Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESIONI.

News
Cite
Share

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESIONI. 7; GAN SlLITRYPT). ■' PENOD IX. ER mor enwog oedd yr Atlirofa. lion yn ei hathraw. ac yn y rhan luosocaf o'i myfyrwyr fel dysgwyr eyflym a diwyd, yr oedd er hyny amryw o fechgyn a'r penau coed (wooden-headed boys) ynddi ar wahanol amserau a pharhasant lawer o ofid i'r meistr, ac o lawenydd i'r myfyrwyr ereill. Fe ddaeth un yma o ardal Handilo—wr ieuanc gwyn a theneu ei wyneb, o faintioli cyffredin, ac oddeutu ugain oedd, feddyliem, wrth ei wynebpryd. Yr oedd y g\vr ieuanc yn dra chrefyddol, ac yn feddianol ar ddawn gweddi rhagorol, ac yn bregethwr poblogaidd ond er y cyfan, nid oedd mor enwog i ddysgu rkifyddiaeth (arithmetic), hanesiaeth Lloegr, a'r gramadeg Saesoneg, ac oherwydd hyn nid oedd yr athraw ac yntau yn gyfeillion serchog iawn tuag at eu gilydd. Pan ddeuaj i ddangos ei symiau rhifyddol ar y slate i'r athraw. gwclai Inrnw gamsyniadau ami yn ei waith yn lluosogi rhif wrth rif, a gofynodd a oedd yn gwybod y multiplication table. Cafodd rai gofyniadau ganddo er gweled a oedd yn hyddysg yn y table hwnw, a methodd yr ysgolhaig a'i ateb yn iawn. Rhoddodd yr athraw iddo i'w ddysgu lyfr ceiniog hychan- Penny Table Book Keble. Yr oedd golwg allanol y llyfryn bychan hwnw yn destlns iawn. Ar un wyneb i'r clawr yr oedd cwmpas morwr hardd a'r lioll bwyntiau arno, ac yr ochr arall i'r clawr yr oedd banes am lyfrau ysgol gwerth- fawr i'w gweled ond oddifewn yr oedd y perlau, neu yr boll tables, o'r multip-lication hyd. tables pob rhyw bwys a mesur. Yr oedd yr athraw yn awr yn meddwl y buasai y gwr ieuanc hwn yn gyru fel Jehu gynt, trwy y taflenau, ae y buasai yn ebrwydd yn arith- metician ail i Dr "Wallia neu Syr Isaac Newton. Hyd 12 times 12 oedd terfyh ei addysg yn y Multiplication Table, yn ol gofyniad y meistr. Dysgwyliai iddo ddysgu hyny mewn ychydig oriau, ond aeth wythnosau rvwfodd heibio heb ei ddysgu. Aeth yr athrawhellach i'w drin yn chwerw am ei ddifaterweh i ddysgu y daflen, ac aeth o'r diwedd i'w wawdio yn y doqqerel canlynol Mae'r Multiplication yu ddigon o rôr I LI andilo tra huan a Hoer. :\lae'r Multiplication yn ddigon o hyd 1- Llandilo tra fyddo'n yn y byd. Cynhyrfodd y gwr ieuanc yn aruthrol dan seiniau y gan yna, a mwy fyth wrth glywed bechgyn bach yr ysgol yn ei hail adrodd yn awr a phryd arall wrtho. Y canlyniad fu iddo fyned adref fel un wedi ei glwyfo oherwydd ei ddiogi meddyliol, ac ni ddychweiodd yn ol, eithr aeth i ysgol Mr Evans y Crwys. Pa un a ddyagodd yno y Multiplication Table ai peidio, nis gwyddom. Darfu i ni glywed iddo gael galwad gan eglwys luosog yn rhan dde- z, orllewinol o sir Gaerfyrddin, ac iddo gael corn olew ar ei ben yno fel esgob yr eglwys hono. Bu gwr pendew arall yma hefyd—mab i freeholder—yn ceisio dysgu rhifyddiaeth. Bn yma chwe' mis yn myned trwy Addition of Integers yn rhyw glem. Ba wedi hyny yn ceisio deall y ffordd i dynu un rhif o rif arall (subtraction), ond aeth i'r pridd tew a'r clai tomlyd, nes methu symud. Ceisiodd yr athraw egluro y ffordd iddo, a holodd ef gan ofyn, Pe byddai naw aderyn ar ben flwyn, a bod gwr a dryll ganddo yn saethu pump ohonynt, pa sawl un fyddai ar ol? Dim un, syr." "Pa fodd hyny?" "Am y byddent wedi hedfan ymaith bob un." ''Wei," meddai, "meddyliwch fod gan eick tad bymtheg o ddefaid, a bod butcher yn gyru naw ohonynt o'r cae, pa sawl un fyddai yno P Chwareuai y bachgenyn hwn ei wefusai i'r lan ac i lawr, fel pe buasai yn cyfnf pa sawl eiliad sydd mewn eanrif o flynyddau, ond ni ckafodd y meistr un ateb i'w ofyniad. tfu y bachgenyn rhyfedd hwn yno nes gorphen y chwarter ysgol, a dywedodd y meistr wrth ei dad fod yn well iddo ei gadw gartref n'es y deuui yn hynach fod rhai yn hir cyn dysgu, megys y diweddar Syr Walter Scott a Dr Adam Clark, a'u bod wedi tyfu i fyny i addfedrwydcl yn dyfod yn ddynion dysgedig iawn. Bu yma fyfyrwyr o nodwedd wahanol i'r rhai blaenorol, sef Mr Rees Hees, Yspien, ger Penygroes, plwyf Llandybie. Un rhyfeddob i ddysgu ar ei gof oedd y backgen ieuane hwn. Efe a Mr David Price, o'r Baily Vicar, ger Llansawel, oedd y rhai goreu i ddysgu o neb ydyrnyn gofio a fu yn yr Atlirofa. Yr oedd Air Rees yn dueddoi iawn i hysbysu newyddion am yr ysgolheigion wrth yr athraw. Yr oeddynt, oblegid hyn, yn dra anfoddlan wrtho. Yr oedd rhyyrfatli o ymddial yn sier o ddilyn gwyr y glap, ac felly y bu gyda Mr Rees, Fe ddarfu i'r ysgolheigion a arosent yn yr Athrofa ganol dydd i fwyta eu ciniaw benderfyau dal pob cacyneu a phob piffgyuen. a monyg am eu bysedd, a oedd yu y ty ac ar y cae cyfagos, a'u gosod yn nghwdllyfrau Mr Reea. Crynhoisant i mewn ddwseni lawer. Am 2 o'r gloch, dyma yr athraw i mewn ac amryw o'r myfyrwyr. Daeth Mr Rees yn fuan ar eu hoi yn eofn a bywiog, ac i gydio yn ei gwd. Yr oedd l'hyw swn miwsig rhyfeddol yn hwnw ag a dynodd sylw y myfyrwyr oedd yn agos, a dechreuasant ofyn, "Peth sydd yn bod yma heddyw?" Agorodd Mr Pees enau ei gwd llyfrau, i. dyma y dyrfa anhywedd allan fel cwmwl, a phigasant. M r Rees, Chwarddai yr ysgolheigion, ac nid oedd y meistr heb wenu hefyd. Gorchymynodd agoryd y drws a'r fienestri i'r giwdawd an- esmwyth a gwenwynig hyn fyned allan, :i dywedodd, That is your work. Mr Joshua Thomas," sef mab Mr Thomas, Maestroyddin- fach. Ni chariodd Mr liees unrhyw glap ar yr ysgolheigion byth ar ol y waith hon. Dwy bitfgwnen a'u pigodd cf, ac hysbysodd Mr Henry Harries, o Cwrtycadno, ef—yr liwri* oedd yn fyfyriwr ar y pryd yn yr Athrofa-am iddo ddodi sudd wynwyri wrth y pigiadau, ac y cawsai weilhad yn ebrwydd o'i boeaau,

CYMANFA MALDWYN.

YMYLON Y FFORDD