Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

YMYLON Y FFORDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwrn, Hydref 13eg. MAE yn amlwg fod y Colegan Cymreig yn Ngbaerdydd a Bangor yn mbell o gyrbaedd i ddyfroedd tawel. Os yr Annibynwyr yn Mon ac yn: y Gogledd sydd wedi datgan eu hunain yn fwyaf anfaddhaol ar bethau yn Mangor, a darbodion Cyfansoddiad y Coleg yno, y Metbodistiaid sydd yn cymeryd y blaen mewn arwain yr anfoddlonrwydd yn y De. Yr wythnos hon y cynaliwy4 CYMDEITHASFA PONTFAEN, ac yn yr eisteddiad olaf yno boreu ddydd Iau, yn unol a rhybudd blaenorol, dygwyd penderfyniadau yn mlaen yn ngtyn a'r mater yma, gan y Parchedigion T. Rees, Mertbyr, a W. James, Aberdar. Yr oedd y pender* fyuiad a ddygwyd ger bron gan Mr Rees yn cyfeirio yn uniongyrchol at yr elfen estronol sydd wedi ei dwyn i reolaeth y sefydliad, trwy fod dynion nad ydynt ond newydd- ddyfodiaid i Gymru, a dynion beb wybod fawr am danom, a llai na hyny o gydym- deimlad a ni, yn caol rhan moy rpnhvg "Iar Gynghor y Coleg. Nid pes dim yn fwy naturiol lia bod ein teimlad cenedlaethol yn dyner iawn yn ngl^n a'r mater yma, a bod cryn lawer o eiddigedd^ os nad drwgdybiaeth; yn dyfod i mewn rbag i estroniaid ddyfod i lywodraethu arnom ond erbyn edrych yri fanwl ac ystyriol ar hyn; bwyrach y ceir ei fod yn ymddangos yii fwy yn y pellder i'n hamheuaeth nag ydyw mewn gwirionedd pan ddeuwn yn agos ato a'i chwilio. Yn ol y ffugyrau y mae y South Wales Daily Isfem wedi ei gyhoeddi, gallem gasglu fod ymgais wedi bod i wneyd y Coleg yn Nghaerdydd yn hollol genedlaethol; ac yn ol y nifer o Gymry ac Ymneillduwyr sydd ar y Cynghor, eu bod wedi llwyddo yn hyny. Nifer aelodau Cynghor Coleg Caer- dydd ydyw 4l; o'r nifer yna y mae dwy ran o dair yn Gymry acosedrychir arnynt yn eu perthynas a'u crefydd, ceir fod 28 yn Ymneillduwyr, ar gyfer 13 o Eglwyswyr; O'r Ymneillduwyr yna y mae 8 yn Annibyn- wyr, 5 yn Fedyddwyr* 5 yn Wesleyaid, 4 yn Fethodistiaid Calfinaidd, 3 yn Bresbyter- iaid, 2 yn Undodwyrj ac 1 Pabydd. Nis gall neb gwyno fod unrhyw anhegwch wedi ei wneyd a'r Ymneillduwyr, ac nid rbyw le mawr sydd gan yr un o'r enwadau i gwyno nad ydynt yn cael eu cynrychioli yn lied deg yn ol eu nifer. Dichcin, mewn ongraifft neu ddwy, y buasaiyn fwy gwastad fod un neu ddau o'r enwadau un ffugiwr yn is, ac un neu ddau ereill un ffugiwr yn uwch ond ar y cyfan, nid wyf yn gweled rhyw le mawr i gwyno. Yr unig, beth a ymddengys i mi yn unochrog ydyw, fod yr elfen leol yn rby gryf, a gormod o bersonau ar y Cynghor o gylch Caerdydd yn uniongyrchol; a dichon mai Oymry mewn enw a gwaedoliaeth ydyw rhai o'r Cymry sydd ar y Cyngbor, ac nid Cymry o ran teimlad a chenedlgarwch. Mae yr hyn a ddywedir gan Olygydd y South Wales Daily News mewn leader am heddyw yn deilwng o sylw pobl y Gogledd t, gyda golwg ar Goleg Bangor. Rhoddaf yr hyn a ddywed yma yn ei iaith, fel y caffo y darllenwyr ef yn gywir:- It was a mistake on the part of the Rev T. Rees to associate the South Wales scheme with that of North Wales, because it is, unfor- tunately, true that although the North Wales committee copied to a great extent the scheme of the former, they so altered and mutilated it, as to strike out the most important components i of the South Wales scheme, which secured that both the court of governors and the Council should always be in accord with the national feeling. Instead of a council of 41, which is the number in South Wales, drawn from all parts of South Wales and Monmouthshire, North Wales contents itself with a council of 21, and there is, we admit, much reason to fear that of the 21 members of which the North Wales Council will be constituted, a large proportion will not represent what may be termed the I popular voice in the Principality. Yn ol yr hyn a ddywedir uchod, yr oedd gan Annibynwyr Mon lawer mwy o sail i gwyno ar ddarbodion Cyfansoddiad Coleg y Gogledd nag sydd gan Fethodistiaid i gwyno ar ddarbodion Coleg y De. Nid oes ond 21 ar boll Gynghor Coleg y Gogledd ac o'r nifer hwnw y mae 10 i'w dewis gan gorfforaetbau allanol, ac heb fod gan y bobl unrhyw lais yn eu hetholiad; ac 11 i'w dewis gan lys y llywodraethwyr; ac o'r 11 hyny y mae y Llywydd, dau Is-lywydd, a Thrysorydd, y rhai sydd yn gystal a bod eisoes yn eu swydd, fel nad oes gan y bobl mewn gwirionedd ond 7 i'w dewis ac y mae yn anmhosibl gyda'r fath nifer fechan roddi cynrychioliad teg i lais y bobl. Dylid codi nifer y Cynghor i nifer Cynghor Coleg Caerdydd, neu ynte dynu y nifer i'w dewis gan gorfforaethau allanol i lawr i bump, fel i y byddo b leiaf ddwy ran o dair or Cyngbor wedi eu dewis gan y llywodraethwyr fel cyn- rycbiolwyr y bobl. Gwthiwyd Oyfansodd- iad Coleg Bangor drwodd gyda llawer iawn gormod o frys, fel na cbafodd y rheolwyr gyfie i roddi en barno arno ac ni ddylid gorpbwys nes ei newid, ac nid ydyw eto yn rhy ddiweddar. Ond am Gyfausoddiad Coleg y De, nis gallaf, er ail edrych drosto, ganfod iiad ydyw mor werinol ag y gallesid yn rhesymol ei ddysgwyl, a nifer y Cymry a nifer yr Ymneillduwyr ar y Cynghor cyntaf yma, o leiaf, yn llawn cymaint ag y mae teg- wch yn ei hawlio, fel nas gallaf weled fod dim yn Nghyfansoddiad presenol y Cynghor yn galw am benderfyniad mor gryf a'r un a gynygiwyd gan Mr Rees yn Mhontfaen, ac a dderbyniwyd gan y Gymdeithasfa. Ond wrth ddarllen yr adroddiad o'r ym- ddyddan a fu yn ngl^n a'r penderfyniad, y mae yn hawdd canfod dau beth. Yn un petb, fod llawer yn teimlo yn ddolurus oblegid y dull anheg, fel y credant bwy; yr ymddygwyd at Aberystwyth yn nglfn a chwestiwn y Colegau yma i Gymru a pheth arall, y mae yn eglur nad yw yr apwyntiad- au i'r gwabanol gadeiriau proffeswriaethol wedi bod yn foddhaol. Am y peth cyntaf, nid wyf yn petruso dyweyd eto yr hyn wyf wedi ei ddyweyd lawer gwaith bellacb, fod angbaredigrwydd mawr, a dyweyd y lleiaf, wedi ei ddangos at Gynghor Coleg Aberys- twyth yn yr holl drafodaeth. Ehoddwyd cyfle i ddialgarwch yebydig bersonau an- foddog i gael ei ddangos, ac ymwthiodd dynion i'r arweiniad nad oeddynt wedi gwneyd dim yn flaenorol o blaid y Brifysgol, a rhai ohonynt wedi gwneyd eu goreu yn ei herbyn ac nis gallaf feddwl am sefyllfa fwy afiachus ar gymdeithas na bod sefydliadau cyhoeddus yn cael eu defnyddio gan ddyn- ion yn achlysuron i fwrw allan eu drwg- nawsedd'at bersonau. Byddai yn dda iawn genyf weled rhywbeth yn cael ei wneyd i ddyogelu Aberystwyth yn sefydliad parhaol er addysgu y genedl yn rhyw ffurf; aeni byddai hawlio hyny yn ormod ar ran se&- ydliad sydd wedi gwneyd agos y cwbl a wnaed dros addysg uwchraddol yn ein gwlad. Am yr anfoddlonrwydd a deimlir yn wyneb yr apwyntiadau a wnaed, nid yw hyny ond peth i'w ddysgwyl lie y byddo llawer o ymgeiswyr wedi eu siomi. Nid yw yn debyg fod neb yn dyweyd fod y rhai a benodwyd yn anghymhwys i'r gwaith ac er yr awgrymir, o bosibl; fod ffafraeth a phart'iaeth wedi bod yn eu dewisiad, etoy mae yn fwy na thebyg, pe chwilid yr achos- ion yn drwyadl, y ceid nad oes unrbyw brawf fod dim wedi ei wneyd trwy gyfeill- garweh uaehydbart'iaeth ond fod y Cynghor, fel gwyr anrhydeddus, wedi dewis y person- au a farnent hwy cymhwysaf, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, i lenwi y gwahanol gadeiriau. Mae yn naturiol i ni deimlo pleidgarweh i Gymro, a phleidgarwch cryf- ach fyth i Gymro a fyddo o'r un enwad a ni. Nid yw ond ofer i ni wadu, y mae gan. y pethau byn ddylanwad, arnom. Ond mewn sefydliad cyhoeddus o'r fath, rhaid i ni ymgodi uwcblaw y cyfryw deimladau. Os bydd dau ymgeisydd yn gyfartal mewn cymhwysderau athrawol; ac un yn Gymro a'r llall yn Sais, ni buaswh yn betruso rhoddi fy mbleidlais i'r Cymro neu pe buasai y ddau yn Saeson, ac un yn Eglwyswr a'r Hall yn Ymneillduwr, rhoddaswn heb bet: rusder fy mbleidlais i'r Ymneillduwr ond os buasai yr Ymneillduwr neu y Cymro yil is mewn cymhwysderau athrawol, buaSwri yn gwneyd cam a'r sefydliad, a cham åg addysg fy ngwlad wrth bleidleisio drosto; ac y mae genyf berffaith ymddiried yn y Cyngbor ddarfod iddyht weithredu yn hollol anrhydeddus, ac tlwchlaw pob teimlad per- sonol, er na.d wyf yn gwybod y rhesymau am rai o'r penodiadau a wnaed. Mae yn dda genyf weled cynifer o Gymry, a chynifer o Ymneillduwyt; wedi eu dewis yn athrawon yn Ngbaerdydd, a buasai yn dda genyf fod eu nifer yn llawer mwy ond pan gofiwn ni fod addysg uwchraddol wedi ei hir esgeu- luso yn Nghymru, ac nad oes ond nifer Iled fychan o'n gw^r iettainc wedi cael y manteis- ion uchaf, yr wyf yn synu fod cynifer ohon- ynt wedi enill cadeiriau mown cydymgais oedd yn agored i ddynion dysgedig pob cenedl, y rbai oeddynt wedi cael y manteis- ion uehaf; ac os gwnaeth y Cymry gystal yn y cynyg cyntaf hwn, beth fyddant yn mhen ugain mlyneddeto gyda'r cyfleusterau helaetbach fydd yn eu cyrhaedd. Nid oes dim yn erbyn i gyrff crefyddol a chorffor- aethau cyhoeddus wylio yn fanwl weithred- iadau y Colegau; yn wir, dylent wneyd hyny. Ond ar yr un pryd, rhodder iddynt bob chwareu teg i weithio eu ffordd. Nid ydynt eto ond ar eu prawf. Peth digon hawdd ydyw beirniadu eu gweithrediadau, a. chreu rhagfarnau yn eu herbyn, a pheri i ddynion atal eu cyfraniadau ond wedi un-