Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

U ' M li L Y i) It U JM IA…

Family Notices

GWYLIAU YR IIYDREF. -

News
Cite
Share

Yn yr Eglwys Annibynol yn Bond-street, yn Leicester, y bu EDWARD MIALL yn gwein- idogaethu; ac yno, mewn ymddyddan rhyng- ddo ef' a Mr MURSELL, y cynyrchwyd y meddylddrych am gychwyn y Nonconformist; ac oddiyno yr aeth Mr MIALL i Lundain i gychwyn y gwaith i'r hwn y cysegrodd ei oes, ac yn ngtyu a'r hwn yr anfarwolodd ei enw; ac o'r fan hono y daeth y syniad am Gymdeitbas Rhyddhad Crefydd, sydd erbyn hyn wedi dyfod y fath allu grymus, ac wedi llwyr chwildroi barn y cyboedd ar bwnc mawr cydraddoldeb crefyddol. Yr oedd y Bedyddwyr yn fintai fawr yn Leicester eleni. Rhoddwyd derbyniad cynes iddynt gan v I Maer, Mr F. HEWITT, yr hwn sydd Auuibyn- wr, a darllenwyd anerchiad croesawgar iddynt gan weinidogion yr enwadau Ym- neilldnol ereill; ac yr oedd CANON VAUGHAN yno yn datgan ei ddymuniadau da iddynt; a hyfryd oedd gweled y fath frawdgarwch Cristionogol, er nad oedd neb yn rhoddi i fyny ei neillduolion enwadol, nac yn llai selog drostynt. Dr HENRY ALLON a bregethodd y bregeth flynyddol y waith hon, yr hon a ystyrir befyd yn bregeth Genadol, ac yr oedd hyny yn arwydd ychwanegol o'r un brawdgarwch. Ei destyn ydoedd, A'r maes yw y byd;" a dywedir ei fod yn un o'i fanau hapusaf. Mae eu cenadaeth yn cael llawer mwy o sylw y Bedyddwyr yn Nghyfarfodydd yr Undeb nag a roddir gan yr Annibynwyr i'r eiddynt hwy. Anaml y daw y Genadaeth Dramor i sylw o gwbl yn Nghyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol. Dichon fod y ffaith fod ein cymdeitbas ar seiliau eangach nag eiddo yr un enwad arall yn cyfrif mewn rhan am hyny. Er mai yr Annibynwyr sydd yn ei chynal agos yn hollol, eto nid Cymdeithas Genadol yr Annibynwyr ydyw, ond rhoddir rhyddid i'r cenadau i ffurfio y dychweled- igion yn gymdeithasau ar y cynllun a fernir ganddynt hwy yn oreu er cario allan amcan- ion crefydd. Ond colled yn ddiau ydyw na roddir i'r Genadaeth le llawer amlycach yn N ghyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol. Iachus iawn oedd y newydd a roddodd yr ysgrifenydd, Mr BAYNES, fod y £3,000 oedd yn ddiffygiol yn nhysorfa eu Cenadaeth yn Mai wedi en gwneyd i fyny trwy gydroddion ychydig bersonau, a bod y Cyfarwyddwyr wedi penderfynu anfon pedwar-ar-ddeg o genadon i China, er y costiai eu hanfon allan fwy na £ 2,000, a mwy na £7,000 yn flynyddol i'w cynal; ac yr oedd boneddwr o Bryste yn acldaw dwyn traul cenadwr am bob cenadwr ycbwanegol a anfonent i China, er y costiai hyny £ 1,000, ac yr oedd Mr GLOVER a'i eglwys yn Bryste yn barod a £1,000 arall. Mae swm dirfawr o gyfoetli yn meddiant Ymneillduwyr yn y dyddiau hyn, a chryn barodrwydd i'w gyfranu, ond i achosion teilwng gael eu gosod ger bron yn briodol. Cafwyd cyfarfod dirwestol tra llwyddianus o dan lywyddiaeth Mr CAINE. Dywedai fod mwy na haner gweinidogion y Bedyddwyr yn ddirwestwyr, ac allan o 235 o fyfyrwyr oedd yn eu colegau, ryw dwsin sydd heb fod yn llwyrymatalwyr. Gobeithio fod y ffugyrau hyn yn gywir, er ein bod yn ofni eu bod yn rhy dda i fod yn wir; ac yr ydym wedi myned yn bur amheus o'r ffugyrau a gyhoeddir yn nglyn a'r mater hwn, fel llawer un arall, oblegid ar antur y cymerir hwy yn ami iawn. Gwelsom ef yn gyhoeddedig fwy nag unwaith fod holl weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru yn ddirwestwyr. Mae Mr G. M. MURPHY wedi ei ddyweyd lawer gwaitb, a hyny er ei hvsbysu eilwaith ac eilwaith nad ydyw yn gywir. Er mor flaenllaw ydyw enwad parchus y Methodistiaid gyda'r acbos dir- westol, ac er cynifer o'u gweinidogion sydd yn ddirwestwyr trwyadl, ac y mae nifer fawr, eto y mae yn eu plith lawer nad ydynt, a llawer nad ydynt yn proffesu bod. Os yw baner gweinidogion y Bedyddwyr yn llwyrymatal- wyr, a'u myfyrwyr oil ond rhyw ddwsin, dywedwn, gwyn eu byd a gallant fod yn sicr fod dyfodol llewyrchus o'u blaen fel enwad. Nis gallwn gymaint a chyfeirio at y pethau ereill fu dan sylw, er mor dda fuasai genym wneyd. Yr un wythnos ag yr oedd y Bedyddwyr yn cyfarfod yn Leicester, yr oedd yr Eglwys- wyr yn Reading yn cynal Y CHURCH CONGRESS, ac yr oedd yno ohonynt dyrfa fawr o dair mil. Codwyd adeilad yn bwrpasol i'r perwyl! Mae y Congress yn dyfod yn fwy o allu o flwyddyn i flwyddyn, ac er nad yw mewn un modd yn gynychioliadol, eto y mae yn rhwym o gario dylanwad mawr. Ryw ugain mlynedd yn ol y cychwynwyd ef, a dydd y pethau bychain oedd hi arno, a llawer iawn o ragfarn yn ei erbyn ond wrth fyned yn mlaen y mae yn cryfhau, a pba beth bynag yw barn llawer am dano, teimlant nas gallant gadw ohono. Mae pob pIaid- U chel, ac Isel, a Llydan yn cyfarfod yn y Congress; ac os nad oes ynddynt ddim cydymdeimlad a'u gilydd, ac er yn wir eu bod yn teimlo yn llawer gwaeth at eu gilydd nag y teimla y gwahanol Enwadau Ymneillduol y naill at y llall, eto y mae eu serch cryf at yr Eglwys yn peri eu bod oil yn ymgynull. Y maent yn cydgyfarfod ynddi hi, ac yn selog drosti. Darllenir papyrau ar bob math o gwestiynau, a tbraethir syniadau bollol wahanol. Yn arweiniol traddodwyd pregethau gan Esgob- ion Winchester a Meath, ac yn yr eisteddiad cyntaf cafwyd anerchiad gan y Cadeirydd, Esgob Rbydychain. Cymerai gwyr lien a lleyg ran yn y cyfarfodydd, ac weithiau tarawent eu gilydd yn gryf, ac eto yn bollol foneddigaidd, ac yn hyny byddai yn dda i ni yn ein cynulliadau yn Nghymru gymeryd dalen o'u llyfr. Mae dau beth nad ydym eto wedi eu dysgu ond .yn anmherffaith iawn— gwrando yn barchus a boneddigaidd ar ddynion yn traethu golygiadau croes i'r eiddom ni, a dadleu yn frwd ar fater cyhoeddus mewn cynadledd, heb deimlo un- rhyw cherwder personol ar ol myned allan. Pa uchaf yr ymgyfyd dynion mewn addysg a moesau da, goreu oil fyddant yn y pethau hyn. Yr ydym yn mawr hoffi nodwedd rydd a dilyffethair cyfarfodydd y Congress, ac nad oes neb yn gyfrifol am y syniadau a draetha un ond efe ei hun, ac na chynygirtrwy un- rbyw bendcrfyniad rwymo neb arall; ac nis gwyddom pa fodd yn amgen y gellir gweith- redu mown cynadleddau nad ydynt yn cyn- rychioli neb, nac ullrhyw awdurdod i arosod ar neb yr hyn y cytunant arno. Gwyntyller pob cwestiwn yn deg a thrwyadl, ac ym- ddirieder yn nerth y gwirionedd am y can- lyniadau. Yr wythnos hon y mae Cyfarfod Hydrefol YR UNDEB CYNULLEIDFAOL yn Sheffield. Dechreuwyd nos Lun, ond dydd Mawrth oedd dydd mawr yr wyl, pryd y traddodwyd anerchiad galluog a dysgedig gan Dr FAIRBURN, ar Gristionogaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Nis gall- wn yr wythnos hon gyfeirio at y gweithred- iadau, yn ychwaneg na dyweyd fod y cynulliad yn lluosog, a nifer mwy i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd nag y gwelsom o gwbl o'r blaen, a llawer iawn o waed newydd wedi ei ddwyn i mewn. Bydd hyny yn ddiau yn iechyd i'r boll gorlT. Yn sicr y mae llawer ZD mwy o dalcnt yn yr Enwad nag sydd eto wedi cael cyfle i ymddadblygu ar lwyfan yr Undeb Cynulleidfaol, a dylid sicrhau yr oil a ellir heb aberthu effeithiolaeth y cyfarfodydd.