Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
-CWMLLYNFELL.
News
Cite
Share
CWMLLYNFELL. Tanchwa yn Brynhenllysg.-Gweithir rhan o'r gwaith hwn wrth oleu noeth. Boreu dydd Mawrth cyn y diweddaf, mynegodd y tanwr fod y gwaith yn glir o nwy ond gyda fod y gweithwyr yn ffas y gwaith, deallasant fod yno elfen tan, a rhedasant yn ol i'r awyr bur. Rhedodd bachgen bychan 14 oed, mab David Bowen, i fynegi i'r gweithwyr oedd yn y rban arall o'r gwaith am iddynt dd'od allan ar unwaith ond gyda'i fod wrth y drws oedd yn rhanu y gwaith, fe daniodd gyda'r gweithwyr oedd ef yn myned a'r newydd iddynt. Hyrddiwyd y drws gyda'r fath nerth i wyneb y bychan fel y lladdwyd ef ar unwaith, a llosgodd dau o'r gweithwyr yn ddyogel. Mae yma gydymdeimlad mawr a rhieni y bychan yn eu trallod. Cymerodd y trengholiad le dydd Sadwrn, a chladdwyd ef yr un dydd yn mynwent Cwm- llynfell.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CANWCH YN DDA SLARADWCH YN DDA!- Mae Doughty's Voice Lozenge wedi eael ei werthfawrogi yn fawr gan glerigwyr, cantoi-ion, ac enwogion ereill am yn agos i 40ain mlynedd. lthydd glirder a gloewder i'r llais. JENNY LIND.—"Y mae yn bleser mawr genyf, mor bell agy mae fy mhrofiad yn myned, i gadamhau y djrstiolaeth sydd mor gy- ffreditiol yn ffafr y Lozenges a barotoir genyeli chwi" (Miles .1 Doughty). (ie, Is, 2s (Je, 5s. a Us—vu rliydd trwy y llythyrdy, 7c, Is 2c, &c. (lofynwoh i'oli Cyft'erydd am danynt—NKWBEItY a'i FEIBION' 1, Kittg Edward-street, Lluudaia, E,C. Sefydlivyd yu y Iiwyddynl74G
Y Golofn Wleidyddol.
News
Cite
Share
Y Golofn Wleidyddol. Pel rheol treulir y rhaa gyntaf o bob eisteddiad dyddiol dau Dy y Senedd i ofyn cwestiynau ar faterion o bwys, neu a dybir eu bod felly. Digon priodol yw byn. Dylai y wlad gael gwybod pa fodd y saif pethau, a'r unig ffordd iddi gael gwy- bod ydyw drwy i'w chynrychiolwyr fod yn effro i wylied pob syrcudiad, a cheisio gan yr aelod o'r Weinyddiaeth y perthyna iddo i ateb y gofyniadau a roddir ar wabanol faterion. Ond yr anffawd ydyw fod yr hen drefn dda hon, fel pob trefn dda arall, yn agored i'w chamddefnyddio yn druenus, ac y mae y to presenol o Seneddwyr wedi graddio yn y gangen hon o waith. Cerir yr arferiad yn mlaen i raddau gwaradwyddus, a gwneir defnydd hollrol anheg ohoni yn fynyeb. Hyd y gallaf gofio y Gwyddelod bia'r clod o ddarganfod fod yn y gangen hon y fath adnoddau i rwystro gwaith, a phoeni gweinidogion, ond nid hir y bu y Toriaid diegwyddor a llygadgraff cyn gweled ei gwerth iddynt hwy yn y cyfwng presenol ar wleidiadaeth, a thra yr eisteddant yn ochr ddigysur, a didal, a diheulwen y Ty sydd ar aswy Cadair y LJefarydd, rhaid cydnabod fod yn ofynol i aelod golli mesur ma.wr o'i hunan-barch cyn y llewyrcha efe lawer I yn yr adran hon o waith y Senedd, ond y mae hunan-barch yn bwnc sydd yn agored i amryw- iaeth barn yn ngbylcb yr hyn a'i cyfansodda. Gall yr hyn a dybir ei fod yn ddinystr iddo yn nghyfrif un, fod yn elfen hanfodol ynddo yn nghyfrif un arall, ac mi dybiwn fod gan ambell i Dori a Home Ruler syniadau go ryfedd am hunan- barch cyn byth y gallant lefaru ac ymddwyn fel I y gwnant. Poenir llawer ar Mr Gladstone gan y dosbarth yma-yn enwedig ar adegau fel y pres- enol, pan mae sefyllfa pethau mor beryglus, ac yn gofyn y fath gynildeb i'w trafod. Mae Mr Ashmead-Bartlett, yr aelod dros Eye, yn deall y ffordd i boeni Mr Gladstone, ac nid yw yn ol o wneyd hyny yn ddyddiol. Gofynagwestiynau a gwna sylwadau disail, gan briodoli ymadroddion na lefarodd erioed i Mr Gladstone, a thybia ei fod yn wr o dalent arbenig pan y chwerddir yn ddir- mygus am ei ben gan lawer. Gresyn mawr fod Mr Gladstone yn gadael ei fath i'w boeni. Rhydd wledd i'w elynion i'w weled yn cyffroi cymaint o dan oruchwyliaethau gwr fel Ashmead-Bartlett. Ond rywfodd nid yw tymher yn beth y gellir bob amser ei reoli wrth ein hewyllys, ac y mae yn hollol anghyfrifol i mi paham y gall ambell un ein cySroi gymaint, tra na wna y Hall effeithio arnom. Un o fan wybed y Senedd yw Ashmead- Bartlett sydd yn teimlo mai eu cenadaeth yw poeni y cawr a eistedda ar eu cyfer. Bu efe yn euog iawn o hyn yr wythnos hon. Daeth Mr E. Leatham a mesur i atal gwerth- iant bywiolaethau yn yr Eglwys Wladol ger bron y Ty ddydd Mercher diweddaf, a darllenwyd ef yr ail waith. Cytunai y ddwy blaid arno, a theimlid yn gyffredinol fod yn hen bryd gwneyd rhywbeth er gosod terfyn ar y drefn waradwyddus bresenol. Gwnaed dynoethiad, pe buasai angen am hyny hefyd, o'r modd y trosglwyddir gofal eneidiau yn yr hen Eglwys, a buont yn adrodd y pethau a gymerant Ie. Nid wyf yn hollol sicr y daw y mesur yn ddeddf yn fuan, a phe deuai yn ddeddf yfory, yr wyf yn amheus a wna efe hwylusu a phrysuro dydd Dadgysylltiad, a hwnwsydd eisieu, a hwnw rhaid gael, a hwnw hefyd a ddaw. Dy- wedai Mr Labouchere na phleidleisiai efe yn erbyn. na thros ail-ddarlleniad y mesur, am y rheswm nad oedd yn c-redu o gwbl mewn Eglwys Sefydledig. Gresyn fod Ymneillduwyr mor barod i roddi ffordd i'r Eglwyswyr. Mae genyf barch mawr i'n haelodau Seneddol Cymreig, ond rhaid i mi gydnabod y byddai genyf fwy iddynt, pe y gwelwn hwynt yn llai parod i chwareu i ddwylaw yr Eglwys. Yr oedd y cais a wnaed ganGynghor Coleg Bangor i alw Cynadledd o gynrychiolwyr y tri Choleg Cenedlaethol, a Choleg enwadol Llan- bedr, gan wrthod cynrychiolwyr o'r colegau enw- adol ereill, yn engraifft deg o'r gwaseidd-dra sydd yn rhy amlwg ynom, ac o'r warogaeth a delir genym i'r Eglwys. Dygwyd y mater ger bron gan Ymneillduwr, sef Mr Eathbone, a dywed ei fod ef yn ei ddwyn yn mlaen ar ol ymgynghori a Mr Mundella a Mr Henry Richard Ymneillduwr arall, a chariwyd y cynygiad yn y Cynghor drwy help Ymneillduwyr. Yn sier, ni oddefir i bethau felly gymeryd lie yn ddisylw a digerydd ac y I mae y ffaith fod y fath wrthdystiad eisoes wedi ei godi yn erbyn y cynllun, a'r ffaith fod y cynllun gwreiddiol wedi ei adael, yn brawf o gyflymder symudiadau yn bresenol, ac yn sicrwydd i ni ein bod wedi dihuno i'n hawliau. Tybed mae ein haelodau Seneddol fydd y l'hai diweddaf i ddysgu hyny ? Gwir fod Adroddiad y Pwyllgor ar Addysg yn Nghymru yn cydnabod Coleg Llanbedr yn yr ymdrafodaeth ond Haw pwy a ysgrifenodd yr Adroddiad hwnw ? Ac oni ddylasem fel Ymo neillduwyr fod wedi codi ein lief er's hir amser yn erbyn rhanau Eglwysig yr Adroddiad hwnw ? Pa faint o droion eglwysyddol yn ychwaneg y rhaid i Arglwydd Aberdar wneyd cyn y gwelir pa fath ydyw ? Onid yw yn hen bryd i'n haelodau Sen- eddol ddyweyd wrth Mr Gladstone sfc ereill sydd mewn awdurdod, na chymerwn Arglwydd Aberdar i'n cynrychioli ar faterion perthynol i Gymru. A ydyw Mr Wynne Jones, ei fab-yn-nghyfraith wedi ei benodi yn Ddeon Bangor? Nid rhyw lawer sydd er pan benodwyd ef i un o fywioliaethau brasaf y Deheudir yn Llanbedr Velfrey, ac onid yn y fywiolaeth hono yr oedd y gwr a wnaed yn Esgob Llandaf ? Ai nid ar law Mr Gladstone yr oedd penodi Esgob Llandaf? Pwy, tybed, gyf- ododd ei fys i gyfeirio sylw y Prif Weinidog i Lambedr Velfrey i chwilio am Esgob ? Pa hyd y byddwn heb weled fod dynion sydd yn gweithio i'w dwylaw eu hunain o hyd yn anghymhwys i'n cynrychioli ni. Trech gwlad nag arglwydd," yw hi mae yn wir, ond yr ydym yn bwyrfrydig ambell dro i weithredu oddiar y gwirionedd yna. Da gan fy nghalon weled arwyddion sicr yma a thraw fod dynion yn codi yn ein gwlad, a ddy- wedant eu meddyliau yn ddifloesgni wrth ar- glwydd Eglwysig, a rhaid i'n haelodau Cymreig fod yn effro i'w dyledswyddau, neu byddant yn sicr o glywed ambell i wirionedd hallt pan ddaw dydd y cyfrif. Mae Mesur yr Etholfraint wedi ei gario drwy bwyllgor, ond y mae ganddo ddwy stage eto cyn gadael y Ty Cyffredin. Rhaid i'r Ty dderbyn adroddiad y pwyllgor, a gellir codi dadleuon lawer yn y stage hono, ac ar ol hyny darllen y mesur y drydedd waith, ac os mynir gellir myned dros yr holl dir drachefn yr adeg hono. Nid yw yn wy- byddns beth a wna y Torïaid yn stages nesaf y mesur. Hwyrach y gadawant ef i basio yn weddol rwydd gan eu bod wedi eu curo mor ddidrugaredd yn mhob brwydr flaenorol arno ond y mae yn bosibl y gwelant y gellir treulio amser maith arno, a hyny yn rhoddi esgus i'r Arglwyddi i'w daflu allan yn herwydd byrder amser i'w ystyried. Fodd bynag, ceir gweled yn bur fuan beth fydd y tactics. Bydd sylw yr holl wlad yn canolbwyntio cyn hir ar Dy pendefigaidd yr Arglwyddi, a bydd llawer yn dal eu hanadl mewn pryder, nes y gwelir beth a wneir o'r mesur sydd i ryddhau dwy filiwn o ddeiliaid Prydain Fawr a'r Iwerddon. Pe teflid allan y mesur codid cri yn erbyn yr Ar- glwyddi na ostegid hyd nes ceid ad-drefniad hollol ar eu Ty gan nad pwy blaid a gai y mwyafrif yn yr etholiad nesaf. Nid oes berygl y bydd y Sen- edd heb waith yn fuan, a chyn pen ugain mlyn- edd bydd ol ei llaw ar bwnc y tir, yr Eglwys, a Thy yr Arglwyddi. GWLEIDYDDWR.
* CYMANFA YSGOLION LLANYBRI.
News
Cite
Share
CYMANFA YSGOLION LLANYBRI. Cynaliwyd yr uchod dydd Llun, Mehefin 16eg, am 2 a 6 o'r gloch. Cafodd Ysgol Capel Newydd y prydnawn iddynt eu hunain. Wedi darllen rhanau o Air Duw, gweddfo, a chanu amryw donau cynulleidfaol, holwyd yr ysgol gan y Parch D. Lewis, Gibeon, yn Rhnf. iv. Canasant ddwy anthem o dan arweiniad Mr E. Francis. Holwyd y plant gan Parch D. Thomas, gweinidog y lie. Am 6, dechreuwyd y cyfarfod gan Mr Lewis, a holwyd ysgol Capel Cowin gan Mr Thomas, y gweinidog, yn Rhuf. v. Canasant hwythau ddwy anthem o dan arweiniad Mr Gad Protheroe. Yn nesaf holi plant ysgol Bethel, Llanstephan, gan y gweinidog, ac wedi iddynt ganu t6n yn swynol dros ben, holwyd yr ysgol gan Mr Lewis, Gibeon, yn Heb. vii. Canasant hwytbau anthemau o dan arweiniad Mr H. Jones. Wedi hyny canwyd "Mount of Olives gan yr holl gynulleidfa, Mr H. Jones yn arwain, ac wedi hyny "DyfIryn Bacca," Mr E. Francis yn arwain. Dyblwyd a threblwyd, a phawb mewn hwyl. Fellyterfynodd un o'r eymanfaoedd goreu a gafwyd yn y gymyd- ogaeth hon erioed. Yr oedd 61 llafur mawr gyda'r esbonio a'r canu, a'r cyfan yn cael ei gario yn mlaen mewn hwyl grefyddol. Dysgwylir cynydd yn yr ysgolion ar ol hyn, yn mhob dawn. Yn herwydd amgylchiadau lleol, methodd ysgol Smyrna a bod yn bresenol yn y Gymanfa, ond aethant yn dorf fawr nos Sul i Bethel, a mawr y ganmoliaeth a gawsant am y canu a'r esbonio. Holwyd hwynt yn absenoldeb y gweinidog gan Emlynfardd, o Goleg Caerfyrddin. Mae Mr Lewis, Gibeon, hefyd yn holwr ysgol campus. Dysgwyl- iwn y flwyddyn nesaf y bydd yr esgobaeth i gyd yn gryno yn y gymanfa. AELOD.
. CYMANFA MORGAN WG.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cafwyd yn nesaf anerchiad byw a dylanwadol gan y Cadeirydd ar Y gweinidog da a'i gynorthwyon," yr hwn a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth uchel. Wedi siarad cymer- adwyol ar yr anerchiad gan y Parchn Dr Rees ac F. Samuel, Abertawy, a T. Johns, Llanelli, cyQygiwyd y penderfyniad canlynol gan y Parch J. Foulkes, Aberafon, ac eiliwyd gan y Parch H. A. Davies, Moriah, Aman- Ein bod yn dymuno cvflwyno ein diolchgarwch mwyaf cynes i'r Parch D. Richards am ei was- anaeth gwerthfawr fel Cadeirydd am y flwyddyn sydd yn awr yn terfynu, ac hefyd am ei anerchiad rhagorol ar "Y gweinidog da," &c. Wedi ychydig eiriau o gydnabyddiaeth gan Mr Richards, terfynwyd trwy weddi gan Dr Rees. Y MODDION CYHOEDDUS. Nos Fercher, pregethwyd yn y gwahanol gapeli yn y drefn a ganlyn:—Cadle, J. Foulkes, Aberafon, ac R. Rees, Alltwen; Brynteg, S. Jones. Treoes, a T. Morris, Dowlais; Sketty, Ll. E. Jenkins, Blaenafan, a D. LI. Morgan, Sciwen Duavant, J. Edwards, Castellnedd, a G. B. Williams, Libanus; Penclawdd. H. P. Jenkins, Ystalyfera, a J. T. Davies, Pontar- dawe; Crwys, R. Thomas, Penrhiwceibr, ac E. Davies, Abercynffig Casllwchwr, E. Richards, Tonypandy, a — Gronow, Birchgrove Sardis, Waunarlwydd, P. W. Hough, Merthyr; J. Rogers, Pembre (yn Saesoneg); ac E. Thomas, Glantaf. Boreu dranoeth, am 7 o'r gloch, yn yr un lie, W. G. Evans, Coity; D. Richards, Caerphili; a J. Morgan, Cwmbach. Am 10 o'r gloch, yn yr awyr agored, J. R. Williams, Hirwaun R. Rowlands, Aberaman; a W. I. Morris, Pontypridd. Am 2 o'r gloch, T. Morris, Dowlais. Wedi hyny, oherwydd y gwlaw, ymranodd y gynull- eidfa i'r ddau addoldy ger Haw, sef eiddo yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, pryd y pregeth- wyr yn y naill gan M. C. Morris, Ton-Ystrad, ac yn y llall gan G. B. Williams, Libanus. Am 6, eto yn y ddau gapel, gan R. Thomas, Penrhiwceibr; J. Davies, Taihirion; O. L. Roberts, Pentyrch; a D. G. Rees, Eglwys- newydd. Dechreuwyd y gwahanol gyfarfodydd gan y brodyr T. S. Jones, Carmel; R. Rowlands, Aberaman O. L. Roberts, Pentyrch J. Thomas, Bryn, ac ereill. Diweddwyd y cyfarfod 10 o'r gloch gan J. Jones, Llangiwc. Daeth nifer luosog yn nghyd i'r Cynadleddau, a chafwyd Cymanfa ragorol trwyddi. Gwir i'r gwlaw dydd Iau achosi cyfnewidiad yn y trefniadau, ond cafwyd ychwaneg o bregethau trwy hyny, gan i'r gynulleidfa ymwasgaru i'r capeli. Gwnaeth Mr Bevan a phobl ei ofal, yn gystal a'r holl ardal, roddi croesaw cynes a chalonog i'r Gymanfa. Hyderir yr erys ei dylanwad er daioni yn hir yn y cylch. W. I. MORRIS, } Ysgrifen- <t; J- ROBERTS, yddion. p'