Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

TITUS LLWYD A'R UNDEB CYNULLEIDFAOL…

News
Cite
Share

TITUS LLWYD A'R UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMREIG. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Yn y TYST A'R DYDD am Medi 21ain, mae un Titus Llwyd, yn ei Ad-drem ar Gyf- arfodydd yr Undeb," yn gwneyd eyfeiriad anghywir a chamarweiniol at syniad y bftm i yn ddigon rhyfygus i'w grybwyll mewn un o'r cyfarfodydd yn Ffegtiniog. Yr oeddwn wedi arfer credn yn fy ngwiriondeb y gallasaiun anturio dyweyd ei feddwl mewn cynulliad a broffesai fod yn deg ac anmhleidiol, ond gwneyd hyny mewn ysbryd priodol a charedig, heb ofni cael ei gyhuddo o goleddu syniadau hollol wrthwynabol i'r rhai y dadleuai drostynt; ond mae yr ysgrif grybwyll- edig, yn nghyda'r nodiad Golygyddol sydd yn gynffon iddi, yn brawf eglur fy mod wedi cyfeiliorni yn ddirfawr. Ymddengys nad oeld dim yn y cyfarfodydd yn gwbl wrth fodd Titus Llwyd, er y tybiai y rhan luosocaf, os naIl pawb oedd bresenol ynddynt, eu bod oil wedi troi allan yn llwyddiant gwirioneddol, ac y gallesid yn rhesymol ddysgwyl effeithiau daionus i'w dilyn ond yr oedd yno un Titus Llwyd na fedrai ganfod nemawr ddim ond brychau a diffygion. Pe buasai yn aros ar hyny, a pheidio priodoli i bersonan syniadan croes i'r thai a draethasant, ni buaswn i yn ceisio aflonyddu dim ar ei heddwch, nac yn gwrth-ddywedyd y pethau a ysgrifenir ganddo. Yn mam Titus Llwyd, mae un o'r brodyr gymerodd ran yn y cyfarfodydd yn rhy wasgarog, y Hall yn rhy faith, difiyg ysbryd yn flinder iddo mewn un arall; y nesaf a'i wybodaeth yn rhy gyfangedig am y penderfyniad a gynygiai, fel y dylid, yn ol barn Titus, beidio gwneyd sylwadau ar y fath benderfyniad byth mwyach >n yr Undeb Cymreig. Dyna un drws wedi ei gloi, ac ni chaiff neb eto olwg ar yr ystafell tudraw iddo. Na, er mwyn bod yn gywir, I dylwn grybwyll fod ganddo un eithriad-os bydd yn y penderfyniad enw "tywysog," rhoddir caniatad i wneyd sylwadau arno. Beth, tybed, ydyw enw y llys sydd yn meddu digon o awdnrdod i gael yr Enwad yn foddlon i dderbyn ei restr o enwau ei dywysogion ? Wedi gwneyd y cyfeiriadau dialw-am-danynt blaenorol, mae Titus Llwyd yn ymgadarnhau mewn nerth, ac yn cyhuddo uu brawd o "eithafhn haerllng- rwydd," a ystyrir gan lawer sydd yn ei adwaen yn dda yn ddyn galluog, cydwybodol, a nodedig am ei wyleidd-dra; a dangosodd hefyd yn y cyfarfod dan sylw ei fod yn llawn natur dda, ac yn medru parchu syniadan ei frodyr, er eu bod yn wahanol i'w farn bersonol ef ei hun. Eto am hyn y dywed Titus Llwyd "eithafion haerllugrwydd." Onid ydyw traethu syniadau o'r fath yn adlewyrchn yn fwy anffafriol ar Titus Llwyd ei hun nag ar y brodyr y mae ei ysgrif ef a'i thuedd i'w darostwng ? Yn y cyfeiriad mae yn wneyd ataf fi, mewn perth. vnas i'r rhan a gymerais yn yr ymddyddan ar gwestiwn Y Beibl ac addysg orfodol yn ngoleuni Ymneilldu- aeth," dywed, A bron cyfartal mewn haerllugrwydd oedd dadieu fod plant Eglwyswyr yn fwy hyddysg yn y Beibl na phlant Ymneillduwyr, am eu bod yn medru adrodd Gweddi yr Arglwydd yn well." Ni roddwyd mynegiad i'r fath syniad o gwbl; ac mae y cyhuddiad yn hollol ddisail ac anwireddus. Os oedd Titus Llwyd yn bresenol yn y cyfarfod, rhaid ei fod yn ymyryd gormod a. materion ereill i ddeall beth oedd yn cael ei lefaru. Gwell genyf gredu hyny am dano, pwy bynag ydyw, na meddwl ei fod yn fwriadol yn priodoli i mi syniadau anwireddus na bûm erioed yneu coleddu na'u traethu. Yr hyn a ddywedais oedd, y gwyddwn am lawer o blant Ymneillduwyr-wnh y rhni y golygwn blant o bedair i saith oed a fynychent Yssrolion Sabbothol mewn capeli Ymneillduol—addysg grefyddol y rhai a esgeulusid mor fawr, fel ma'i 1 National Schools yr oeddynt ddytedus am eu gwybodaeth o Weddi yr Argfwydd. Credaf fod yn y cyfarfod nifer fawr fedr roi tystiolaeth, pe yn angenrheidiol, mai dyna y syniad a fynegais. Gwêl Titus Llwyd iddo yn ei berthynas a mi fod yn euog o wyrdroi y gwirionerld. Nis gwn pa un a ydyw hyny o rhyw bwys yn ei olwg, ac a fydd iddo, fel Homersham Cox, roddi rhyw gymaint o eglurhad arno ei hun; yr wyf fi yn ei yatyried yn ddigon pwysi^ i anfon gwrthdystiad cyflawn a hollol yn erbyn ei gyhuddiadau. Os na bydd Gol. y TYST yn cyhoeddi yn niwedd byn o ysgrif y bydd yn dda ganddo glywed oddiwrthyf eto pan yn gyfleus," dysgwyliaf y caniata i'r nodyn hwn ymddangos yn ei gyfamler. Bethesda. R. S. WILLIAMS. [Mae Mr Williams wedi camddeall eiu hol-nodiad i ysgrif Titns Llwyd." Os addawa anfon ychydig- 0 newyddion lleol i ni, fel y gwnaeth Titus Llwyd," dywedwn wrtho yntau, Bydd yn dda genym glywed oddiwrthych pan yn gyfleus." Nid oeddem wrth ddyweyd felly yn datgan ein cydsyniad &'r oil a ddywedodd Titus Llwyd yn ei ysgrif, mwy nag yr ydym yn awr yn datgan ein cydsyniad a'r oil sydd yn ysgrif Mr Williams.—GoL.]

AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.

" ANGEN GWLEIDYDDOL PRESENOL…

Cyfarfodydd3 &e. Cy