Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.

CYFUNDEB SIR DDINBYCH.

News
Cite
Share

CYFUNDEB SIR DDINBYCH. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Salem, ger Rhesycae, ar v Llun a'r Mawrth, Hydref laf a'r 2il, 1883. Y Gyn- adledd am ddau y dydd cyntaf, o dan lywydd- iaeth Mr D. Williams, Treffynon, y cadeirydd am y flwyddyn. Daeth nifer luosog o weinid- ogion a diaconiaid yn nghyd. Dechreuwyd y Gynadledd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch S. Evans, Llandegla. Ar ol cael ychydig sylwadau pwrpasol gan y Cadeirydd, ac i'r Ys- grifenydd ddarllen cofnodion y cyfarfod blaen- orol, a'u cadarnhau, penderfynwyd :— 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Llanelwy, yn Ionawr, 1884. 2. Fod y Parch S. Evans, Llandegla, i ddarllen papyr yn y Gynadledd nesaf ar Ranau arweiniol y gwasanaeth." 3. Fod y Parch D. Roberts, Rhyl, i bregethu ar y pwnc a roddir iddo gan yr eglwys yn Llanelwy. 4. Fod y Parch D. Oliver, Treffynon, i fod yn gadeirydd am y flwyddyn nesaf, a'r Ysgrifenydd i barhau yn ei swydd. 5. Hysbysodd Mr Oliver fod yr Holiadau" ar yr epistol at y Philippiaid, a Holwyddoregau Dr Rees a Dr Everett, wedi eu hargraffu, a'u bod yno yn barod i'w hanfon i'r gwahanol ddosbarthiadau yn y ddwy sir. Pasiwyd penderfyniad o ddiolch- garweh i Mr Oliver a Mr Nicholson am eu gwas- anaeth gwerthfawr a'u llafur yn dwyn allan yr Holiadau," gan hyderu y mabwysiedir hwy yn galonog a chyffredinol gan y gwahanol Ysgolion 9 Sabbothol yn y ddwy sir. Rhoddwyd llongyfarchiad i'r Parch D. B. Evans, Wyddgrug, ar ei ddyfodiad i'r Cyfundeb i gymeryd gofal yr eglwys Seisonig yn y Wydd- grug, ac amlygwyd dymuniadau da am ei lwyddiant yn y dyfodol. Diolchodd Mr Evans i'r Gynadledd am y croesaw a roddwyd iddo, a'r dymuniadau a amlygwyd ar ei ran. Dy- wedodd nad oedd wrth fyned at y Saeaon am ymddyeithrio oddiwrth y Cymry. Yna galwyd ar y Parch S. Thomas, New- market, i agor yr ymddyddan ar y mater oedd i fod ger bron y Gynadledd, sef Y pwys o feddu gwybodaeth er arwain bywyd crefyddol." Dar- llenodd Mr Thomas bapyr byr, ond un awgrym- iadol (suggestive) iawn, yn rhoddi golwg eang a chlir ar y mater, a chafwyd rhyddymddyddan gwresog a buddiol iawn, nes yr oedd pawb yn teimlo mai da oedd bod yno. C Rhoddwyd diolchgarwch cynes i Mr Thomas am ei bapyr da, manwl, a chynwysfawr. Rhoddwyd hefyd ddiolchgarwch unol y Gynadledd i'r Cadeirydd am ei wasanaeth gwerthfawr yn ystod y flwyddyn. Gwnaeth yntau ychydig o sylwadau bywiog yn llawn tan, fel y medr ef wneyd. Cafwyd Cynadledd ragorol. Terfynwyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Y MODDION CYHOEDDUS. Nos Lun, am 7, dechreuodd y Parch O. Thomas, M.A., Treffynon, a phregethodd y Parchn J. M. Rees, Pentrefoelas, a D.Williams, Seion. Dydd Mawrth, am 10, dechreuodd y Parch W. James, Sarn, a phregethodd y Parchn — James, Fflint, a S. Evans, Llandegla. Am 2, dechreuodd Mr T. P. Edwards (Caer. wyson), a phregethodd y Parchn H. Ivor Jones, Llanrwst, a D. Johns, huthyn-yr olaf ar y pwnc, sef Y pwys o feithrin ysbryd Cenadol yn yr eglwysi." Am 6, Jdechreuodd y Parch T. Roberts, Wyddgrug, a phregethodd y Parchn T. Nichol. son, Dinbych, a D. Oliver, Treffynon. Cafwyd un o'r Cyfarfodydd Chwarterol goreu, ac arwyddion amlwg o foddlonrwydd y Nefoedd ar yr holl wasanaeth. Dangosodd pobl yr ardal o bob enwad y par- odrwydd mwyaf i roesawu y dyeithriaid. Bydded iddynt dderbyn ein diolchgarwch cynesaf am y caredigrwydd a gawsom-yn neillduol y teulu caredig a roddodd giniaw i'r holl weinidogion, a'r diaconiaid, a'r dyeithriaid oedd yn bresenol, a chiniaw rhagorol a gafwyd. Diolch yn fawr iddynt, ac i bawb; yr oedd yno ddigon o ddarpariadau i dderbyn cymanfa. Da genym weled golwg mor lan ar y capel, a gwedd mor siriol ar yr achos yn Salem. Gobeithiwn y bydd ymweliad y Cyfarfod Chwar- terol yn galondid i'n hanwyl frawd Mr Uwchlyn Jones, sy'n llafurio mor egniol yn y lie, ac y ceir gweled ffrwyth lawer yn dilyn yr had da a hauwyd yn y eyfarfodydd rhagorol a gafwyd. D. Johns, Ysg.

Advertising

YMWELIAD A LLANWDDYN.