Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
IARHOLIAD MEHEFIN, 1884.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
ARHOLIAD MEHEFIN, 1884. Arholwyd y myfyrwyr eleni gan y Parchn Profleswr Rcdford, M.A., LL.B., 'Proff'eswr Thomson, M.A., a W. Farrer, LL.B., Coleg Newydd, Llundain; Proffeswr Christie, M.A., Coleg Hackney, Llundain; a'r Parch R. Thomas, Glandwr. Dosbarth I., II.—Pynciau: Duwinyddiaeth, Proflon Cristionogaeih, Athroniaetb, IJane8- iaeth Eglwysig, Testament Groeg, a'r Beibl Hebraeg. Maximum, 600". 1. Obadiah Lewis 46(5 2. Thomas Edmir ds 463 3. William Morgan 457 4. James Davies 433 K$J. M. James 431 I J, H. Rees 431 6. J. Vinson Stephens 415 7. David Walters 405 8. Samuel Jones 300 9. William Protheroe 245 Dosbarth III.—Pynciau: Animal.Physiology, Magnetism and Electricity, Physics, Euclia, Lladin, Groeg, Ellmynaeg, Hebraeg, Saesoneg, Profion Cristionogaeth. Maximum, 1,000. 1. Daniel Phillips 623 S.R.O.Hughos 572 3. O. H. Hughes 570 4. R. D. Green 448 5. D. Waters 431 0. W. Price 422 7. J. R. Jones 399 8. J. Williams 21U Dosbarth IV. --Pynciau: Lladin, Groeg, Saesoneg, Cymraeg, Ellmynaeg, Hebraeg, Arithmetic, Algebra, Euclid, Physiography, Profion Cristionogaeth. Maximum, 1,100. 1. T. Nicholas (J94 2. William Thomas 672 3. J. W. Price 462 Enillwyd Ysgoloriaeth Thomas gau W. Morgan. Methodd J. H. Evans a bod yn yr arholiad drwy afiechyd. JOHN PAEET, ) D J JOHN MEEBDITH, ORI' L «.
CADLE, FFORESTFACH.
News
Cite
Share
CADLE, FFORESTFACH. Cal/aria, Raven Hill.—Bu yr ysgolion a berth- ynant i'r eglwys hon yn mwynhau eu hunain mewn cae ar Graig Abertawy, trwy garedigrwydd Mr Harding, He yr oedd lluaws o ysgolion ereill wedi cyfarfod, y Llungwyn. Wedi i'r plant gael en digoni o'r hyn a ddarparwyd ar eu eyfer, au wedi ohwareu am -amser, deuwyd yn ol i'r capel, lie yr oedd y boneddigesau ieuainc wedi parotoi ar gyfer nifer fawr o bobl. Wedi clirio y byrdd- au, yn yr hwyr, cafwyd eyfarfod adloniadol o'r iawn ryw-gwledd i'r meddwl, pryd y cymerwyd rhan gan luaws o gantorion ac adroddwyr y lie. Yn ystod y cyfarfod cafwyd y cystadleaa.ethau canlynolAil-adrodd ystori, amryw yn ymgeisio, goreu, Benjamin Jones (Geudrosydd) j efe befyd gipiodd y wobr am yr araeth ar y pryd. Cafwyd cyfarfod hwylus drwyddo. Y Gymanfa. — Nos Fercher, y 4ydd cyfisol, cawsom yr hyfrydwch o glywed dau o wyr cedyrn y Gymanfa, yr hon a gynaliwydyn Wauuarlwydd, yn pregethu yn Bethlehem, sef y Parchn Rees, Ailtwen, a Foulkes, Aberafon. Daeth cynulleidfa luosog yn nghyd, a chawsant wraadawiad astud. Budd-gyngerdd.—Darfu i ni goffau ychydig am- ser yn ol fod pwyllgor wedi ei ffurfio er cymeryd i ystyriaeth y priodoldeb o wneuthur rhywbeth i'r brawd W. Thomas, Babel]. Penderfynwyd mai cyngerdd fuasai oreu, a nos Sadwrn diweddaf cyn- aliwyd y gyngerdd yn nghapel y Bedyddwyr, Raven Hill, pryd y gwasanaethwyd gan Eos Rhidiau, Eos Cwmbwrla, a lluaws o eosiaid ac eryrod hefyd, am wn i. Daeth cynulleidfa luosog yn nghyd. Llywyddwyd yn feistrolgar gan Mr W. Hopkins, Raven Hill. Cyfarfod Blynyddol,-NoB Sadwrn, dydd Sal, a nos Lun y cycaliwyd ein gwyl fiynyddol. Y cenadon a ddewiswyd eleni oeddynt Dr Kees, Abertawy Thomas, Llanybri; a Johns, Llanelli. Yr oedd v gweision yn eu hwyliau goreu, a. chawsom bregethau grymus a nerthol. Yr oedd y clpel wedi ei orlenwi yn mhob oedfa. Gwnaed casgliadau rhagorol. DEWI O'R GAD,
ATHROFA ABERHONDDU.
News
Cite
Share
ATHROFA ABERHONDDU. OyfaiCu Pwyllgor yr Athrofa uchod dydd Mawrtk, Mehefin lOfed, pryd yr oedd yn bresenol y Parch E. Herber Evans, Caernarfon, yn y gadair yr Athrawon Mr T. Williams, Y.H., Merthyr, y trysorydd; y Parchn Dr Kennedy a Dr Aveling, Llundain; Griffith, Dolgellau; Evans, Hebron Roberts, Castell- nedd; Jones, Ty'nycoed Williams, Bethesda; Evans, Mclincrytban Charles, B.A., Rhymni Rees, Sirhowi; Williams; Hirwaun; Howell, Aberdar; Jones, B. A., Aberhonddu Jones, Ffaldybrenin; Griffiths, Cendl; Parry, Llan- gatwg; Thomas, Boro', Llundain; Mri A. Thomas, Aberhonddu; C. R. Jones, Y.H., Llanfyllin; D. W. Harries, Defynog; W. J. Parry, Bethesda; Parchn James, Brynbant; Hughes, Llansantffraid; Catwg Davys, Aber- edw; a Roberts, B.D. Caergybi. Wedi i Mr Griffith, Dolgellau, ddeohron I 'trwy weddi, darllenwyd a cbadarnhawyd pen- iderfyniadau y cyfarfod diweddaf. Etholwyd y Parch J. Lloyd Williams, B.A., Caerdydd, i igymeryd lie yr Ysgrifenydd. Prif waith yr reisteddiad hwn ydoedd derbyn ymgeiswyr. Safodd 16 arholiad, a buont oil o flaen y Pwyllgor ond nid oedd y Pwyllgor yn gweled ou ffordd i dderbyn yehwaneg nag 8, hyd yn nod pe buasai ychwaneg yn dyfod i fyny yn mhobpeth a'r safon. Nid gwaith dymunol ydyw gwrthod yr un gwr ieuanc, os bernir ei fod yn addfed i hyny. Yr oedd rhai felly eleni uad allesid eu derbyn, ond nid oedd dim i'w wneyd dan yr amgylchiadau ond derbyn y rhai fernid yn fwysf addfed wedi gosod at eu gilydd, yn ol y doethioeb a rodded i'r Pwyllgor ar y ipryd. Wedi treulio cryn amser, penderfynwyd derbyn yr. ymgeiswyr canlynol :-1. John Williams, Dunvant; 2. John Charles, Cadle 3. David Hughes, Caernarfon; 4. William Jones, LIundain: 5. David Jones, Machynlleth; 6. David Phillips, Llwynyrhwrdd 7. J. Gwilym Jones, Ford; 8. David Morgan, .LIansaweL Yn yr hwyr, yn nghapel y Saeson, traddod- \wyd yr anerchiad blynyddol i'r myfyrwyr gan y Parch Henry Simon, Westminster Chapel, TLlundain. Yr oedd yn anerchiad gwir alluog, yn llawn o ysbryd y peth byw, ac yn ddiau hir gofir ef gan y sawl a gawsant y fraint o'i wrandaw. Yn sicr ni chlywsom ei well erioed. Y mae yn werth ei gadw fel y gellir ei ddarllen eto, a cheir cyfle i hyny yn y Dhoygiior a'r Dysgedydd, canys cyhocddir ef yn y ddau. Dydd Mercher, am 11 o'r gloch, cyfarfu y Cyfarfod Blynyddol, ac yn absenoldeb y eadeirydd am y flwyddyn, Mr R. S. filudson, Bache Hall, Caer, etholwyd y Parch E. H. Evans, Caernarfon, i gymeryd ei Ie, yr hyn a wnaeth, gan ei llenwi, fel arfer, yn ngwir ystyr y gair. Da oedd genym weled Mr Evans yn «drych mor dda, ac yn alluog i eistedd yn y gadair am ran fawr o ddau ddiwrnod, gan gadw y Pwyllgor a'r Cyfarfod Blynyddol yn llawn bywyd. Heblaw a enwyd uehod, yr oedd yn bresenol y Parchn Jones, Machynlleth Jones, Cerygcadarn; Edwards, Brentford; James, Llanwrtyd; Evans, Star-street, Caerdydd; Hough, Ynysgau; Rees, Tredwstan; Jones, Hay Beynon, Llanfair Hughes, Pennorth ;Rees, Libauus; Rees, Llanharan; Williams, Brychgoed Jones, Talybont; Jones, Mynydd- islwyu; Mri J. Lewis, Gurrey Manor, Llandilo; I. Williams, Porth; T. Thomas, Ty'nywern, Groeswen; D. A. Griffith, Troed- rhiwdalar, &c. Deciireuwyd trwy weddi gan y Paroh H. Simon, Llundain. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blynyddol diweddaf, darllenwyd Adroddiad y Pwyllgor gan Dr Morris, a chafwyd mantolen o sefyllfa arianol y Sefydliad gan y Trysorydd. Yr oedd mantolen y Trysorydd wedi gwella Ilawer oddiar y llynedd, canys oni bai am y draul y gorfodwyd y Pwyllgor i fyned iddo gydag adgyweiiiadau, yn nghyda'r ffaith fod y flwyddyn yn cynwys treuliau 15 mis ar gyfer derbyniadau 12, buasai y fantolen yn gydbwys, h.y., buasai yr hen ddyled wedi ei thalu, ac ochr v derbyniadau yn ogymaint ag ochr y taliadau, Gwyr darllenwyr y TYST fod yna fwriad bellach i uno yr Athrofa a'r Prifysgolion sydd ar ac wedi eu sefydlu yn y Dywysogaetb. Ceisiwyd y llynedd' ddwyn yr Athrofa i gysylltiad a Phrifysgol Aber- ystwyth, ond gwrthododd y Cyfarfod Blynyddol a derbyn yr adroddiad ar gyfrif fod eisieu yehydig yn rhagor o amser i ystyried y mater pwysig, ae felly ceisiwyd gan y Pwyllgor i'w ystyried am flwyddyn arall, a dwyn ei adrodd- iad i'r Cyfarfod Blynyddol eleni. Y mdallodd y Pwyllgor yn union i'r gwaith, tyuwyd allan gynllun, cyhoeddwyd y cyfryw yn y TVST A'R DYDD, y South Wales Daily News, a'r Dlwygvwr yn amserol, fel y eawsid digon o amser i ffurfio barn arno, ac i gynyg gwelliantau arno. Cymhellodd y Pwyllgor yr holl etholaeth i'w ystyried, ac anfon unrhyw welliantau a ystyrient yn briodol i'w cynyg iddo i'r Ysgrif- enydd, ac y cawsent yr ystyriaeth fwyaf pwyllog. Amlygodd y Pwyllgor yn. eglur nad oedd mewn un wedd am gymeryd cam mor bwysig oni buasai yn alluog i gario yr etholaeth gydag ef. Cynwysai yr Adroddiad eleni y cynllun hwn, a derbyniwyd ei egwyddor yn ddiwrthwynebiad gan y Cyfarfod Blynyddol; ac yna aed drwyddo yn adran ar ol adran. Cynygiwyd gwelliantau i rai ohonynt, ond barnwyd yn ddoeth i'w gadael fel yr oeddynt; ond derbyniwyd man welliantau yn hgeiriad rhai ohonynt, fel y gwelir wrth gymharu y scheme fel yr ymddengys yn yr Adroddiad, ac fel yr ymddangosodd pan gyhoeddwyd hi gyntaf. Ac wedi myned drwyddi felly adran ar ol adran, derbyniwyd hi fel y diwygiwyd hi yn yr oil ohoni. Wrth reswm, nid yw yn ddeddf y Mediaid a'r PerSiaid, yr hon ni newidir, canys os ceir pan osodir hi mewn gweithrediad na fydd yn ateb y dyben, ni fydd gan y Pwyllgor ond dychwelycl at yr hen gynllun. Dichon y daw yr adeg yn fuan pan fydd yn rhaid cyfyngu gwaith ein hathrofeydd yn unig at yr addysg sydd yn uniongyrehol gysylltiedig a, gwaith y weinidogaeth, gan adael yr ymgeiswyr i ymladd eu ffordd eu hunain am addysg angenrheidiol yny celfau a'r gwyddorau. Bernid yn bur unol mai i'r fan yna y daw pethau yn fuan, ond y mae yn rhy fuan i wneyd yr ysgariad eto. A thra yn y sefyllfa draws- newidiol hon, nid oes genym ond feisio gwneyd y goreu gallom. Y mae y myfyrwyr bellach ar eu teithiau casglyddol, ac erfynir ar yr eglwysi a chyfeillion y Sefydliad i fod yn garedig iddynt, ac hyd y mae hyny yn bosibl, i ganiatau iddynt gasglu ar yr adeg yr ymwelant a'r eglwysi, fel y caffont y casgHad i ddyfod ganddynt. Y mae esgeuluso hyn yn arwain yn ami i esgeuluso casglu o gwbl. Hyderir y chwyddir y casgliad- au eleni, fel y byddont yn gydbwys, beth bynag, a. threuliau y ftwyddyn, yn nghyda'r treuliau yr aed iddynt yn ystod y flwyddyn ddiweddaf gydag adgyweiriadau, &c. Y mae y myfyrwyr oil oeddynt yn ymadael a'r Sefydliad eleni naill ai wedi, neu ar sefydlu mewn cylchoedd o ddefnyddioldeb. Diau y ceir mewn colofn arall ychydig o fanylion yr Arholiad, fel arfer. Yr oedd Adroddiad yr Arholwyr yn galonogol iawn. Dangosent yn eglur fod y Sefydliad yn parhau i wneyd gwaith sylweddol. Hyderwn fod iddo eto ddyfodol mwy dysglaer nag un cyfnod o'i hanes yn y gorphenol. Mehefan 14, 1884. D. A. GRIFFITH.
Advertising
Advertising
Cite
Share
« CANWCH YN DDA SlABADWCH YN DDA!— Mae Doughty's Voice Lozenye wedi cael ei werthfawrogi yn fawr gan gleriffwyr, cantorioii, ac enwogiou ereill am yn agos i 40aia mlynedd. lihydd glirder a gloewder i'r llais. JENNY LINB.—" Y mae yn blesser mawr genyf, mor bell aery maa ],y mhrohad yn myned, i gadaruhau y dystiolaeth Bydd mor ev. lliediuol yn ll'ati- y Lozenges a barotoir genyeli cUwi" (mles Doughty). Go, Is, 2a Gc, 5s, a Ils—yu rhydd trwy y Uytliyrdy, iu, Is 2c. &c. Gofymvoh i cli Cyfterydd am danynt-NEWliliKV a'i i'KIBlON' J, King Edward-street, Llundain, 15,0. Sefydhvyd yu y liwyddyu 17-10
MAGWBAETH GREFYDDOL IEUENCTYD…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
4. Rhoddi digon o waith iddynt-on calonogi yn eu hymdrech i wneyd grwaith. "Dal di ati, machgen i, di ddoi di," meddai Mali y Quarel wrth Jabez Jeiikins, pan ddechreuodd weddio yn wan, ac fe ddaeth hofyo. 5. Dwyn eu hachcs yn barhaus a neiHduol at oraodd gras. Gwcddia Ilawer dros y rhai sydd yn yr eglwys, a'r rhai sydd wedi ymadael i eglwysi ereill. 6. Svmnd y tramgwyddiadau o'u ffordd hyd y geljir. II. Pa fodd i wneyd hyn ? Mae penym yr Yscjolion Sabbothol, y cyfeUiachau crefyddol, y cyfarfodydd gweddïo, it !!weinidogaeth y G iÍr. Mae y rhai byn yn gwneyd peth, gallant wneyd mwy-rnae eisieu grwnevd mwy. Rhaid cael mwy o fdgwraeth grefyddol ar yr aelwyd gartref, ac wrth yr allor deuluaidd, &c. Byddai magwraeth dda i ieueuctyd yr eglwysi- 1. Yn eu gwneyd yn gryfion mewn crefydd. 2. Yn sefydlosr yn y ffydd. -Griffith Nevern a William S'ors, a'r dyn y n troi o • en wad i en wad. 3. Codai hyn gymeriad yr eglwys, lledai achos yr Arglwydd yn y by", a gwnelai y ddaear yn llawnach o -ogoniant yr Arglwydd. Amen. <>