Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLUNDAIN.

[No title]

TALGARTH.

News
Cite
Share

ychwaneg yn bresenol o gyfeillion y lie, oni bai am brysurdeb amaethyddol y gymydogaeth. Yr oedd yno nifer luosog o'i frodyr yn y weinidogaeth yn bresenol, sef y Parchn Dr Morris a Rowlands, B.A., athrawon Athrofa Aberhonddu; Proff. Howells, Trevecca; W. P. Jones, Gelli; D. P. Jones, Cwmrhos; D. M. Davies, Talgarth; R. Jones, Talybont; J. Jones, Mynyddislwyn; D. Watkins, Glasbury; Catwg Davies, Aberhonddu; Hughes (M.C.), Talybont a D. A. Griffith, Troed- rbiwdalar. Dechreuwyd y cyfarfod gan Proff. Rowlands, Aberhonddu, drwy ddarllen a gweddio, yna galwyd ar Dr Morris i gymeryd y gadair. Dywedodd fod yno bedwar o lythyrau oddiwrth frodyr yn y wein- idogaeth yn amlygu eu tristwch am nad oeddynt yn alluog i fod yn hresenol ar yr amgylchiad dyddorol, sef oddiwrth y Parchn —Davies (M.C.), Talgarth; J. Parry, Llangatwg; D. Thomas, Llangynidr; a J. Thomas, Trecastell. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adnabyddus a. Mr Evans oddiar pan yr oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Aber- honddu, a'i fod wedi gwylio ei yrfa er hyny gyda llawer o ddyddordeb a boddhad, a'i fod yn gyd- wybodol yn credu ei fod wedi profi ei bun yn weinidog da i Iesu Grist. Gweinidog o'r fath yw y fendith oreu all cymydogaeth gael. Y mae meddyg da yn fendith, &c., ond y fendith oreu o'r oil ydyw gweinidog da. Lion oedd ganddo weled fod y cyfeillion yn Talgarth nid yn unig yn gwerthfawrogi llafur Mr Evans, ond hefyd yn rhoddi amlygiad sylweddol o'u gwerthfawrogiad ohono; ac wrth ei anrhydeddu ef eu bod yn an- rhydeddu eu hunain. Yr oedd yn wastad wedi cael Mr Evans yn feddylgar, difrifol, a ffyddlon, yr oedd yn iawn gyfranu gair y gwirionedd, ac y gobeithiai fod iddo eto lawer o flynyddoedd i was- anaethu ei Dduw yn Efengyl ei Fab. Yr oedd am i'r siaradwyr gofio mai cyfarfod i gyflwyno anrheg i Mr Evans oedd y cyfarfod, ac nid cyfarfod ymad- awol-nad oedd yn bwriadu ymadael a'r gymyd- ogaeth, ond yn unig ymddeol oddiwrth lafur y weinidogaeth er ceisio adferiad iechyd, yr hyn a obeithiai a gai yn fuan. Yna anerchwyd y cyfarfod gan Mr Jones, o'r Gelli; Jones, Cwmrhos; a Griffith, Troedrhiw- dalar-y rhai a ddygasant y dystiolaeth uchaf i Mr Evans fel dyn, Cristion, cyfaill, a gweinidog ffyddlawn. Cyfeiriwyd at ei ymdrechion yn y lie gydag addysg elfenol, canys bu am flynyddoedd lawer yn Gadeirydd Pwyllgor yr Ysgol Frytan- aidd yn y lie; wedi hyny bu yn aelod, is-gadeir- ydd, ac ysgrifenydd y Bwrdd Ysgol, ac yn gadeir- ydd bwrdd arall. Gwnaeth yn ganmoladwy yn y cyfryw. Cyfeiriwyd hefyd at ei gysylltiad a'r Cyfundeb, canys y mae wedi gwasanaethu fel ys- grifenydd ffyddlon iddo am lawer o flynyddoedd, ac ni bu neb yn y sir yn fwy derbyniol fel preg- ethwr yn einhuchwyliau yn y sir drwy yr holl eglwysi nag efe. Adgoflwyd cyfeillion Talgarth hefyd mai nid am na allasai symud y cawsant ei gadw cyhyd, canys derbyniodd wahoddiadau i gylchoedd pwysig yn Nghymru, Lloegr, a'r Unol Dalaethau, lie y gallasai wella ei amgylchiadau ond yn Talgarth y chwenychai aros, ac y mae wedi gwneyd gwaith da yno, canys gweithiwr difefl yw efe, ac y mae yr undeb a'r eydweithrediad per- ffeithiaf wedi bod rhyngddo a'i holl frodyr yn y Cyfundeb. Yna cyflwynodd y Cadeirydd dros y cyfeillion yn Talgarth y rhoddion canlynol iddo:- Anerchiad goreuredig, wedi ei gosod i fyny yn y modd goreu yn bosibl, yr hon a ddarllena fel y canlyn (esgusoder ni am ei gosod yma yn yr iaith y cyfansoddwyd hi) :— DEAR MR EVANS,—We cannot allow you to sepa- rate from us after a pastorate of more than a quarter of a century without giving expression to the sincere and profound regret which we feel in losing, and to the affectionate esteem in which we hold you both in your public and private character. There is nothing that we would not have done to detain you amongst us, if that had been possible, but your failing health has made all efforts and hopes in this direction of no avail. We trust, however, that yonr period of active service has not come to a close, but that after an interval of retirement and repose you may vet recover the vigour which for the present is impaired. We are glad to bear witness to your kind spirit and behaviour, to your spotless life and high character, to the simplicity and fervour and ability of your public ministrations, to the zeal and activity you have displayed in all works of charity, temperance, and general philanthropy, ever since you first settled in our midst, and to the Divine blessing which has attended your work of faith and labour of love, so that you have not run in vain and laboured for nought. We beg to present you with a small expression of our love, which we hope you will kindly accept as a proof, but not as the measure of the esteem, tne grati- tude, and the affection of which you are the object. May the God whom you have served supply all your needs, and when you bid good night to the world give you an abundant entrance into the joy of the Lord. We are, dear Mr Evans, on behalf of the Indepen- dent Church at Talgarth, yours sincerely, THOMAS PRICE, J • WILLIAM SANDERS, Deacons. THOMAS JONES, ) JOHN KINSEY, Secretary. DAVID JONES, Treasurer of Testimonial Fund. DAVID JONES, Hon. Secretary: Yna. cyflwynodd tea and coffee service iddo, ar yr bwn yr oedd y cerfiad canlynol:—" Presented to the Rev Thomas Evans, pastor of the Talgarth Independent Chapel, by the congregation, in grate- ful recognition of the faithful services of 25 years." Hefyd eyflwynwyd iddo godaid o aur. Derbyniwyd yr oil gan Mr Evans mewn teiml- adau drylliog, a dywedodd, yr ofnai pe yr ym- gynygiai i wneyd anerchiad y buasai iddo i dori i laivr, yr hyn na fuasai yn flasus iddo ef na hwyth- au, ac am hyny y buasai ei eiriau yn ychydig. Diolchai yn gynes i bawb oedd wedi cyfranu at y rhoddion a gyflwynent iddo, y rhai a brisiai yn fawr. Mewn perthynas i gynwysiad yr Anerch- iad, ei fod yn unig wedi ymgynyg at fod yr hyn a ddywedent hwy ei fod. Ei fod wedi gwneyd ym- drech i fyw a phregethu yr Efengyl yn eu plith. p Gwerthfawrogai y rhoddion ar gyfrif eu gwerth, ond yn llawer mwy ar gyfrif y teimlad da a'r serch cynes a amlygent. Ei fod wedi bod yn weinidog anheilwng iddynt am chwarter canrif, yr hwn sydd yn gyfnod maith i weinidog i lafurio yn yr un eglwys—fod yn agos yr oil o'r rhai oeddynt aelodau o'r eglwys hono pan ddaeth ef gyntaf at- ynt o'r Athrofa yn Aberhonddu wedi eu symud oddiwrth eu gwaith ateu gwobr; eto fod eu coff- adwriaeth yn anwyl ganddo, canys dangosasant iddo garedigrwydd mawr. Yr oedd eu beddau yn y fyawent gyfagos yn gysegredig ganddo, ac na fydded i ddim i aflonyddu ar eu cwsg nes y swnio udgorn yr archangel y dydd diweddaf i'w deffro i fywyd a gogoniant. Ond nid oedd ei serch yn gyfyngedig i goffadwriaeth y rhai nad oeddynt mwyach ganddynt yn y cnawd—bod y serch a'r cariad a fodolai yn yr eglwys hono 20 mlynedd yn ol yn parhau eto, ac na. fu farw gyda'r hen aelod- au. Credai fod y teimlad goreu yn bodoli rhwng pob un ohonyat ag ef hyd y noson hono. Ni wadai na ddarfu iddo rai gweithiau gymeryd i fyny esgyrn y meirw i'w euro a hwynt, ond. ni fu hyny ond i'w cymhell i ffyddlondeb mwy. Nis gallai lai na chyfaddef ddarfod iddo dderbyn car- edigrwydd mawr ar eu dwylaw, a diolchai yn gynes iddynt, yn neillduol am erydymddwyn a chydymdeimlo ag ef mor sylweddol yn ystod y tair blynedd diweddaf, y rhai fuont yn dair blyn- edd o nychdod a gwendid, ond iddynt hwy fod gydag ef yn ffwrnes adfyd. Os yr ymddygodd yr hen yn dyner ato fel eu mab, iddynt hwythau ei barchu a'i garu megys tad. Er nad oedd yn hen, ddarfod i rai ohonynt hwy oeddynt erbyn hyn yn rieni gael eu bedyddio ganddo pan yn blant, a'i fod wedi hyny wedi bedyddio eu plant. An- mhosibl braidd fuasai i weinidogaeth mor faith i fodoli heb fod yna ryw ang hyd welediadau bychain wedi cyfodi, yn enwedig pan fyddo'r gweinidog yn naturiol o dymher boeth, ond os na welsent yn wastad lygad yn Ilygad ar faterion bychain, ddar- fod iddynt gyduno i wahaniaethu-nad oedd yr oil ond ar y wyneb, ac y llonyddai y dyfroedd yn fuan-ni rwygwyd y graig. Cadwai y rhoddion hyn yn ofalus fel ei drysorau daea,rol penaf. Dy- munai yn neillduol gyflwyno ei ddiolchgarwch i'r rhai gymerasant y drafferth o'u casglu a'u pwr- casu. Diolchai yn galonog i Dr Morris am y drafferth a gymerodd a'r caredigrwydd a ddang- osodd yn ngtyn a'r mater. Nid yn rhwydd y gallasai faddeu iddo ei hun pe yr esgeulusai ddi- olch i'w frodyr yn y weinidogaeth a ddaethant yno y noson hono, rhai'o bell, i ddangos eu eyd- ymdeimlad ag ef ar yr amgylchiad. Teimlai yn ddedwydd wrth gofio ei fod wedi byw mewn hedd- wch a chyfeillgarwch a'i holl frodyr yn y Cyfun- deb y perthynai iddo. Teimlai yn ddiolchgar i Proffeswr Howell, Trevecca, am roddi ei bresenol- deb ar yr achlysur, a bod yn rhaid iddo ddywedyd y teimlai yn fwy dyledus iddo nag un gweinidog oedd yn bresenol, ac eithrio ei gynathraw Dr Morris, a llawen oedd ei fod wedi cael y mwynhad o gydlafurio ag ef mewn perthynas i addysg elfenol, y Feibl Gymdeitbas, a phethau ereill. Wrth eistedd, dymunai ddiolch yn gynes unwaith yn rhagor i bawb ohonynt. Dywedodd Mr D. Jones, Bank Shop, un o'r brodyr oedd wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda dygiad yr amcan oddiamgylch, ycbydig eiriau ar ran y Pwyllgor, yr Eglwys, a'r Gynulloidfa. Dy- wedodd iddynt gael caredigrwydd mawr ar law pawb y galwasant ganddynt, ac na feddyliasant fod Mr Evans mor ddwfn yn serch yr boll gymyd- ogaeth nes y rhoddasant y prawf hWJl arnynt—y byddai yn blesser mawr ganddynt alw heibio iddynt eto pan gaent wrthddrych mor deilwng. Dygodd dystiolaeth i'r modd effeithiol y dygr-sai Mr Evans ei weinidogaeth yn mlaen yn eu plith— yn y pwlpud ac. allan ohono. Teimlent yn wastad fod gan MrJEvans genadwri neillduol atyut a gobeithient ei weled yn fuan yn ei hen cglwJs fel n C, cynt. Yna galwyd ar Proff. Howells i anerch y cyfar- fod, a siaradodd am Mr Evans yn y modd mwyaf canmoliaethus. Eglur oedd cu bod yn gyfeillion calon. Ni theimlai megys estron yn eu mysg, canys nid i Mr Evans fel Annibynwr y talv/yd teyrnged o barch y noson hono, ond fel gwoinidog da i Iesu Grist, ac nad yw y rhinwedd liwnw yn gyfyngedig i Annibynwyr, nac unrhyw onwad arall. Yr oedd Mr Evans ac yntau wedi cyd- weithio yn y modd mwyaf calouog er y daeth efu i Drevecca gydag addysg elfenol, y Feibl Gynidoith- as (i'r hon yr oedd Mr E. yn ysgrifenydd Ileol), yn nghyda llawer o bethau ereill. Galhii ef dysfcio oddiar brofiad y medrai Mr E. gydymdeimlo yn sylweddol a'r neb fyddai mewn adfyd. Nad anghofiai efe a'i wraig y modd yr amlygodd ei gydymdeimlad a hwynt pan yr oeddynt mewn dyfroedd dyfnion. Mr E. oedd y cyntaf gyda hwynt. Gobeithiai y byddai yr anrhegion a ddcr- byniai yn gymhorth iddo i gael adferiad iechyd, a sicr oedd hefyd y gwnelent ddaioni i'r neb a am- lygodd eu cydymdeimlad ag ef felly. Wedi hyny siaradwyd yn ddifyrus pan y Parch D. M. Davies, Talgarth, Yna cynrychiolwyd y Bedyddwyr gan Mr Peace Jones, Talgarth, yr hwn yntau a ddygodd y dystiolaeth uchaf i Mr Evans fel gweinidog ffyddlon, cymeriad pur, a dyn gweithgar ar y Bwrdd Ysgol, lie y buonfc yn gydaelodau am flynyddoedd. Wedi hyny anerch wyd y cyfarfod gan Proff. Rowlands, yr hwn fu yn gydfyfyriwr a Mr Evans yn Aberhonddu. Ni wyddai efe fod cynifer o rin- weddau yn perthyn iddo nes y cynaliwyd cyfarfod o fath y presenol ar yr achlysur o'i symudiad o'r lie y buasai yn gweinidogaethu, canys nid oedd symud yn beth dyeithr iddo. Enwyd rhai o'i rinweddau iddo y pryd hwnw, a chalonogwyd ef i fyned rhagddo. A diau fod Mr Evans wedi cael allan fod ynddo yntau rai rhinweddau, a gwyddai fod ereill yn gwybod am danynt, yn y cyfarfod hwnw. Hyderai y byddent yn foddion i sirioli ei feddwl. Gallai efe (Proff. Rowlands) gydym- deimlo ag ef, ond ei fod wedi cael ei alluogi i fyned rhagddo, ac nid oedd ynddo yr un amheuaeth nad felly y try allan yn fuan gyda'i gyfaill Mr Evans, Yna cafwyd ychydig eiriau gan Mr Jones, Tal- ybont, i'r un cyfeiriad. Daeth yr amser i fyny cyn y cafwyd cyfleusdra i wrandaw y Ileill o'r brodyr, canys rhaid oedd i gyfeillion o Aberhon- ddu i fyned i gyfarfod y trên. Rhaid, gan hyny, oedd terfynu ycyfarfod dyddorol hwn, yr hyn a wnaed drwy ganu yr hen benill Cymreig, Dan dy fendith wrth ymadael," &c. Canodd y cor ddwy anthem yn ystod y cyfarfod, a chwareuwyd yr harmonium gan y Parch W. P. Jones, o'r Gelli. Gweddiodd y Cadeirydd, ac ymwahanodd y gyn- ulleidfa gyda dymuniadau calonog am adferiad Mr Evans i'w iechyd; canys awydd pawb ydyw ar iddynt gael clywed Mr Evans yn pregethu cenad- wri y cymod megys cynt; a diau genym y gwna hyny yr adeg hono yn fwy effeithiol nag erioed, canys credwn mai yn yr athrofa y mae ein brawd yn bresenol, ac felly fod gan ei Arglwydd waith pwysig eto yn ei aros. Deled goleun.i o'r tywyll- wch yn fuan, canys yr addettid yw, Ti a gei wybod ar ol hyn."