Hide Articles List

4 articles on this Page

CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG.

CYFUNDEB SIR DDINBYCH.

Advertising

YMWELIAD A LLANWDDYN.

News
Cite
Share

Dan gysgod yr hen ywen gwmpasog ar ganol y fynwent-y fath na welais eriocd ei chyffclyb o ran maintioli-y rhoddwyd i orwedd un Lewis Evans, Llechwedd-ddu, ar yr 22ain o Fawrth, 1784, yn 113 mlwydd oed! Pa ryfedd fod pobl Lerpwl yn dymuno cael y dwfr a roddodd y fath egni yn esgeiriau yr hen frawd yna, ond, druan ohono, y maent wrth wneyd hyny yn bradychu ewyllys Lewis Evans yn ol yr ysgrifen sydd ar gareg ei fedd. Make haste to Christ, make no delay, There is no one knows his dying day; Go hence, my friend, and shed no tears, We must lie here till Christ appears. And when he comes I hope to have A joyful rising from this grave. Y mae adgyfodiad Lewis Evans yn nes nag y meddyliodd, oherwydd y mae cynwysiad y fynwent, wrth gwrs, i gael ei godi a'i dros- glwyddo i'r fynwent newydd sydd eisioes wedi ei chysegru ger Haw gwely (bwriadedig) y llyn, ac y mae Lie here till Christ appears allan o'r cwestiwn yn lan. 'Dydyw dyn ddim yn sMI' hyd yn nod yn y bedd yn yr oes ryfedd yr ydym ni yn bvw ynddi. Yr oedd gwraig Lewis Evans, hithau hefyd, wedi byw i oedran anghyffredin, ond nid anghyffredin chwaith i drigolion y plwyf hwn. Yr oedd hi wedi ei chladdu ar y 30ain o Ebrill, 1766, yn 96 mlwydd oed. Dengys y beddfeini fod trigolion Llan- wddyn fel rheol yn byw yn hen, a rhai ohonynt yn hen iawn; ac y mae un nodwedd arall yn eu hynodi, sef yr hoffder mawr sydd ganddynt o roddi englynion ar y ceryg beddan. Ceir englyn neu ddau bron ar bob un ohonynt, a'r rhan fwyaf ohonynt yn onglynion da a phriodol. Yr oeddwn wedi bwriadu dodi rhai ohonynt yn y llythyr hwn, ond gwelaf fy mod eisoes wedi trespasu ar eich gofod, ond nis gallaf ymatal rhag cofnodi cynwysiad un gareg, a dyma hi yn ateb drosti ei hun: —" Er cof am y Parch Morris Hughes, yr hwn a fu yn weinidog ar eglwys yr Annibynwyr yn Sardis am lawer o flynyddau, ac a fu farw Medi laf, 1846, yn 66 mlwydd oed." Bydd corffyr hen batriarch yma yn yr adgyfodiad mawr yn cyfodi o'r fynwent newydd yn ngolwg ei anwyl Sardis," oher- y wydd y mae ar fryn siriol yn gwynebu y capel! Mae'n taraw i'm meddwl wrth dynu pen arni, mai nid bob amser y mae personiaid yn dweyd y gwir, oherwydd wrth gladdu pob un o'r meirw sydd yma yn gorwedd, fe ddywedwyd eu bod yn cael eu dodi yn y bedd hyd y buasai yr udgorn diweddaf yn eu galw oddiyno, ac o'r braidd nad ydyw yn annynol i'r eithaf na chawsai y marw lonydd yn eu beddau. 'RHEN 0'.