Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
c:....-Cynwysiad. I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
c: Cynwysiad. I Rysbysiadau 1, 2 Ymylon y Ffordd—Athrofa Ffrwdval 3 Cymanta Mon-Cymanfa Annibynwyr Meirion 4 Oymanfa Morganwg 5 Cwmilyntell- Y Golofn Wleidyddol — Cymanfa Ysgolion Llanybri 6 Gaerlleon a'r Cyffinian-Nodion o'r Gogledd- Aberdar-Linnelli 7 At ein Gohebwyr-Yr Wythnos 8 Y BRIF ERTHYGL— Y Gydgynghorfa Ddirwestol 9 Ei Daith yn America-Llnndaia-Cymanfa Gerdd- orol a Phynciol Annibynwyr Lloyn ac Eifionydd 10 Beulah, Gwlad Buallt-Eisteddiad Blynyddol Uwch Deml Gymreig Cymru 11 Y Wers Rhyngwladwriaethol- Newyddion En- wadol-Lloffion o Abertawy-Cyfarfodvdd, &c.„ 12 Genedigaethau, Priodaaau, &c.-Cyfarfod Ordeinio yn Llanwrthwl. 13 Hysbysiadan 14, 15, 16
Advertising
Advertising
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Cadair 1885.-Mae amryw ohebwyr wedi ysgrifenu atom ar y mater yma, ond tybiwn yn ddoethach beidio cyhoeddi rhagor. Nid colofnau newyddiadur yw y He i ddwyn enwau brodyr anwyl ger bron i ddadleo eu teilyngdod. Mae y dewisiad wedi ei wneyd yn esmwyth a didramgwydd ar y cyf'an hyd yma, a diau y gwneir ef y tro nesaf eto heb luszo enwau dynion ger bron y cyhoedd, y rhai y gwyddom na ddiolchant i neb am wneyd hyny, pa uior gywir bynag y gall fod amcaniori y rhai a gymer arnynt ddadlen eu hawliau- Mewn llaw.—CyfarfodyddCenadol Llandilo-Cymanfa Castellnedd — Cyfarfod Anrhegu yn Tresimwn- W. E. J.—Clwydwenfro — Abergorlech- Silurydd- Cymanfa Gerddorol Llantrisant — Pembre — Llan- armon-yn-Ial — Llechryd — Cwmnedd — Cyfartod Anrhegu y Parch D. M. Davies, Farteg-Cyfarfod- ydd, &c., &c. PEN CHWARTER. Dymunwn alw sylw ein Dosbarthwyr a'n Derbynwyr fod un Chwarter eto ar ben. Byddwn yn ddiolchgar i bawb os byddant gystal a gwastadháu eu cyfrifon mor gynted ag sydd bosibl. Hoffwn i'n Derbynwyr i gadw mewn cof mai pob Chwarter yr ydym am iddynt wastadhau eu cyfrifon, ac nid bob blwyddyn, fel mae arfer rhai. Y CYHOEDDWR. COLEG CAERFYRDDIN. /"1YMER yr Arholiad Blynyddol le, Llun, Meliefiu SOain, a'r dyddiau caulynol. Cyfarfod cyffredinol y Tanysgrifwyr dydd Iau, Gorphenaf 3ydd am 11 o'r gloch. 27.6.W. LEWIS JAMES, Ysgrifenydd. ILLUMINATED WORK, Testimonials, Presentation Addresses, g-c., executed in the pwrest styles, in gold and colours. TYSTEBAi; AC ANERCHIADAU. ANJRHEGOL TN Gvmraeg lien Saeaoneg (gwaith Haw), wedi eu gwyehu yn ■ v dull mwyaf dillyn a iiardd, a llythyreuau addurnedig a lllwiedisr, ae ag arwyddluniau eyfaddas, mewn ymylwaitli amryliw. RHAI AifEHCHIADAU A WNAED Mr D. Simons, Manager, Moss Bay Steel Works, Cumberland, late Manager of the Bessemer Steel Works, Rhymney. Mr D. Phillips, New Tredegar, P.P.G.M., presented by the Oddfellows of the Rhymney District. Mr J. Price, Manager, Treliarris, late Manager of the Clydaeh. Vale Colliery, Rhondda. Rev D. Silyn Evans, Aberdare. Rev W. Edwards, Aberdare, Chairman of the Welsh Congre- gational Union. 27.6.W. S- ROBERTS, Trealaw, Pontypridd. Tysteb y Parch E. Jones, Ffynonbed-r Cadeirydd y Pwyllgor: rARCH D. WILLIAMS (B.), SALEM, MYDRI3I. Ysgrifenydd IJeol: MR SAMUEL EY AKS, FFYKONBEDR. Trysoryddiou Lleol: MRI J. WILLIAMS, FACHDDU,T. HOWELLS, BRYN-NIWL. Ysgrifenyddion Cyffredinol: PARCH D. R. DAVIES. RHYDYCEISIAID. ST. CLEARS, MR DANIEL EVANS, CWMBACH, WHITLAXD. Trysoi-ydd Cyffrediuol: D. LL. LEWIS, Yxw., NATIOXAI. PKOVINCIAL BANK, CAERFYRDDIN. -¥- CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DITTIES were resumed on MONDAY, MARCH JLJ 31st, 1884. For Terms, &c., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff.
YR WYTHNOS.
News
Cite
Share
YR WYTHNOS. BAZAAR TREFPYNON.—Y gair Gymraeg a rydd Silvan Evans am bazaar yw nodachfa, masnachdy nwyddau amryfath. Credwn fod y gair Saesoneg yn fwy dealladwy na'r Cymraeg hyd yn nod i'r Cymro uniaith, oblqgid y mae trwy ymarferiad wedi dysgu cysylltu syniad ac amcan neillduol i'r gair bazaar. Bazaar yw yr enw roddir ar siopau o bob math yn y Dwyrain, ac ymddengys fod yr enw wedi tarddu yn wreiddiol o'r Persiaeg, ac yn arwyddo y masnachdai hyny lie y gwerthir pob math o nwyddau angenrheidiol ar gymdeithas. Mae y bazaar yn fath o sefydliad crefyddol yn mhlith y Saeson er's blynyddau, ac yno y gwerthir nwyddau am bris uchel, a defnyddir yr elw at ddileu dyled y capel neu ryw amcan da arall. Diau fod llawer o addoldai a lethid gan faich o ddyled wedi eu llwyr waredu trwy y ffordd hon. Bellach mae yn dyfod ynfwycyifredin yn Nghymru, a gwyddom am fwy nag un eglwys Gymreig yn parotoi 0 ZD yn brysur er cynal bazaars yn ystod yr haf hwn, ac y mae yr arwyddion yn dra gobeith- iol am lwyddiant. Yn ddiweddar cynal- iodd eglwys Annibynol Seisonig Treffynon bazaar i amcan rhagorol iawn. Mae y capel wedi ei adeiladu ar dir Arglwydd Dinbycb. Cynygiodd yntau werthu y brydles am X400 j i'r eglwys, a phenderfynasant hwythau Î dderbyn y cynyg, fel buasai y capel a'r tir J yn eiddo i'r eglwys. Nid eu ffordd i wneyd hyn oedd benthyca hyny o arian ar log, a'i adael yn ddyled, ond talu yr oil wrth gwblhau y fargen. Ymroddodd pawb ati o ddifrif, ac nid oes dim a saif o flaen pobl wedi eu llanw ag ysbryd difrifol. Agorwyd y nodachfa gan Mr Hudson, Caer, a Mr Atkin, Rock Ferry-dau foneddwr ydynt bob amser yn barod i gynorthwyo pob achos da. Trodd yr anturiaeth allan yn llwydd- iant perffaith, a phan gauwyd i fyny y bazaar yr oeddynt yn gallu cael digon o ar- ian i gyrhaedd yr amcan. Llongyfarchwn y Parch Owen Thomas, MA., a'i bobl weith- gar ar eu cydweithrediad a'u llafur. LLINDAGIAD PLENTYN. — Yn Uxbridge, Middlesex, cymerodd amgylchiad galarus iawn le dydd Iau diweddaf Yr oedd mor- wyn Mr Albert Scott wedi cael ei hanfon allan a'r ferch fach yn ymyl dwy flwydd oed mewn perambulator am dro i'r wlad. Ar y ffordd tynodd y forwyn y scarf oedd am ei gwddf a rhwymodd ef am wddf y plentyn, a thynodd ef yn fwriadol mor dyn nes ei llindagu i farwolaeth yn y fan. Wedi cyf- lawni y weithred greulon, gadawodd y plentyn marw ar y ffordd, a rhedodd yn wyllt i roddi ei hunan i fyny i'r heddgeid- waid. Hi ei hunan fynegodd iddynt hwy gyntaf am y weithred, a chymerwyd hi i'r ddalfa ar unwaith. Nid oes dim yn ym- ddangosiadol i gyfrif am y weithred. Yr zi oedd yn eneth siriol, ond lied ddystaw. Nid oedd wedi bod ond tair wythnos yn ngwas- anaeth y teulu, ac ni sylwyd fod dim yn ei hymddygiad yn arwyddo gorphwylledd. Modd bynag, mae wedi ei thraddodi i sefyll ei phrawf am lofruddiaeth wirfoddol, a, hwyrach yr amlygir rhyw ffeithiau fyddant yn taflu goleuni ar y weithred. Mae yr amgylchiad wedi gyru braw ac ofn trwy galonau holl rieni plant y dref, ac yn awgrymu iddynt hwy ac ereill i beidio ym- ddiried eu plant bach i ofal merched anys- tyriol a rhyiygus. DAMWAIN BEDLINOG.—Mae gan Gwnini Dowlais bwll glo mawr—saith cant o latheni J o ddyfnder-yn Bedlinog. Mewn cysylltiad a'r pwll mae yn agos i ddau cant o ddynion yn gweithio. Boreu Mawrtb, yr 17eg cyfisol, pan oedd 145 o ddynion a becbgyn wedi eu gollwng i lawr yn ddyogel i'r pwll. Sylwodd y peirianydd wrth enau y pwll fod y rhaff fawr oedd yn amgylchu y tabwrdd wedi cymeryd tan. Rhedodd yn ddioedi am gymhorth i'w ddiffodd, ond cyn iddo gael amser i ddychwelyd yr oedd y tan wedi ym- ledu nes oedd ty y peiriant a'r boll beiriant ei hun yn un oddaeth danllyd. Dychryn- odd pawb, a rhedodd canoedd at enau y pwll gan ofni y gwaethaf i'r ugeiniau oedd wedi myned i lawr. Nid oedd modd cael y dynion i fyny trwy y pwll hwnw, a dygwydd- oud fod pwll arall ger llaw, ond nad oedd yn cael ei ddefnyddio i godi glo. Trwy ddyfais a chydymdrech y swyddogion, gos- odwyd peirianau i fyny wrth hwnw, a llwyddwyd i anfon gwybodaeth i'r glowyr fod eu gwaredigaeth yn agoshau. Wedi amryw oriau o lafur caled ac o bryder di- gyffelyb, llwyddwyd i'w gwaredu oil, a bydd y pwll yn fuan wedi ei adgyweirio fel ag i gyflawni ei orchwylion arferol. Felly arbedwyd yr ardal rhag trychineb ofnadwy, a dylai pawb gydnabod Haw yr Arglwydd yn y waredigaeth hon. BWEDEISDREF H WLFFORDD. — Bellach mae yn hysbys i'r wlad fod Arglwydd Kensington wedi ei ddewis yn ymgeisydd dros Middlesex yn yr etholiad nesaf. Yr oedd Mr W. Caine, yr aelod presenol dros Scarborough, wedi ei ddewis yn flaenorol. Mae y dewisiad hwn yn adlewyrchu an- rhydedd mawr ar y ddau foneddwr, ac yn profi eu bod yn sefyll yn uchel iawn yn marn arweinwyr y blaid Ryddfrydig. Achosa hyn i'r ddau dori i fyny eu cysylltiadau blaeuorol, a myned i ymladd y Toriaid yn un o'u hamddiffynfeydd cadarnaf. Ffar- weliodd Arglwydd Kensington a bwrdeisdref Hwlffordd yr wythnos ddiweddaf, a gwnaeth hyny mewn ffordd hynod o dyner a pharch- us. Wedi dwy flynedd ar bymtheg o gysylltiad gwleidyddol, nid yn hawdd y gellid ffarwelioj ac amlygodd y ddwy ochr yr auwyldeb mwyaf tuag at eu gilydd. Nid gorchwyl anhawdd yn Hwlffordd oedd dewis olynydd canys yr oedd llygaid pawb yn hollol ddieithriad wedi disgyn ar Mr W. Bowen Rowlands- bargyfreithiwr enwog a phoblogaidd ar 0 ZD Gylchdaith Deheudir Cymru. Ganwyd Mr Rowlands yn Hwlffordd, ac wedi cael addysg foreuol dda dygwyd ef i fyny yn offeiriad, a bu yn gweinyddu yn y swydd hono am dym- hor byr, ac hefyd yn Brif athraw yr Ysgol Ramadegol yn y dref hono. Yn ystod y tymhor hwn, priododd ferch—unig blentyn Dr Brown, a daeth felly i un o'r cysylltiadau teuluaidd mwyaf parchus. Yn herwydd rhyw resymau ymwrthododd a'r Eglwys, ac ymgymerodd a darparu i fod yn far-gyf- reithiwr. Wedi dechreu ar ei waith dangos- odd fod ganddo dalent ddysglaer, a hyawdl- edd cyffrous a thrydanol. Dringodd yn gyflym i enwogrwydd, a saif heddyw yn y 3 0 dosbarth blaenaf fel dadleuydd cyhoeddus. Mae yn anhraethol boblogaidd yn Hwlffordd ac nid oes dadl am ei lwyddiant. Mae yn ddirwestwr profedig a selog, ac wedi datgan yn groew a phendant yn mhlaid Dadgy- sylltiad a Dadwaddoliad. Parodd ei ddewis- iad unfrydol mewn cyfarfod cyhoeddus frwdfrydedd mawr yn y dref a'r adranau ereill perthynol i'r fwrdeisdref, ac y mae yn ddiau, pan ddaw yr adeg, y dychwelir ef i'r 'Senedd gyda'r fath fwyafrif ag a bar ddych- ryn i galonau yr ychydig Doriaid a lechant yno.