Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

Llawer Mewn Yehydig.

HYN A'R LLALL O'R EFAILWEN.

Newyddion o Ogledd Cymru.

[ Newyddion Cyffredinol.

News
Cite
Share

Newyddion Cyffredinol. Mae Cetewayo, druan, wedi derbyn cenadwri oddi wrth Usihepu j'n gorchymyn iddo ymadael o'r reservo territory, ac i beidio dychwelyd i Zaluland. Aeth Hong o'r enw Ardnetinny allan o'r Clyde mis Mai diweddaf, yn llwythog o lo i Buncos Ayres, ac ni chaed son am dani byfch mwy. Ofnir y gwaethaf. Bn merch fechan, tair blwydd oed, farw yn Penarth mewn canlyniad i eisteid ar galch brwd, yr hwn a'i llosgodd odditani fel y bu farw. Mae Gweinyddiaeth Ysbacn mewn argyTwng, gau fod Senor Comacho yn gwrthod y swydd o Ganghgllydd y Trysorlys. Cynelir gwledd Doriaidd yn Mangor ar y 23ain cyf., ae y mae Syr Stafford Ncrthcoto wedi cydsynio ti gwahoddiad i fad yn bresenol. Ymddengys fod amryw foneddigion ar goll yn yr Iwerddon, a chynygir gwobr i'r rieb a roddo hysbys- rwydd lie y maont, neu am eu marwolaeth. Mae Mr Thomas Johns, o Goleg y Bala, wo li rhoddi atebiad cariarnhaol i eglwysi Cilcecin a Dihewyd, Ceredigion. HydJed bendith Duw yn canlyn yr undeb. Dydd Iau diweddaf, yn Rochford, yn credn mai nid da bod dyn ei hunan, cymerodd un o'r heddgeidwaid ato wraig. Ymddengys fod crydd o'r enw Gig-han a'i lygad a'i galon ar y ferch, a cliyn nos dialodd ar y priodfab trwy ei frathu yn dost. Rhoddir i Arglwydd Coleridge groesaw tywysngaidd yn mhob man yn America. Nos Iau diweddaf, rhodd- wyd gwledd o'r fath oreu mewn anrhydedd iddo yn New York. Yr oedd prif aelodau Ilysoedd y gyfraith yn bresenol. Mae y swyddfa Dramor wedi cael ar ddeall gan Lywodraeth Ffrainc ni fydd ganddynt wrthwynebiad i roddi iawn arianol cymedrol i'r cenadwr Shaw, am y driniaeth a dderbyniodd, a'r carchariad a ddyoddefodd ar fwrdd eu llong rhyfel hwynt ger Tamatave. Mae Mri Moody a Sankey y dyddiau hyn yn Limerick, Iwerddon, yn cynal gwasanaeth diwygiadol am wythnos. Rhag ofn i'r Pabyddion godi terfysg, y mae nifer o heddgeidwaid yn gwylio y chwareudy lie y cynelir y gwasanaeth. Eir i mewn trwy docynau, er mwyn sicrhan dyogelwch. Daeth strike y glowyr yn Staffordshire i derfyniad sydyn a boddhaol, dydd Ian diweddaf, trwy i'r ddwy blaid np-su at eu gilydd. Cytunwyd fo y gweithwyr i weithio am ddeg y cant o ostyn^iad am bythefnos, yna fod yr hen gyflog i gael ei dychwelyd. Parhaodd y strike am ddwy wythnos ar hugain. e Fel yr oedd bus yn llwythog o ddynion yn myned drwy yr beol yn March, y dydd arall, dychrynodd y ceffiyl, ac ymaith ag ef ar garlam i gyfeiriad yr afon ac i fewn iddi, gan dynu y bus ar ei ol. Yn ffodus, neidiodd dyn ger llaw i'r afon, ac agorodd ddrws y bus, ac felly y diangodd y teithwyr rhag- dyfrilyd feld. Cafwyd ffermwr y dydd arall wedi ei lofruddio yn ei ystafell wely, mown He o'r enw Lonton. Ar y treng- holiad, dygwyd y rheithfarn o lofruddiaeth wirfoddol yn erbyn ei nai, yr hwn yn unig oedd yn y ty ar noson y Ilofruddiaeth. Bu farw dyn yn ddiweddar yn Liverpool o dan amaylchiadau drwgrdybus, a mynodd ei frawd dreng- holiad ar y corff. Cafodd y rae ldyg olion gwenwyn yn y cylla. Ymddengys fod dynes wedi yswirio ei fywyd ef ac amryw ereill. Pan welodd hono fod trengholiad i'w gynal, (iiangodd, ac ni welwyd hi mwyach ond cymervs yd ei merch i'r ddalfa, a gwraig yr ymadawedig-, yr hon oedd ar dolerau eyfeillgar iawn a hi. Mae yr heddgeidwaid ar y look-out am dani. Yn nghyfarfod y Cyngrair Tirol a gynaliwyd yn swyddfa y gymdeithas yn Dublin, wythnos yn ol, mynegwyd fod or y cyfarfod blaenorol Y,1,000 wedi eu derbyn o Awstralia, £ 1,000 o America, a .£1,000 oddi wrth ferch i Orangeman, fel gwrthdystiad yn erbyn culni yr Orangemen yn ngogledd yr Iwerddon. Mae y lady principal, a saith o foneddigesau ereill i'r Maria Institute yn Warsaw, Rwsia, wedi eu cymeryd i'r ddalfa. Drwgdybir hwynt o fod mewn cysylltiad a'r Nihilistiaid. Yn ol pob tebygolrwyrld, cyflogir y bargyfreithiwr galluog Mr C. Russell, Q.C., i amddiffYll O'Donnell yn ei brawf am lofruddio James Carey. Dywed Mr Grey, ei eyfreithiwr, ei fod wedi derbyn eisoes o America £ 500 at draul yr amddiffyniad ond dywedir yn ddirgel fod digon chwech gwaith drosodd wedi dyfod oddiwlth Wyddelod America, a bod y tanysgrif- iadau yn dylifo i fewn yn feunyddiol. Os gall arian ei ryddhau, fc wneir hyny. Mae y cwbl yn dibynu ar pwy gred y rheithwyr, y llanc Carey ynte O'Donnell. Yr wythnos ddiweddaf cynaliwyd gwyl dair-blwyddol Leeds, o dan arweiniad Syr Arthur Sullivan, lVIus. Doc. Cymfrwyd rban ynddi gan Madlle. Yalleria, Misses A. Marriott ac Anna Williams Madame Patey, Misses Damian, a Hilda Wilson Mri Edward Lloyd a Joseph Maas Mri Blower, F. King, a C. Suntley cor o 813, a cherddorfa o 112 (yn cael ei arwain gan Mr J. T. Carrodus) a Dr Spark, Leeds, a Mr Walter Parratt, Mus. Bac. (organydd St. George's Chapel, Windsor), wrth yr orsfar. Perfformiwyd oratorio gan y diweddar Joachim Raff am y waith gyntaf yn Lloegr. Hefyd, perfformiwyd gweitliiau a gyfansoddwyJ yn arbenig i'r wyl gan Mri Cellier, Joseph Bamby, a Syr G. A. Macfarren, pa rai a ganmolir yn uchcl gan y Wasg, yn enwedig eiddo yr olaf—oratorio, "King David."