Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Colofn y Dadgysylltiad. -..-.

News
Cite
Share

Colofn y Dadgysylltiad. Yn y Contemporary Review am Mehefin y mae gan Dr Edwin Hatch ysgrif hynod amserol a dyddorol yn ymdrin a pherthynas yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Ymddengys fod Dirprwywyr y Llysoadd Eglwysig wedi cyhoeddi yn eu hadroddiad fod yr Eglwys mewn amser a basiodd wedi bod yn gwbl rydd oddiwrth bob ymyriad o eiddo y gyfraith wladol, yn cael ei llyw- odraethu yn bollol gan gyfraith Eglwysig, ac mai yr oil a wnai y gallu gwladol ydoedd cynorthwyo i roddi y gyfraith Eglwysig mewn grym. Nid oes eisieu llygad eryraidd iawn i weled amcan y Dirprwywyr wrth wneyd yr honiad. Yr hyn yr ymdreehant hwy ei ddwyn oddiamgylch ydvw rhyddhau Eglwys Loegr o fod dan reolaeth y Senedd, ac ar yr un pryd sicrhau iddi ei safle a'i gwaddoliadan. Pe gallasent brofi mai dyna y drefn yn yr oesnu boreuaf, buasai ganddynt ddadl gref o'u plaid. Ond y mae Dr Hatch, ac efe yn Eglwyswr ei hunan, wedi dangos geudeb y cyfryw honiad yn y modd eglnraf. Cyn dyddiau Cystenyn, meddai ef, ni wyddai y gyfraith wladol ddim byd am gyfraith Eglwysig o gwbl. Nid oedd y fath beth a chyfraith Eglwysig mewn un ystyr yn bodoli hyd hyny. Gadewid i bob cynulleidfa grefyddol drefnu ei boll achosion yn gwbl annibynol ar bob galln o'r tuallan iddi ei hunan. Yn nyddiau Cystonyn y ffurfiwyd y corff crefyddol cyntaf, ac nid yn mysg yr eglwysi y tarddodd y syniad, ond yn meddwl yr ymherawdwr, ac efe oedd y blaenaf i symud tuag at roddi y syniad mewn gweithrediad. Efe a alwodd y cynghorau boreuol yn Arlis a Nicala, Ar y dechreu, gadewid at ddewisiad yr eglwysi pa un a ymunent a'r corff neu beidio, ond wedi unwaith ymuno, rhwystrid hwy gan y gallu gwladol i ymryddhau. Dyna hanes dechrenad crefydd sefydledig yn ol Dr Hatch, ac ni feddylia neb am ei gyhuddo ef o fod yn gwyrdroi ffeithiau i ffafrio yr eglwysi rhyddion. Yn mhlitb y pethau a ellir gasglu yn naturiol oddiwrth yr ysgrif y mae tair ffaith yn deilwng jawn o gael eu coJi i jfmlygrwydd (l)mai Annibynwyr a Chynulleidfaolwyr oedd y Cristionogion borenaf am ganrifoe d (2) mai mewn ymyriad gallu estronol y ffurfiwyd yr eglwysi yn gyfundeb neu gorff gyntaf; ac (3) nad yw Eglwys Loegr yn ngoleuni cyfraith sylfaenol crefydd sefydledig yn ddim amgen na phlaid o sismaticiaid wedi tori allan o'r Eglwys Lan Gatholig. Ar y pedwerydd dydd ar bymtheg o Mehefin, yr oedd y pregethwr byd-adnabyddus Mr Spurgeon yn cyrhaedd ei haner cant oed. Penderfynodd ei Inaws cyfeillion a'i edmygwyr ddathln ) r amgylcblad fel ei jubili, ac ni allasai dim fod yn fwy o lwyddiant. Cymerodd Golygydd y Pall Mall Gazette fantais ar yr aingylchiadau i ymwele I a Mr Spurgeon, er cael gwybod ei syniadau ar rai o brif bynciau y dydd. Yn mhlith pethau ereill, daeth gwaddoliadan a chrefyddau sefydledig dan sylw, ac ymddengys fod Mr Spurgeon yn elyn anghymodlawn i'r naill a'r Hall. Dyma ei eiriau ar bwnc y gwaddoliadau :—" Yr wyf yn erbyn gwaddoli hyd yn nod fy ngholeg fy hunan. Cynygiodd rhywun arian i mi y dydd o'r blaen tuag sefydlu ysgoloriaeth mewn cysylltiad l1'm coleg-. Fe'i gwrth- odais. Paham y casglwn i arian a fyddai yn aros ar ol fy ymadawiad i gario yn mlaen addysg i ba un y gallwn fod yn gwbl anfoddtawn ? Na. Bydded i bob cenedlaeth ddarparn ar gyfer ei hangen;on. Os bydd i mi olynydd yn y coleg, gwnaed fel yr wyf fi wedi gwneyd, a sicrhaed y sawd y bydd ei heisieu arno. Fy nymuniad i ydyw, na byddai gwaddoliadau crefyddol o un math yn mhlith Ymneillduwyr nag Eglwyswyr, oherwydd nid wyf fi wedi gwybid hyd yma am un capel yn meddu gwaddol na byddai yn ei brofi yn felldith yn lie bod yn fendith." Dyna siarad pur glir, a byddai yn burion i bob dosbarth o grefydd- wyrEIU hystyried. Ychydig o gariad sydd gan Mr Spurgeon at grefydd sefydledig. Yn ol ei syniad ef, dyna sydd ar y ffordd i sicrhau undeb Cristionogol. Dyma fel y dywedai- Mae y syniad nas gall Eglwys y bendefigaeth gynal ei hunan, tra y mae eglwysi y tlodion yn abl i wneyd hyny, i mi yn hollol anghredadwy. Os yw yr enwad sydd yn meddianu y rhan helaethaf o gyfoeth Lloegr yn gofalu mor lleied am ei chymhorth fel ag i beidio ei gyna) yn mlaen.pe cymerid ymaith oddiarni arian y Wladwriaeth, rhaid ei bod pan yn meddu enw o fod yn fyw mewn gwirionedd yn farw.' Ond nid wyf yn ei gredu am foment, ac yr wyf yn llwyr argyhoeddedig y byddai l Daadgysylltiad ^i-yfhau yr Eglwys mewn lla, er eyfeiriad. Nid wyf yn dywfidyd hyn am fy mod yn meddwl y byddai Dadgysylltiad yn enill i Anghydffurfiaeth, ond symudid ymaith y rhwystr anferth sydd yn atal lIifiant cariad a chydymdeimlad Cristionogol." NONCON.

AGERLONGAU CAERDYDD.

L L AN AEMON-YN-IAL.

Advertising

FFORESTFACH, A'R CYLCHOEDD.

[No title]