Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
ADRODDIAD YR UNDEB. -
News
Cite
Share
ADRODDIAD YR UNDEB. At Olygwyr y 'Tyst a'r Dydd. FoNEDDMlON,—Byddwch mor garedig a chaniatatt 1 m,i ychydig o'ch gofod i hysbysu y lluaws sydd yn dysgwyl am yr Adroddiad," y bydd yn eu llaw jit wythnoa nesaf. Y mae rhywgymaint yn h^y eleni nd^1 arferol yn d'od allan o'r wasg, oherwydd dau reswm i ni chafodd fyned i mewn yn brydlon (eithr nid bai yr argraffydd ydoedd hyny); ac hefyd, y mae lawer o da* dalenau yn helaethach na'i rojzliaenoriaid. Goddefer i mi wneyd yn hysbys, hefyd, i'r cyfeillion hyny oedd yn bwriadu ei gael, ond yn oedi anfon, nad oesyrnncopi o "Adroddiad" eleni mwyach heb ei werthu. Ond i wneyd i fyny am y eiomedigaeth hon, y mae gwledd arall na chafodd darllenwyr Cymreig, o bosibl, erioed ei chyffelyb am y pris yn cael ei harlwyo ar eu cyfer. Gw41 yr hysbysiad yn y rhifyn hwn. Y mae ychydig gopiau o Adroddiadan y blynydd- an blaenorol eto ar law. Gan fod Adroddiad o GyfarfodyddcyctafyrUndeb yn debyg o dd'od *Ilan, bydd y gyfres yn un o'r rhai mwyaf dyddorol a bnddiol yn ein hiaith. Os yw neb yn ol o rai or rhifynau. blaenorol, yn awr yw yr adeg i'w cael. Ymofyner a'r Argraffydd, Mr Joseph Williams, yn Swyddfa y TYST A'R DYDD.—Yr eiddoch, Ac Llansamlet, Hydref 13eg. J. B. PARRY.
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.
News
Cite
Share
AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD. FONEDDIGION,—A wnewch chwi ganiatdu cyfle i mi ofyn i reporter hanea Cymanfa Annibynwyr Arfon, 1883, yr hon a gynaliwyd yn Ebenezer, Arfon, i roddi gwybodaeth helaethach am y Mr O. Jones y sonia am- dano fel un o'r gweinidogion gwahoddedig i bregethu yno, am fod rhai yn barnu mai ein cyfaill y Parch O. Jones, Pwllheli, ydyw, tra y mae ereill yn barnn yn wahanol.—Yr eiddoch, &c., CTFAILII.
CYMRY A'R SWYDDOGAETHAU 0…
News
Cite
Share
CYMRY A'R SWYDDOGAETHAU 0 DAN Y LLYWODRAETH., At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONE £ >DIOUON,—Nis gall unrhyw un sydd yn troi mewn cylchoedd Cymreig, ac yn sylwi ar d6n newydd. iaduron y Dywysogaeth, beidio gweled fod deffroail cenedlaethol yn cymeryd lie y dyddiau hyn. Nid yn unig mae addysg uwchraddol yn cael lie mawr yn ngolwg y wl'ad, ond mae miloedd o Gymry ystyriol yn teimlo fodyramaerwedidyfod i wneuthur adolygiad trylwyr i sefyllfa sefydliadau a swyddogaethau yn Nghymru. Mae lie i ofni nad yw ein Haelodau Sen- eddol wedi sylweddoli hyn. Nid ydynt yn arweinwyr5 y genedl, ond yn ddilynwyr cloffion. Gan hyny, y mad JU angenrheiaiol i'r Wasg Gymr;eig ddyblu a threbltx ei hegni i ddal i fyny bob camwri yn wyneb y cyhoedd, i wyntyllio ein hawliau fol cenedl, ac i ddangos i'n Haelodau Seneddol en bod wedi eu hanfon i St. Stephen nid yn unig i gynorthwyo yn ngwaith yr Ym- herodraeth, ond ar nn neges neillduol i wneyd gwaith' cenedl y Cymry. Mae penodiadau diweddar i swyddau cyhoeddus mewn rhai o siroedd y Gogledd, a'r dydd o'r blaen yn Ngholeg Caerdydd, yn galwam ein hystyr- iaeth a'n gwyliadwrifeieth". Tuag at gael hyn, dymunaf wneyd cais atoch i ymchwilio i benodiadan i swyddau cyhoeddus yn Nghymru yn ystod y deg neu yr ugain mlynedd diweddaf, ac i gyhoeddi ffrwyth yr ymchwil-' iad, fel ag y gallo y wlad fairnu drosti ei hun. Y prif swyddogaethan cyhoeddus ydynt(a) Barnwyr yr;, Assizes a'r County Courts; (b) Uchelswyddion, Prif Heddgeidwaid, a Lord Lieutenants; (c) "Ustusiaid (d) Archwilwyr Ysgolion, Mwnau, a Llaw-weithfeydd; (e) Esgobion a Deoniaid. Yn gymaint a bod y Cymry yn ymranu yn wladol yn Rhyddfrydwyr ae yn Geidwadwyr, ao yn grefyddol i Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, a bod o leiaf naw o bob deg ohonynt yn Ymneillduwyr, a chyfartaledd mwy fyth yn Ithyddfrydwyr, dyddorol iawn fuasai cael dos- raniad cyflawn o'r swyddau nchod, a gwybodaeth fanwl pa nifer fu yn llanw pob swydd—(a) o Gymry ac e genedloedd ereill; (b) o Ryddfrydwyr ac o Geidwad. wadwyr (c) o Ymneillduwyr ac o Eglwyswyr. Gan fod yr argraff ar feddwl y wlad fod y lleiafrif yn genedlaethol, gwladol, a chrefyddol hvd yn hyn wedi bod yn cadw y swyddogaethau iddynt en hunain, a bod yn llawn bryd i'r Cymry, ac yn arbenig Rhyddfrydwyr ac Ymneillduwyr Cymru, gael gwybod y rheswm pa- ham. y cedwir hwy allan o safleoedd o anrhydedd a chyfrifoldeb yn eu gwlad eu hunain. YMOFTNTDD. [Gan yr ymddengys fod Ymofynydd wedi bod yn chwilio i'r mater, gwell iddo ef roddi y ffeithiau a'r ffugyrau, a bydd yn dda genym en cyhoeddi.—GOL.]
Adolygiad y Wasg.
News
Cite
Share
Adolygiad y Wasg. GWAITH BARDDONOL HWFA MON. Llanerchymedd: J. ac E. Jones. Croesawir y gyfrolwertnfawraphrydferthhongan filoedd o feirdd a llenorion Cymru. Nis gellir cael gwell desgrifiad o gynwysiad y gyfrol nag a ddyry yr awdwr ei hun yn ei awdl benigamp i'r "Bardd," tudal. 43— Gwaith ei lor a agora A nerth-ei ddesgrifio wna Wrth elfen yr awen sydd Yn oleu a'i ddarfelydd." Nid oes ond a anwyd yn fardd a fedd yr allwedd i fyned i mewn i deml anian drwy y ddor yr a ein hawdwr yn "Awdl y Flwyddyn," "Machludiad yr Haul," &c., &c. I'r rhai a geisiant ddrinso ffordd arall, nid ydyw anian yn agor ei chyfrinion, fel y gwna i fab yr awen wir, yr hwn a anwyd yn freinioL Pwy ond. bardd a allai ddarluhio y cwmwl fel hyn? (tudaI 89)— Y m6r a yfa, goda i'w gendod, A'i ddnau heli a d £ n o'i waelod i Tewyrcha, brocha, yr wybran uchod, 0 dyrau asur i'r dyfnder isod Clafeiddia, rhua y rhod-gan chwyddaw I ymwrdd didaw—mawredd y Dnwdod L" Yr Ifaf ? (tndal.99)- I roesawus wres huan—'e hudir Y methedig allan, O'i hir loes dan awyr Ian, Ar lenyrch siriol anian." Ond er y brofedigaeth, ni chaniata gofod ddyfynu. Y Buchod (tudal. 101). Llnoedd, minteioedd tewion." Y Bugail (tudal. 102)— Ei araf lais a'i hir floedd Dora i'r ucheldiroedd." Y Cynhauaf (tudal. 109)—Y Gwenith—' Dena yn glwys dan y gwlith 0 fwynder Duw a'r fendith." Y Gauaf (tudal. 115)- 'E wywa prndd ddail y pron, Gwingant ar eiddil gangen Ac wedi delwi y dail, Gwyrddion fantellawg irddail Edrych mal gweddw o drist, 0 draw mae y dderwen drist." Pa. beth yw nodwedd awen ein bardd ? Gallech f eddwl wrth rai darnau yn y gyfrol mai a bwyeill ac ft morthwylion" yn unig y gall weithio, megys nerth unicorn sydd iddo," yn II Awdl Caradog," Arwr- gerdd Owain Glyndwr." Y Rhyfelfarcht (tudal. 43) A ffroenia for uffern fyw Tan poeth yn tdni heb baid, 0 eigipn pwll ei lygaid. « # Troedia lwybr y trydan A cbamau dig chwyrna d&n Ysol fellt drwy y maesydd Fel yn seirff o'i flaen y sydd Ond y mae yma ddarnau mor dyner a hinon haf, megys Angeu y Groes (tudal. 13)— Y ddaear a'i gruddia'n dduon—a'r graig, Er mor gref, yn yfflon Awyr brudd yn curo'i bron, Ap haul yn tori'i galon." A llawer o ddarnau ereill. Buasai yn dda genym ddyfynu o Fynydd y Gweddnewidiad," ond rhftid ymatal. Mae yr englynion yn niwedd y gyfrol yn bortreiad byw o John Elias ar Green y Bala," ac ynddynt eu hunain yn werth pris y gyfrol. Ei lygaid fel gloew eigion-ddelweddent Ei feddyliau mawrion; A'i eneidiawl amnaidion Heb rif oeddynt ddwyfawl bron." Ei law wen fel y goleuni—yn deg, Heb un ystaen arni; Gwyn fynag y Nef ini Fu swyn ei mynegfys hi." f Dyweda wrth y du adyn—0 saf O gvi 61 y serth ddibyn I'w wared, bloeddiai wed'yn, Gw61 y Ddeddf! 0 gwylia ddyn Gwylia! yr ydwyt ar genlan-y llyn, Yr wyt yn Haw Satan O'i ddieflig ffordd aflan, 0 tyr'd cyn syrthio i'r tan # # Wedi dychwel y pecliadnr-aflan Uwch ei gyflwr natur; A'i gael i deimlo ei gur O'i ddylaeth a'i ddwfn ddolur,— Elias anwyl seiniai-ei delyn, Ac hudolus wenai; Y damniol, dan farnol fai, I heddwch a wahoddai." Ond ofer dechreu dyfynn lIe mae cymaint o ragor- iaethau. Bydd y gyfrol hon yn sicr o ddarlleniad. Y mae o werth anmhrisiadwy i'u beirdd ieuainc. Mae y darlun bardd (steel-engraving) o'r awdwr a roddir yn necbreu y llyfr yn berffaith; bydd yn dda gan fiIoedd edmygwyr y bardd ei gael. Nid ydyw holl weithiau barddonol yr awdwr yn y gyfrol hon-y mae ganddo cf eto lawer o'r fath betbau. Eiddnnwn iddo y fath gefnogaeth yn yr anturiaeth hon ag a bar iddo ddyfod a chyfrol neu gyfrolau cyffelyb eto. Mae swyddfa Llanerchymedd wedi troi y gwaith allan yn deilwng- papyr da, argraff glir, a rhwymiad destlus. DEWI OGWEN. TUNES, CHANTS, AND ANTHEMS. Compiled and Edited by D. Jenkins, Mus, Bac. (Cantab.), Aberystwyth. Cyfnod arbenig am gasgliadau o ddnan cynnlleidfaol yw yr un presenol. Mae y casgliad sydd ger ein bron wedi ei fwriadu yn benaf i gynulleidfaoedd Seisonig y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, ond hyderwn yr ymestyna cynulleidfaoedd Cymreig yr enwad dros derfynau casgliad y diweddar I. Gwyllt, ac y codant lawer o ddnau o'r casgliad yma hefyd i'w harfer yn eu haddoliad a'u gwasanaeth crefyddol. Nid oes amhenaeth na roddodd y caagliad hwnw drefn a ffnrf mwy pendant a chyffredinol i'r hyn a amcanwyd ac a gychwynwyd gan y Millsiaid gyda cberddoriaeth y cysegr, ond tybed na redwyd yn ormo,iol i'r hen ffurf eglwysig ac i'r arddull Germanaidd, nes colli i raddau y gwres a'r bywyd oedd yn arweddu yr addoliad a'r gwasanaeth Cymreig, ao i r gerddoriaeth eglwysig ? Os cafwyd mwy o unoliaeth a thaclusrwydd yn y canu, ni chafwyd yr hwyl a'r bywyd cyntefig. Cafodd ami i afr wyllt a chorniog ei hanos o'r cynnlleidfaoedd i'r anialwch, gan ddwyn anwiredd cenedbethau lawer i dir neillduaeth eto ofnwn fod rhai o'r defaid a gorlanwyd yn y casgliad gwerthfawr hwnw yn rhy ddofion i gymoedd a llechweddi Cymru. Diolcha y casglydd i'r Gymanfa Gyffredinol am addaw ei dderbyn a'i arfer yn yr eglwysi Seisonig, a dilys ddiamheu genym y dioleha yn wresocach eto pe rhoddid derbyniad iddo gan y Oymry hefyd. Nid ydym am anog y flwydd i ladd y ddwy flwydd," nac am i'r hen wgu ar y newydd, eithr pe byddai i Reuben yr enwad daflu ei nawdd dros yr herlod hwn, a'i achub o law y Saeson i'w ddwyn eilwaith at y Cymry, credwn y rhoddid i'r enwad achlysur llawenydd, nid yn unig am ei lwyddiant yn mysgy Saeeon, eithr hefyd am "achub einioes" ei ganiadaeth yn ngwlad ein tadau. I Mae yn y casgliad, fel pob un arall, rai tfinan anhymig, ond ceir ynddo luaws mawr iawn a dônau rhagorol, a chryn lawer o freshness a naturioldeb yn eu nodweddu. Aethom un prydnawngwaith yn ddiweddar drwyddo, gan farcio a phwyntil yr alawon oeddynt yn I ein boddio ni fwyaf, a chawsom dros gant a haner yn dwyn y n6d cyfrin," heblaw y tdnau hyny sydd wedi enill iddynt safle o anrhydedd yn mhob casgliad a theml heb y gogoniant fyddai y casgliad penaf hebddynt. Mae y tflnau gan mwyaf wedi eu dethol o'r casgliadau cyfoethocaf, ac yn gyfansoddiadau y prif awduron. Ceir ynddo dros haner cant wedi eu cyfansoddi gan gyfansoddwyr Cymreig hen a diweddar ac yn mysg yr olaf ceir haner dwsin gan Mrs Watts- Hughes o ddnau hynod o berorus, ac yn lied lawn o'r hwvl Gymreig; a thna dwsin gan feibion y diweddar Mr John Ambrose Lloyd, a phrofant ddarfod i'r ym- adawedig fwrw ei fantell gerddorol ar ysgwyddau ei feibion gyda'r fantais oren, oblegid mae llawn cymaint o naturioldeb a bywyd yn eiddo y meibion ag a geir hyd yn nod yn nhfinau goreu eu tad, a mwy o freshness a chyfoethogrwydd yn eu cynghaneddiad. Mae yr oil o eiddo y casglydd bron yn gems of the first water, a'i gynghaneddion o'r hen alawon yn ystwyth, perorus, a cblasurol. Ceir ynddo hefyd ddwysged o chants, ac er eu bod wedi eu dethol o blith y gorenon, y maent rywfodd yn debyg ryfeddol i'w gilydd, ac hwyrach yn,ormod felly i hawlio arbenjgrwydd, ac eithrio un Dr Pring. Gobeithio fod y Saeson yn deall y modd i chantio, eithr ni waeth i ni v Cymry roddi ein cerdd yn y to yn fuan nag yn hwyr;" mae y ddawn hono heb ei rhoddi i ni hyd yma, canys amser ac arddull y ddn a roddir i'r holl nodau ond i'r reciting note yn unig, ac yn sicr nid hyny yw chantio. Yr anthemau hefyd ydynt chwaethus a hynod gyfaddas i symledd mawreddus a defosiwn addoliad gogoneddus y cysegr; ac ni ddylid can allan byth a hefyd o'r addoliad cyhoeddus ddarnau gwir berorol fel y rhai yma-darnaa Hawn o athrylith ac awen, ac yn eneiniedig ag ysbryd y peth byw. Paham, ond en dysgu, nas gallant fod yn gyfryngau i'r galon dywallt ei theimladau crefyddol mewn addoliad cyhoeddus yn gystal a, o'r natur a'r arddull symlaf ? oblegid mae pob dawh a medr, pob galln a thalent, a phob athrylith a dylanwad i gael eu hoelio wrth drostan y Groes. DAU GYDGAN, O'B GANTAWD "DAFYDD A SAUL." Gantyr un Awdwr. Cydgan cyntaf ac olaf y gantawd ydyw y rhai yma. Cychwyna y cydgan cyntaf gyda sylfon lefn a pheroras hynod-yn wir, yn llawcr rhy berorns i'r geiriau Cymreig clogyrnaidd a thywyll sydd arni. Maent yn gyfieithiad llythyrenol da, mae'n debyir, ond ienad anghymharus yw eu priodi a cherddoriaeth o'r natur yma. Mae y fugue drwyddi wedi ei gweithio allan yn dda ac hynod o glasurol, ac o'r gerddoriaeth oreu, ac hwyrach yn briodol i'r geiriau Saesoneg, ond yn sicr fe allesid cael rhai Cymraeg mwy canadwy ac effeithiolaeh. Am y cydgan olaf-Finale y gantawd-mae hwnw trwyddo yn rhagorach na'r cyntaf, er cystal hwnw. Nid oes un o sylfonan hwn mor lyfn a mireiniol a rhuddin y cydgan agoriadol, ond mae mwy ohonynt yn y Finale, ac wedi en gweithio yn fwy meistrolgar ac amryvviaethol. Anbawdd cyfarfod a symudiad mor syml, ae eto mor gyfoethog o beroriaeth, a cbydgan y gwrywod cyn dyfodiad i mewn sylfonau y soprano a'r alto, na yr un mwy deheuig a chlasurol wedi en dyfodiad. Nid ydym yn sicr na fuasai y cydgan yn rhagcraoh pe ychydig mwy o wahaniaeth rhwng y ddwy sylfon yna a'n e-ilydd. Nid oes ynddynt, efallai, lawn digon o arbenigrwydd i wahaniaethn y naill oddiwrth y llall, yn enwedig yr episodes a gyfansoddir o fragments y naill a'r Hall. Fodd bynag, cydgan ardderchog ydyw drwyddo, ac yn deilwng iawn i fod yn Finale unrhyw gantawd, Ond gyda llaw, pa le y mae y gantawd ? A all ein cenedl ddim rhoddi digon o gefnogaeth i ddwyn darnau o'r maint ac o'r natur yma allan ond yn rhanan anghysylltol P "I pause for a reply." 1..1