Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GYDGYNGHORFA DDIRWESTOL.

News
Cite
Share

Y GYDGYNGHORFA DDIRWESTOL. YR oedd dvsgwyliad mawr gan lawer am y Gydgynghorfy yn achos sobrwydd a gynal- n iwyd yn Liverpool yr wythnos ddiweddaf. Mae lluaws o gyuadleddau dirwestol pwysig Z, wedi eu cynal yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Cynulliad a hir gofir gan y rhai a'i mwynhaodd, a'r rhai a ddarllenodd ei hanes ar y pryd, oedd Cynadledd Ddirwestol y byd, neu The Temperance World Con- vention, fel ei gelwid, a gyfarfu yn IJlun- dain er's yn agos i ddeugain mlynedd, yn yr hwil yr oedd nifer fawr o hen arwyr cyntaf dirwest yn Lloegr ac America, a gwledydd ereill, wedi cyfarfod mewn cynghor. Nid llai pwysig a dylanwadol oedd y gynadledq fawr a gynaliwyd yn 1851, blwyddyn yr Arddangosfa gyntaf, ac yr oedd hono yn lluosocach nag un a fu o'i blaen nac ar ei hol. Bu ar ol byny lawer o gynadleddau pwysig o bryd i bryd ond yr wythnos ddiweddaf y cafwyd gyntaf yr hyn a elwid yn Temperance Congress, lie y cymerwyd yr achos i fyny yn ei wahanol arweddion. Dewiswyd Liverpool fel lie y Gyngborfa, ac am fwy nag un rheswm yr oedd hyny yn briodol iawn. Nid oes un lie yn y deyrnas ag y mae mwy o angen gwneyd rhuthr o ddifrif ar. y fasnach feddwol. Yn briodol iawn y gelwir y lie yn yamotyn du a,r lan y Mersey. Ac eto, o'r ochr arall, nid oes yr un lie yn Lloegr y mae gan ddirwest gyfeillion mwy aiddgar, y rhai sydd yn barod i gymeryd poen yn ei gwasanaeth. Yr oedd y Gynghorfa yn benaf o dan nawdd a rheolaeth y Cyngrair Dirwestol, a'r trefn- iadau gan mwyaf yn Haw Mr RAE, ysgrifen- ydd medrus a gweithgar y Cyngrair ond yr oedd pwyllgor Ileol yn Liverpool, o dan lywyddiaeth Mr W. CROSFIELD, yn rhoddi iddo gynorthwy effeithiol yn y gwaitb. Mae Mr CROSFIELD yn Annibynwr egwydddrol, yn ddirwestwr trwyadl, a bydd yn dda gan ei gyfeillion ddeall ei fod wedi ei ddewis gan Ryddfrydwyr Warrington i fod eu hymgeisydd Seneddol yn yr etholiad nesaf. Gwnaeth y pwyllgor lleol bob peth oedd yn eu gallu er cyffroi Liverpool erbyn dyfodiad y Gynghorfa, a buasai yn dda genym eu bod yn hyny wedi bod yn fwy llwyddianus. Gwnaed cais at holl weinidogion y ddinas ar iddynt bregetbu ar yr achos y Sabboth, cyn neu wedi y Gvdgynghorfa, a da genym ddeall ddarfod i tua dau feant, rhwng Ym- neillduwyr ac Eglwyswyr i gydsynio. Nid ydym am awgrymu fod y rhai hyn oil yn bregethau dirwestol, ond yroeddyntoll yn galw sylw at ddrygedd anghymedroldeb, ac yn cymhell i ymosodiad yn ei erbyu, a diau ddarfod i'r pregethau hyn adael argraff dda ar y cynulleidfaoedd. Buasai yn dda genym pe buasai pob pwlpud wedi codi ei lef yn erbyn meddwdod; ac yn sicr ni ddylai'y rhai sydd eto beb eu hargyhoeddi o'r angenrheidrwydd am iddynt hwy lwyr ymatal yn bersonol, fod yn ddystaw ar y fath adeg. Mae eu gwaith yn gadael yr ymosodiad yn erbyn meddwdod yn unig i lwyrymatalwyr, yn gystal a bod yn addefiad nad oes .neb arall a all godi ei lais yn gryf yn ei erbyn, pan y dylai pob un daflu y gareg sydd yn ei law at dalcen y cawr, ac nid gwaeth genym pa gareg sodda yn ei dalcen, ond yn unig i ni lwyddo i'w gwympo. Agorwyd y Gydgynghorfa, nos Lun, gydag anerchiad galluog gan Dr TEMPLE (Esgob Exeter), Llywydd y Cyngrair Dir- westol. Efe a ddewiswyd wedi marwolaeth yr hen ddirwestwr profedig SAMUEL BOWLY o Glo'ster. Llywyddodd yr ESGOB hefyd mewn cyfarfod eyhoeddus yn Hengler's Circus, ac yr oedd cael gwr o'i safle ef i gymeryd rhan mor amlwg yn y cyfarfodydd yn ychwanegu yn fawr at eu dylanwad. Mae yn ddirwestwr o'r sect fanylaf, ac er na ddygodd yr un ddadl newydd dros ddirwest, eto yr oedd gryrn adnewyddol i lawer yn yr hen ddadleuou, gan eu bod yn dyfod o enau esgob. Mae yr Eglwys yn cymeryd safle arnlwg yn nglyn ag achos sobrwydd, ac yn ymddangos fel yn benderfynol i feddianu y tir a gollasant trwy eu hesgeulustra gynt. Sicrhawyd fod wyth o'r esgobion yn ddir- westwyr, ac un archesgob o fewn ychydig," 9 r, a theimlid yn hyderus y byddai cyn pen ycbydig yn gwbl oil." Cynelidcynadledd bob boreuyny Concert Boom, St. George's Hall, i gymeryd y mator i fyny yn ei wahanol gangenau, a bu hefyd gynadleddau bob pryduawn i ddosba,rth- iadau neillduol—y merched, y plant, &c.- a cbyfarfodydd cyhoeddus bob hwyr. Ni chaniata ein gofod i ni roddi adroddiad llawn o'r holl gyfarfodydd—y materion a fu dan sylw, y personau a ddarllenodd bapyr"- au, ac a draddododd areithiau ond gallwn ddyweyd fod pob dosbarth o wleidiadwyr, a gwyddonwyr, a diwygwyr cymdeithasol, ac enwadau crefyddol yn cael eu cynrychioli yno, ac nad yuiddangosodd yr achos dirwestol erioed ar dir uwch a mwy anrhydeddus. ;I Yr oedd presenoldeb Dr RICHARDSON yn gosod bri mawr ar y cynulliad, ac yr oedd yr araeth alluog a meistrolgar a draddododd o'r gadair yn un o'r eisteddiadau yn an- atebadwy ac ar dir gwyddoniaeth yn dangos, yr hyn y mae profiad i filoedd yn ei sicrbau, nad rhaid wrth ddiodvdd meddwol er nerth ac iechyd y corif dynol. Nis gall neb feiddio dirmygu tystiolaeth y fath un, ac yr oedd yr hyn a dystiolaethid ganddo ef yn cael ei ategu gan dystiolaethau amryw feddygon ereill oedd yn y lie; a sicrheid fod cyfnewidiad cyflym yn eymeryd lie ar y mater, a bod nifer y meddygon sydd yn cymeradwyo diodydd meddwol, oddieithr o dan amgylchiadau eitbriadol, yn myned yn llai o flwyddyn i flwyddyn. Llywyddid un o'r eisteddiadau gan Cardinal MANNING, ac efe hefyd oedd cadeirydd yr ail gyfarfod cyhoeddus yn Hengler's Circus, ac yr oedd yno dorf arutbrol. Anaml y gwelwyd y lie yn llawnach yn nghyfarfodydd Mr MOODY.. Dyn till, main, teneu, hynod o ddirodres yr olwg arno, ydyw yr Arcbesgob Pabaidd MANNING; a siarada yn bwyllog a ham- ddenol, ond yn glir a phwysleisiol pan dybir fod hyny yn angenrheidiol; ac am ei syniadau, nid a bloesgni gwefusau y llefara. Ar derfyn y cyfarfod cyhoeddus, yr bwn oedd yn un nodedig o frwdfrydig, ac wedi ei godi i'r pwynt uchaf o wres gan areithiau Mr JOSEPH MALINS a Mr J. H. RAPER, galwodd ar y cyfarfod oil i godi ar eu traed ac ardystio. Gofynai i'r rhai oeddynt eisoes yn ddirwestwyr i wneyd hyny, ac i'r rhai oedd wedi bod ac wedi llithro yn ol adnewyddu, ac i'r rhai na buont erioed ddechreu y noson hono. Cododd miloedd i fyny ar unwaith, ac er fod yno ganoedd yn eistedd, eto yr oedd yn amI wg eu bod yn teimlo eu bod wedi eu taflu i gongl boenus. Adroddodd y CADEIltYDD yr ardystiad yn araf, a'r boll dorf yn ei gydadrodd ar ei ol, ac yr oedd rhyw ddifrifwch byw yn ngtyn a'r cwbl a brofai fod yno ymdeimlad dwfn o'r cyfrifoldeb adnewyddol oedd yn ngtyn ag ardystio. Un o'r papyrau galluocaf a ddarllenwyd I oedd eiddo Dr MACFADYEN ar Arweddion cymdeithasol ac addysgol dirwest," ac un o'r areithiau mwyaf cynhyrfus yn un o'r I cyfarfodydd cyhoeddus oedd eiddo y Parch I CHARLES GARRETT. Yr oedd Ysgotland yn cael ei chyurychioli yn dda yn y Gynghorfa, ac nid oedd yr Iwerddon heb rai oddiyno i ddwyn eu tystiolaeth i'r gwaith da, ac yr oedd yno gryn nifer o wahanol ranau I Lloegr, er y. dysgwyliem weled yno fwy a, buasai yn dda genym fod yno rywun yn dyrchafu ei lais dros Gymru i fynegi am effeithiau v gwaith da yno, oblegid nid yw y Dywysogaeth heb ei thystiolaeth i'w dwyu yn mhlaid sobrwydd. Mae cyfnewidiad dirfawr wedi cymeryd lie yn marn cymdeithas yn nglyn a'r mater yn yr haner can' mlynedd diweddaf, ac i hen ddirwestwyr profedig sydd wedi dal pwys y dydd a'r gwres, nis gall dim fod yn fwy boddhaol na'r dystiolaeth a ddygir gan wyddonwyr yn erbyn yfed, yr addfedrwydd sydd yn ein gwladweinwyr i ddeddfu yn ngHvu a'r fasnach feddwol, a'r safle. y mae yr Eglwys Gristionogol yn ei gymeryd yn nglyn a'r achos dirwestol. -0-

Telerau y Tyst a'r Dydd.

YR WYTHNOS.