Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y FFORDD

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD Nos Sadwm, Mehefin 28ain. BORJKU heddyw daeth i'm Haw yn bam- phletyn tlws DDWY BREGETH ANGLADDOL i Mrs Evans, anwyl briod Mr Joseph Evans, Croesoswallt. Saesoneg yw y gyntaf, a thraddodwyd hi boreu Sabbotb, Mai 4, yn nghapel Whittington, ger Haw Brynhyfryd, lie y mae Mr Evans yn byw, a lie y bu Mrs Evans farw, gan y Parch E. M. Edmunds, oddiar y geiriau, Oblegid yr ydwyf yn cvf- rif nad yw dyoddefiadau yr amser presenol hwn yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni." Mae v bregeth arall yn Gymraeg, a thraddodwyd hi hwyr yr un Sabboth yn Hermon, Croesoswallt, gan v Parch J. Charles, oddiar y geiriau, Os yd- ym yn cyd-ddyoddef gydag ef fel y'n cyd- ogonedder hefyd." Dau destyn nodedig o gyfaddas, oblegid gwelodd Mrs Evans ami a blin gystuddiau." Yn ychwanegol i'r eyf- addasder sydd yn y pregethau yn en perth- ynas a'r ymadawedig, a'r deyrnged deilwng a delir iddi^ar gyfrif ei charedigrwydd a'i pharodrwydd i bob gweithred o dynerwch, y maent yn Ilawn cysur a dyddanwch i'r rhai sydd yn cyfarfod a phrofedigaethau; er y mae yn sicr genyf na byddant yn fwy felly i neb nag i'm cyfaill Mr Evans, yr hwn sydd yn teimlo yn ddwfn oblegid colli priod ei ienenctyd. Darllenais yn ddiweddar gofiant dyddorol y Parch S. Edwards, Machynlletb, i Mrs Evans, Morben, yr hwn a gyhoeddwyd yn y Dysgedydd ryw ugain mlynedd yn ol; ac yr wyf yn gobeithio yr erys y ffydd ddiffUant yn y teulu o genedl- aeth i genedlaeth. Anfondd y Parch J. P. Jones, Caerwent Hous,e Bridgend, i mi gopi o banes BYWYD A LLAFUR GEORGE MULLER. Cyhoeddwyd y llyfryn yn Saesoneg gan Mrs Muller, yr hwn sydd yn cynwys crynodeb o'r cyfrolau sydd eisoes wedi ymddangos ar banes Mr Muller a'r sefydliadau sydd wedi eu cychwyn ganddo, a'r gwaith mawry mae wedi ei wneyd. Mae Mr Jones wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, ac yn sier nid edifarha neb am roddi chwecheiniog am dano. Dyn rhyfedd yw George Muller, a hanes rhyfedd, o'i febyd i fyny, yw ei hanes. Ni bu yn yr oes yma, os bu yn wir mewn unrhyw oes, engraifft fwy llwyr o ymddiried yn yr Ar- glwydd. Pell wyf o dybied y gall pawb gael arian at gynal sefydliadau cyhoecidus fel y mae efe yn eu cael yn unig drwy weddio. Mae casglu oddiar ddynion mor onest ac mor grefyddol ag ydyw gweddio ar Dduw, ond y mae yn eglur ei fod ef yn ddyn o ffydd gref, a'i hyder yn ddiysgog yn Nuw y caiff ganddo bob peth sydd arno ei eisieu ond gofyn gan gredu. Mewn oes faterol fel hon, a pban y mae y fath duedd i ambeu llwyddiant gweddi, y mae yn iecbyd i ys- bryd dyn i gyfarfod ag ambell un a chanddo ffydd ddiderfyn yn ngallu gweddi, ac y mae Ilawer llai o berygl mewn hyd yn nod credu gormod yn y cyfeiriad yna na chredu rby fach. Mae tystiolaethau dynion fel Muller a. Spurgeon o'r hyn y maent yn ei gael f mewn atebiad i'w gweddiau yn rhwym o beri i ainheuwyr goleuedig ymbwyllo ac arafu. Gyda Haw, y maent newydd fod yn cadw JUBILI MR SPURGEON ar ben ei haner canfed flwyddyn. Dyma ddyn wedi gwneyd gwaitb aruthrol cyn bod yn haner cant oed ae, fel rbeol, y mae y rhai sydd wedi gwneyd gwaith raawr yn y byd wedi ei wneyd cyn d'od i'r oedran hwnw. Yn y cyfarfod cyntaf ei deulu ef ei hun—ei dad a'i blant—oedd yn eymeryd y lie mwyaf amlwg. Mae yn hanu o hen gyff Anghydffurfiol, ac yr oedd ei daid a'i dad, yr hwn sydd eto yn fyw, yn weinidogion Anpibynol. Difyrus iawn oedd clywed ei dad yn siarad am dano ef, ac yntau yn siarad am ei dad, a'i fab yntau drachefn yn son am dano yntau, gan dderbyu gogoniant gan eu gilydd, fel yr oedd yn ddigon natur- iol ar y fath achlysur heblaw fod y Saeson yn siarad cymaint am danynt eu hunain fel y cyfrifid y peth yn dipyn o fyfiaeth gan y Cymry. Cafwyd cyfarfod arall gan y rhai oddiallan, yn -yr hwn y llywyddai larll Shaftesbury, ac yr oedd Canon Wilberforce, Dr Todd, Dr Parker, Newman Hall, a Syr W. McArthur yn mysg y siaradwyr, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oeddynt oil yn talu y deyrnged uchaf i Mr Spurgeon. Cyflwyn- wyd cheque iddo am £4,500, ond dywedid nad oedd hyn ond cyfran o'r dysteb a wneid iddo, gan fod y rhestr eto yn agored ac y mae yn cael ei rhoddi iddo ar yr amod ei fod yn defnyddio yr arian at ei wasanaeth ei hun, ac nid eu rhoddi i'r un o'r sefydliad- au yn ngtyn a'i eglwys. Wrth son am dystebau, nis gallaf fyned heibio heb gyfeirio at DYSTEB MR HENRY RICHARD, A.S. Gwnaed hi yn ddidwrw, fel y dylai pob tysteb gael ei gwneyd, ac mewn amser byr ac yr oedd wedi ei chyflwyno cyn i odid neb wybod ei bod ar droed. Gwyr pawb fod ein cydwladwr enwog wedi cyflwyno ei oes i achos heddweh. Cynjerodd y ewrs yma yn foreu yn ei fywyd, ac ar bob amgylchiad glynodd wrtho. Yr oedd yn adnabyddus fel dadleuydd medrus dros heddwch cyn ei apwyntiad fel Ysgrifenydd Cymdeithas Heddwch. Ei allu fel amddiffynydd yr egwyddor, yn gystal a'i fedr i'r swydd, a'i sicrhaodd iddo. Gan nad yw yni ieuenctyd yn parhau byth, awgrymodd yn ddiweddar ei awydd, ac yn wir ei benderfyniad i ym- neillduo o'r swydd, ond gwasgwyd arno i aros a dydd Iau diweddaf yr oedd boreu- fwyd yn cael ei roddi gan Lady Pease i gwmni lluosog, a cbyn yinadael cyflwynwyd cheque am £4,000 i Mr Richard gan gefnog- wyr Heddwcb fel arwydd o'u parch iddo am ei hir wasanaeth i'r achos. Yn sicr y mae pob Cymro yn llawen am yr anrhydedd ychwanegol yma sydd wedi ei roddi ar un y mae gan gorff y genedl Gymreig ymddiried ynddo; ac er nas gallaf fi mwy na llaw8r ereill fyned gydag ef yr boll fforcld bob am- ser, y maegenyfy parch dylnaf i'w onest- rwydd,a'i gydwybodolrwydd,a'i ffyddlondeb i argyhoeddiadau ei gydwybod ac nid oes ly yn Seaedd ein gwlad yr un dyn sydd, ar y cyfan, yn cynrychioli mor deg a chyflawn olygiadau iluaws ein cenedl ar- gwestiynau cymdeithasol ac Eglwysyddol. Gobeitbio fod yn ol iddo eto lawer o flynyddoedd. Tarawyd fi yn rymus pan welais grybwyll- iad am FARWOLAETH GRIFFITH HUGHES, EDEYRN. Er y gwyddwn ei fod yn llesgau er's blyn- yddau, ac yn llawn 80 oed, eto teimlais yn chwith pan welais ei farw. Mae yn un o'r pregethwyr cyntaf wyf yn ei gofio, ae yr wyf yn ei gofio yn ddyn ieuanc penfelya. Puritan trwyadi, dirwestwr o'r sect fanylaf am hauer can' mlynedd, gwrthysmygwr llym, Rhyddfrydwr egwyddorol, ac am dymhor hir yr oedd o flaen ei oes. Yn mrwydrau yr athrawiaeth yn sir Gaernarfon ddeugain mlynedd yn ol, ni chymerodd neb ran mor flaenllaw, ac nid ymladdodd neb fwy yn erbyn gorfaeliaeth yr hen bregeth- wyr o bob awdurdod, er y teimlai y rbai a ddaeth ar ei ol ef fod gormod o'r un ysbryd ynddo yntau. Diau ei fod weithiau yn llym ac eithafol, ond Israeliad yn wir ydoedd, ac un o ddosbarth sydd yn myned yn fychan, y mae arnaf ofn, ond y mae yn dda i'r byd ei fod. Sylwedydd craff, siaradwr pared, neb wybod dim am ofn dyn i beri magi. Methodist ydoedd, a hwyrach y cyfrifai rhai ef yn gul, ond yr wyf yn meddwl ei fod ef, a'r hen ysgol i'r hon y perthynai, yn llawn mor rydd a diragfarn at enwadau ereill a'r to a ddaeth ar eu bol hwy sydd yn proffesu cyfeillgarwch a rhyddfrydigrwydd llawer mwy. Byddai hanes bywyd Griffith Hughes, Edeyrn, gyda chofnodiad llawn o'r rhan a gymerodd yn mrwydrau ei enwad a'i wlad, yn benod ddyddorol yn hanes Cymru. Pwy a wna hyn ?-Ac y mae Y PARCH .T. BALDWIN BROWN WEDI MABW Gwyddwn ei fod yn wael, a bod ei nerth er's tro wedi gwanychu, ond ni feddyliais ei fod mor agos i angeu. Yr oedd yn ddiau yn un o ddynion galluocaf a dysgedicaf ein Henwad yn Lloegr, er fod llawer o ryw niwl o gylch ei syniadau. Yr oedd yn ddyn defosiynol iawn, yn cael ei fawr hoffi gan y rhai a'i hadwaenent oreu, ac felly cariai ddylanwad mawr drostynt. Yr oedd yn Ymneillduwr egwyddorol, ac yn Annibynwr cryf. O'r braidd na chariai ei syniadau mor bell nes yr edrychai ar Annibyniaeth yn fwy fel syniad, neu dystiolaeth i'w dwyn dros ryddid personol ac eglwysig, nag fel cyfundrefn ymosodol i wneyd gwaith ymar- ferol yn y byd. Nid wyf yn ty bied ei fod wedi cilio mewn credo oddiwrth yr hyn a ystyrir yn hanfod yr Efengyl, ac yr oedd crefyddolder ei ysbryd yn ei ddyogelu rhag hyny ond yr oedd y niwl oedd dros ei syn- iadau, a'i hotrder i roddi gwedd newydd ar bethau, a'i gydymdeimlad a'r-rhai mwyaf eang eu golygiadau, yn peri i lawer dybio ei fod yn gwyro oddiar yr hen lwybrau ac yn sicr yr oedd llawer o'r ymadrqddion a ddefnyddiai yn sail i dybied felly, er ei fod ef ei hun wrth egluro ei hUD yn gwrthod yr ystyr a gysylltid a'i eiriau. Diau i lawer o feddyliau gwauach nag ef, ac heb ei gref- yddolder a'i ddefosiwu ef, wrth ei gymeryd ef yn arweinydd, fyned yn mhell o'r ffordd a gyfrifir yn uniongred, fel nad iacbus iawn