Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
( EI DAITH YN AMERICA. ----
News
Cite
Share
( EI DAITH YN AMERICA. GAN Y PARCH D. JONES, B A., ABERTAWY. Wedi naw diwrnod o fordaith heb weled troed- fedd o dir sych, llawenydd nas gall iaeb ond y profiadol ei ddychymygu oedd gweled arwydd fod tir heb fod yn mhell. Am dri o'r gl<?ch prydnawn ddydd Gwener, Mai 23ain, gwelwn oleudy Fin Island fel pawl (pole) unionsyth yn y cwmwl, fel yr ymddangosai i mi. Wrth fyned yn gyfochrog i Long Island, deuai yr olygfa yn fwy swynol y naill filltir ar ol y Hall, fel, erbyn i ni gyrhaedd genau yr afon, y cwbl allaswn ddyweyd oedd,- Os yw y wlad yn deilwng o'r porth gogoneddus hwn iddi, ni fynegwyd i mi eto yr haner am dani. Cyrbaeddasom yr angorfa tuag wyth o'r gloch nos Wener. Boreu y Sadwrn, am wyth o'r gloch, gosodais fy nhroed am y waith gyntaf ar dir America., ac nid yn fuan yr anghofiafy teimlad. Gyda hyny dymaddyu ieuauc nid adwaenwn yn gosod ei law ar fy ysgwydd/ac yn fy ngbyfarch I wrth fy enw yn Gymraeg. Yr wyf wedi dyfod i'ch cyfarfod," meddai. Pwy ydoedd ond Mr Williams, yr hwn sydd gyda Mr H. Rosser, 53,' Beach-street, wrth ei swydd yn gofalu am a chyf- arwyddo ymfudwyr. Wedi iddo edrych ar ol y baggage a'u gosod yn ddyogel, arweiniodd fi i'm llety, sef ty Mr T. Winstone, 659, Greenwich- street. Derbyniwyd fi gan Mrs Winstone gyda sirioldeb, caredigrwydd, a thynerwch chwaer, a chefais y fraint o fwynhap lletygarwch Mr a Mrs Winstone hyd foreu y dydd Mercher canlynol. Teilwng ydynt o'm cydnabyddiaeth gyhoeddus ar golofnau y TYST A'R DYDD. Boreu y Sabboth collais y cyfleusdra i wrando Mr Beecher, am fod y Methodistiaid wedi eu siomi yn eu pregethwr, y Parch E. M. Rees, Hay, yr hwn oedd heb lanio, a dymuuasant arnaf bregethu iddynt yn Thirteenth- street. Yna cauasant i fyny y capel am y gweddill o'r dydd, a daethant i gapel yr Annibyn- wyr yn Eleventh-street, lie y pregethais i gynull- eidfaoedd mawrion am dri ac am saith o'r gloch. Yr oedd hwn yn Sabboth poeth anarferol, f'el,,yr oeddwn yn chwysu gydag arddeliad. Ond digrifol genyf oedd gweled y boneddigesau ieuaiuc a hen, bron yn ddieithriad, yn fanio moregniol a difrifol a phe buasai hyny yn rhan hanfodol o'r gwasan- aeth crefyddol. Wrth fyned i gapel yr Annibyn- wyr, pwy a'm cyfarchai wrth fy enw ond y Cymro twymngalon, a'm hen gyfaill, Mr William G. Lewis, Catasanqua. gynt o Briton Ferry, Morgan- wg. Yr oedd wedi codi am 4 o'r gloch y boreu, a t, thrafaelu 92 o filltiroedd er mwyn fy ngweled a chael treulio Sabboth genyf mewn adgof o'r amser gynt pan oeddym yn hogiau yn yr Hen Wlad, fel y gelwir hi yma. Yr oadd yn llawenydd mawr genyf ei weled a mwynhau ei gyfeillach, ae add- awaf i mi fy hun gyff elyb fwyniant yn ei gym- deithas am ychydig ddyddiau eto cyn dychwelyd. Treuliais ddydd Llun a dydd Mawrth i weled gol- ygfeydd New York. Y peth dynodd fy sylw fwyaf oedd yr Elevated Railroad. Prin y gallaswn ym- a,tal rhag chwerthin pin yn fy ngwely yn y boreu wrth weled train bob dwy neu dair mynyd yn pasio heibio ffenestr fy ystafell o fewn rhyw lath- en iddi, a hyny heb i mi godi ar fy rnhenelin. Mae Pont Brooklyn yn ddiau yn orchestsamp gelfyddydol, a dwl yw y dyn nas gall edrych arni gydag edmygedd. Ond i'r neb fyddo wedi gweled Pont Menai cyn gweled Pont Brooklyn, nis gall deimlo freshness ac aruthredd yr olygfa, fel pe na buasai wedi gweled y blaenaf. Mae y Central Park yn werth ei weled hefyd. A chymeryd y ddinas gyda'i gilydd, yn y paithau masnachol ohoni, y rhai yn unig a welais i, teimwn ei bod rywbeth yn debyg i Liverpool neu Llundain. Dyledus ydwyf i Mr Harri Roberts, dyn ieuanc o Abererch a ddaeth i'r wlad hon tua phedair blyn- edd yn ol, am ei garedigrwydd yn fy nghyfar- wyddo yn y ddinas. Collodd ddau ddiwrnod o'i waith i fod gyda mi, a pharod oedd i golli wythnos pe gailiswn aros yno. Ond boreu dydd Mercher, Mai 28iin, cenais yn iach iddo ef a'r cyfeillion yn y Grand Central Depdt (Station), gan gychwyn tua Granville. Pan yn myned i fyny tuag Albany gydag ochr yr Hudson River, am 142 o filltiroedd, teimlwn fod yr olygfa wrth ddyfod i fyny tua New York yn cael ei thaflu i'r eysgod. Dyma natur a chelfyddyd ar eu heithaf yn cynorthwyo eu gilydd i foddbau llygad a lloni' calon yr edrychydd. Wrth fyned o Albany i Troy, chwe' milldir, chwyrnellai y tren heibio i ffwrneai blast a melinau haiarn, a diau fod yno ami i Gymro yn enill ei damaid trwy chwys ei wyneb, fel yn yr hen wlad. Cyrhaeddais Troy am 3 o'r gloch y prydnawn, ac er fy mawr syndod, a mwy fy llawen- ydd, wele y Parch T. M. Owen, Granville, yn fy nghyfarch yn yr orsaf wrth fy enw, fel pe yr adwaenasai fi, gan ddyweyd ei fod wedi dyfod o bwrpas i'm cyfarfod, pellder o 60 milldir. Gan fod genym av/r o amser i aros cyncaeltreai Granville, aethom i'r ddiitas; ac wedi cael Ilun- iaeth, holais am gladdfa y ddinas, oblegidawyddus oeddwn i gael golwg ar fedd nn o gyfoedion fy machgendod, Mr Herbert Davies (brawd y Parch T. Davies, Siloa, Llanelli). Wedi deall fod yno ddwy gladdfa, a'u bod tua milldir y tuallan i'r ddinas, rbaid oedd troi yn ol am y tren gyda dy- muao heddwch i'w lwch. Cyrhaeddasom Gran- ville erbyn 8 o'r gloch. Yr oedd lluaws yn yr orsaf yn dysgwyl y tren i fewn, ac wrth yr olwg arnynt, a'u tafodiaith, gallaswn feddwl fy mod wedi disgyn yn ngbanol Bethesda, Caernarfon. Cyn cael amser i chwilio am porter, na neb arall i gario fy luggage, dyma glamp o chwarelwr braf yn ei daflu ar ei ysgwydd, ac yn ledio'r ffordd i dy Mr Owen. Btchgyn yn iawn yw y chwarelwyr, hefyd, b'le bynag y b'ont. Tra yn pregethu yn Middle Granville, West Parolett, a Granville, cefais y fraint o aros yn nhy Mr a Mrs Owen, Granville. Trwy lafur caled ac ymroad cvson a di-ildio Mr Owen mae yma gapel wedi ei adeiladu gan yr eglwys Annibynol Gymreig. Hwn yw y capel cyntaf a gawsant, ac y mae yn un prydferth iawn. Darlithiais ynddo nos Sadwrn, a phregeth- ais dair gwaith y Sabboth yn ei gyfarfod agor- iadol. Mae Mr Owen yn barchus iawn yn y lie, yn mwynhau serch yr eglwys, a'i lafur yn llwydd- ianus i achub eneidiau. Taled yr Arglwydd iddo ef a'i briod serchog yn ddau-ddyblyg am eu cared- igrwydd i un o'r rhai bycbain hyn, y brodyr lleiaf, mewn gwlad estronol. Yr oedd yn Ilawenydd mawr genyf weled amryw o'm hen gydnabod wedi dyfcd yma o Poultney a Fairhaven, ac yn eu mysg Mri W. Nathaniel, Poultney, ac Evan D. Jones, o Fairhaven. Mae Fairhaven yn lie prydferth dros ben-y Cymry o bob enwad mewn heddweh a thangnefedd, pob partiol farn a rhagfarn wedi eu dileu yr achos yn llewyrchus mewn capel hardd, a'r Parch J. W. Williams yn barchus ac ya ddwfn yn serch ei gydgenedl, ac yn dra llwyddfanus yn ngwaith ei Arglwydd. Cefais bob sirioldeb a charedigrwydd yma gan bawb, a cban yr hen gyfaill ffraeth, doniol, a siriol E. D. Jones a'i wraig garedig, tra yn lletya yn eu ty. Wedi pregethu yma am 2 a 7 o'r gloch, rhaid oedd i mi dori pen ar y llith hwn i ddal y mail nesaf, ac yna cychwyn tua Farmersville.
« LLUNDAIN.
News
Cite
Share
« LLUNDAIN. Eisteddfod yCity yn y Forresters' Hall.—Nos Iau, Mehefin 12fed, y cynaliwyd yr eisteddfod uchod. Llywydd, Mr Alfred Thomas, Y.H., cyn- faer Caerdydd. Arweinydd, y doniol Gwilym Pennant. Beirniad y gerddoriaeth, Caradog. Beiiniad y traethodau, Parch O. Evans. Canwyd yn swynol yn ystod y cyfarfod gan Miss Annie Williams. Buddugol ar y prif draethawd, Gordon, sef E. M. Edwards, Kingsland-road, Ar y deuawd I Y Ddau Forwr,' D. A. Jones a Bowen. Cawsant gymeradwyaeth uchel gan Caradog, a dywedai am D. A. Jones y dylasai fod wedi cymeryd ei safle ar y llwyfan er's llawer aydd. Buddugol ar y bryddest, Y Proffwyd E^aiah,' Huw Forwr, sef Hugh Davies, Eldon- street. Daeth tri chor yn mlaen i yingystadlu ar yr Haf,' set y Boro', Moorfields, a Chor y Wig. Dyfarnwyd y wobr i'r diweddaf, sef Cor Undebol Fetter-lane a Kiugsland-road, dan arweiniad y brawd ieuanc gobeithiol Mr D. A. Jones. Arwisg- wyd ef gan Mrs Caradog, a chafudd gadair hardd. Hyderir fod pawb wedi mwynhau eu hunain, ac yn enwedig pan oedd Caradog yn chwareu yr un- awd ar y crwth a elwir Farm Yard,' gan ddyn- wared creaduriaid y buarth. Capel y Gohebydd.—Dydd Sadwrn, Mehefin 14eg, am 3 o'r gloch y prydnawn, gosodwyd maen coff- adwriaethol Capel y Gohebydd yn Barrett's Grove, gan Faer y Ddinas. Yr oedd tyrfa wedi ymgasglu yn nghyd, a chymerwyd rban yn y gwasanaeth gan Mr J. H. Puleston, A.S., Dr Leask, Parch J. Rowlands. &c. DaJlenwyd llythyrau oddiwrth nifer o aelodau Seneddol ac ereill, yn datgan eu gofid am nas gallent fod yn bresenol, ond yn dy- muno yn dda i'r symudiad. Casglwyd £3006s. Yn mhlith y cyfraniadau yr oedd eiddo yr Ar- glwydd Faer—tair punt a deg swllt, a chafodd yntau ei anrhydeddu a trowel, case, a mallet, gwerth oddeutu chwe' phunt, ar yr achlysur. Derbyniwyd cyfraniadau sylweddol ac anrhydedd- us oddiwith yr eglwysi Cywreig fel y canlyn, am ba rai y teimla y brodyr yn y lie yn hynod o ddiolchgar:—Boro', £122; Fetter-lane, < £ 120; Chelsea, £27, yn nghyda boneddigion haelionus ereill. Gan fod y maen wedi ei osod, ac angen mawr am gynorthwy, ni fydd y cynorthwy lleiaf yn annerbyniol gan y brodyr sydd yn llafurio uior egniol yn y lie. E. M, E. I
CYMANFA GERDDOROL A PHYNCIOL…
News
Cite
Share
CYMANFA GERDDOROL A PHYNC- IOL ANNIBYitfWYR LLEYN AC EIFIONYDD. Cynaliwyd y Gymanfa nchod eleni yn Penygroes, dydd Llan, Mehefin 9fed. Gan fod y diwrnod yn un nodedig o hyfryd, ac hefyd fod special trains yn cael eu rhedeg ar linellan y Cambrian a'r London and North Western Railway, dysgwylid cyfarfod poblogaidd, ao yn hyn ni Biomwyd dysgwyliadau uchaf arweinwyr y Gymanfa. Haner awr wedi nn o'r gloch oedd yr adeg i cldechren y cyfarfod cyntaf, ac erbyn hyny yr oedd capel eang Penysroes wedi cael ei lenwi yn dda gan gynnlleidfa barchus. Ar y llawr brithid y lie gan gedyrn ffyddlawn Cyfundeb Lleyn ac Eifionydd, ac ar y gallery yr oedd y cantorioo wedi en trefnu yn fyddin brydterth a godidog yr olwg ami. Cymerwyd y gadair gan y Parch J. B. Davies, Talysara, yr hwn a draddod- odd araeth lithrig a hyawdl ar Undeb yr Eglwys yn ei Hemynau." Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn T. Jones, Tabor; E. James, Netyn; L. Probert, Porthmadog 0 Jones, Pwllheli; W. W. Jones, Pis- gah H. Davies, Moeltryfan W. B. Roberts, Naza- reth; W. B. Marks, Cricieth J. Davies, Ltithfaen; T. Williams, Capel Helyg; J. G. Jones, Ceidio R. Lumley, Llanaelhaiarn; R. Thomas, Glandwr, Mor- ganwg (yr bwn a ddechreuodd y cyfarfod trwy ddar- llen a gweddio), a J. C. Jones, Penygroes. E08 Morlais oedd yr arweinydd am y flwyddyn, yr hwn a gyflawnodd ei waith yn fedrns a gorchestol. Yr oedd codiad ei law, ac ysgydwad ei fys, yn symud y canoedd cmtorion oedd o'i flaen megys ar darawiad amrant, a theimlid fod ei gyiighorion, a'i gyfarwyddiadau i'r cantorion, ac yn arbenig felly i'r arweinwyr wrth fyned yn mlaen, yn dda a buddiol odiaeth. Wele restr o'r t6oau a genid yn y cyfarfod prydnawn: Rachel, Mytianwy, Aberystwyth, Glandwyfach, Moliant i'r Iesu (Tôn i'r plant), a Gethsemane. Wrth gwrs, yr oedd dad?aniad rhai o'r t6nan yn tra rhag-ori ar ereill, ac efallai mai Rachel, Aberystwyth, a Moliant i'r Iesu, ganodd oren. Yr oedd yna dynerwch nnelodaidd, a nerth cryf yn cael en teimlo yn nadganiad rhai adranau o'r tônau byn. Y mddangnsai yr air, pa nn a genid gan y merched, a'r alto gan y dosbarth ieuengaf, fel pe wedi penderfynu mai en heiddo hwy a gaffiii y fudd- ngoliaeth ar waith y dydd. Ond yr oedd y rhuthr- gyrchoedd a wneid ar amserau gan y bass a'r tenor yn eglnr brofi ea bod hwythan hefyd wedi penderfynu mai eu heiddo hwy a fvddai y llawryf. Holwyd y plant gan Mr R. Griffiths, Fourcrosses, a darllenwyd y feirniad- aeth ar y gofymadan" Ar vr Epistol at yr Hebreaid," gan y Parch E. James, Nef.vn. Yr oedd y naill a'r llall yn dda ac i'r pwrpas. Enillwyd y gwobrwyon gan aelodau o ysgolion Porthmadog, Pisgah, Pwllheli, Pen- ygroes, ac Abererch. Cymanfa fawr y Pavilion yn 1885.-Am 4 o'r gloch, cyiarfu Pwyilgor y Gymanfa yn festri capel Soar, Cadeirydd, Mr G. 0. Jones, Piszah, pryd y darllenwyd cvfrifon, ac yr ymdriniwyd a gwahanol faterion yn dal cysylltiad a'r Gymanfa. Yna derbyniwyd y ddir- prwyaeth o Gymanfa Gerddorol Dosbarth Caernarfon, sef y Parch R. W. Griffith, Bethel; T. J. Teynon, Cwmyglo; L. Williams, Hontnewydd, a Mri O. Williams, Bethel; R. R. Owens, Tyddynmawr T. Williams, Paikvrhos; M. O. Williams, Bethel; ac E. Williams, Caernarfon. Mr Griffiths, Bethel, alwyd i si rad, yr hwn a eglurodd amcan ei ddyfodiad, sef cael gan Gytnndeb Cerddorol Lleyn ac Eifionydd i ymuno & hwy yn nosbarth A. fon er cynal un Gymanfa fawr gerddorol yn y Pavilion, Caernarfon, yn 1885. Wedi peth yiriddyd Ian, pasiwyd yn unfrydol, fod y cynygiad i gael ei dderbyn yn galonog, a phenderfynwyd ar fod i Mr Griffith gyflwyno y mater i svlw y cantorion a'r gynulleidfa yn nghyfarfod yr hwyr. Deallir fod yr un ddirprwyaeth, ac ereill, i ymweled a chymanfa y sir (yr hon a syne ir yn PwLheli yr wythnos nes If), ac a Chymanfi Gerddorol dosbartb Bethesda, i'r un amcan, a dymunir o galon ei llwyddiant. Am 5 o'r gloch, dechreuwyd yr ail gyfarfod, ac erbyn hyn yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a'r fath oedd y tyndra, fel y methai canoedd a d'od i mewn. Dechreu- wy,1 trwy ddarllen a g-weddïo gan Mr Griffith, Bethel. Cymerwyd y gadair gan Mr E. Jones, Plaschwilog, yr hwn a draddododd araeth lednais a gafaelgar ar Gan- ladaeth y Diwygiadan Crefyddol." Yna galwyd ar Eos Morlais, yn ddiymdroi at ei waith. Canwyd y tonau canlynol :—Haydn, Lousiana, Hendre, Ma vern, Oswestry, Worms, Haddam, St. Hiliary, Ernan, Saul, Aberystwyth (yr ail waith). Y mae yn anhawdd dy- weyd pa rai o'r tonan yn nghyfarfo yr hwyr a ganwyd yn oreu, gan eu bod oil mor dda. Y mae yn gwestiwn genyf a wnaeth band y Coldstream Guards, wrth chwareu y Dead March in Saul," well chwareu te,c,, a'r dernyn clasurol uchod, nag a wnaeth cantorion Cymanfa Lleyn ac Eifionydd y noson hon. Yr oedd yr amser yn (Ida, y tynerwch yn hyfryd, y cydbwysedd yn gyflawu, a'r nerth cyfiredinol yn rymus a gorchfygol, yn enw- edig felly ar y ddwy linell olaf 0 fy enaid esgyn fry I'r trag'wyddol fywyd en." Cafwyd anerchiadan yn ystod y cyfarfod gan y Parch L. Williams, Bontnewydd T. Jones, Tabor a dygodd Mr Griffith, Bethel, fater y Gymanfa gyffredinol ger bron y cmtorion a'r gynulleidfa yn ei ûdull deheujg, cyflawn, a ffraeth ef ei hun. Cynygiodd, cefnogodd, a gofynodd am arwydd o gydsyniad y gynulleidfa, a hyny yn y fath fodd dymunol fel nad oedd yn bosibl ei nacau, a chododd y canoedd cantorion ar eu traed mewn eiliad fel gallt o goed i arwyddo on cydsyniad. Ychwanegwyd vn ddirfawr at ddyddordeb cyfarfod yr hwyr trwy i Eos Morlais roddi cAll," Hen Wlad y Cymanfaoedd," pa un a ddilyuwyd ar yt harmonium