Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

I-LLANDILO.!

ABERTEIFI.

News
Cite
Share

ABERTEIFI. Marwolaeth sydyn.-Boreu dydd Llun, Medi 24a,in, bu farw o dan amgylchiadau sydyn iawn, Mr Benjamin Jones, Tynewydd, yn agos i'r dref hon. Yr oedd yn ddiacon parch us yn hen gapel Llechryd, ac yr oedd wedi bod yn y gwasanaeth cyhoeddus trwy y dydd blaenorol heb deimlo unrhyw anhwylder. Wedi cyrhaedd gartref, eymerwyd ef yn glaf, a bu farw mewn yehydig oriau. Yr oedd yn ddyn adnabyddus a pharchus iawn trwy yr ardal, ac y mae ei farwolaeth sydyn wedi taenu prudd-der trwy y gymydogaeth. Capet Mair.-Mae yr eglwys hon. y dyddiau hyn wedi dyfod i wersyllu yn nyffryn galar ar ol colli un oedd yn hoff ac anwyl iawn ganddynt, sef y brawd ffyddlawn a'r diacon parchus Mr O. P. Davies. Gwasanaethodd y swydd o ddiacon am flynyddau lawer, ac yr oedd yn enwog iawn am ei garedigrwydd a'i haelioni tuag at achoa y Gwaredwr. Bu farw gan dynu ei oil gysur yn ymchwydd afon angeu oddiwrth anfeidrol gadernid ei Waredwr. "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn; canys diwedd y gw1' hwnw fydd tangnefedd." S. D. Marwolaeth alarus arall.-Gadawodd un o'r enw Thomas Stephens, morwr, Llandudoch, ei gartref boreu dydd Mercher, Medi 26ain, i'r amean o fyned i Aberteifi at ei waith. Pan wedi cyrhaedd haner y ffordd, gwelwyd ef gan rai personau yn syrthio i'r llawr, a phan y deuwyd ato, gwelwyd er eu dychryn ei fod wedi marw. Yr oedd yn ddyn o gyfansoddiad cryf, ac yn teimlo yn hollol iach pan yn gadael ei gartref. Yr achos o'i farwolaeth oedd heart disease. Gadawa weddw a phump o blant i alaru ar ei ol.

YR YD.

YR YMBORTH.

YR ANIFEILIAID.

OENADON MADAGASCAR. -