Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

( EI DAITH YN AMERICA. ----

News
Cite
Share

( EI DAITH YN AMERICA. GAN Y PARCH D. JONES, B A., ABERTAWY. Wedi naw diwrnod o fordaith heb weled troed- fedd o dir sych, llawenydd nas gall iaeb ond y profiadol ei ddychymygu oedd gweled arwydd fod tir heb fod yn mhell. Am dri o'r gl<?ch prydnawn ddydd Gwener, Mai 23ain, gwelwn oleudy Fin Island fel pawl (pole) unionsyth yn y cwmwl, fel yr ymddangosai i mi. Wrth fyned yn gyfochrog i Long Island, deuai yr olygfa yn fwy swynol y naill filltir ar ol y Hall, fel, erbyn i ni gyrhaedd genau yr afon, y cwbl allaswn ddyweyd oedd,- Os yw y wlad yn deilwng o'r porth gogoneddus hwn iddi, ni fynegwyd i mi eto yr haner am dani. Cyrbaeddasom yr angorfa tuag wyth o'r gloch nos Wener. Boreu y Sadwrn, am wyth o'r gloch, gosodais fy nhroed am y waith gyntaf ar dir America., ac nid yn fuan yr anghofiafy teimlad. Gyda hyny dymaddyu ieuauc nid adwaenwn yn gosod ei law ar fy ysgwydd/ac yn fy ngbyfarch I wrth fy enw yn Gymraeg. Yr wyf wedi dyfod i'ch cyfarfod," meddai. Pwy ydoedd ond Mr Williams, yr hwn sydd gyda Mr H. Rosser, 53,' Beach-street, wrth ei swydd yn gofalu am a chyf- arwyddo ymfudwyr. Wedi iddo edrych ar ol y baggage a'u gosod yn ddyogel, arweiniodd fi i'm llety, sef ty Mr T. Winstone, 659, Greenwich- street. Derbyniwyd fi gan Mrs Winstone gyda sirioldeb, caredigrwydd, a thynerwch chwaer, a chefais y fraint o fwynhap lletygarwch Mr a Mrs Winstone hyd foreu y dydd Mercher canlynol. Teilwng ydynt o'm cydnabyddiaeth gyhoeddus ar golofnau y TYST A'R DYDD. Boreu y Sabboth collais y cyfleusdra i wrando Mr Beecher, am fod y Methodistiaid wedi eu siomi yn eu pregethwr, y Parch E. M. Rees, Hay, yr hwn oedd heb lanio, a dymuuasant arnaf bregethu iddynt yn Thirteenth- street. Yna cauasant i fyny y capel am y gweddill o'r dydd, a daethant i gapel yr Annibyn- wyr yn Eleventh-street, lie y pregethais i gynull- eidfaoedd mawrion am dri ac am saith o'r gloch. Yr oedd hwn yn Sabboth poeth anarferol, f'el,,yr oeddwn yn chwysu gydag arddeliad. Ond digrifol genyf oedd gweled y boneddigesau ieuaiuc a hen, bron yn ddieithriad, yn fanio moregniol a difrifol a phe buasai hyny yn rhan hanfodol o'r gwasan- aeth crefyddol. Wrth fyned i gapel yr Annibyn- wyr, pwy a'm cyfarchai wrth fy enw ond y Cymro twymngalon, a'm hen gyfaill, Mr William G. Lewis, Catasanqua. gynt o Briton Ferry, Morgan- wg. Yr oedd wedi codi am 4 o'r gloch y boreu, a t, thrafaelu 92 o filltiroedd er mwyn fy ngweled a chael treulio Sabboth genyf mewn adgof o'r amser gynt pan oeddym yn hogiau yn yr Hen Wlad, fel y gelwir hi yma. Yr oadd yn llawenydd mawr genyf ei weled a mwynhau ei gyfeillach, ae add- awaf i mi fy hun gyff elyb fwyniant yn ei gym- deithas am ychydig ddyddiau eto cyn dychwelyd. Treuliais ddydd Llun a dydd Mawrth i weled gol- ygfeydd New York. Y peth dynodd fy sylw fwyaf oedd yr Elevated Railroad. Prin y gallaswn ym- a,tal rhag chwerthin pin yn fy ngwely yn y boreu wrth weled train bob dwy neu dair mynyd yn pasio heibio ffenestr fy ystafell o fewn rhyw lath- en iddi, a hyny heb i mi godi ar fy rnhenelin. Mae Pont Brooklyn yn ddiau yn orchestsamp gelfyddydol, a dwl yw y dyn nas gall edrych arni gydag edmygedd. Ond i'r neb fyddo wedi gweled Pont Menai cyn gweled Pont Brooklyn, nis gall deimlo freshness ac aruthredd yr olygfa, fel pe na buasai wedi gweled y blaenaf. Mae y Central Park yn werth ei weled hefyd. A chymeryd y ddinas gyda'i gilydd, yn y paithau masnachol ohoni, y rhai yn unig a welais i, teimwn ei bod rywbeth yn debyg i Liverpool neu Llundain. Dyledus ydwyf i Mr Harri Roberts, dyn ieuanc o Abererch a ddaeth i'r wlad hon tua phedair blyn- edd yn ol, am ei garedigrwydd yn fy nghyfar- wyddo yn y ddinas. Collodd ddau ddiwrnod o'i waith i fod gyda mi, a pharod oedd i golli wythnos pe gailiswn aros yno. Ond boreu dydd Mercher, Mai 28iin, cenais yn iach iddo ef a'r cyfeillion yn y Grand Central Depdt (Station), gan gychwyn tua Granville. Pan yn myned i fyny tuag Albany gydag ochr yr Hudson River, am 142 o filltiroedd, teimlwn fod yr olygfa wrth ddyfod i fyny tua New York yn cael ei thaflu i'r eysgod. Dyma natur a chelfyddyd ar eu heithaf yn cynorthwyo eu gilydd i foddbau llygad a lloni' calon yr edrychydd. Wrth fyned o Albany i Troy, chwe' milldir, chwyrnellai y tren heibio i ffwrneai blast a melinau haiarn, a diau fod yno ami i Gymro yn enill ei damaid trwy chwys ei wyneb, fel yn yr hen wlad. Cyrhaeddais Troy am 3 o'r gloch y prydnawn, ac er fy mawr syndod, a mwy fy llawen- ydd, wele y Parch T. M. Owen, Granville, yn fy nghyfarch yn yr orsaf wrth fy enw, fel pe yr adwaenasai fi, gan ddyweyd ei fod wedi dyfod o bwrpas i'm cyfarfod, pellder o 60 milldir. Gan fod genym av/r o amser i aros cyncaeltreai Granville, aethom i'r ddiitas; ac wedi cael Ilun- iaeth, holais am gladdfa y ddinas, oblegidawyddus oeddwn i gael golwg ar fedd nn o gyfoedion fy machgendod, Mr Herbert Davies (brawd y Parch T. Davies, Siloa, Llanelli). Wedi deall fod yno ddwy gladdfa, a'u bod tua milldir y tuallan i'r ddinas, rbaid oedd troi yn ol am y tren gyda dy- muao heddwch i'w lwch. Cyrhaeddasom Gran- ville erbyn 8 o'r gloch. Yr oedd lluaws yn yr orsaf yn dysgwyl y tren i fewn, ac wrth yr olwg arnynt, a'u tafodiaith, gallaswn feddwl fy mod wedi disgyn yn ngbanol Bethesda, Caernarfon. Cyn cael amser i chwilio am porter, na neb arall i gario fy luggage, dyma glamp o chwarelwr braf yn ei daflu ar ei ysgwydd, ac yn ledio'r ffordd i dy Mr Owen. Btchgyn yn iawn yw y chwarelwyr, hefyd, b'le bynag y b'ont. Tra yn pregethu yn Middle Granville, West Parolett, a Granville, cefais y fraint o aros yn nhy Mr a Mrs Owen, Granville. Trwy lafur caled ac ymroad cvson a di-ildio Mr Owen mae yma gapel wedi ei adeiladu gan yr eglwys Annibynol Gymreig. Hwn yw y capel cyntaf a gawsant, ac y mae yn un prydferth iawn. Darlithiais ynddo nos Sadwrn, a phregeth- ais dair gwaith y Sabboth yn ei gyfarfod agor- iadol. Mae Mr Owen yn barchus iawn yn y lie, yn mwynhau serch yr eglwys, a'i lafur yn llwydd- ianus i achub eneidiau. Taled yr Arglwydd iddo ef a'i briod serchog yn ddau-ddyblyg am eu cared- igrwydd i un o'r rhai bycbain hyn, y brodyr lleiaf, mewn gwlad estronol. Yr oedd yn Ilawenydd mawr genyf weled amryw o'm hen gydnabod wedi dyfcd yma o Poultney a Fairhaven, ac yn eu mysg Mri W. Nathaniel, Poultney, ac Evan D. Jones, o Fairhaven. Mae Fairhaven yn lie prydferth dros ben-y Cymry o bob enwad mewn heddweh a thangnefedd, pob partiol farn a rhagfarn wedi eu dileu yr achos yn llewyrchus mewn capel hardd, a'r Parch J. W. Williams yn barchus ac ya ddwfn yn serch ei gydgenedl, ac yn dra llwyddfanus yn ngwaith ei Arglwydd. Cefais bob sirioldeb a charedigrwydd yma gan bawb, a cban yr hen gyfaill ffraeth, doniol, a siriol E. D. Jones a'i wraig garedig, tra yn lletya yn eu ty. Wedi pregethu yma am 2 a 7 o'r gloch, rhaid oedd i mi dori pen ar y llith hwn i ddal y mail nesaf, ac yna cychwyn tua Farmersville.

« LLUNDAIN.

CYMANFA GERDDOROL A PHYNCIOL…