Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

r>trv CYMANFA MON.

News
Cite
Share

r>trv CYMANFA MON. Cynaliwyd y Gymanfa uchod yn Porth- aethwy, Mawrth a Mercher, Mehefin 17eg a'r 18fed. Am 10 o'r gloch dydd Mawrth, cynal- iwyd Cynadledd y Cyfarfod Chwarterol, dau lywyddiaeth y Parch E. C. Davies, Borth. Wedi darlleu cofnodion y cyfarfod diweddaf, a'u cadarnhau, penderfynwyd 1. Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i' w gynal yn Bethel, Maesyllan, Awst lleg a'r 12fed. 2. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ysgrifenydd Cymdeitbas Sobrwydd (Manchester), yn dymuno ar y cyfarfod arwyddo deiseb (trwy y Cadeirydd), i atal gwedb::wt diodydd meddwol ar y Sabboth yn Lloegr, a'i hi nfon i ofal yr aelod Seneddol dros y sir, i'w chyflwyao ger bron y Ty Cyffredin, yr hyn a basiwyd yn uufrydol. 3. Cynygiwyd gan y Parch T. Evans, Amlwch, ac eiliwyd gan y Parch R. Williams, Llanerch- ymedd, That this Meeting congratulates Mr R. Davies, the member for our County on his eleva- tion to the honour of the Lord Lieutenancy of Anglesea, .wishing him many long years to enjoy the fruit of the distinction conferred upon him in his native Island; and that the Gladstone Ministry in this, as well as in other matters, has shown its appreciation of the rights and sym- pathies of the people whose unabated c nfidence the Government deservedly retains. 4. Cynygiwyd gan Mr W. Thomas, Llangefni, ac eiliwyd gan Mr O. Thomas, Neuadd That this Meeting emphatically disapproves of the exclusive spirit evinced in refusing to admit the heads of Nonconformist Colleges, whilst the Principal of the Church of England College at Lampeter is invited to attend the Conference connected with a proposed Welsh National University, such a mode of procedure, rather than aggrandise the Church of England in Wales, will only tend to basten the day of its overthrow as a privileged civil establishment." 5. Cynygiwyd gan Mr R. Thomas, Borth, ac eiliwyd gan Mr W. Hughes, Beaumaris :—"That it is the opinion of this Meeting, that all rightful influence should be brought to bear upon the Government with the view of retaining the annual grant to Aberystwyth College not only in recognition of the pioneer work already done by that College, but also as being just and equitable towards the interest already vested in the insti- tution, as well as being fair and considerate towards the educational wants of Central Wales. G. Gosododd y Parch J. Biàdon Jones ger bron y cyfarfod yr angenrheidrwydd i ddeisebu trwy y sir dros gynygiad Mr Diilwvnam gael Dadgy- sylliiad a D&dwaddoliad yr Eglwys oddiwrth y Wiadwriaeth yn Nghymra; a phasiwyd diolch- garwch gwresog i Mr Jones ara ei ymweliad. 7. Cynygiwyd gan Mr Williams, Tyddynlly- warch, ac eiliwyd gan Mr Thomas, Borth:—Ein bod yn cyfiwyno llythyr o gymeradwyaeth i'r Parch Richard Jones, Berea, ar ei symudiad i Gyfundeb Arfon i gymeryd gofal yr eglwys yn y Pentir. 8. Cynygiwyd gan Mr Roberts, Treban, ac eil- iwyd gan y Parch T. Evans, Amlwch, a chefnog- wyd gan Mr McKillop, Tymawr :—Fod y cyfarfod yn cymeradwyo yr eglwYR yn Maelog i sylw y sir, fel un deilwng o'n cymhortb tuag at y draul o adgyweirio y capel, gan obeithio y caiff y Parch T. Gruffydd bob sirioldeb yn yr eglwysi y bydd yn ymweled a hwy i'r anican hwn. 9.. Go)Ododd Mr J. Williams, Caer^ybi, ger bron y cyfarfod actios Trysoria Gweddwon y Gweinidogion gan ddymuno arnom wueyd casgliad blynyddol trwy y sir tuag at y cyfryw. 10. Cafwyd sylw calonogol gan yr Ysgrifenydd at achos newydd Bethania, Rhosybol, a rhoddodd Mr Thomas Jones, un o'r diaconiaid, banes ei ddechreuad a'i lwyddiant yn effeithiol, a'i bod trwy ymdrech y Parch W. Davies, ei gweinidog, wedi talu dros £ 100 o'r ddyled ar y capel newydd, a dymunai ar iddynt gael help gweinidogion a pbregethwyr y sir i gael pregeth nos Sabboth yn fwy cyson. Yr oedd y Gynadledd hoa yn lluosog ei rhif, a'r casgliadau i drysorfa y sir yn f3 15s. Am 2 o'r gloch, cynaliwyd Cynadledd y Gymanfa, a dewiswyd yn llywydd y Parch Dr Thomas Rees, Abertawy (sef Llywydd Undeb Cynulieidfaol Lloegr a Chymru). Wedi galw am gasgliadau yr eglwysi at draul y Gymanfa, galwyd ar Mr John Williams, Caergybi, i anerch y cyfarfod, a dywedodd- Fod yn byfryd ganddo weled y fath undeb a chydweithrediad yn eglwysi y wlad yn mhlaid teyrnas y Gwaredwr, gan ddymuno i ni gynyddu yn y gras hwn. Yna y Parch R. Williams (Hwfa Mon), a ddy- wedai fod yn llawen ganddo hysbysu fod graddau dymunol o lwyddiant ar yr achos yn Llanerch- ytnedd, ac er eu bod wedi colli amryw o frorlyr enwog, eto fod yr Arglwydd yn gofalu am lanw y bylchau, a bod y cyfraniadau at yr achos yn par- hau ar gynydd. Yna galwyd ar y Parch D. Rees, Capel Mawr, a dywedodd, nas gallai ef ddyweyd fod dim teimlad- aa crefyddol anghyffredin yn eu mysg hwy fel yn Llaneixihymedd a manau ereill, oud eto fod ar- wydd o ffyddlondeb a cbyson weithio gyda'r Ysgol Sabbotbol, a chyfarfodydd ereill yn parhau, gan obeithio y bendithir hwythau hefyd d'r ym- weliad grasol. Wedi hyny cyfododd Dr T. Rees, a dywedai yn deimladwy iawn, fod yn chwith ganddo weled lleoedd amryw o'i hen frodyr yn Mon yn wag, ond yr oedd yn gysur cofio eu bod wedi myned at "eu gwobr" a "llawenydd eu Harglwydd," a bod pob calondid genym ninau eto i fyn'd yn mlaen, gan fod yr Iesu yn para yn ddigyfnewid byth. Y nesaf alwyd oedd y Parch W. Edwards, Aber- dar, yr hwn a ddywedai, fod yn llaweu iawn ganddo gael cyfarfod a ni eto yn Mora am unwaith, ei fod yu teimlo Uawer o lesgedd a gwendid corff, ond yr hyderai y cawsai uin cydymdeimlad. Y teimlai hefyd os nad ydym yn gallu cvdsynio yn hollol ar red pethau fel brodyr, eto ein bod o galon yn hoffi cydweitbio gyda tbeyrnas y Gwar- edwr. Canrnolai yn fawr ddull dygiad yn mlaen y Gynadledd yn y boreu, mewn ysbryd mor dawel ac nnol, a'i fod yn sicr y caifi pob \m a weithio gyda'r lleoedd. gweiniaid, fantais bersonol hefyd, a'n bod i edrych i fyny at Grist am esiampl a cbymhortb, a bod yn dda ganddo gredu fod yn eiu plitb fel Enwad yn awr fwy o gyd-ddealld wr- iaeth nag y bu. Y Parch T. Davies, Llanelli, a ddywedai, fod yn angem-heidiol rhoddi cymhellion cryf iawn i ddynion ieuainc yr eglwysi i weithio yn gyhoedd- us, a theimlai mai angen mawr y dvddiau by a ydyw tywalltiad belaeth o'r Ysbryd GlAu arno-rc! oil fel gweinidogion a chynulleidfaoedd ym gyffredinol, a'i fod yn bwysig i ni fod mewn tym- hercdd priodol i allu derbyn yr ymweliad, ac ondl i ni ei gael y bydd yr" Old, old story," yn cario ei: dylanwad adfywiadol arnom oil. Y Parch Job Miles, a ddywedai, mai un 0'1" pethau pwysicaf (fel y dywedai Mr Davies) i eglwysi y wlad ydyw gofalu am fagu dynion. ieuainc yn grefyddol yn gyfryw felly na bydd dim colli arnynt pa le bynag v bydd Ilbaglnniaeth yn eu bar wain. Ei fod yn teimlo y fraint o fod wedi ei fagu mewn eglwys fechan, gan fed anganrheid- rwydd am wasanaethu yn gyhoeddus yn fynycfcatr bob un o'r aelodau yr hyn a. brofodd er bendith i lawer. Ac ychwanegodd ei fod yn credu fod ym ein mysg fwy o lwyddiant nag a feddyliau ll»werr er nad oes yma gymaint o'r swn a'r gorfoledd, tte,, fod y llwyddiant yn sicr. A gobeithiai y pariia. ein gweddïau yn daer i'w geisio nes ei gael. Yna dywedodd Dr Rees, fod yn dda ganddo ein' bod fel Enwad yn llwyddo, ac mai rhyw 220 oedd o eglwysi yn Nghymru yr amser y ganwyd ef, ond fod yn awr yn agos i 1,000. Ei fod yn teimlo y dylem fod yn fwy enwadol ond ni olygai trwy hyn i ni fod mewn rhagfarn cul at enwadan ereill, ond y gallem weithio a chydweithio yn well pe meddem fwy o serch enwadol yn ein plith. Dywedai fod gormod o awydd mewn rbai am ddyweyd mai Annibynwyr ydynt hwy fel esgus am en diffyg i gydweithio, a dangosa-i y gall pob eglwys yn Nghymrn, os dewisfu, gynorthwyo un cglwys wan, a gofynodd a fyddai byny yn dinystrio annibyniaeth yr eglwysi ? Ni theimlai eiddigedd dros lwyddiant unrhyw enwad a ystyrir yn uniongred, oud dywedai y buasai yn well ganddo fod ei euwad ef yn llwyddo rawy. Ei fod hefyd yn gobeithio na bydd nnrbyw wawdiaeth gan rai a berthyn i Eglwys- Sefydledig ein gwlad arnom, beri y gradd lleiaf o ddigalondid i neb, ond yn hytrach gryfhau ein pRnderfyniad i weithio nes cy) baedd yn fuan y Dadgysylltiad a'r Dad- waddoliad ag mae gwawr ei obaith wedi tori mor glir yn barod. Yna penderfynwyd fod y Gymanfa y flwyddyn nesaf i'w chynal yn Llanerchymedd. y MGDDION CYHOEDDUS. Am 6 o'r gloch, ar y maes, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch'R.'WilHams (Elwfa Mon), a: phregethwyd gan y Parchn T. Eynon Davies, a T. Davies, Llanelli. Am 7 o'r gloch, dydd Mercher, yn y capel, dechreuwyd gan Mr T. Jones, Bodedeyrn, a phregethodd y Parch Job Miles, Aberystwyth. Am 10 o'r glochdechreuwyd yr oedfa gan y Parch T. Davies, Llanelli, a phregethodd y Parchn E. Stephen, Tanymarian, a W. Edwards, Aberdar. Am 2 o'r gloch deehreuwyd gan y Parch J. Williams, Niwbwrch, a phregethodd y Parchn T. Eynon Davies a Dr Rees, Abertawy. Am 6, dechreuwyd yr oedfa gan y Parch Mr. Parry, Chwareigoch, a phregethodd y Parchn Job Miles, a Dr ivees. /"I" 1 "I 1 Yr ydym yn teimlo tool y cynaaieaaau yn gystal a'r cyfarfodydd cyhoeddus ac arogl esmwyth yr eneiniad nefol yn amlwg arnynt, a chawsom engraifft ychwanego) yn eglwys siriol y Borth pa mor ddymunol ydyw gwneuthur pob peth yn weddaidd ac mewn trefn." Arosed gwlith bendith yr Ysbryd Glan i dyfu a ffrwyth- oni y gair hauwyd. O. THOMAS, Ysg.

CYMANFA ANNIBYNWYR MEIRION.

ATHROFA FFRWDVAL A'I HANESION.