddywed Caerwyson am hyn ? A fedrai ef ddim rhoddi y darlun i fewn yn y llyfr a fwriada gyhoeddi yn Saesoneg ar hanes Caerwys? Gwyr rhai o'n darllenwyr mai merch i Lloyd ydoedd yr awdures enwog, Miss Angharad Lloyd. Cynygiad Teilwng. — Tua dwy flynedd yn ol, mewn arwerthiad yn Ninbych, prynodd Rhodwy" The Life of Ulrich Zwingle, the Swiss Reformer, by J. G. Hess," am dair ceiniog, er fod ei bris cyhoeddedig yn haner gini Y mae yn hanes dyddorol iawn. A ellir dim trefnu i'w gael allan yn Gymraeg ? Y mae ei berchenog yn cynyg anrhegu yr hwn wna gyfieithad ystwyth a dar- llenadwy ohono ag ef. Pwy wna sylw o hyn, a phwy wna ei gyhoeddi? A wna un o wyr y B.A." ei droi i'r Gymraeg—Talfardd, DewiMon, J. B. Jones, neu H. Oliver ? Amser a ddengys. Y Bryn'rogo'. — Cawsom ychydig o gwmni Golygydd y Cenad Hedd yma yn ddiweddar, a diau fod y Bryn'rogo' yn awr yn wahanol iawn iddo ef i'r hvn ydoedd gynt, am nad oedd yno yr un "Dafydd Jones" i'w ddyddanu a'i eiriau syn- wyrgall a charedig. Yn yr wythnos y gwelsom "W. N." yno, yr oedd perthynas i'r teulu yn cael ei gladdu-nai y Parch Isaac Pickering—a'r wyth- nos hon yr oedd brawd i'r diweddar Dafydd Jones yn cael ei roddi i orphwys yn y bedd. Bu yn hir yn gystuddiol. Gadawodd briod a phlant ar ei ol-chwaer i'w briod yw Mrs L. Williams, Bontnewydd, Arfon. Da genym ddeall fod plant y Bryn'rogo' yn cadw i fyny yr enw a enillodd y fan gynt drwy letygarwch a charedigrwydd, a chafodd yr Hybarch Isaac Thomas, Towyn, Meir- ionydd, y fath groesaw yn Bryn'rogo', fel yn mhob man arall yma, pan fu am y tro cyntaf iddo yn y gymydogaeth yn ddiweddar, pryd y gwasanaeth- odd yr eglwysi hyn am Sabboth, fel yr addawodd dd'od yma eto cyn hir. Y mae yn rhaid nad ydyw Mr T. yn un o'r ychydig weinidogion hyny sydd yn blino eglwysi o eisieu cyhoeddiadau ganddynt, neu buasai wedi bod yn Ial cyn hyn. Y mae Mr T. yn bregethwr mor dderbyniol, fel yr hoffa pawb ei glywed. GarmonyclLt-Gwelwn nad yw yr alwad sydd arno fel darlithydd ar Williams, Pantycelyn, a'i Amserau," yn rhwystr iddo wneyd englynion gaf- aelgar pan mewn hamdden. Dyma ddau englyn a gyfansoddodd or cof am Mr Thomas Davies, ysgolfeistr, Llanferras, yr hwn a fu farw y dydd arall, ar ol cystudd byr, yn 37 mlwydd oed. Da gweled fod ei galon-heddychol I ddichell yn estron; Hynod bawdd darllenid hon Yn ei wyneb e'n union. Ein Uonaf wr yn Llanferras—gyneu Oedd y gonest Domas; 'Nawr ma," unig ei drigias, Ydyw oer le daear las. Y Parch J. Griffith,—Gwneir crybwylliad am yr hen weinidog yn y Geninen ddiweddaf, gan Dr John Thomas, fel "meddyg anifeiliaid pur nod- edig," ac fel un fedrai fwrw ysbryd" allan. Y mae dynion yn awr yn fyw fedr ddyweyd banes yr "ysbryd" yn INrith Treuddyn, a chlywsoin y Parch R. 0. Evans, Sammah, yn son am un ydoedd gynt yn y gymydogaethf hono, a gwyddis mai yr "hen Griffiths, Llanarmon," fu yn tawelu y ddau. Oni ellid cael hanes "manwl ageglur"am yr ysbryd yn y ddau Ie, a'i gyboeddi fel y byddo ar gof a chadw i'r oesau a ddaw? Y mae gan yr holl ardal yn bresenol barch i enw'r "hen Griffiths," ac nid ydym wedi clywed ddarfod iddo ddyweyd, nac ysgrifenu geiriau diraddiol a dir- mygus am neb yn ei oes, ond gwnai ei oreu i feithrin yr ysbryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr." GOHEBYDD.

Advertising

FFORESTFACH, A'R CYLCHOEDD.

[No title]