Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Cynwysiad. I

Advertising

YR- WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR- WYTHNOS. Mae Mr Gladstone, Mrs, a Miss Glad- stone yn treulio yr wythnos hon yn Knowsley, ar ymweliad a Iarll Derby. Dydd Mawrth diweddaf, glaniodd Mri Moody a Sankey, y diwygwyr Americanaidd, yn Cork. Ymddengys fod y teimlad gwrth-Iuddewig yn cynyddu yn Bohemia. Mewn amryw fanau gwelir papyrau ar y muriau a'u hamcan i gyffroi teimlad y lluaws yn erbyn yr Iuddewon. Mae y Marquis Conyingham yn gorwedd yn glaf iawn o'r typkoÙl fever yn y Bifrons, Canterbury. Hefyd, y mae ei frawd-yn- nghyfraifch a'i gefnder yn glaf o'r un afiechyd, trwy iddynt yfed dwfr sefydlog pan allan yn saethu ill tri. Cyflwynodd M. Grevy, Arlywydd Ffrainc, ymddiheurad i Frenin Ysbaen am y sarhad a daflwyd arno pan ar ymweliad a Paris. Nid yw y mater wedi ei lwyr derfynu rliwng y ddwy Lywodraeth, ond y mae y teimlad eyboeddus wedi oeri cryn lawer, a dysgwylir y terfynir pobpeth yn foddhaol a heddycbol. Yn Nghynadledd yr Eglwys yn Reading, y dydd arall, cafwyd dadl frwd ar bwnc y Llysoedd Eglwysig. Condemnia rhai y Llys Cyffredin (secular) fel ymyriad angbyf- reitblon a hawliau hanfodol yr Eglwys. Gwell gan ereill fuasai ymddiried i lys ynadon diragfarn nag i lys yr esgob allasai fod wedi ei feddianu a rhagfarn ac a drwg- deimlad. Nid oedd heddweh o fewn magwyrydd yr hen Eglwys, beth bynag am ffyniant yn ei phalasau, ond mewn ystyr dymhorol ac arianol. Yn mysg y gwahanol Gynadleddau, Undebau, &c., a gynelir y dyddiau hyn mewn gwahanol fanau yn y wlad, y mae cynadledd o gymeriad newydd yn cael ei chynal yn Llundain. Gelwir hi Cynad- ledd Genedlaethol Afalau" (National Apple Congress). Amcan y gymdeithas newydd hon ydyw cymeryd mantais ar y cnwd anarferol o doreithiog o afalau a gafwyd y flwyddyn hon, i geisio gwella gwrteithiad y gwabanol rywiogaethau o'r afalau. Mae ganddynt arddangosfa o 8,000 o ddysgleidiau o afalau, gyda phedwar neu chwech math o afalau ar bob dysgl. O'r rhai hyn, y mae dros 1,000 wedi dyfod o Ysgotland. Mewn colofn arall, gwelir adroddiad o'r cyfarfod mawr a gynaliwyd yn Merthyr, ddydd Llun diweddaf, pan yr anerchwyd gweithwyr y parthau poblog hyny gan ein cydwladwyr enwog Mr Henry Richard a Mr C. H. James, yr aelodau dros Ferthyr ac Aberdar. Yr oedd y materion yn rhai perthynasol, amserol, a phwysig i'r gweith- wyr fel dosbarth pwysig yn y wladwriaeth, a thraethodd yr aelodau anrhydeddus arnynt yn glir, grymus, a didderbyn-wyneb, fel rhai wedi meddwl yn fanwl, a theimlo yn ddwys bwysigrwydd yr hyn a lefarent; a hawdd oedd deall wrthynt mai nid eu hamcan oedd boddloni y gweithwyr, ond eu llesoli, a bod y cydymdeimlad dyfnaf rhyngddynt a hwy. Gwasgai Mr Richard arnynt yn ddifrifol y pwysigrwydd o sefydlu Byrddau Cyflafareddol a Byrddau Hedd- ychiadol, mewn trefn i benderfynu dadleuon ac ysgoi strike ar y naill law, a lock-out ar y llaw arall. Pan ddaetb at ei hoff bwnc heddweh, yr oedd, fel arfer, yn ei ogoniant. Dywedodd ffaith gwerth i'w chofio, a meddwl am dani yn ystyriol, sef fod 2,180,000 o ddynion wedi eu lladd gan ryfeloedd rhwng gwledydd Cristionogol o'r flwyddyn 1835 hyd y flwyddyn 1880 a'r arian a wariwyd yn y rhyfeloedd hyny oedd ■ £ 2,653,000,000! Onid yw yn bryd gwaeddi am heddwch? Mae Bwrdd Masnach newydd gyhoeddi Adroddiad Swyddogol o'r holl ddamweiniau ar y rheilffyrdd am y chwe' mis diweddaf. Yn y dyddiau hyn pan y mae cynifer o ddynion yn gorfod teithio llawer wrth ddilyn eu galw- edigaethau, a'r fath nifer dirfawr yn cymeryd pleserdeithiau, y mae Adroddiad o'r natnr hwn yn un dyddorol a pfrwysig i bob dos- barth yn y wlad. Yn ysbaid y chwe' mis, cafodd 584 o bersonau eu lladd, a 4,021 eu niweidio ar wahanol linellau y deyrnas ond o'r rhai hyn dim ond 17 a laddwyd, a aS4 a niweidiwyd gan gerbydresi tra yn rhedeg. Tra yn ystyried nifer y damweiniau a gymer- asant le, y mae y canlyniadau yn fychain iawn. Cymerodd 1,316 o ddamweiniau Ie, felly dim ond un teithiwr yn mhob cant a haner o ddamweiniau a laddwyd. Dosberthir y damweiniau i wahanol ddosbeirth, a nodir allan achosion y damweiniau angeuol. Yna ceir fod y rhan fwyaf ohonynt i'w priodoli i ddiofalwch dynion yn cerdded ar y rheilffyrdd tua'r gorsafoedd heb gadw eu golwg ar y trains fyddo mewn mudiad i waith dynion yn croesi y llinellau ar ddynesiad y trains; ac i ryfyg dynion yn neidio i mewn i'r cerbydau ar ol iddynt gychwyn, neu ddisgyn ohonynt cyn iddynt sefyll, a thrwy hyny yn syrthio rhwng yr esgynlawr a'r cerbyd, ac o dan yr olwynion. Cafwyd hefyd fod 32 o'r rhai a laddwyd wedi cyflawni hunan- laddiadau trwy daflu eu hunain o dan y trains. Yn mysg y lladdedigion yr oedd yn agos i ddau cant a haner o weis- ion y cwmpeini, a'r rhan fwyaf ohonynt wedi en lladd yn herwyddeu diofalwch a'u rhyfyg, yr un fath a'r lleill. Er fod y nifer yn fychan wrth ystyried y miliynau a deithiant yn y ffordd hon mewn haner blwyddyn, rhaid cydnabod ei fod yn fwy nag y dylasai fod, a'i bod yn gorphwys mewn rhan ar y teithwyr eu hunain i'w leihau, trwy arfer mwy o ofal wrth fyned i mewn ac allan o'r cerbydau. Ac os na chymer y gweision fwy o ofal ohonynt eu hunain, dylai yr awdurdodau osod rheolau caethach am danynt, a'i wneyd yn drosedd cosbadwy i groesi o'r naill esgynlawr i'r llall pan y byddo y peir- iant o fewn ychydig latheni iddynt. Dylid gosod terfyn ar yr arferiad beryglus o fyned rhwng cerbydau a thryciau i'w cysylltu neu eu dadgysylltu pan y byddant mewn mudiad (motioit). Nis gall na ddygwydd damwein- iau, ond gyda gofal gellid yn hawdd leihau eu nifer.

GWYLIAU YR IIYDREF. -