Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

OYFARFOD MAWR Y GLOWYR YN…

News
Cite
Share

OYFARFOD MAWR Y GLOWYR YN MERTHYR. AREITHIAU GAN MR. HENRY RICHARD, A.S., A MR. C. H. JAMES, A.S. BOREU Llun diweddaf cynaliwyd cyfarfod mawr yn yr awyr agored gan lowyr Cymoedd Taf yn Market-square, Merthyr, er cymeryd i ystyriaeth amryw o faterion oedd yn dal perthynas a hwy fel dosbarth. Yn mysg ereill ar y platfform yr oedd Mr Henry Richard, A.S., a Mr Charles H. James, A.S. Bernir fod oddeutu 4,000 o bersonau yn nghyd, gan fod yr holl lofeydd, trwy gytunaeb a'r goruchwylwyr, wedi eu cau am y dydd er rhoddi mantais i'r dynion fod yn bresenol. Ychydig amser cyn y.cyfarfod, cyfarfu cynrychiol- wyr y glowyr a'r ddau aelod anrhydeddus yn y Gladstone Coffee Tavern, a sicrhawyd y boneddig- ion eu bod yn meddu ymddiriedaeth mwyaf try- lwyr y glowyr ynddynt fel eu cynrychiolwyr yn y Senedd. Etholwyd Mr David Morgan, goruchwyliwr y glowyr, i lywyddu y cyfarfod. Dywedai mai amean mawr y cyfarfod ydoedd ffurfio undeb rbwng y glowyr wedi ei sylfaenu ar wirionedd a chyfiawnder. Dymunent sicrhau heddwch, ond nid oeddynt am ei gael am unrhyw bris yr oeddynt am gael yr heddwch hwnw wedi ei dym- heru A chyfiawnder. Pe byddai i angbydwelediad gyfodi rhwng y meistri a'r gweithwyr, yr oeddynt am ei daflu i gyflafareddiad, yr hon egwyddor ynddi ei hun oedd yn eu. cyfiawnhau dros argym- hell undeb yn eu plith fel glowyr. Ar ol i Eos Ifor, Dowlais, ganu yn effeitbiol Hen Wlad fy Nhadau," cododd y Cadeirydd a darllenodd y penderfyniad cyntaf er cael cymer- adwyaeth y cyfarfod, yr hwn oedd fel y canlyn :— Fod y eyfarfod hwn yn hollol argyhoeddedig ei fod er mantais i fwnwyr Cymoedd Taf i fod yn unol ac piewn cyaylltiad A cliymdeithas ddosbarthol bresenol y mwnwyr. Ond yr ydym yn gwystlo ein hunain i alw cyfarfodydd yn ein gwahanol lofeydd, fel y gallo cyn- rychiolwyr gael eu hethol mor faan ag y byddo modd i fod yn bresenol yn y eyfarfod dosbarth, gyda'r amean i ymuno &'r cyfryw. Cefnogwyd y cynygiad gan Mr Phillip Jones, Abertileri, a Mr Evan David, Aberdar, a chariwyd ef srydag unfrydedd mawr. Yr ail benderfyniad a ddarllenwyd i'r cyfarfod ydoedd:— Fod, yn marn y cyfarfod hwn, naw awr y dydd o waith yn ddigon i weithwyr y Cwm i fod yn y glo- feydd ac os oes unrbyw ran o'n gwlad yn cael ei gorthrymu i weithio rhagor, ein bod yn gwystlo ein hunain i wneyd yr hyn a allom i symud y drwg. Cefnogwyd y cynygiad hwn gan Mr John Jenkins, a phaaiwyd ef yn unfrydol. Gohiriwyd y cyfarfod wedi hyny i'r Drill Hall. Darllenwyd y penderfyniad canlynol gan y Cadeirydd:— Fod y cyfarfod hwn yn cydnabod defnyddioldeb, cymodiad, a chyflafareddiad y sliding scale fel y modd- ion goren a gynyrchwyd eto yn sir Fynwy a Deheudir Cymru i benderfyu angbydwelediadau rhwng meistri a gweithwyr; ein bod yn dymuno ar i'r cysylltiadau da sydd wedi bodoli er y flwyddyn 1875 hyd yn awr, i barhau. Ar yr un pryd, yr ydym yn hollol argyhoedd- edig nad yw y sliding-scale bresenol yn.rhoddi cyf- iawnder i'r dosharth. Gan hyny, yr ydym yn bender- fynol i apelio at gael gwelliant yn y scale ddywededig ar ddiwedd ei thymhor presenol, fel y caffo y dosbarth hwn gyfiawnder. Ar ol i Mr Thomas Evans, goruchwyliwr glofa Trebarris, a Mr Thomas Thomas, goruchwyliwr glofa Tylaucoch, siarad i bwrpas, pasiwyd y pen- derfyniad uchod yn unfrydol. Darllenwyd y penderfyniad canlynol yn nesaf Fod y cyfarfo 1 hwn o'r farn fod yr amser wedi dyfod pan y dylai y Llywodraeth wthio yn mlaen feaur er cydweddu yr etholfraint yn y bwrdeisdrefi fel yn y giroedd, er cyfartalu iawnderan y gened.1, gan fod y eenedl yn gwbl barod i'r cyfnewidiad. Bydd y canlyn- iad yn fnddiol i bawb. Mr C. H. James, A.S., wrth gefnogi y cynygiad hwn, a ddatganodd y pleser mawr a deimlai wrth gyfarfod a chynifer o'i etbolwyr, a dywedodd, er efallai, nad allent gydweled yn hollol a phob peth a ddywedid ar achlysuron o'r fath yma, eto yr oedd yn dda iddynt gael gweled eu gilydd wyneb yn wyneb, a cbyfnewid yn onest eu syniadau. Taflodd yr aelod anrhydeddus gipdrem dros hanes diwygiadau Seneddol o'r flwyddyn 1802 i lawr hyd yn bresenol, a dangosodd fod estyniad yr ethol- fraint wedi achlysuro pasiad llawer o fesurau na cbeid hwynt ar ddeddflyfr y wlad oni bai hyny. Mewn perthynas a'r cwestiwn yma o gydweddu yr etholfraint yn y bwrdeisdrefi fel yn y siroedd, y cri a godid oedd, "A ydyw y dynion yma ar ran pa rai y gwneir y fath gyffro, yn ddigon deallus i dderbyn yr etholfraint ?" Wel, nid oedd y fath addysg yn y byd yn debyg i'r addysg o ymdrin a buddianau mawrion. Pan y gwyddai dyn fod yn dibynu ar ei bleidlais i anfon aelodau i'r Senedd fuddianau mawrion, y mae yn dechreu meddwl, siarad a'i gymydog, ac i ymofyn pwy oedd y dyn- ion a aent yn oreu i mewn dros yr hyn bethau oedd arno eisieu. Yn y ffordd yma y ffurfid y farn gyhoedd, a'r farn gyhoedd am y daioni mwy- af i'r nifer fwyaf oedd yr un a ddylai fod yn syl- faen i wleidiadaeth. Dyna y fath farn gyhoedd a greid trwy yr oil o siroedd Lloegr pe cydweddid yr etholfraint. Ni ddylid meddwl mai gweithwyr amaethyddol yn unig a fuddid trwy helaethu yr etholfraint, oblegid dyna weithwyr y gogledd, ac, yn wir, glowyr y Rhondda, a lleoedd ereill, a fuddid trwy hyny. Yr oedd yn ddyledswydd eglur ar lowyr Merthyr, gan eu bod hwy wedi cael eu breintio a'r bawl o ddewis dau aelod Seneddol, i geisio gwneyd eu goreu i gael yr un peth dros yr oil o Loegr. Yr oedd ganddo ffydd yn y gweith- wyr eto. Credai y byddai iddynt gyfiawnhau yr ymddiriedaeth a roddwyd iddynt trwy roddi iddynt y bleidlais etholiadol. Cafwydycbydig eiriau gan Dr J. W. James, yr hwn a ddywedodd ei fod wedi ei siomi yn Mr Gladstone ond nid oedd y Cadeirydd o'r un farn ag ef am dano, gan y credai fod Mr Gladstone gystal Radical a neb oedd yn y cyfarfod. Pasiwyd y penderfyniad, a chanodd John Rees, Cyfarthfa, Hen Wlad y Menyg Gwynion." Cyflwynodd y Cadeirydd y penderfyniad olaf i'r cyfarfod:— Tra y teimla y cyfarfod yn ddiolchgar i'r hon aelodau Seneddol a swyddogion y Llywodraeth am en caredigrwydd yn ateb amryw ohebiaethau a anfonwyd iddynt gan Mr David Morgan, y cadeirydd, en goruchwyliwr, y mae yn anfoddhaol a safle bresenol pethau a phris uchel y cig. Credwn fod yr achos yn gorwedd yn yr ataliadau presenol ar atgludiad anifeil- iaid a defaid tramor i'r wlad hon, a'r rheolau i rwystro symud anifeiliaid a dcfaid o un sir i'r llall. Credwn yn mbellaeh fod y g-wabanol adroddiadau a gyhoeddir drwy y Wasg am yr afiechyd yn anghywir, ac y cyhoeddir hwy er mw.yn i'r cynyrchwyr gael prisoedd uebel. Erfyniwn felly ar ein huelodau anrhydeddus a holl gyfeillion masnach rydd yn Nhy y Cyffredin i fynu cael ymchwiliad trwyadl i'r mater. Mr Henry Richard, A.S., a wahoddwyd wedi hyny i anerch y gynulleidfa. Dywedai fod dymuniad arno i siarad ar "Gig" a "Heddwch." Yr oedd pob un o'r ddau yn destynau iachus. Mewn perthynas a'r cyntaf, deuai i mewn yn natur- iol mewn perthynas a'r penderfyniad oeddid newydd ddarllen. 0 berthynas i'r eyfyngiad ar allforiad cig, yr oedd yn eithaf teg fod i'r ewestiwn hwn gael ei ddadleu. Er pan oedd ef wedi dechreu cadw ty, yr oedd pris y cig yn Llundain wedi dyblu. Yn awr, un rheswm am fod cig yn ddrutach oedd, am fod llawer mwy o fwyta arno yn awr nag oedd flynyddau yn oJ. Dangosai hyny ffyniant y wlad. Nid oedd arnynt eisieu lleihau nifer y dynion a brynant gig; ond pa fwyaf o bersonau a iient i'r farchnad i brynu cig, uchaf oil yr ai pris y cig. Yr oeddynt yn 11awenhau fod mwy o alwad am gig, er eu bod yn gorfod talu mwy am dano. Ar yr un pryd, credai fod dosbarth o ddynion, yn ddiamheu, yn cymeryd mantais o'r afiechyd ar anifeiliaid i ddwyn i mewn yr hen atbrawiaeth ffol o ddiffyndoll. Dywedai fod yr allforiad o fwyd tramor i'r wlad hon yn ystod y blynyddau diweddaf wedi bod yn anferth. Yn y flwyddyn 1881, yn ol yr adroddiadau di- weddaf, allforiwyd gwerth £105,000,000 o fwyd tramor i'r wlad hon. Beth fuasai sefyllfa y wlad hon gyda'i phoblogaeth gynyddol oni bai fod masnach wedi agor porthladdoedd y wlad hon i ddwyn i mewn fwydydd i'w pbobi ? Dangosai y ffugyrau a ddyfynwyd a'r ffaith a, nodwyd y fath ddyled sydd ar y wlad hon i'w gyfaill ymadawedig Mr Cobden, Mr Bright, Mr Villiers, ac ereill. Yr oedd allforiad anifeiliaid byw yn myned ar gynydd parhaus hyd nes y rhoddwyd rhwystr ar hyny, yr achos o ba un ydoedd fod afiechyd andwyol wedi cymeryd gafael yn anifeiliaid a defaid y wlad hon, ac yn achosi colledion mawrion felly, fod yr awdurdodau yn rhwym o geisio rhwystro i'r cyfryw afiechyd ledaenu, a rhoddwyd hawl i'r Cyfrin-gynghor i ymyraeth ag allforiad anifeiliaid i'r. wlad hon o wledydd tramor, ac i rwystro i anifeiliaid o wledydd tramor lie yr oedd yr afiechyd yn bodoli i gael eu ballforio i'r wlad hon. Cyfyngai y Cyfrin- gynghor hefyd symudiad anifeiliaid yn y wlad o farchnad i farchnad, &c., ac nid oedd amheuaeth nad oedd tuedd yn yr oil i godi pris y cig. Yr oedd am i'r Llywodraeth ddefnyddio pob moddion rhesymol er rhwystro i'r afiechyd ledaenu ond ni ddylid d'od a'r afiechyd fel cri dros ddiffyndoll. Yr oedd yr amser wedi myned heibio am byth i drethu bwyd y bobl er llesau dosbarth ucbaf cymdeithas. Yna aeth y boneddwr anrhydeddus i draetbu ar yr ail fater, sef bwrdd cymodiad. Sylwodd fel y dygwyd y cynllun hwn gyntaf i weithrediad gan Mr David Dale yn Ngogledd Lloegr, trwy gynorthwy Mr Mundella, ac fel yr oedd wedi gweithio mor effeithiol hydyn bresenol. Dywedai Mr Whitwell, yr hwn oedd olynydd Mr Dale fel eadeirydd y Bwrdd Cymodiad, fod 700 o anghydwelediadau wedi eu penderfynu mewn ddeuddeng mlynedd a haner o amser. Oni allent hwy gael rbywbeth cyffelyb mewn perthynas i fasnach yr haiarn yn Neheudir Cymru? Yr cedd wedi clywed ei bod bron a myned yn ymryson yn ddiweddar yn eu mysg, end yr oedd yn teimlo yn ddiolchgar ei bod wedi pasio heibio. Na ato Duw iddynt gael strikes a turn-outs yn y fwrdeis- dref hon eto. Aeth y boneddwr anrhydeddus yn mlaen i sylwi ar ol hyny ar fwrdd cyflafareddol cydgenedlaethol. Dywedai rhai mai dyna oedd ei hobby ef; ond nid oedd arno ef gywilydd i gyf- addef hyny. Yr oedd brwydrau masnachol yn ddigoa drwg, ond yr oedd rhyfeloedd yn ddeng waith gwaeth. Syrthiodd 2,180,000 o fywydau dynol yn aberth i'r cledd o'r flwyddyn 1855 i 1880. Costiodd y eyfryw ryfeloedd £ 2,653,000,000. Nifer y milwyr a gedwir yn Ewrop yn bresenol yw 12,000,000, ac y mae'r gost i'w cadw yn £550,000,000 y flwyddyn. Yn wyneb ypetbau hyn, Ai nid oedd dim meddyginiaeth i'w chacl ? Dywedai fod, a hyny trwy ddefnyddio bwrdd eyflafareddol i setlo anghydwelediadau rhwng gwledydd a'u gilydd. Sylwodd yn mhellach fod gan Dr James ei hobby, sef tretbiant lleol. Nid oedd amheuaetb nad oedd llawer o wir yn yr hyn a ddywedai am yr angenrheidrwydd o ail-drefniad y tretbi lleol, end nid oedd dyn mor alluog i'w gael i drin y pwnc a Mr Gladstone; ond dymunai roddi iddynt yr yehydig ffeithiau canlynol a wnaed gan fasnachwyr gogleddol, sef fod gweith- wyr sefydlog y deyrnas hon yn gweithio 26 mynyd bob dydd i dalu llog y Ddyled wladol; at gynal y fyddin a'r llynges, 28 mynyd y dydd; at y g6st o gasglu y trethoedd, pum' mynyd y dydd; at dal y tlawd, naw mynyd y dydd; at drethoedd lleol, naw mynyd y dydd ac am y gost o lywodracth leol, ddeuddeg mynyd y dydd. Ar ol cysylltu y rhai hyn yn -nghyd, gwelant fod y llafurwyr yu gweitbio un awr a 29 o fynydau bob dydd o'r flwyddyn at gyflenwi y trethoedd cenedlaethol a lleol, a bod yn agos i ddwy ran o dair o'r amser yna yn cael ei roddi at gostau rhyfel. Ar ol ychydig eiriau yn mhellach gatL. Mi- Richard, pasiwyd y penderfyniad, a dygwyd y cyfarfod i derfyniad, ar ol talu y diolchiadau arferol, am bedwar o'r gloch.

LLANELLI. -