Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

Genedigaethau, Priodasau, &e. DATilER SriAV.—Ein tclcrau am pcyhoeddi Barddoniaeth yn py.?yllticdi<* a hanes Genedigaeth, JModas, ncu Farwolaeth yw tiiir ceinios y lliuell. GENEDIGAETHAU. MORGAN.—Medi 16eg, priod Mr John Morgan, excise officer, Aberteifi, ar fab. MORRIS. — Medi 25ain, yn 18. Northgate-terrace, Aberteifi, priod y Parch T. J. Morris, Capel Mair, ar fdb.-D. L. D. PRIODASAU. DANIEL — THOMAS. — Medi 21ain, yn Capel A Is, Llanelli, gan y Parch T. Johns, Mr Thomas Daniel, Penygaer, a Miss Margaret Thomas, Mount Pleasant, Llanelli. OWEN—THOMAS.— Medi Sfed, trwy drwydded, gan y Parch T. Davies, ficer Llangan, yn eglwys Ilenllan Amgoed, Mr J. Morgan Owen, meddyg. Abergwaun, a Miss Margaret Louisa (Lizzie), ail ferch Mr George Thomas, Parke, Henllan Amgoed- Eiddunwn i'r pftr ieuanc gysur, dedwyddweh, a. bendithion fyrdd.- W. S. LEwis-BRAZRL Medi 25ain, yn y Tabernacl, Peny- bont, gan y Parch J. Jones, Maeste<r, Yli cael ei gynorthwyo gan y Parchn T. D. Jones, Plasmarl, ac R. E. Peregrine, B.D.,Rhymni, Mr D. R. Lewis, gro- cer, Plasmarl, a Miss Ann Brazel, Maesteg. PARRY — DAVIES. — Medi 27ain, yn nghapel Heoly- capel, Treffynon, gan ,y Parch David Oliver, y gweinidog, Mr Edward Parry (Ambrose), Connah's Quay, a Miss Louisa Davies, Watford-street, Tre- ffynon. JONES—THOMAS.—Medi y 27ain, yn nghapel y Rock, Cwmafon, gan y Parch D. Evans, Briton Ferry, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn Foulkes, Taber- nacl, a Evans, Worn, Aberafon Thomas, Taibach Evans, Sardis a Thomas, Rock, tad y biiodasfcrch, Captain Leyshon Jones, Manager of the Copper Works, Walleroo, South Australia, a Miss Jennet Thomas, merch y Parch W. Thomas, Rock. Yr oedd y briodas yn mhob ystyr yn wir anrhydeddus. Llwyddiant a dedwyddwch hyd derfyny daitb.—I. A. MARWOLAETHAU. JONES.-Awst 29a.in, wedi pedair wythnos o gystudd blin, yn 80 mlwydd oed, Mr Griffith Jones, Glanmor- lais Cottage, Dowlais, gynt o Bankyberllan, ger Llandilo. Dydd Sadwrn canlynol ymgynullodd ei gyfeillion yn Iluosog o bob cyfeiriad, er hebrwng ei weddillion marwol trwy'r ystorm a'r gwlaw, i fyn- went Pantcadivor, Dowiais. Gweinyddwyd ar yr achlysur wrth y ty. gan y Parchn R. Jones a G. Roberts, Dowlais. Bu yr ymadawediic farw yn mhen tri mis i'r diwrnod ar ol ei briod, pa un ddy- gwyd i'w ihladdu yn ol ei dymuniad i fynwent Llandilo.—I. A. BAILEY.-Medi 23ain, yn .38 mlwydd oed, priod Mr Honry Bailey, commission agent, Wellington-street, Merthyr. PARRy.-Medi Sod, Dora, priod y Parch William Parry, Colwyn, Arfon. JOHN.—Medi 4ydd, yn 39 mJwydd oed, Mrs Hannah John, anwyl briod Mr Thomas John, Tyrhos, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd caled. Yr oedd ychydig ddiwrnodan yn flaenorol wedi rhoddi gened- igaeth i blentyn, ac yn gwella yn rhagorol, ond cymerwyd hi yn glaf gan inflammation of the brain, ac ar y dydd uchod bu farw, er galar i'w phriod, ei thri brawd a'u lluaws perthynasan, yn nghydag eglwys y Tyrhof. Y dydd Sadwrn canlynol cladd- wyd yr hyn oedd farwol o'n hoff chwaer yn nghladdfa y teulu yn mynwent Glandwr. Cyn cychwyn o Ty- rhos, arweiniwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch J. M. Davies, Tyrhos. yr hwn a weinyddodd yr ordinhad o fedydd ar y baban. Enwyd y bychan ar ol ei daid yn William Owen (yr oedd ei dadcu, Mr W. Owen, yn un o'r Owenses y Glogue, ac yn byw yn Llwynoerw, ger Henllan Amgoed. Wedi cyr- haedd Glandwrr dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. E. Williams, Henllan, a phregethwyd gan y Parch S. Evans, Hebron, oddiar Gen. xxxv. 16-20, yn hynod bwr- pasol. Yr oedd yr adnodau fel pe wedi en llefaru am yr amsylchiad o farwolaeth Mrs John, a sylwadau Mr Evans yn hynod gymhwysiadol, fel y mae bob amser. Ar lan y bedd cawsom anerchiad teimladwy iawn gan y Parch 0. R. Owen, Glandwr, a therfyn- odd y gwasanaeth trwy weddi. Yna rhaid oedd ffarwelio am enyd a'n banwyl chwaer, ond mewn gwir a dyogel obaith am gael ei chyfarfod ar ol hyn yn y nef. Cawsom lawer o bleser pan yn blant gyda'n gilydd tuaar ardal anwyl Henllan, a chanasom lawer ar hen aelwyd groesawgar Llwynderw, ac yr ydym yn gobeithio eto gael cydgwrdd fry a chanu'n well, yn gywirach, a phereiddiach, nag y gallasem ar y llawr. Mae y teuln wedi ei wasgaru bedach. Mae Mr James Owen yn Llanlliwe, Mr John Owen yn Llwynderw, a Mr Phillip Nicholas Owen yn Whit- land, oil yn gwneyd yn dda, yn ddynion crefyddol a defnyddiol yn eu cylchoedd. Gyfeillion hoff, sych- wch ymaith eich dagrau, a gobeithio y caiff Mr John a'r ddau fychan sydd wedi colli en mam eu cadw o dan gysgod aden rasol yr Hollalluog, ac y cant 011 trwy nerth gras fyw yn y fath fodd fel y byddont oil yn cael y fraint o gydgwrdd yn ngwlad yr hedd ar derfyn bywyd yn y byd hwn.-Hen Gyfaill. REES.—Mrs Rees, Brynbir, Penclawdd. Yr oedd hi yn un o blant y caredig a'r diweddar Mr David John, Pengaerweni, ac yn berthynas agos i'r cenadwr byd-enwo2 y Parch Griffith John. Hi yw yr ail o'r teulu hwn sydd wedi huno yn yr angeu o fewn y flwyddyn hon. Cafodd gystudd blin, ond dyoddef- odd y cwbl yn amyneddgar, a cbredwn fod ei ff'ydd wedi gwneyd glyn cysgod angeu" yn olen iddi. Claddwyd hi yn mynwent henafol y Crwys pryd y gweinyddwyd gan ei hybarch weinidog y Parch J. LI. Jones. Gadawodd deulu lluosog i alaru eu colled j boed Tad yr amddifaid yn nodded iddynt.-R. JONES.—Yn foreu iawn dydd Llun, y 24ain cynfisol, Mr Benjamin Jones, Tynewydd, plwyf Llangoed- more, sir Aberteifi, yn 64 mlwydd oed. Yn ei farw. olaeth cawsom bregeth ddifrifol arall ar ansicrwydd bywyd, ac agosrwydd y byd srall. Y Sabbath blaenorol yr oedd yr ymadawedig yn mwynbau ei arfcrol iechyd, ac yn bresenol yn yr oedfaon yn hen addolciy Llechryd, lie yr oedd yn ddiacon cr's blyn- yddau. Llelarodd yn y gyfeillach, a dywedir ei fod o ran ei brofiad y noswaith hono ar dir uchel a dymunol. Gwoinyddai y Parch E. 11. Davies, Llanon, yn Llechryd y Sabbotli, a lletyai yn Ty- newydd, ac yr cerIa ef a Mr Janes yn ymddyddan arn bethau crefyddol byd un-ar-ddeg o'r gloch. Cyn deuddeg tarawyd ein hauwyl frawd gan ergyd o'r apoplexy, un o weision sicraf angeu, a bu farw mewn ychydig oriau. Boreu dydd Mercher dilynol, ym- gynullodd tyrfa luosog i hebrwng ei ddaearol dy i'r beddrod. Yr oe !d ei angladd yu ddangoseg o'r parch a deirnlid tuag ato—yr oedd yno 50 o gerbydan. Gweinyddwyd yn y tý gan y Parch W. P. Huws, B.D., Brymair, yr hwn a ddarllenodd ac a anerchodd orsedd gras, a chafwyd anerchiadau tarawiadol i'r amgylchiad sydyn a phruddaidd gan y Parcbedigion T. J. Morris, Aberteifi; L. Beynon, J. M. Davies, Tyrhos; Owen Thomas, gynt o Brynmair; a J. Richards (B ), Penparc. Claddwyd ef yn mynwent fechan Blaenporth, lie y gwasanaeth wyd gan y Parch D. W. Herbert, curad parchus y He. Heblaw a enwasom yr oedd hefyd yn wyddfodol y Parchedig- ion Daniel Jones (E.), Meline; John Davies (M.C-), Blaenanerch, a T. Jones (M.C.), Tanygroes. Gadaw- odd weddw a phlant i alaru ar ei ol, ac hyderwn y cyfeiriant eu golwg yn eu dagrau at y Duw y bu yr ymadawedig yn ei wasanaethu, ac y cant ef yn noddfa a chymhorth yn eu trallod.-Un a'i adwaenai. MORGANS. — Medi 20fed, yn 53 mlwydd oed, Mr William Morgans, Crugcwn, gynt o Cefncethin, Llandilo. Dydd Linn canlynol, clndwyd ci ran ddaearol mewn elorgerbyd i gladdfa'r Tabernacl. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn D. M. Evans, Salem W. R., Davies, Bethlehem a W. Davies, Tabernacl. Yr oedd yr angladd lluosog a gafodd yn brawf fod gan y wlad syniad uchol ohono fel dyn tawel, diwyd, a dirodres, ac yr oodd iddo air da gan bawb fel cymydog. Cauwyd y masnachdai yn y rhan ddeheuol o'r dref tra bu'r angladd yn pasio. Gadawodd weddw a phedwar o rai bychain mewn galllr.-I. A. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. OWEN PICTON DAVIES, DRAPER, ABERTEIFI. Cyn bydd y llinellau hyn o flaen y darllenydd, bydd y rhan farwol o Mr 0. P. Davies, yn nh £ ei hir gar- tref, ond hyderwn fod ei ran fywydol yn ngwlad y bywyd tragywyddol. Bendithiwyd ef a. chyfaosoddtad cryf, ond er's tna blwyddyn bellach bu yn gwaelu yn nghrafangau hen ddolur enbydns (cancer of the bowels) o'r hwn y bu farw dydd Ia.u diweddaf yr 2Ufed cynfisol yn 59 mlwydd-oed. Daeth i'r dref yn gyntaf fel eawyddorwas at Mr T. Griffiths, draper (diacon hynaf, ffyddlon, galluog, ac anwyl Capel Mair) a bu yn ddi- weddar yn fanager yn masnachdy Mrs Phillips, ac ycbydig gydag ugain mlynedd yn ol ymsefydlodd ar ei gyfrifoldeb ei hun, a bu yn llwyddianus iawn fel mas- nachwr cyfrifol a pharchns hyd ei farwolaeth. Der- byniwyd ef yn aelod yn fuan wedi dyfod i'r dref yn eglwys Capel Mair, gan yr hen weinidog hybarch Daniel Davies, ac yn nyddiau ei ieuenctyd dechreuodd bregethu, ond gadawodd hyn, gan feddwl nad ydoedd wedi ei alw, er y credwn fod llawer yn meddn llai cym- hwysderan wedi rhuthro i'r areithfa. Ysgrifenodd hefyd yr amaer hyn lawer i ayhoeddiadau yr Enwad pethau o duedd gwir dda i'r Tywysydd Bach, a daeth allan yn y Diwygiwr i ymddadleu o blaid rhoddi addysg glasurol i fyfyriwr ein colegau. Yr oedd yn Aonibyn- wr trwyadl, credai yn newyddiadnron a chyhoeddiadau yr Enwad, a chymerai ddyddordeb mawr yn ei holl achosion. Yr oedd yn ddiacon yn Capel Mair er's blynyddm lawer, a gwelwn lawer o'i eisieu. Yr oedd yn enwog fel trefnwr, ac yr oedd y ffaith ei fod wedi ymgymeryd ag unrhyw orchwyi yn sicrwydd y bydda i iddo gael ei orphen. Er yn benderfynol yr oedd yn ddoeth yn ei holl ymdrafodion i gario ei farn i fudd- ugoliaeth. Yr oedd yn ffyddlon iawn gyda'r Ysgol Sabbothol, ac yr oedd golwg fawr ganddo ar ei ddos- barth, a phan yn arolygwr, yr oedd yr ysgol bob amser yn llewyrchus. Rhoddai gwestiynau i'r gffahanol ddosbartbiadau er creu ymchwiliad yn ystod yr wyth- nos. Fel dyn yr oedd yn wyneb-agored a diweniaith, er hyny, yn ddigon llygadgrafF i weled, ac o galon ddi- gon mawr i ganmol gwir gymhwysderau, ac yn hael- frydig iawn ei ysbryd. Cofiwn am dano fwy nag nn- waith yn anog ereill, ac yn cynorthwyo yn ddystaw fyfyriwr tlawd, ac ereill y credai oedd mewn angen arianol; rhai digon tebyg na byddai neb wedi en gwcled oni bai ei fod ef wedi tynu en sylw atynt. Yr oedd gofal trysorfa y tylodion YI1 Capel Mair er's blynyddau lawer wedi bod yn benaf arno ef, ac an- hawdd iawn fydd cael un mor gymhwys i'r swydd. Fel trefwr, yr oedd yn Rhyddfrydwr eyson a chy- merodd rhan flaenllaw yn elholiadau y blynyddoedd diweddaf. Yr oodd ei feddwl clir, a'i farn addfed yn rboddi lie uchel iddo mewn pwyllgorau politicaidd. Nid oedd yn ddyn ellid ei brynn gan wenau nac arian, edrychid i fyny arno fel dyn egwyddorol fel Ym- neillduwr cydwybodol, ac fel dyn y gallai ei blaid ei ymddiried yn mhobman. Ni siaradai yn gyhoeddus heb feddwl a phwyso y mater, a llawer pryd heb ym- gynghori llawer yn ei gylch a phersonau ereill. Yr oedd yn ofalus iawn rhag gwyro yn yr ystyr hyn ar y dehau nac ar yr aswy. Nid oedd un awydd ynddo am hynodrwydd (notoriety), ac o eanlyniad, ni arweinid ef i wneuthur camwri. Mewn gwirionedd, nid oedd yn awyddus am anrhydedd cyhoeddus. Drwy gymhell mawr lawer gwaith y daeth allan i lonwi swyddan trefol, ond wedi d'od nid oedd neb a ymdrechai en llenwi yn well drwy fod yn ffyddlon a phrydlon yn yr holl gyfarfodydd. Un o ddynion i'r fynyd oedd, ac nid oedd dim a'i blinai yn waeth na gwe'ed rhai yn fasw gyda gwaith yr oedd y cyboedd wedi ymddiried iddynt. Bu yn nelod gwerthfawr am flynyddau o'r Cynghor Tretol, ac hyd Tachwedd diweddaf yn aelod o'r Bwrdd Ysgol ac yr ydoedd yn aelod o'rBwrdd C'atdu byd ei farwolaeth. Wrth ddyweyd fel hyn am dano, gwyddom nad ydoedd mwy na meidrolion ereill heb ei ftaeleddau, ac ni chymerem y byd am awgrymn na allai fod yn well mewn rhai cylchoedd, ond heb ei fai heb ei eni," ac y mae beiau dynion i'm tyb i, yn dangos y rhagoriaethan yn well. Beth bynag am hyny, nid ydym i aros gyda hwynt, ac yr ydym yn sicr o hyn fod yn nghymeriad yr ymadawedig i'n golwg ni, ddigon o ragoriaethau i or- bwyso yr holl ftaeleddau. Bu yn y peiriau am amser maith, a dyoddefodd yr holl yn amyneddgar, a bu farw gan bwyso yn hollol ar Geidwad pechadur. Rhai o'i eiriau olaf wrth ei briod anwyl oedd, Nid oes genyf neb yn awr, ond chwychwi a'r Iesu." Claddwyd ei weddillion marwol dydd Mawrth wythnos i'r diweddaf yn y cemetery, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch T. J. Morris ac ereill. Gweinyddai diaconiaid Capel Mair fel bearers. Heddwch i'w lwcli, a Duw fyddo yn llon'd ei addewidion i'w briod a'r amddifaid sydd ar ei ol.

Cyfarfodydd3 &e. Cy