Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL Y WERS KHYNGWLADWKIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. HYDREF 21ain.-Gofyn am frenin,—1 Sàm, viii. 1-10. Y TESTYN EURAIDD. — Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion."—Salm cxviii. 9. RHAGARWEINIOL. WEDI y fuddngoliaeth a gafodd Israel ar en gelynion y I'hilistiaid yn Ebenezer, y mae yn ymddangos iddynt gael llonyddwch am amryw flynyddoedd, a ffynai pob peth yn en mysg o dan weinyddiad Samuel fel barnwr. Wrth weled Samuel yn heneiddio, a chanfod yn ngweithredoedd ei feibion, y rhai a gymerasai i'w gynorthwyo, Pad oeddent o gyffelyb feddwl a'n tad, penderfynodd arweinwyr y g-enedl gynhyrfu am fronin. Yr oedd yr awydd hwn am fronin wodi dangos ei hnn o'r blaen yn mysg y genedl. Gwnaethar.t gais at Gedeon i gyhoeddi ei hun yn frenin, ae arglwyddiaethu arnynt, ond gwrthododd yn bendant, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a arglwyddiaetha arnoch ■ (Barn. viii. 22). Ymddangosai yr adeg bresenol yn adeg fanteisiol i ailgodi y pwnc i sylw. Yr oedd yr holi genedl yn awyddus am frenin, a gosodwyd y cais o flaen Samuel gan hennriaid Israel. Dywedasant wrtho, Yn awr gosod arnom ni frenin i'n barnu, megys yr holl genedl- oedd." Yr oedd gwycbder ymddangosiad breninoedd y cenedloedd wedi en swyno. Tcimlent hwythau yn awyddus i gael rhywbeth cyffelyb. Nid oedd ym- ddangosiad tawel proffwyd yr Arglwydd yn eu bodd- loni. Cnawdolrwydd meddwl, a balchder cilon, oedd wrth wraidd y caia hwn am frenin. Y mae Samuel yn gweled hyny, ac y mae yn teimlo yn ofidus o'r her- wydd. Yr oeid yr Arglwydd wedi bwriadu Israel yn genedl neillduedig iddo ei hun, i gael eu llywodraethu ya uniongyrchol ganddo ef-pob peth yn y llywodraeth i gael ei drefnu yn unol â gorchymynion yr Arglwydd. Dawlywiaeth !(Theocracy) ydoedd y llywodraeth i fod. Ond yr oedd y bobl yn rhy lygredig i hyn, blinasant ar yr Arglwydd, a gwaeddasant am frenin daearol. ESBONIADOL. Adnod 1.—" Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osod- odd ei feibion yn farnwyr ar Israel." Wedi heneiddio Samuel. Tybir fod Samuel yr adeg yma tula deg a thriugain oed. Rhaid fod cryn amser wedi myned heibio oddiar fuddngoliaeth Israel ar y Philistiaid yn Ebenezer, cyn y buasai Samuel yn gofyn help ei feib- ion oherwydd henaint. Nid ydyw yn ymddang-os ei fod yn hen iawn ychwaith, canys parbaodd i farnu Israel wedi i Saul gael ei wneyd yn frenin am tua un mlynedd ar bymtheg. fife a osododd ei feibion yn farnwyr. Y mae yn debygol mai is farnwyr dano ef oeddynt, fel y deg a thriugain gynt dan Moses, i farnu mewn pethau cyffredin, yn ol y datguddiad a gawsid eisoes o ewyllys Daw, ac i ddwyn y pethau trymaf at en tad. Sylwa M. H. yn brydfertli," Yr oedd Samuel yn VIr yn gynar, yn Hawn meddyliau a gofal pan yn blentyn, yr hyn, hwyrach, a brysurpdd wendidau oed- ran arno ef y ffrwythau sydd yn add fed gyntaf sydd yn cadw waethaf." Adnod 2. — "Ac enw ei fib cyntafauedig ef oedd Joel; ac enw yr ail Abmh y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba." Dangosodd Samuel ei ysbryd duwiol- frydig yn yr enwau a roddodd ar ei feibion. Joel, Jehofah sydd Dduw. Abiah, Jehofah yw fy nbad. Ni wyddis ddim ond yr hyn a gofnodir yma am feibion Samuel. Beer-seba. Mangre yn Neheubarth Canaan. Gan fod Beer soba. yn sefyll ar derfyn mwyaf deheuol Canaan a Dan ar ei therfyn mwyaf gogleddol, daeth yn ymadrodd cyffredin i arwyddo holl hyd y wlad-" 0 Dan i Beer seba." Adnod 3.—" A'i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troisant IIir ol cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn." Plant dyn da yn myned i'r dim am na rodiasant yn ffordd en tad. Nid ydyw Samuel yn cael ei feio fel Eli, am na cheryddasai hwy. Y mae yn sicr ei fod wedi gwneyd ei oreu i'w dwyn hwy i fyny yn ddnwiol, ond ni wrandawsant ar ei gynghorion. Y rheol ydyw,' Hyfforddia blentyn yn mben ei ffordd, a phan heneiddia nid ymedy 8. hi.' Ond y mae eithriadau iawer i'r rheol. Y mae Uawcr o blant sydd wedi cael yr addysg oreu, a'r hyfforddiant mwyaf gwastad, yn troi allan yn annuwiol. Yr oedd meibion Simuel yn farnwyr llygredigr. Troisant ar ol cybydd-dra. Yn ol y Caldaeg, ar ol y mammon anghyfiawn. Ystyr y gair a gyneithir cybydd-dra, ydyw enillion anghyf- reithlon. Defnyddient eu swydd i gael arian mewn modd anghyfreithlon. A chymerasant obrwy. Yr oedd hyn wedi ei wahardd yn bentlant yn y gyfraith. Gwel Dent. xvi. 19. Nis gall y rhai sydd a mwyaf o ras en hnnain roddi gras i'w plant. Y mae wedi bod yn ami yn drallod i ddynion da i weled eu hiliogaetb, yn lie rhodio yn eu canjrau hwynt, yn sathru arnynt, ac fel y mae Job yn dywedyd, yn diwyno eu Ilwybr. Ie, llawer a ddechreuasant yn dda, a addawsant yn deg, ac a ddechreuasant yn y llwybrau uniawn, fel yr oedd gan eu rhieui a'u cyfeiHion obaith mawr am danynt, eto wedi hyny wedi troi o'r neilldu i gau-lwybrau, ac yn drallod i'r rhai y dylasent fod yn llawenydd iddynt." Adnod 4.—" Yna holl henuriaid Israel a ymgasglas- ant, ac a ddaethant at Samuel i Ramah." Henuriaid. Sef penau teuluoedd Israel. Yr oeddent yn ddosbarth pwysig o swyddogioa, y rhai a gymerent ran amlwg- yn lIywodraethiad y genedl yn Nghanaan. Yr oeddent befyd yn bodoli yu nyddiau y caethiweJ. A ctciaoth. ant at Samuel i Ramah. Yn Ramah yr oedd Samuel yn byw. Yr oedd yr hennriaid hyn yn llefaru wrth Samuel yn enw y bobl a thros y bobl. Adnod 5—"Ac a ddywtdasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a'th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di; yn awr gosod arnom ni frenin i'n barnn megys yr holl genedloedd." Defnyddiant ddau reswm dros eu cais, henaint Samuel, a dryaioni ei feibion. Y mae yn am- lwg fod ganddynt barch i Samuel ei hun, ac ymddirie f. aeth vnddo. Teimlent y gallasent enwi y ffaith o bechodau ei feibion ger ei fron ac na fynasai yntau esgusodi eu hymddygiadan. Ond y mae y gwir reswm yn dyfod i'r golwg yn niweddyr adnod, megys yr holl genedloedd. Yr ydym ninau am gael brenin fel sydd gan yr holl genedloedd o ami?ylch i ni. Atpcan Daw oedd eu cadw yn neillcluedig oddiwrth y cenedloedd, ond mynent hwy o hyd gydymffurfio ag arferion y cen- edloedd. Er fod Dnw wedi cyboeddi ei hnn yn frenin iddynt, dymunent hwy am frenin megysyr holl genedl- oedd, fel y gallent gyfarfod â bwy mewn beddwch a rbyfel, ar dir cyfartal, yr hyn a arwyddai ddiffyg ym- ddiried yn Nuw i'w gwaredu, eu cyfarwyddo a'u han- rhydeddu. Ofn rhyfel a'r Amoniaid oedd yr hyn a'u tueddasai yn benaf i ofyn am frenin. Gwel pen. xii. 12. Adnod 6.—" A'r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i nifrenin i'n birnu a Samuel a weddiodd ar yr Arglwydd." A'r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel. Paham ? Nid am ei fod ef ei hun yn ofni colli ei awdurdod. Y mae holl fywyd Samuel yn profi nas gallasai gael ei lywodraethu gan deimladan hunanol o'r natur yna. Yr oedd yn gweled yn en hymddygiad sarhad ar Dduw ac ysbryd gwrthry- fel yn ei erbyn fel eu brenin. Teimlai Samuel hefyd y buasai yn anfantais i'r genedl ei hun yn y pen draw. Nis gallasai yr un brenin daearol wnenthnr iddynt yr hyn oedd Duw wedi ei wneyd iddynt. Yr oedd y fath deimlad a hwn yn brawf o anghrediniaeth, a gwnant y cwbl heb ymgynghori & Duw. A Samuel a weddiodd ar yr Argltvydd. Fel dyn da yn ei drallod a'i ofid, y mae yn troi at yr Arglwydd. Y mae yn penderfynu gosod yr boll achos ger bron ei Dduw, a gofyn am ei gyfarwyddyd ef pa fodd i weithredu. Adnod 7.—"A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oil a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasaut, rhag i mi deyrnasu arnynt." Camata Duw iddynt eu cais. Caiff dyn yr hyn y mae yn fawr ddymnno, ond nid yr hyn y mae efe yn ddymuno sydd oreu iddo bob amser. Nid ydyw Duw am orfodi neb i ufuddhau iddo. Nid fod Duw yn foddlawn i'w cais, ond megys weithiau y mae yn ein croesi mewn cariad, felly ar amserau ereill y mae yn ein boddhau mown digofaint; gwnaeth felly yma." Ond myfi a wrthod- asant. Gwrthodasant yr Arglwydd yn mherson Samuel. Yn hyn yr oedd eu pechod. Safai Samuel fel cynrychiolydd Duw atynt. Ond mynent hwy frenin arall. "Rhoddais i ti fronin yn fy nig, a dygais ef ymaith yn fy Ilid" (Hos. xiii. 11). Adnod 8. Yn ol yr holl weithredoedd a wnaeth- ant o'r dydd y dygais hwynt o'r Aipht hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant ddnwiandyeithr;felyygwcanthwy hefyd i ti." Yr oedd yr un ysbryd yn nodweddiadol o'r genedl o'r dydd y daethant allan o'r Aipht. Ni fynent ymddiried yn yr Arglwydd. Nid oedd Samuel yn dyoddef dim ond yr hyn yr oedd yr Arglwyd(I yn ddyoddef yn barhaus trwy eu hymddygiad fol cenedl. Adnod 9.—" Yn awr, gan hyny, gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt." Gorchymynir i Samuel wrando ar- eu cais, ond y mae hef'yd yn eu rhybuddio pa fath un a fyddai eu brenin. Ddull y brenin—hawlfraint y brenin caent frenin mewn rhwysg, ond byddai yn rhaid iddynt hwy ddwyn y treuliau. Ceir desgrifia l o ddull y brenin a deyrn- asai arnynt yn adnodau 11-17. Adnod 10.—" A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo." Bu Samuel yn ffyddlon i draethu y genad- wri oedd ganddo, megys y bu o'r blaen yn ffyddlon i draethu y genadwri i Eli. Ond nid ydyw yn ym- ddangos i'w rhybuddion gael dim argraff dda. Mynent eu ffordd, a chawsant eu Ifordd. GWERSI. Y mae tuedd mewn dyn yn ami i amheu daioni gweinyddiadau Duw, ac i fynu ei ffordd ei hun. Defnyddia. y dyn resymau a ymddangosant yn allanol yn deg dros awyddn cael ei ffordd ei hun, ond y gwir achos ydyw anhueddrwydd i ufnddhau i Dduw. Nid ydyw Duw yn gorfodi neb i nfuddhau iddo. Ca pob dyn yr hyn a fawr ddymuna. Gesyd Duw o flaen y dyn ganlyniadan ei ffordd ei han, er mwyn ei rybuddio a'i gael i ewyllysio y ffordd uniawn. Rhaid i bob gwrthryfel yn erbyn ewyllys yr Ar- glwydd derfynu mewn dinvstr. Wrth fynu ei ffordd ei hun y mae y dyn yn dwyn arno ei hun ddinystr. GOFYNIADAU AR Y WEBS. 1. Beth alIasai oedran Samuel fod pan ddaeth henur- iaid Israel ato i Ramah i ofyn am frenin ? 2. Paham y gosododd ei feibion i'w gynortbwyo ? Yn mha ystyr y gweinyddent hwy y swydd o farnwyr ? 3. Beth oedd nodwedd eu cymeriadau ? 4. Pa le yr oedd Beer-seba ? 5. Pa beth gymhellodd Israel i ofyn am frenin P Nodwch y rhesymnu a ddefnyddient wrth Samuel. 6. Paham yr oedd yr yroadrodd yn ddrwg gan Samuel. 7. Pa fodd y mae yn ymddwyn ? 8. Os oedd gwaith Israel yn ddrwg yn gofyn am fre- nin, pli. fodd y mae yr Arglwydd yn caniatau e* cais i-ldyut ?

Cyfarfodydd, &e.

[No title]

Galwadau.

Advertising