Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL.I -

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS RHYFGWLADWEIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. Htdeef 14eg.-Samuel, y barnwr.-1 Sam. rii. 3-16. Y TESTYN EURAIDD-" A chymerodd Samuel faen, ac a'i gosododd rhwng Mispah a Sen, ac a alwodd ei enw ef Eben-eser; ac a ddywedodd, Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nj ni."—Adnod 12. RHAGARWEINIOL. YR oedd yr ugain mlynedd y bu arch yr Arglwydd yn Ciriath-jearim yn flynyddoedd tywyll ar Israel. Gorthrymid hwy yn fawr gan en gorchfygwyr, y Philistiaid. Yn ystod yr adeg yma, trigai Samuel yn Ramah, ac er nad o's genym hanes am dano, y mae yn ymddangos ei fod wedi bod yn ymdrechu cael gan y genedl i ddychwelyd at yr Arglwydd mewn edifeirwch. Rhaid fod y diwygiad mawr y mae genym ei hanes yn y wers yn ffrwyth blynyddoedd o ymdrech. Hebfaw hyny, nid ydyw yn beth tebygol y gallasai Samuel aros yn llonydd am ngain mlynedd heb ddwyn tystiolaeth i ha wliau yr Arglwydd arnynt fel cenedl. O'r diwedd, gwelwyd arwydd cyffredinol o ymddeffroad yn mysg y gened). A holl Israel a a!arnsant ar ol yr Arglwydd." Daethant i djimlo mor £ fol yr oeddent wedi bod yn gadael yr Arglwydd. Dangosasantawydd t cryf am fod yn ei ffafr eto. Diau fod Samuel wedi bod yn gwylied y cyfnewidiad hwn yn meddwl ac yn nbeimlad y genedl, ac yn awr, pan y mae yn teimlo ei fod yn ddigon cryf ac angerddol, geilw hwy at eu gilydd i wneyd tystiolaeth cyhoeddus o'u hymlyniad wrth yr Arglwydd. Esboniadol. Adnod 3 —" A Samuel a lefarodd wrth holl d £ Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd a'ch holl galon, bwriweh ymaith y duwiau dyeithr o'ch mysg, ac Astaroth, a pharotowch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef yn unig; ac efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid." Y mae Samuel am iddynt ddangos mewn gweithred allanol y cyfnewidiad mewnol oedd wedi eymeryd lie ynddynt. Proffesent fod yn edifar ganddynt adael yr Arglwydd os felly, medd Samuel, bwriwch ymaith y duwiau dyeithr o'ch mysg." Ac Astaroth. Rhif luosog, o Astoreth; Groeg, Aster, &c. Hon ydoedd y dduwies a addolid ganddynt. Enwir hi am mai hi ydoedd yr eilun anwylaf ganddynt. A pharotowch eich calon, trwy eu puro oddiwrth bob pechod, ac yn enwedig oddi wrth bob tueddfryd i fyned ar ol dnwiau dyeithr. Cyfieitbir yr ymadrodd weithiau, a chyfarwyddivch eich calon. Wedi gadael duwiau dyeithr, cyfarwydd- wch eich calon at y gwir Ddnw. Ac efe a'ch gwared o law y Philistiaid. Canys ohorwydd i chwi ei adael a gwaBanaethu duwian ereill, y darfu iddo eich traddodi chwi i'w dwylaw." Adnod 4.—" Yna meibion Israel a fwriasant ymaith Baalim ac Astaroth, a'r Arglwydd yn unig a was- anaethasant." Baalim. Y rhif luosog o Baal, Baal ydoedd y duw, ac Astoreth ydoedd y dduwies a addolid ganddynt. Hyd yn nod yn yr adeg yma nid oeddent heb gydnabod hawliau yr Arglwydd. Aml-dduwiaeth ydoedd eu pechod. Mynent addoli dnwiau dyeithr gyda'r Arglwydd. Yn awr dychwelant at yr Arglwydd yn unig. Adnod 5.—" A dywedodd Samuel,, Cesglwch holl Israel i Mispah, a mi a weddïaf drosoch chwi at yr Arglwydd." Mispah. Gwyl d-ftr. Y mae yn debygol mai Mispah yn Benjamin a olygir yma. Safai tua phnm' milldir o Jerusalem, mewn man uchel ae amlwg. Ymddengys Samuel fel proffwyd yn en mysg, nid fel milwr. Dysga hwynt i deimlo mai trwy ffydd a gweddi yr oeddent i orchfygn. Addawa weddio drostynt. Yr oedd yn un hynod mewn gweddi. Ceir amryw engreifftiau ohono fel gweddïwr. A Samuel yn mysg y rhai a alwant ar ei enw." Adnod 6.—"A hwy a ymgasglasant i Mispah, ac a dynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant ger bron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y diwrnod hwnw, ac a ddywedasant yno, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd. A Samuel a farnodd feibion Israel yn Mispah." Yn yr aralleiriad Caldaeg, darllenir, A hwy a dywallt- asant eu heneidiau mewn edifeirwch, fel dyfroedd ger bron yr Arglwydd." Hen ffordd y dwyreinwyr i gadarnhau llw ydyw trwy dywallt dyfroedd ar y ddaear. Daeth meibion Israel ger bron yr Arglwydd, ympryd- iasant ac wylasant. ac addunedant fyw i'r Arglwydd; ae fel cadarnhad ar en hymrwymiad, tywalltasant ddwfr ger bron yr Arglwydd. A Samuel a farnodd. Fel hyn y barnodd Samuel, trwy en casglu at en gilydd a'n harwain i gyfaddef en pechodau, ac eiriol drostynt at Ddnw. Gosodai bwys mawr ar ddysgyblaeth foesol a chrefyddol yn llywodraethiad y bobl. Adnod 7.—" A phan glybu'r Philistiaid fod meibion Israel wedi ymgasglu i Mispah, arglwyddi'r Philistiaid a aethant i fyny yn erbyn Israel: a meibion Israel a glywsant, ac a ofnasant rhag y Philistiaid." Deallodd y Philistiaid fod cynnlliad Israel yn Mispah yn brawf o wrthryfel Israel yn erbyn eu llywodraethiad. Pon- derfynasant anfon milwyr ar unwaith i ddarostwng y gwrthryfel. Nid oedd Israel wedi dysgwyl y buasai yr ymosodiad arnynt mor fuan. Pan glywsant eu bod yn dyfod, ofnasant; ond yr oedd eu ffydd yn gryfach na'u hofnau. Safasant eu tir. Adnod s.—" A meibion Israel a ddywedasant wrth Samuel, Na thaw di a gwaeddi drosom ni at yr Ar- glwydd ein Duw, ar iddo ef ein gwared ui o law'r Philistiaid." Yr oedd ganddynt ffydd yn effeithioldeb gweddi Samuel ar eu rhan. Yr oeddent yn ddiarfog, ond ymnerthant yn yr Arglwydd. Yr oedd Samuel hefyd wedi addaw gwaredigaeth iddynt o law y Philistiaid. Adnod 9. A Samuel a gymerth laeth-oen, ac a'i hotTrymodd ef i gyd yn boeth-offrwm i'r Arglwydd a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd dros Israel; a'r Arglwydd a'i gwrandawodd ef." Llaeth-oen (suckling lamb). Rhaid oedd iddo fod dros saith niwrnod oed (Lef. xxii. 27). A'i hoffrymodd ef i gyd. Heb ei dori yn ddarnau. Nid ydym i gaszlu i Samuel wneyd hyn ei hunan. Yr oedd yno offeiriaid, y rhai oedd wedi eu neillduo at y gwaith. Am gyfraith y poeth- offrwm, gwfil Lef. i. 10-13. Adnod 10.—" A phan oedd Samuel yn offrymu y poeth-offrwm, y Phi listiaid a nesasant i ryfel yn erbyn Israel: a'r Arglwydd a daranodd & tharanan mawr yn erbyn y Philistiaid y diwrnod hwnw, ac a'n drylliodd hwynt, a lladdwyd hwynt o flaen Israel." Yn yr adnod hon cawn eglurhad pa fodd y gwrandawodd yr Arglwydd weddi Samuel ar ran Israel. A daranodd. Gosodir y daran allan fel lleferydd Dnw. Yr oedd hyn wedi ei raghysbysu gan fam Samuel (pen. ii. 10). Daeth yr Arglwydd allan mewn modd neilldnol yn amddifFyriydd i Israel. Ca deddfau anian weithredu o'u plaid. Adnod 11.—" A )?wyr Israel a aethant o Mispah ac a erlidiasant y Philistiaid, ac a'n tarawsant hyd oni dda, thant dan Bethcar." Y mae Israel yn cymeryd y taranau fel prawf fod yr Arglwydd gyda hwy. Ym- egniant. Aethant yn wrol yn erbyn y Philistiaid. Cawsant hwy wedi dychrynu gan yr ystorm. Yna ymosodasant arnynt, nes en gyru hwy i ffoi o'u blaen. Erlidiasant hwythau aren hoi, gan ladd Ilawer ohonynt. Bethcar. Nid oes unrhyw sicrwydd pa le a olygir. Dangosodd Dnw mai ar weddi ac aberth Samuel yr edrychai, ac wrth hyn roddodd ar ddeall i Israel megys yr oedd ef mewn ymdrech blaenorol a'r Philistiaid wedi ceryddu en hymddiried rhyfygus yn mhresenoldeb yr arch, felly yn awr ei fod yn rasol yn derbyn eu hymddiried gostyngedig ar weddi ffydd, o enan a chalon proffwyd duwiol." Adnod 12.—" A chymerodd Samuel faen, ac a'i gosododd rhwng Mispah a Sen, ac a alwodd ei enw ef Eben-ezer; ac a ddywedodd, Ilyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni." Ebenezer, neu faen y cymhorth. Yr oedd yn arwydd o'r cymhorth oeddent wedi gael, ac yn arwyddo hefyd y buasai yr un cymhorth yn cael ei roldi iddynt drachefn yn eu hymdrechiadau &'u gelynion. Adnod 13.—"Felly y darostyngwyd y Philistiaid, ac ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel: a Haw yr Arglwydd a fu yn erbyn y Philistiaid boll ddyddiau Samnel." Pan welodd y Philistiaid fod yr Arglwydd gydag Israel, ni chwanegasant mwyach ddyfod i derfyn Israel." Yr oedd arnynt en hofn. Yr oedd Samuel yn amddiffynwr ac yn waredydd i Israel, nid trwy fin y cleddyf, megys Gedeon, na thrwy nerth, megys Samson, ond trwy nerth gweddi at Dduw, a dygiad yn mlaen ddiwygiad yn mhlith y bobl. Crefydd a duwioldeb ydynt ddyogelwch goreu cenedl." Soli ddyddiau Samuel, fel barnwr, hyd nes yr ymlygrasant drachofn, a gofyn am frenin. Adnod 14.—" A'r dinasoedd, y rhai a ddygasai y Philistiaid oddiar Israel, a roddwyd adref i Israel, o Ecron hyd Gath ac Israel a ryddhaodd eu terfynau o law y Philistiaid ac yr oedd heddwch rhwng Israel a'r Amoriaid." Yma y ceir srolwg ar lwyddiant Samuel fel barnwr-nid yn unig gyrodd y Philistiaid yn eu holau o wlad Israel, ond hefyd cymerodd oddiarnynt y dinasoedd oedd ar y terfynau, y rhai yn briodol a berthynent i Israel. Pan welodd yr Amoriaid fod Israel yn drech na'r Philistiaid, gwnaethant heddwch â hwynt. Tybir gan rai fod yr Amoriaid i'w cymeryd am y gwahanol Iwythi oedd yn Nghanaan oddigerth y Philistiaid. Adnod 15. A Samuel a farnodd I-rael holl ddyddiau ei fywyd." Er fod Samuel wedi rhoddi y llywodraeth i fyny i Saul, efe a barhaodd i weithredu fel barnwr. Adnod 16.—" Aeth hefyd o flwyddyn i flwyddyn oddiamgylch i Bethel, a Gilgal, a Mispah, ac a farnodd Israel yn yr holl leoedd hyny." Teithiai oddiamgylch y dinasoedd hyn yn flynvddol, gan gyflawni ei swydd fel barnwr yn en mysg. Yr oedd hyny yn cynwys ei fod yn penderfynu materion cyfreithiol, yn gystal a'u dysgu yn en dyledswyddau crefyddol. Bethel. Tuag wyth milltir i'r gogledd o Jerusalem. Gilgal. Y mae yn debygol mai Gilgal yn nyffryn yr lorddonen a olygir yma. Adnod 17.—" A'i ddychwelfa ydoedd i Ramah: canyia yno yr oedd ei dy ef: yno hefyd y barnai efe Israel; ac yno yr adeiladodd allor i'r Arglwydd." Preswyliai yn Siloh tra y bu Eli byw, wedi hyny daeth i fyw i Ramah, ei le genedigol. Y mae yn ofalus yn cadw i fyny arferiadau crefyddol. Nid oedd Ramah I yn mhell o Bethel. GWERSI. Cawn yma hanes diwygiad nerthol yn Israel a ddygwyd oddiamgylch trwy offerynoliaeth Samuel. Dychwelodd y bobl yn edifeiriol at Dduw â'u holl galon. Bwriasant oddiwrthynt y duwiau dyeithr. Daethant at eu gilydd or mwyn gweddïo ar Dduw, ac adnewyddu eu penderfyniadan i fyw iddo. Cyfaddefant yn ostyngedig eu pechodau, a chyd- nabyddant yr Arglwydd fel eu hunig obaith a'u digonol Waredwr. Y mae yr elfenau hyn yn amlwg yn mhob diwygiad, a rhaid eu cael cyn y gellir cael diwygiad gwirioneddol. Mewn canlyniad i'r diwygiad hwn, ymddyrchafodd Israel i fywyd newydd, a chawsant ornchafiaeth ar eu gelynion. Y mae hyn yn canlyn pob gwir ddiwygiad. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Trwy ba foddion y dygwyd Israel i alaru ar ol yr Arglwydd yn ystod yr adeg y bu yr arch yn Ciriath- jearim ? 2. Pa brofion roddodd Israel o'n laedifeirwch a'u dychweliad at yr Arglwydd ? 3. Pa le yr oedd Mispah ? a phaham y mae Samuel yn casglu Israel yno ? 4. Beth oedd y tywallt dwfr ger bron yr Arglwydd yn arwyddo ? 5. Wedi i'r Philistiaid glywed am ymgynulliad Israel yn Mispah, paham y maent yn penderfynu myned i fyny yn eu herbyn ? 6. Pa fodd y mae Israel yn cyfarfod ymosodiad y Philistiaid ? 7. Eglurwch y modd y rhoddodd yr Arglwydd fuddngoliaeth i Israel. 8. Beth oedd ystyr y maen a gododd Samuel ? 9. Eglnrwch nodweddion cymeriad Samuel fel barnwr, a'r liwyddiant fu ar Israel yn ei ddyddiau ef.

CAERLLEON A'R CYFFFINIAU.

Advertising