Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

BEULAH, GWLAD BUALLT.

News
Cite
Share

BEULAH, GWLAD BUALLT. Saif Beulah ychydig yehwaneg na dwy filltir o orsaf y Garth, ar y Central Wales Railway, yn Nghantref Buallt, Brycheiniog. Beula-h y gelwir capel yr ejlwys Annibynol a gyferfydd yn y gymydogaeth, ond erbyn hyn y mae wedi rhodd ei cnw ar y gymydogaeth, canys Beulah y gelwir y pentref bychan gerylle, yn nghyda'r wlad oddiamgylch. Adeiladwyd y capel cyntaf yn ystod gweinidogaeth y diweddar Hybarch David. Williams, Troedrhiwdaiar, yn y .flwyddyn 1821. Aceit- ad digon cyffredin a diadduru ydoedd y eyfryw un, ond ymwelo ld y Netoedd a'r He hwnw, a chafwyd ynddo oedfaon nad anghofir mobonynt gan y sawl gawsant y fraint o'u mwynhau. Yn ystod diwygiad angerddol 1840 y cawn am Mr Williams pan yn dychwelyd o gyfarfod yn llanwrtyd, ar nos Sabboth yn cael y gynulleidfa wedi methu ymadael a'u gilydd pan gyr- baeddodd Beulah. Aeth l fyny at yr addoldy, disgyn- odd oddiar ei anifail gan ei adael ar yr heol ac yr oedd yn eu canol mewn ychydig eiliadau ar ben bwrdd y set fawr inor gynes a neb ohonyntyn moliariu yr A ghvydd. Nid gorcbwyl hawdd fu ymadael y noson hono. Llawer o oedfaon cyffelyb a fwynhawyd yn y cyfnod bendigedig hwuw, a cheir y sawl ydynt yn aros hyd y dydd hwn o'r sawl a fwynhasant y cyfryw, yn huaetiin am amser cyffnlyb yn Seion y dyddiau hyn, a'u gweddi at yr Arglwydd yw, Dyro i ni drachefn o orfoledd yr iachawdwriaeth. Pa le mae dy hen drugareddau P" Diau y byddai ymweliad cyffelyb i'r cyfryw yn fen- dithiol neillduol ar yr adeg farwaidd bresenol. D osgo i yr Arglwydd eto fraich ei sancteiddrwydd yn ngwydd yr holl bobl. Buan wedi 'yr adfywiad nerthol hwnw aeth yr hen addoldy yn rhy fycban. Awyddai Mr Williams ei estyn allan drwy yn unig dynu i lawr fur un taleen iddo, gan adael yr oll fel yr oedd ond hyny. Ofnai osod ar yr eglwys faich rhy drwm drwy adeitadu addoldy nag gallasai dalu am danc. Ond yr oed I yno amryw, ac yn wir mor belled ag y deallasom, yr oil o'r eglwys yn awyddus am ei gael i lawr, ae adeiladu o'r newydd. Cynaliwyd cyfarfod er penderfynu beth wnelsid, a phan benderfynwyd tynn yr hen i lawr, ac adeiiadu y newy(ld, ahyny mewn modd mwy drudfawr nag y mynasai Mr Williams, y cododd ar ei draed o'r gadair^gan ddywedyd wrthynt am ei adeitadu fel Westminster Abbey, os mynent, na osodai efe droed mewn g'wartbol i gasglu ato, ae yna aeth allan mewn eiliad, a phan yn myued drwy y drws, clywai ei frawd- yn-nghyfraith yn dywedyd nad oeddynt am iddo fyned i gasglu, y talent hwy am dano ea hunain, yr hyn hefyd a wnacthant ar fyr amser, canys yr oedd gan y bobl galon i weithio ar yr adeg gynes hono, 1841. Nld oedd yr adeilad hwnw ond un pur gyffredin, ond yr oedd lawer yn amgen na'r un cyntaf. GwasanaeWiodd yr addoldy hwnw ei genedlaeth, a mwynhaodd llawer wenau y Defoedd ynddo, canys geliid dywedyd am lawer o oedfaon hyfryd a safwyd yn y JIe, ac am lawer a. anwyd drachefn yn y lie. Ond nid oedd yr adeilad hwnw i aros am byth, ond gorfu iddo yntau ) roddi lie i un arall. Dechreu haf 1883, penderfynwyd gan fod yn rhaid pwneyd llawer o ndgyweirio arno cyn y buasai yn ddyoJel i gyfarfod ynddo, ei dynu i lawr a'i ail- adeiladu. Cytunwyd a Mr John Humphrey, Treforris, i w.isanaethu fel arehadeiladydd, yr hwn a gyflawnodd ei waith yn wir ganmolad /y. Wedi cael y plans a'r specifications, syrthiodd y gwath o'i adeiiadu i Mr John Jones. Post Office, Beulah. Ei gyme iad cyntaf ydoedd .£445 yn annibynol ar y cludiad, yr hyn a ym- rwymodd amaethwyr y gynulleidfa ei wneyd yn rhad, yr hyn hefyd a wnaethant yn ewyllysgar. Bu rhai ychwanegiadau at v contract, yr hyn chwyddodd rhyw X20 arno, ac wedi gosod y rnnr a'r railings o gwrnpas ei ffrynt, a'r stove a'r 1 nnpau at y cyfryw, cynyddodd y swm gryn lawer uwchlaw y £500. Ymaflodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn galonog neillduol yn y gwaith, a chafwyd undsb a chvdweithrediad pur gyffredinol. Hefyd, cawsom y fam-eglwys yn Nhroed- rhiwdalar yn wir barod i estyn Haw o gymhorth inegys ag y gwnaeth yn ystod yr un flwyddyn i eglwys yr Olewydd. Anfalltais nid bychan ydoedd fod y gwaith o adeiiadu yn myned yn mlaen yn y ddau le ar yr un &deg, yn enweiig wrth apelio at y gymydogaetb y tu- allan i'r e^lwysi eu hunain. Hefyd, bu cymydogaeth Llanwrtyd. nid yn unig cyfeillion perthynol i'r un ,enwa,d, ond hetyd brodyr a chwiorydd crefyddol o wa- hanol enwadau yn wir garedia, canys rhoddasant i ni gymhorth sylweddol. Drwy y gwahanol gydymdrech- ion hyn, nid oedd ond £100 yn aros erbyn dydd yr agoriad. Decbreuwyd pregethu ynddo ar y 27ain o Ebrill, a chynalivvyd cyfarfodydd yn nglyn a'i agoriad dyddiau Mawrth a Mercher, Mehrfiu y 17eg a'r 18ed. Pregethwyd y noson ayntaf yn Mhroedrhiwdalar gan Jones, B.A., Aberhonddu. ac yn yr Olewydd gan Jones, Ty'nycoed. Am 6.30, yn Benlah, deebreuodd Davies, Merthyr CynoQ, a piiregethodd Thomas, Llan- gynidr, oddiwrth Exod. xxxv. 22 Prosser, Rhaiadr, yn Saesoneg oddiwrth Heb. xi. 40; ac Evans, Pontardn- Jais, oddiwrth Math xiv. 31. Am 10, dydd Mercher, dechreuodd Jones, Ty'nycoed, a phreaethodd Evans, Pontardulais, o Idiwrth Luc xxiii. 28 Griffiths, y cen- adwr o ganolbarth Atfrica, yn Seisonig oddiwrth Rhuf. x. 15, a Jones, Aberhonddu, oddiwrth 1 Cor. ii. 2. Am 2, deehreuodd James (B.)', Pantycelyn, a phreiethodd Jones, Ty'nycoed, oddiar loan xx. 30, 31, a Nicho;s >n, Liverpool, oddiwrth Actau i. 8. Am 6, dechrenodd Jame?, Llanwrtyd, a phregethodd Evans, Pontardulais, oddiwrth Math. xxviii. 45; Thomas. Llaugynidr, yn Saesonez, oddiar 1 loan iii. 23, 24, a Nicholson, Liver- pool, oddiwrth Esaiah xxvi. 3. Cafwyd cynulleidfaoedd anghyffredin o luosog, canys yr oedd yr addoldy yn orlawn yn ystod yr holl gyfar- fodydd, ac ugeiniau yn methu myned i mewn. Yr oedd rhyw eneiniad neillduol ar yr boll gyfarfodydd, teimlid fod yr Arglwydd yn amlwg- iawn gyda'i weis- ion o'r deehreu i'r diwedd, yr hen wirioneddau yn newydd o hyd, ac mor flasus ag erioed. Hyderir y gwelir ffrwythan hwer yn dilyn y cyfarfodydd gwerth- fawr hyn drwy fod yr eglwysi yn y gymydogaeth yn blaguro mewn ffrwythlondeb a sancteiddrwydd, a'r gwrandawyr yn troi eu gwynebau i fewn i Seion, ac yn dyfod yn wneuthurwyr y Gair. Nid oeddym yn dysgwyl rhyw gasgliadau mawr iawn yn ystod y cyfarfodydd agoriadol, canys nid llawer oedd yn bresenol nad oeddynt eisoes wedi cyfrann. Er hyn oll, casglwyd ychydig nwchlaw £ 25. Hyderir na fydd yr ychydig ddyled sydd yn aros yn hir heb eu dileu yn llwyr. Nid yw yr eglwysi yn y cymydogaeth wedi arfer bod mewn dy:ed hyd yn bresenol. Bellach y mae ychydig ar Beulah a'r Olewydd, ond nid ydym mewn modd yn y byd yn gwan.:aloni, ond yn edrych yn y blaen yn hyderus at adeg eu Jubili. Tystiolaeth unfrydol y sawl a welsant y capel newydd yw ei fod yn gyfleus a phrydferth, yn ogystal a'i fod yn neiliduol rad. Nid oes yr un capel mwy c, fleus a phrydferth yn yr oil o sir Frycheiniog, na chapelan newyddion yr Olewydd a Beulah, a diau genym y buasai yn dda gan y diweddar Hybarch D. Williams, yr hwn a lafuriodd mor llwyddianus yn y cyleh am gyniter o flynyddoedd, weled y capelau cyfleus a phrydferth sydd wedi eu hadeiladu yn ei hen gyIch gweinidogaethol. Ond ni ryfeddem nad oedd yn bresenol yn y Beulah a'r Olewydd yn ystod cyfarfodydd agoriadol y naill a'r llall ohonynt. Yr ydym yn bur sicr iddo ofyn am ganiatad i fyneii yno, os ydyw hyny yn unol a deddfau y wlad. A'r hyn sydd wirionedd am dano ef sydd felly hefyd am lawer o frodyr a chwiorydd ereill, megys Buallt Jones, llwch yr hwn a orwedd yn mynwent Beulah, ac ereill. Prydferthed yr Arglwydd ei bobl yn y lie, fel y byddont yn ddodrefn cymhwys i'r deml newydd hardd svdd gandlynt i gyfarfod ynddi i ymofyn a'r Aiglwydd, ac i'w addoli Ef. D. A. G.

EISTEDDIAD BLYNYDDOL UvVCH…

CYMANFA GERDDOROL A PHYNCIOL…