Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESIONI.
News
Cite
Share
ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESIONI. 7; GAN SlLITRYPT). ■' PENOD IX. ER mor enwog oedd yr Atlirofa. lion yn ei hathraw. ac yn y rhan luosocaf o'i myfyrwyr fel dysgwyr eyflym a diwyd, yr oedd er hyny amryw o fechgyn a'r penau coed (wooden-headed boys) ynddi ar wahanol amserau a pharhasant lawer o ofid i'r meistr, ac o lawenydd i'r myfyrwyr ereill. Fe ddaeth un yma o ardal Handilo—wr ieuanc gwyn a theneu ei wyneb, o faintioli cyffredin, ac oddeutu ugain oedd, feddyliem, wrth ei wynebpryd. Yr oedd y g\vr ieuanc yn dra chrefyddol, ac yn feddianol ar ddawn gweddi rhagorol, ac yn bregethwr poblogaidd ond er y cyfan, nid oedd mor enwog i ddysgu rkifyddiaeth (arithmetic), hanesiaeth Lloegr, a'r gramadeg Saesoneg, ac oherwydd hyn nid oedd yr athraw ac yntau yn gyfeillion serchog iawn tuag at eu gilydd. Pan ddeuaj i ddangos ei symiau rhifyddol ar y slate i'r athraw. gwclai Inrnw gamsyniadau ami yn ei waith yn lluosogi rhif wrth rif, a gofynodd a oedd yn gwybod y multiplication table. Cafodd rai gofyniadau ganddo er gweled a oedd yn hyddysg yn y table hwnw, a methodd yr ysgolhaig a'i ateb yn iawn. Rhoddodd yr athraw iddo i'w ddysgu lyfr ceiniog hychan- Penny Table Book Keble. Yr oedd golwg allanol y llyfryn bychan hwnw yn destlns iawn. Ar un wyneb i'r clawr yr oedd cwmpas morwr hardd a'r lioll bwyntiau arno, ac yr ochr arall i'r clawr yr oedd banes am lyfrau ysgol gwerth- fawr i'w gweled ond oddifewn yr oedd y perlau, neu yr boll tables, o'r multip-lication hyd. tables pob rhyw bwys a mesur. Yr oedd yr athraw yn awr yn meddwl y buasai y gwr ieuanc hwn yn gyru fel Jehu gynt, trwy y taflenau, ae y buasai yn ebrwydd yn arith- metician ail i Dr "Wallia neu Syr Isaac Newton. Hyd 12 times 12 oedd terfyh ei addysg yn y Multiplication Table, yn ol gofyniad y meistr. Dysgwyliai iddo ddysgu hyny mewn ychydig oriau, ond aeth wythnosau rvwfodd heibio heb ei ddysgu. Aeth yr athrawhellach i'w drin yn chwerw am ei ddifaterweh i ddysgu y daflen, ac aeth o'r diwedd i'w wawdio yn y doqqerel canlynol Mae'r Multiplication yu ddigon o rôr I LI andilo tra huan a Hoer. :\lae'r Multiplication yn ddigon o hyd 1- Llandilo tra fyddo'n yn y byd. Cynhyrfodd y gwr ieuanc yn aruthrol dan seiniau y gan yna, a mwy fyth wrth glywed bechgyn bach yr ysgol yn ei hail adrodd yn awr a phryd arall wrtho. Y canlyniad fu iddo fyned adref fel un wedi ei glwyfo oherwydd ei ddiogi meddyliol, ac ni ddychweiodd yn ol, eithr aeth i ysgol Mr Evans y Crwys. Pa un a ddyagodd yno y Multiplication Table ai peidio, nis gwyddom. Darfu i ni glywed iddo gael galwad gan eglwys luosog yn rhan dde- z, orllewinol o sir Gaerfyrddin, ac iddo gael corn olew ar ei ben yno fel esgob yr eglwys hono. Bu gwr pendew arall yma hefyd—mab i freeholder—yn ceisio dysgu rhifyddiaeth. Bn yma chwe' mis yn myned trwy Addition of Integers yn rhyw glem. Ba wedi hyny yn ceisio deall y ffordd i dynu un rhif o rif arall (subtraction), ond aeth i'r pridd tew a'r clai tomlyd, nes methu symud. Ceisiodd yr athraw egluro y ffordd iddo, a holodd ef gan ofyn, Pe byddai naw aderyn ar ben flwyn, a bod gwr a dryll ganddo yn saethu pump ohonynt, pa sawl un fyddai ar ol? Dim un, syr." "Pa fodd hyny?" "Am y byddent wedi hedfan ymaith bob un." ''Wei," meddai, "meddyliwch fod gan eick tad bymtheg o ddefaid, a bod butcher yn gyru naw ohonynt o'r cae, pa sawl un fyddai yno P Chwareuai y bachgenyn hwn ei wefusai i'r lan ac i lawr, fel pe buasai yn cyfnf pa sawl eiliad sydd mewn eanrif o flynyddau, ond ni ckafodd y meistr un ateb i'w ofyniad. tfu y bachgenyn rhyfedd hwn yno nes gorphen y chwarter ysgol, a dywedodd y meistr wrth ei dad fod yn well iddo ei gadw gartref n'es y deuui yn hynach fod rhai yn hir cyn dysgu, megys y diweddar Syr Walter Scott a Dr Adam Clark, a'u bod wedi tyfu i fyny i addfedrwydcl yn dyfod yn ddynion dysgedig iawn. Bu yma fyfyrwyr o nodwedd wahanol i'r rhai blaenorol, sef Mr Rees Hees, Yspien, ger Penygroes, plwyf Llandybie. Un rhyfeddob i ddysgu ar ei gof oedd y backgen ieuane hwn. Efe a Mr David Price, o'r Baily Vicar, ger Llansawel, oedd y rhai goreu i ddysgu o neb ydyrnyn gofio a fu yn yr Atlirofa. Yr oedd Air Rees yn dueddoi iawn i hysbysu newyddion am yr ysgolheigion wrth yr athraw. Yr oeddynt, oblegid hyn, yn dra anfoddlan wrtho. Yr oedd rhyyrfatli o ymddial yn sier o ddilyn gwyr y glap, ac felly y bu gyda Mr Rees, Fe ddarfu i'r ysgolheigion a arosent yn yr Athrofa ganol dydd i fwyta eu ciniaw benderfyau dal pob cacyneu a phob piffgyuen. a monyg am eu bysedd, a oedd yu y ty ac ar y cae cyfagos, a'u gosod yn nghwdllyfrau Mr Reea. Crynhoisant i mewn ddwseni lawer. Am 2 o'r gloch, dyma yr athraw i mewn ac amryw o'r myfyrwyr. Daeth Mr Rees yn fuan ar eu hoi yn eofn a bywiog, ac i gydio yn ei gwd. Yr oedd l'hyw swn miwsig rhyfeddol yn hwnw ag a dynodd sylw y myfyrwyr oedd yn agos, a dechreuasant ofyn, "Peth sydd yn bod yma heddyw?" Agorodd Mr Pees enau ei gwd llyfrau, i. dyma y dyrfa anhywedd allan fel cwmwl, a phigasant. M r Rees, Chwarddai yr ysgolheigion, ac nid oedd y meistr heb wenu hefyd. Gorchymynodd agoryd y drws a'r fienestri i'r giwdawd an- esmwyth a gwenwynig hyn fyned allan, :i dywedodd, That is your work. Mr Joshua Thomas," sef mab Mr Thomas, Maestroyddin- fach. Ni chariodd Mr liees unrhyw glap ar yr ysgolheigion byth ar ol y waith hon. Dwy bitfgwnen a'u pigodd cf, ac hysbysodd Mr Henry Harries, o Cwrtycadno, ef—yr liwri* oedd yn fyfyriwr ar y pryd yn yr Athrofa-am iddo ddodi sudd wynwyri wrth y pigiadau, ac y cawsai weilhad yn ebrwydd o'i boeaau,
CYMANFA MALDWYN.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYMANFA MALDWYN. Cynaliwyd hon eleni yn y Foel, ger Llan- erfyl, ar y ISfed a'r 19eg o Mehefin. Yr oedd yn bresenol yn y Gynadledd boreu dydd Mercher y gweinidogion a'r lleygwyr canlyuol "y Parchn Rees, Carno (y cadeirydd am y ilwyddyn); Jones, Meifod; Evans, Foel; Roberts, Penybontfawr Morris, LIanrhaiadr Charles, Croesoswallt; Hughes, Llansantffraid Lewis, Birmingham; Roberts, Cefnfaenor Edwards, Sardis; Thomas, Glandwr, Abertawy Thomas a Phillips, Trallwm; Morgan, Llan- wddyn; Jones, Llansilin; Mason, Penycoed; Mri C. R. Jones, Y.H,LlanfyI!in; Hugh Davies, Llanfair Thomas, pregethwr. cynorth- wyol, Trallwm; Thomas Jones. Edward Evans, Rowland Hughes, o'r Foel, ac ereill. Wedi i'r Cadeirydd ddarllen cyfran o'r Gair, ac i Mr Jones, Machynlleth, weddio, cafwyd ychydig eiriau agoriadol o'r gadair, ac yna aed drwy y gweithrediadau yn y dref'n ganlynol: — 1: Ceisiwyd gan Mr Hughes, Llansantffraid, i ymgvrneryd a bod yn ysgrifenydd yn ystod y Gyunaufa. 2. Darllenwyd achadamhawyd. cofnodion y cyfarfod blaenorol. 3. Pvvnc y Dadgysvlltiad. — Hysbysvvyd fod deisebau o blaid y mudiad eisoes wedi eu har- wyddo a'u hanfon i'r Senedd o Caruo, Sammah, Llanfair, Lianrhaiadr, a Penarth; ac amlygwyd dymuniad taer ar i'r eglwysi ereill yn y sir wneyd yr un modd, a hyny mor fuan ac mor drwyadl ag y byddo yn bosibl. 4.—Trysorfa y Jubili.—Penderfynwyd fod y cyuorthwy blynyddol dyledus i'r Cyfundeb hwn am y flwyddyn sydd newydd derfynu i gael ei gadw mewn Haw a'i ychwanegu at y swn: a geir y flwyddyn ddyfodol; yna fod y cyfanswm i gael ei ranu cydrhwng yr eglwysi dyledog yn ol cyfartal- edd yr hyn a gesglir gan bob un o hyn i Mawrth nesaf. 5. Awdurdodwyd y Cadeirydd i arwyddo deiseb dros y Gynadledd i'r Senedd o blaid cau y tafarn- dai ar y Sabboth yn Lloegr. ô. Derbyniwyd y brodyr Morgan, Llanwddyn, a Jones, Llansilin, yn gynes i'r Cyfundeb, 7. Galwodd y Parch R. Thomas, Glandwr, Abertawy, sylw y Gynadledd at y mudiad sydd yn awr ar droed i sefydlu trysorfa Gymreig er cynal- iaeth gweinidogion Cymreig mewn cystudd yn gystal ag mewn henaint, ac at y manteision a fwriedir eu cyayg i'r sawl a ymunant a'r gym- deithas. 8. Gwnaed cais am y Gymanfa y flwyddyn nesaf gan dair o eglwysi, sef Llanrhaiadr, Trallwm, ti Chroesoswallt. Aeth y bleidlais derfynol yn ffafr yr olat' a enwyd. 9. Y Oyfarfod Chwarterid nesfifi fod yn Sardis. Mr Evans, Foel, i bregethn ar Y cysylltiad rhwng Cyfiawnhad a Sancteiddhad," a Mr Powell, Drefnewydd, ar bwne ymarferol a roddir iddo gall eglwys Sardis. 10. Cvdunwyd i roi y symiau canlynol allan o Drysoria y Sir :— £ 7 i Meifod, £ 7 i Penybont, a .£3 i Penycoed. Prydnawn yr un dydd, cynaliwyd seiat o dan lywyddiaeth Mr Jones, Machynlleth. Wedi i Mr Morris. Llanrhaiadr, weddio, cafwyd papyr gwerthfawr ac auiserol gau Mr Rees, Carno, ar ei waith yn ymddeol o'r swydd o gadeirydd. Y testyn a ddewisodd oedd Yr Eglwys," a sylwodd arni fel teyrnas, ysgol, teulu, a gwinllan. Bu rhydd-ymddyddan buddiol ac adeiladol ar y mater, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y brodyr Davies, Am- wythig Lewis, Birmingham Charles, Croes- oswallt; Jones, Pencader (gynt o America);
YMYLON Y FFORDD
News
Cite
Share
fa ei ddylanwad ar gredo yr Enwad. Ond efe a fu farw Chwith iawn genyf feddwl fod Raleigh, a Mellor, a Baldwin Brown, y rhai yr ydwyf mor dda yn cofio eu cychwyn- iad allan yn ddynion ieuainc, erbyn hyn wedi myned, ac nid oes ond nifer fechan o'u cyfoed yn aros. Mae gan Dr Hannay lythyr yn y Noncon- formist and Independent am yr wythnos hon yn ei berthynas a'r PARCH J. WOOD A'R (TNDEB CYNTTLLEIDFAOL, ac nid yw wedi ei gyhoeddi ddiwrnod yn rhy fuan. Y Joseph Wood yma oedd wein- idog yr eglwys Gynulleidfaol yn Leicester, ac yr oedd yn un o'r rhai blaenaf yn ngl^n a'r hyn a adnabyddid fel y Leicester Con- ference. Mae yn awr wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys Undodaidd yn Birming- ham, ac felly wedi myned i'w le ei hun, er y dywed ef nad yw yn gwneyd dim ond myned o un eglwys rydd i eglwys rydd arall, ac ychwanega fod yrhollTJndeb Cynnlleidfaol yn awr er's un mlynedd ar ddeg yn gwybod nad ydyw efe yn Drindodwr ac yn wir, ei fod mewn llawer ystyr yn llai uniongred na llawer o Undodwyr." Mae Dr Hannay yn ei gynieryd i fyny am hyny, ac yn dyweyd na wyddai yr Undeb Cynulleidfaol, fel y cyfryw, mo hyny, ac na bu golygiadau duw- inyddol Mr Wood erioed o flaen yr Undeb ac ychwanega nad oedd wedi deall fod 11 u- aws aelodau yr Undeb yn gwybod nad oedd yn Drindodwr." Gwyddent fod Mr Wood yn perthyn i ysgol sydd yn arfer siarad yn ysgafn am athrawiaeth a chredo, ond y mae lluaws o'r cyfryw yn adnabyddus fel rhai yn dal allan briodol Dduwdod Crist ac athrawiaeth y Drindod; a buont yn ddigon rhyddfrydig i gredu hyny am Mr Wood, a'i oddef mewn Undeb a ddatganodd yn eglur chwe' blynedd yn 01 mai un o'i amcanion ydyw dal i fyny a belaethu cref- ydd efengylaidd," a'i fod wedi ardystio ei ymlyn ad wrth "ffeithiau ac athrawiaethau y ffydd efengylaidd ac yn mysg yr ath- rawiaethau hyn y mae cnawdoliaeth ac aberth iawnol yr Arglwydd Iesu Grist; ac eto bu Mr Wood yn ddigon diegwyddor i aros yn yr Undeb sydd yn seiliedig ar y gwirioneddau yna, ac yntau er's un flynedd ar ddeg heb fod yn Drindodwr," ac mewn llawer ystyr yn llai uniongred na llawer o Undodwyr." Dyma y bobl sydd yn son am onestrwydd, a thrwyy blynyddau yn hwylio o dan liwiau twyllodrus. Os oes rhagor o'r fath i'w cael yn yr Enwad, goreu pa gyntaf iddynt fyned yr un ffordd. LLADMERYBJ). i