Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Y MODDION CYHOEDDUS.
News
Cite
Share
Y MODDION CYHOEDDUS. Av y maes, y noson gyntaf, dechreuwyd yr oedfa gan Davies, Amwythig a phregethodd Owen, Glandwr, a Thomas, Glandwr. Boreu dranoeth, am 7, yn y capel, dechreu- wyd gan Mr Evans, Bodedeyrn a phregethodd Charles, Croesoswallt. Am 10, ar y maes, dechreuodd Jones, Pen- cader; a phregethodd Thomas, Glandwr, a Davies, Bangor. Am 2, dechreuodd Lewis, Birmingham; a phregethodd Eynon Davies, Abertawy, ac Owen, Glandwr. Am 6, dechreuwyd gan Rees, Carno; a phregethwyd gan Davies, Bangor, a Davies, Abertawy. Cafwyd hin hyfryd, cynulleidfaoedd lluosog, a phregethau grymus a theg ydyw ychwanegu ddarfod i Mr Evans a phobl ei ofat roi y der- byniad mwyaf cynes i'r Gymanfa, a gwneyd y trefniadau goreu ar gyfer y dyeithriaid. Taled yr Arglwydd iddynt, a bendith Duw a ddilyno yr oedfaon. THOMAS HUGHES, Ysg. pro tern. 1 —
HENLLAN AMGOED.
News
Cite
Share
HENLLAN AMGOED. CYMANI'A TSAOLIOW. Cynaliwyd yr uchod ddydd Llun, Mehefin 9fed. Trefn y cyfarfodydd oedd fel y eanlyn Y boreu, darllen wyd a gweddiwyd gan y Parch W. Thomas, "W hitland. Adroddodd plant Capel Mair, a holwyd hwy gan y Parch D. E. Williams, Henllan. Hol- wyd yr Ysgol fawr gan y Parch W. Thotnas.Whit- land. Arweinydd y gan oedd Mr John Jenkins. Yna adroddodd plant Henllan, yn cael eu holi gan y Parch D. E. Williams. Y canu o dan arweiniad Mr D. James. Adroddodd yr Ysgol fawr, yn cael eu holi gan y Parch S. Evans, Hebron. Y canu yn cael ei arwain gan Mr James Owen. Yna Ysgol Cwm-miles yn adrodd a chanu. Holwyd hwy gan y Parch S. Evans. Y c6r yn cael ei arwain gan Mr George Lewis. Wedi i'r Parch S. Evans weddio, cawsom ychydig seibiant er cy- meryd ymborth i'r corff, yr hyn oedd wedi ei ddar- paru yn helaeth gan y cyfeillion yn Henllan. Am 1.30 dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch J. Davies (M.C.), Whitland. Adroddodd plant Whitland yn Saesoneg, yn cael eu holi gan y Parch W. Thomas. Y canu o dan arweiniad Mr Newton Rees. Holwya yr Ysgol fawr gan y Parch D. E. Williams. Arweinydd y gan oedd Mr Thomas Williams. Yn ddiweddaf adroddodd Ysgol Llan- boidy, yn cael ei holi gan y Parch D. E. Williams, B.A., Amanford. Y canu yn cael ei arwain gan Mr Ben Phillips. Cawsom gymanfa ardderchog — adrodd, holi, ateb, a chanu rhagorol. Cyn gorphen cyfarfod y prydnawn, gwnaeth y Parch W. Thomas gyfeiriad. teimladwy at farwolaeth brodyr yn nghylch. y gymanfa, y rhai a hunasant oddiar y gymanfa o'r blaen, a'r rhai hefyd y mae genym hyder cryf, er yn absenol o'r gymanfa flynyddol, eu bod yn y gymanfa dragywyddol yn y nef. Mae sylw wedi ei alw at amryw o'r uchod yn y TYST yn flaenorolj ond lhywfodd diangodd un heb gofcodiad, sef Mr Williams o'r Hendre, yr hwn a fu am flynyddau yn un o gedyrn yr achos yn Henllan. Meddai ar gyfoeth helaeth, ac yr oedd bob amser yn barod i'w roddi at bob achos teilwng. Cafodd gladded- igaeth urddasol, a theimlir colled ar ei ol yn y gymydogaeth a'r eglwys. Gobeithio y bydd y rhai sydd ar ol yn fwy ymdreohgar yn y dyfodol, at; y daw rhywrai i lanw y bylchau mawrion sydd wedi eu gwneyd yn rhengoedd Seion yn y cylchoedd. W. S.
[No title]
News
Cite
Share
MEKTHYR VAL^.—Bydd yn dda jran cyfeillion lln- oso^ y brawd Griffith Griffiths, Trecynou Seminary. Trecynon, glywod ei fod wedi derbyn galwad nnfrydol a thaer oddiwrth yr eglwys Annibyuol uchod. Mae yr eglwya yn un weitbgar a chynyddol. Gobeithiwn y bydd i Mr Griffiths ateb yn gadarnhaol.—Edmy^ydd.
'','LLANDILO.
News
Cite
Share
LLANDILO. CTPA K t'ODIDD CENADOl. Nos Sabboth, Mehefin 5ed, bu y Parch W. Griffiths, o Ganolbarth Affrica, yn pregethu yn y Tabernacl. Mae Mr Griffiths yn enedigol o gymydogaeth Gwynfe, ger Llandilo, ac y'n nai fab brawd i'r enwog Mr Griffith, Madagascar. Y mae o waed cenadol, ac y mae ynhtll yn ystod pum' mlynedd-ei fywyd cenadol yn Nghanol- barth Aurica-wedi profi ei fod o ran corff, meddwl, a q, ysbryd yn Ilestr etholedig i ddwyn golud yr Efengyl i dlodion anwaraidd y wlad hono. Nos Fawrth, yn yr un lie, cynaliwyd eyfarfod neillduol yn nglyn a Chenadaeth Affrica. Daeth cynulleidfa luosog yn nghyd oherwydd eu parch i'r cenadwr ieuanc, a'u cydymdeimlad a Chenad- aeth y wlad. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch T. Thomas, rjaiigadofir. Cymerwyd y gadair gan Mr T. Powell, Caregcenen, yr hwn yn ei anerchiad ;>.guriadol a ddywedodd ei fod wedi arfcr teimlo dyddordeb er's blynyddoedd yn y gwaith cenadol, ac yn neillduol felly oddiar ordeiniad y Parch Griffith John i fyned allan yn genadwr i Cbina- tua naw mlynedd ar hugain yn ol-a'i fod yn arfer darllen ei holl lythyrau yn y wasg, a gwylio ei symudiadau gyda hyfrydwch mawr ond teimlai fod ei gydymdeimlad a'r gwaith cenadol wedi eangu yn y blynyddoedd diweddaf, a bod gwledydd ereill heblaw China yn enill ei sylw, ei serch, a'i gydymdeimlad cenadol. Fod Canol- barth Affrica yn neillduol felly, oherwydd pwysigrwydd y lie fel maes eang, newydd, llawn o ragolygon gogoneddus, ac hefyd oherwydd fod amryw o'n cydwladwyr-cyfeillion a brodyr' anwyl i ni or gymydoga.eth hon, ac un o'r eglwys hon, y Parch. John Penry—wedi cysegru eu bywyd ac aberthu eu cysuron er lledaenu goleuni yr Efengyl, a ohario y newyddion da o lawenydd mawr i feibion duon Affrica. Fod y bywydau sydd wedi eu colli yn nglyn a Chenadaeth Canol- barth Affrica wedi taflu prudd-der a rhywfath o wangalondid i'n nieddyliau gyda golwg ar lwyddiant yr anturiacth. Teimlai hiraeth, a theimlai yr eglwys hiraeth mawr ar ol Mr Penry -un oedd yn tneddu y fath ysbryd a chymhwys- derau cenadwr llwyddlauus; ond cysur mawr yw cotio, pan y mae rhai yn cael eu galw oddiwrth eu gwaith. yma, fod yr Arglwydd yn cadw ereill ar y maes yn gryf mewn corE a dewr mewn meddwl, ac o hyd yn codi rhai newydd. Yr oedd yn hyfrydwch ma.wr ganddo gyfarfod a Mr Griffiths, ar ol bod mewn unigedd am rai blynyddodd yn nghanol llwythau anwaraidd Canolbarth Affrica, a gobeithiai y cai oes hir oddefnyddioldebhelaeth fel cenadwr lesu Grist, ac y byddai ei ymweliad a ni yn foddion i enyn mwy o sel genadol, a magu mwy o weithgarwch a haelioni o blaid y Genad- aeth yn y dyfodol. Yn ei araeth ragorol, rhoddodd Mr Griffiths ddarluniad clir a manwl o'r ddwy ffordd i'r I Canolbarth. (a) Ffordd o Zanzibar, yn terfynu yn Ujiji, Llyn Tanganyika; hyd, 800 milidir. Cerdded yr unig ffordd o deithio, am nas gall na cbeffylau, nag ychain, nag unriiyw greadur dof arall fyw oherwydd creadur bychan a el wis: tsetse fly. Wrth gychwyn o Zanzibar, mae caravan yn cael ei wnoyd i fyny o gludwyr brodorol, y rhai sydd yn cario pabellau, luggage, a nwyddau ereill i fyny i'r Canolbarth. Mae y ffordd hon yn agored er's saith rnlynedd, yn myned trwy diriogaethau chwech o lwythan. Affricanaidd, ac yn mysg y llwythan hyn y mae pedair gorsaf genadol wedi eu sefydlu—tair yn perthyn i'r Gymdeithas Genadol Eglwysigacun i Gymdeithas Genadol Llundain, lie mae Mr Shaw yn llafurio gydag ymroddiad a diwydrwydd mawr. (b) Ffordd heibio Nyassa. Mae hon yn hwy na'r ffordd arall, ond i wneyd i fyny am hyny, y mae cyfleusderau teithio yn well. Teithio ar yr afon Kwakwa am bum' niwrnod, yna tua, saith niwrnod ar y Zambezi, wedi hyny taith ar hyd ffordd newydd o driugain milidir nes cyrhaedd Llyn Nyassa (cyrner tua deuddeg niwrnod i'w- chroesi), yna taith dros wlad uchel a iachus ar y cyfan o 250 milidir o g.ordded neu deithio mewn palanquin. Wrtb. fyned y ffordd hon, eir trwy diriogaethau chwech o Iwythau Affricanaidd ereill, ac yn eu plith mae dwy orsaf genadol—un, Blantyre, yn perthyn i Eglwys Ysgotland, as,- un arall, Livingstonia, yn perthyn i Eglwys Kydd Ysgot- land. Heblaw y ddwy genadaeth, mae yr African Lakes Co. yn gweithio i ddadblygu adnoddau a masnach y wlad. Mae y ffordd hon yn cael cefnogaeth a chymeradwyaeth Cymdeithas Genad- ol Llundain fel yn rhatacb, yn hawddach, ac yn gyflymach i'w theithio. Ar ol sylwi ar y ddwy ffordd, aeth yn mlaen i ddarlunio maes y Genadaeth, sef Llyn Tanganyika a'r gwledydd cylchynol. Dywedai fod y llyn dros 400 milidir o hyd, ac o 30 i 50 o led. Fod ar ei lanau 10 o Iwythau, a thua'I' un nifer o ieithoedd, y rbai sydd yn cyfansoddi nn o'r rhwystrau mwyaf ar ffordd llwyddiant yr ymdrechion cenadol. Perthyna y llwythau hyn i ddwy genedl wahanol. Ar lanau y llyn, bernir fod tua haner miliwn o breswylwyr brodorol. Mae tair o orsafau cenadol ami, ac mae un ohonynt heb genadwr, sef Ujiji, oberwydd afiecbyd y lie. Sefydlir gorsafau ereill j mor fuan ag y cyrhaedda y cenadon a foidwyasant ar y 12fed o'r mis hwn, gan wynebu ar Lyn Tanganyika. Cyflwynwyd diochgarwch cynes a brwdfrydig iawn i Mr Griffiths am ei ymweliad a'i araeth ragorol, ac hefyd i Mr Powell am lywyddu y cyfarfod, gan Mri Freeman, Glandwr Thomas, Glamorganshire Bank; Iorwerth; Davies, Taber- nacl James, Ebenezer; a Thomas, Llangadog. Ar ol y cyfarfod dangosodd Mr Griffiths lawer o lestri arfau a defnyddiau a wnaed gan y brodorion. Synai y bobl wrth ganfod mor gywrain oedd eu gwneuthuriad. Credwn fod y cyfarfod wedi cario dylanwad rhagorol iawn, ac y dangosir hyny yn y dyfodol mewn sel a haelioni cenadol. Llandilo. W. D. -+-
CYFUNDEB SEISONIG PEHFEO.
News
Cite
Share
CYFUNDEB SEISONIG PEHFEO. Cynaliwyd y Cyfarfod Chwarterol y tro hwn yn St. Florence, ger Tenby, Mehefin 24aic, o dan lywyddiaeth y Parch J. Lewis, y eadeirydd am y flwyddyn. Yn y Gynadledd am 10, ymdriniwyd ag amryw faterion perthynol i waith yr Arglwydd yn ein plith. Anogwyd y rhai a allent i gasglu at y Bristol Institute, ac anfon yr arian i'r Parch O. Jacobs, Neyland, i'w trosghvyddo. Enwyd y Pavchn J. Lewis, Tenby, a J. Benson Evans, Hwlffordd, i fod ar Bwyllgor Coleg Caer- fyrddin am y flwyddyn nesaf. Y pwnc ar gyfer y cyfarfod uesaf, yr hwn sydd i fod yn Tier's Cross, ger Milford Haven, yw "Swper yr Arglwydd;" y pregethwr arno, Parch J. Griffiths, St. Florence. Pregethwyd y tro hwn ar y pwnc rhoddedig, "Gwaith yr Ysbryd Glan," gan y Parch W. A. Griffiths, Narbertb; a darllcnwyd Papyr gan yr Ysgrifenydd ar Droedigaeth pechaduriaid." Dilynwyd ag ymddyddan rhydd ar destynau y bregetb a'r papyr. Pregethwyd befyd yn y gwahanol leoedd a chyfarfodydd gan y Parchn M. Evans, Saunders- foot; J. C. Evans, Tier's Cross; W. A. Edwards, Pembroke Dock; O. Jacobs, Neyland; J. Phillips, Zion's Hill a J. B. Evans, Hwlffordd. L, James, 5^sg.
Advertising
Advertising
Cite
Share
XOT A BEYERAGE. They are not a beverage, but a medicine, with curative properties of the luglieat degree, containing no poisonous drugs. They do not tear down an already debilitated system, but build it up. One bottle contains more real hop strength than a barrel of ordinary beer. Physicians prescribe them. Moehester Evening Explws un Hop Hitters. Head Advt.
BALA.
News
Cite
Share
BALA. CYJ'ABi'OD SEFYDLU. Ar y dyddiau Mehefin 24ain a'r 25ain, yn yr eglwys Annibynol yn y lle uchod, cynaliwyd cyf- arfodydd sefydliad y Parch T. Talwyn Phillips, B. D., yn olynydd ir onwog Hybarcb R. Thomas (Ap Vychan). Pregethwyd y noson gyntaf gan y Parchn W, Nicholson, Liverpool, ac li. P. Jones, Pencader. Yr un adeg yn Ty'nybont, gan y Parchn O. Evans, Llundain, a T. Davies, Llanelli. Tranoeth trwy y dydd pregethwyd gan y Parchn 0. Evans, T. Davies, W. Nicholson, ac E. P. Jones. Dechreu- wyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn D. L. Jones, America; J. P. Evans, Henryd D. C. Edwards, M.A. (M.C.); a W. D. Thomas, Llangwm. Yr oedd yn bresenol hefyd y Parchn O. J. Owen, Cor- wen; J. Pritchard, Cynwyd; D. Roberts, Llan- uwchllyn; W. R. Roberts, Llanfachretb; E. Peters, Bala; T. Lewis, B.A., M. D. Jones, D. C. Jones, yn nghydag amryw fyfyrwyr y gwahanol golegau. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd y cynulliadau yn hynod luosog, y pregethau yn rymus, ac arwyddion amlwg fod gwirioneddau yr Efeugyl yn cael lie dwfn yn meddyliau y gwrandawyr. Da genym weled Mr Phillips, fel dyn ieuanc talentog a gweithgar, yn dechreu ar ei faes newydd a phwysig dan amgylchiadau mor ffafriol. Mae y llwyddiant &ydd wedi dilyn diwydrwydd a llafur Mr Phillips yn y gorphenol yn peri i ni edrych yn mlaen mewn hyder cryf y cawn glywed pethau mawrion am dano eto yn y dyfodol. Dymunwn iddo bir oes i wasanaelhu ei Arglwydd, ac i droi lluoedd o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw, fel y derbyniont faddeuant pechodau a chyfran yn mysg y rhai a sancteiddiwyd." YSBIWB,
CYMANFA MALDWYN.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Thomas, Trallwm (yn Saesoneg); Roberts, Penybont; Morris, Llanrhaiadr; Thomas, Glandwr Davies, Bangor; C. R. Jones, Llan- fyllin; Hugh Davies, Llanfair; a Michael, Caergwrle. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarweh i Mr Rees am ei bapyr gwerthfawr a'i wasanaeth ffyddlon yn y gadair yn ystod y flwyddyn.