Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YMYLON Y FFORDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFORDD. Nos Sadwm, Hydref 6ed. DAETH j'm Haw er's tro yn ol HOLWYDDOREG AR HANES NOAH, gan y Parch D. Evans, Caerfyrddin. Rhoddais hi o'r neilldu y pryd hwnw, a bum lawer gwaith ar ol hyny Y11 meddwl am dani, ond nis gallaswn roddi fy Haw ami; ond yr wythnos hon, trodd i fyny heb ei dysgwyl. Un o gyfres ydyw a fwriada yr awdwr ei dwyn allan at wasanaeth yr Ysgol Sul. Mae yn syml, ac eto yn cynwys zn pobpeth a ellir ddysgu i blant am Noah, a'r arch, a'r diluw, a'r byd newydd. Yr wyf yn credu yn gryf yn y drefn holwyddoregol o gyfranu addysg, ac yr wyf yn credu fod dirywiad mewn gwybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol er y rhoddwyd hi heibio. Yn y teulu ac yn yr Ysgol Sabbothol byddai dysgu yr Holwyddoreg yma i'r plant o les mawr. Anfonwyd i mi gan ryw gyfaill-ac yr wyf yn meddwl y gwn pwy-gopi o'r Anerchiad a roddwyd gan yr eglwys yn Cana, Mon, i'r PARCH D. S. JONES ar ei ymadawiad oddiwrthynt i gymeryd gofal eglwysi Chwilog ac Abererch. Mae yr Anercbiad yn anrhydedd i'r eglwys a'r gweinidog. Anadla yr ysbryd goreu drwyddo. Er fod yn hawdd deall eu bod yn teimlo yn ddwfn o'i golli, eto nid oes dim arwydd chwerwedd mewn un modd. Mae pawb sydd yn adnabod Mr Jones yn gwybod fod yr hyn a ddywedir am dano yn ei fedr a'i wres mewn cyfeillachau crefyddol, a'i ysgrythyroldeb fel pregethwr, a'i werth mawr fel gweinidog ieuanc yn y sir, yn wirionedd. Bydd colled fawr yn ddiau ar ei ol, ond y mae eglwys Cana wedi dangos yr ysbryd sydd debycaf o sicrhau iddi olynydd eymhwys iddo. "Tywysog a gu-r mawr" yn Eglwys Rydd Ysgotland sydd newydd syrthio oedd 0 DR BEGG, ac efe oedd yr olaf a fu byw o'r rhai a gymerodd ran amlwg yn y rhwyg yn 1843. Gwfr rhagorol oedd y rhai hyny—Chalmers, Welch, Candlisb, Guthrie-ac nid y lleiaf ohonynt oedd Dr Begg. Tywysogion oeddynt yn mysg dynion, neu, yn hytrach, dynion yn mysg tywysogion, oblegid yn ddiau y mae y dyn yn fwy na'r tywysog. Ceidwadol oedd Dr Begg, ac araf iawn y symudai yn mlaen ac nid yn unig hwyr- frydig oedd i symud ei hunan, ond ar ei waethaf ef yr iii ereill yn mlaen. Ni ddygodd neb o'r rhai a aeth allan fwy o ysbryd y sefydliad gydag ef. Efe oedd arweinydd y blaid geidwadol. Gwrth- wynebai y symudiad am undeb y pleidiau Presbyteraidd, brawycbai rhag y meddwl am Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Ysgotland, a chymerwyd ef ymaith ar yr ad3g y mae brwydr fawr offerynau cerdd yn ngwasanaeth y cysegr ar gael ei hymladd. Buasai ef yn wrthwynebwr penderfynol i'r newydd-beth hwnw. Ond yr oedd yn ddyn galluog, yn Gristion cywir, yn allu pwysig yn yr Eglwys Rydd, a chwith fydd gweled yn wag y lie y bu mor amlwg ynddo am 40 nilynedd. Tra yr ydwyf yn siarad am Ysgotland, y mae MR HENRY IRVING wedi bod yn Glasgow ac yn Edinburgh yn dadleu hawliau y chwareule, a'i dylanwad fel un o gyfryngau dyrchafiad meddyliol a moesol; ac y mae y ifafr a roddir iddo gan rai clerigwyr yn dangos yn eglur ei fod yn tynu dysgyblion ar ei ol, ac y mae un Dr Kay wedi cymeryd ei blaid mewn modd amlwg iawn. Ryw seren grwydrol ydyw hwnw wedi bod, oddiwrth y naill enwad i'r llall, ac y mae yn awr gyda chynulleidfa a'r unig amod i aelodaeth ynddi ydyw fod un yn llwyrymataliwr; ond y mae Dr Kay, trwy ei amddiffyniad o'r chwareudy, wedi tynu ei bobl ei hun yn ei ben. Rhoddir canmoliaeth uchel i Henry Irving, a niawr- ygir y dylanwad dyrchafol sydd yn ei gyflawniadau ond y mae y chwareudy i'w farnu, nid wrth un Henry Irving, ond wrth y dylanwad cyffredinol y mae yn ei adael ar y lluaws sydd yn ei fynychu, a'r cymeriadau y y deuir i gyfarfyddiad a bwynt ynddo ac nid rhyw brawf cryf o foesoldeb uchel Henry Irving a'i gwmni oedd myned o Ysgotland i Lundain mewn special train ar y Sabboth. Ryw noson yr wythnos bon, yr oedd aelodau yr Art Club yn Liverpool hefyd yn gwneyd gwledd i Henry Irving, ac un o'r llwnc-destynau ar ol y wledd oedd, The Church and the Stage Yr Eglwys a'r Chwareule." Cynygid ef gan Mr P. H. Rathbone, un o ddisgynyddion y Puritan efengylaidd Phillip Henry, ac un sydd yn dwyn yr enw cysegredig Phillip Henry. Dywedai na wyddai fod Yr Eglwys a'r Chwareule erioed o'r blaen wedi eu cyplysu mewn llwnc-destyn, ond y dylasent fod, ac y dylai yr Eglwys gymeryd y chwareudy o dan ei haden fel un o gyfryngau addysg, a diwylliad, a dyrchafiad meddyliol a moesol cenedl. Atebid y llwnc-destyn gan y Parch Charles Beard, gweinidog i'r Undodiaid, a hawdd oedd deall mai yn yr un goleu yr edrychai yntau ar y chwareudy. Mai ei phuro oedd eisieu, ac ymlid ohoni gymeriadau isel a chwareuon Ilygredig ac mai y ffordd i wneyd hyny ydyw i ddynion da ei chymeryd mewn Haw, ac i'r Eglwys Gristionogol ei noddi. Y fath ynfydrwydd Mae v chwareudy yn llawer sicrach o lygru yr Eglwys nag yw yr Eglwys o buro v chwareudy. Nid yw hyn yn ddim ond prawf ychwanegol o'r llacrwydd sydd yn ysbryd yr oes. A chan gofio, wrth fy mod yn son am y llacrwydd sydd yn ysbryd yr oes, cynaliwyd cyfarfod yn Liverpool nos Fawrth diweddaf yn ffafr AGOR LLEOEDD CYHOEDDUS AR Y SABBOTH. Llywyddid gan Mr Hampden Jackson, Bedyddiwr selog, a mab i Fedyddiwr, ac un, fel y gwelir, wedi ei enwi yn ol enw un o'r Puritaniaid. Mae yn ddirwestwr selog, ac yn Rhyddfrydwr trwyadl; ond y mae yn I credu ei fod yn rbyw gam dirfawr a rhyddid y dosbarth gweithiol fod y parciau cyhoedd- us, a'r llyfrgell gyhoeddus, a'r art gallery yn cael eu cau oddiwrthynt ar y Sabboth, pan y mae y tafarnau yn agored. Gwrth- ododd yr Esgob Ryle gymeryd unrhyw ran yn y cyfarfod, a dywedai tra yr oedd ei gydymdeimlad llwyraf a'r gweithwyr, nad oedd yn credu y byddai i'w mantais hwv mewn un modd i lacio eu syniad am hawliau y Sabboth. Gwrthododd amryw ereill gymeryd unrhyw ran yn y cyfarfod, ac yr oedd y bobl sydd bob amser yn fwyaf blaenllaw gyda phobpeth a fyddo yn ffafriol i'r bobl yn amlwg trwy eu habsenoldeb. Camgymeriad hollol ydyw tybied y gellid cael y rhai sydd yn myned i'r tafarnau i'w gadael pe yr agorid y lleoedd cyhoeddus hyn. Nid ar y tafarnau yr effeithiai eu hagoriad fwyaf, ond ar y capeli a'r Ysgolion Sabbothol. Ychydig iawn yw nifer y dynion sydd yn dadleu dros agor y lleoedd hyn, ac er eu bod yn siarad yn enw y gweithwyr, nid ydynt mewn un modd yn eu cynrycbioli. Nid ydynt yn cynrychioli y dosbarth goreu ohonynt, oblegid, y mae y cyfryw i'w cael mewn rhyw le o addoliad ac nid ydynt yn cynrychioli y dosbarth iselaf o'r gweithwyr, oblegid yn y dafarn a chyda'u hysbleddach annuwiol y mae y rbai hyny, ac nid ydynt yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Ryw ddosbarth haner an- ifyddol, gan mwyaf, sydd yn dadleu dros y pethau hyn, a rhai dynion da, heb feddu ryw syniadau Puritanaidd iawn ar y Sabboth, na syniadau cywir iawn am ryddid, yn ochri gyda hwy. Diwrnod tywyll, du, ar Brydain fydd y dydd pan y collir y syniad am y Sabboth fel dydd i addoli, ac yr edrychir arno yn unig fel dydd i fwynhau. Unwaith yr agorir lleoedd cyhoeddus er adloniant, ni bydd yn hir iawn cyn yr agorir lleoedd i chwareu ac i ddifyru, a daw diluw o annuwiaeth Ffrainc a'r Cyfandir dros Brydain, gwlad y Sabboth a'r Beibl. LLADMERYDD.

YMWELIAD A LLANWDDYN.