Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.

News
Cite
Share

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION, — Synwyd fi yn ddirfawr gan gy- nwysiad ysgrif Prcswylydd y Gareg," ar y testyn uchod yn eich rhifyn am Medi 28ain. Ni ddywedaf ddim am ei syniadau am Ardalydd Bute, ac am y diweddar Carnhuanawc. Dymunwn alw ei sylw at ei eiriau am Iwl Cesar. Fel y canlyn y dywed, Ysgrif- enodd lyfr ar banes ei ymweliadau ft Chymru sydd yn agos o ran maintioli i'r eiddo Carnhuanawc." Diau fod y wybodaeth hon yn newydd i'r rhan fwyaf o'ch darllenwyr. A wnaiff "Prcswylydd" ddywedyd, pa bryd y bu Iwl Cesar yn Nghymru, pa leoedd yr ym- welodd a hwynt yno, a pha le y ceir y llyfr y sonia am dano ? Byddai d'od o hyd i'r llyfr hwn yn ychwanegiad pwysig at hanes ein gwlad, yn enwedig pan y mae def- nyddiau mor brin am y eyfnod pell hwnw y traetha am dano. GELYNOS.

GWAITH BARDDONOL IIWFA MON.

Y GWIE AM Y P E T H.

AT EGLWYSI ANNIBYNOL RHYMNI…

MORDAITH 0 LUNDAIN I CHINA.

"TY FY NHAD YN DY MARCHNAD."…

YR AELODAU DROS MERTHYR