Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

EGLWYSI GWEIGION.

GWAELOD GWLAD MYRDDIN.

CEFNCOEDYCYMER.

News
Cite
Share

CEFNCOEDYCYMER. Y ddiweddar Miss Hughes.-Wrth feddwl am gy- maint o'm hen gyfeillion sydd wedi eu symud yn ddi- weddar gan angeu i fyd arall, yr ydwyf yn fawr fy hir- aeth yn fy nglialon ar eu hol, ac y maent yn dyweyd wrthyf finan am fod yn effro i barotoi i fyned ar eu hol. Yn mhlith y lluaws sydd wedi blaenu mae y siriol a'r garedig Miss Mary Jane Hughes, merch Mrs Jones, grocer, Cefncoedycyraer. Mewn modd annysgwyliad- wy, daeth angeu ac a'i symudodd i fyd arall yn 30 mlwydd. Effeiihiodd ei symudiad yn fawr ar ei han- wyl fam, a.'i brodyr, a'n tea!uoedd. Prydnawn dydd ei chladdedigaeth, ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd er dangos eu parch olaf iddi trwy fyned a'i gweddillion marwol i'w dewisedig fan yn Cemetery y Cefn. Cyn cychwyn allan o'r ty, darllenwyd a gwedditvyd gan y Parch J. B. Jones, B.A., Aberhonddu. Yna deuwyd a'r corff i'r elorgerbyd, ac amryw gerbydau yn canlyn. Cyn symud yn mlaen,rhoddwyd penill allan, a chanodd Cor Ebenezer agos yr holl ffordd, ac wedi cyrhaedd capel y gladdfa cawsom bregeth bwrpasol iawn gan y Parch D. R. Jones, ei gweinidog, a rhoddwyd yr anwyl chwaer yn ei gwely newydd i gysgu ei hAn yn dawel hyd nes ei deffroir gan ei Harglwydd y dydd mawr. Dywedir fod gw^r bucheddol wedi ymgasglu i gladdu Steplian folly yr oedd yma; oblegid gwelais yn y dorf y Parchn Griffiths, Tabor; Morris, Brynseion; Jones, Gwernllwvn Richards, Penywern; Williams (Brynfardd); Williams, Salem; Jones, Bethesda Davies, Hendycwrdd, Cefn; yn nghydag amryw brcjr- ethwyr cynorthwyol- Hughes, Bethesda; Richards, Fochriw; a Howells, Aberaman. Dichon fod llawer ereillynbresonol nad oeddwn yn eu badwaen. Mae yn ami wg i'r darllenydd fod parch mawr i'r ymadawedig: Mae yn gysnr meddwl am yr anwyl chwaer iddi yn foreu wneyd cynghor Solomon-" Cofia yn awr dy Gre- awdwr yn nyddiau dy ieuenctyd. Tua L7eg o flynydd- oedd yn ol, cafodd y fraint o roddi ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl yn Ebenezer, Cefn. Yn absenoldeb gwein- idog, cafodd ddeheulaw cymdeithas gan y Parch F. Evans, Adulam, y pryd hwnw, America yn bresenol. Addawodd y pryd hwnw, yn ol ei gallu, i fod yn ffydd- lon hyd augeu ac yn wir, felly y bu. Nid oedd neb yn fwy awyddus am ei chwrdd. Er fod gwendid ei natur trwy y blynyddoedd yn ei llnddias, yr oedd yn fawr ci hawydd am ganu gyda'r gynuileidfa, ond yn ami yn metbn. Credwn ei bod heddyw yu gydstad a'r angel, ac wedi uno yn yr anthem yn nghymanfa y gwaredigion. Gogoniant yr Arglwydd a fyddo yn gymhorth i'w hanwyl fam, ei brodyr, a'u teuluoedd yn eu galar ar ei hot i beidio galaru fel rhai heb obaith. Sicr ydyw fod angeu wedi ei symud at ei phobl. Gan mai tj Dduw oedd ei chartrefj a phobl Ddnw oedd ei chyfeillion, a gwaith Duw oedd pleser ei chalon, credaf ei bod yn ei lielfen mewn gogoniant. Heddwch i'w llwch hyd ci deffroir gan floedd a lief yr archangel y dydd mawr. CYFAILL. «

Advertising

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.